Colli Hunaniaeth
Profiad digon annifyr yw hi i gael rhywbeth wedi ei ddwyn oddi arnom, megis arian, ffôn symudol ac ati. Mae dwyn manylion personol (identity theft) wedi dod yn drosedd gyfarwydd erbyn heddiw hefyd. O ganlyniad, fe ddefnyddir y manylion i dwyllo a lladrata yn ein henw. Gall hyn ein haflonyddu, creu poen meddwl i ni a’n hansefydlogi.
Gall rhywbeth tebyg ddigwydd i ni yn ysbrydol, hefyd; er enghraifft, wrth i bobl wthio eu syniadau a’u ffordd o feddwl nhw arnon ni heb aros i wrando ar ein barn a’n safbwynt ninnau. Mae rhai, yn anffodus, yn mynnu bod yna becyn o athrawiaethau a dogmâu set sy’n rhaid i bawb eu derbyn; ac o’u derbyn eu derbyn yn gyfan. O beidio a’u derbyn mae perygl i ni wedyn deimlo’n wag a chawn ein dihysbyddu o nerth ac egni creadigol.
Os yw cwsmer masnachol yn ddiniwed mewn achos o golled ariannol bydd y banciau, mewn amgylchiadau cytbwys, yn barod i ad-dalu’r golled – dyna rhan o’u gwasanaeth. Onid dyna’r math o wasanaeth y dylem ninnau gynnig fel Cristnogion? Gwasanaeth sy’n ail wefru’r batri; yn dychwelyd i ni rywbeth sydd wedi ei golli. Onid rhan o’n gwasanaeth Cristnogol yw ceisio adfer ac adnewyddu’r sefyllfa? Onid dyna yw diben addoliad? Sef ein cynorthwyo i ddod i gyswllt gyda’r gronfa o egni diderfyn a’n cynorthwyo i drochi ein hunain mewn doethineb, tosturi, trugaredd, gras a chariad? Cronfa sydd â chymaint mwy wrth gefn.
Ymfalchïwn yn y gallu a gynigir i ni drwy hynny i chwilio am y gwerth a’r urddas sy’n rhan o hunaniaeth pob person; a hynny drwy ddatblygu a thyfu ein gallu i ymddiried. Gall ymddiriedaeth greu newid mawr yn ein perthynas â’n gilydd. Nid yw’n dibynnu ar gredoau a dogmâu cyfyng. Mae’n cymryd amser i ennill ymddiriedaeth. Nid rhywbeth a roddir gan eraill na’i gymryd oddi wrth eraill ydyw. Nid yw’n rhywbeth i’w etifeddu oddi wrth genhedlaeth ddoe chwaith.
Mae’r broses o adeiladu ymddiriedaeth yn broses ddwy ffordd. Nid mater o gymryd na dwyn ydyw. Y ffordd i adeiladu ymddiriedaeth yw drwy adnabod, parchu a deall ein gilydd. Mae materion megis ordeinio gwragedd, sefydlu esgobion benywaidd, hawl i farw gydag urddas a chysegru phriodasau rhwng pobl hoyw yn dal i beri rhwygiadau o fewn enwadau. Mae’n eironig y gall dynion sy’n casáu ei gilydd achosi’r byd fynd a’r chwâl drwy ryfela; tra gall dau ddyn sy’n caru ei gilydd chwalu eglwys a chreu cweryl rhwng aelodau. Rhyfedd o fyd!
Rhan o berthyn i gymdeithas gariadus a gofalus yw’r cyfrifoldeb sydd arnon ni i ofalu yn gariadus am ein gilydd. Mae’n anodd gwneud hynny pan fydd y nodweddion elfennol sy’n creu ein hunaniaeth yn cael eu cipio oddi arnom. Diolch am lefydd lle gallwn eu hadennill a’u hadfer.
Ymfalchïwn, felly, mewn cyfleoedd sy’n rhoi’r hawl i bawb fod yn berson llawn drwy i ni barchu eraill – yn enwedig y rhai hynny ohonom sy’n ‘wahanol’ i’r normau cymdeithasol cyffredin. Defnyddiwn ein gwasanaethau, felly, yn gyfryngau i ddiwallu, i adfer a chyflenwi, gan roi yn ôl i bawb yr hyn a gollwyd ganddynt.