Agora 18 mis Tachwedd 2017

Agora rhif 18 mis Tachwedd 2017

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis. Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

Cynnwys

Golygyddol                      Enid Morgan

Geiriau’r Gatalones        Enid Morgan

Cam 11 yr AA                  Wynford Ellis Owen 

Diwrnod bant!                Margaret Le Grice

Cynnal – gwasanaeth cwnsela

Ein tir sanctaidd             Andrew Sully

Eiconau                            Y Golygydd

Dyheu a breuddwydio   Addasiad o syniadau Brian Mclaren

  • Dyheu a breuddwydio

    Dyheu, gobeithio, breuddwydio – ysgrythur i’r Adfent

    Addasiad o syniadau gan Brian Mclaren yn We Make the Road by Walking ar gyfer gwersi a phregethu yn yr Adfent

    Daniel 7:9–28; Eseia 40:9–11; Luc 1:67–79

    Mae byw yn golygu chwennych, gobeithio a breuddwydio, ac mae’r Beibl yn llyfr am chwennych, am obeithio a breuddwydio.

    Mae’r stori sydd yn y Beibl yn dechrau gyda dyhead Duw am fyd da a hardd a ninnau’n rhan ohono. Yn fuan bydd rhai’n dyheu am bŵer i ladd, i gaethiwo neu orthrymu eraill. Mae pobl sy’n cael eu gorthrymu yn gobeithio am ryddid, ...

    Rhagor
  • Gwasanaeth Cwnsela newydd – ‘Cynnal’

    BETH YW ‘CYNNAL’?

    Gwasanaeth cwnsela newydd yr eglwysi yng Nghymru ar gyfer clerigwyr o bob enwad a’u teuluoedd yw Cynnal. Mae’n cynnig gwasanaeth dwyieithog yn rhad ac am ddim a hynny ledled Cymru. Mae’r gwasanaeth i glerigwyr, gweinidogion yr efengyl a’u teuluoedd ac yn delio â phroblemau o bob math.

    Fe’i cefnogir gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Undebau’r Bedyddwyr a’r Annibynwyr, Yr Eglwys yng Nghymru, yr Ystafell Fyw a Cais.

    Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 029 2030 2101 neu 0779 646 4045

    e-bost: LivingRoom-Cardiff@cais.org.uk; gwefan: www.cynnal.wales

    Rhagor
  • Geiriau’r Gatalones

    Geiriau’r Gatalones

    Bydd amryw ohonoch wedi clywed am y Chwaer Teresa Forcades, y lleian o Gatalonia sydd wedi syfrdanu pobl wrth fod yn ffeminydd, yn genedlaetholwraig a diwinydd diflewyn-ar-dafod. Yn y cyfieithiad Saesneg o’i llyfr Faith and Freedom mae hi’n dyfynnu beth ddwedodd hi yn 2010 pan ofynnwyd iddi beth oedd ei chredo.

    Rwy’n credu, uwchlaw pobpeth, mewn maddeuant. Rwy’n credu bod mesur ein gallu i faddau yn datguddio’r gwirionedd noeth am fesur ein gallu i garu. Caf fy synnu’n aml wrth gwrdd â’r gallu hwn mewn pobl nad ydw i’n eu hedmygu’n arbennig, ac yn gweld ei absenoldeb mewn ...

    Rhagor
  • Ein Tir Sanctaidd

    EIN TIR SANCTAIDD

    Andrew Sully

    Eleni, mae hi’n bum can mlynedd ers i Martin Luther ym 1517 hoelio’i 95 her ar ddrws yr eglwys yn Wittenberg. Blwyddyn briodol felly i gyhoeddi arolwg o’r profiad Cristnogol Cymraeg a Chymreig drwy lygaid dau fugail doeth a phrofiadol a fagwyd ac a feithrinwyd yn y traddodiad Diwygiedig Cymreig. (Our Holy Ground, John I. Morgans a Peter C Noble; Gwasg y Lolfa, 2016)

    Cyfunir yr arolwg hanesyddol â disgrifiad o bererindod gyfoes o gwmpas ...

    Rhagor
  • Cam 11 yr AA

    Unfed Cam ar Ddeg yr AA

    Wynford Ellis Owen o’r Ystafell Fyw yng Nghaerdydd yn manylu

    Pŵer gweddi a myfyrdod

    ‘Ceisio gwella, drwy weddi a myfyrdod, ein cysylltiad ymwybodol gyda Duw, fel yr ydym yn ei ddeall Ef, gan weddïo yn unig am wybodaeth o’i ewyllys Ef ar ein cyfer a’r gallu i’w weithredu.’

    Dyma’r cam sy’n sicrhau ein bod yn parhau i dyfu’n ysbrydol drwy ollwng ein gafael ar bethau materol, ego-ganolig, sy’n ein cadw’n gaeth o hyd i bethau’r byd. Ni ellir mynd ar y daith lawn i adferiad a rhyddid llwyr heb ddatblygu ffydd mewn Pŵer mwy na ni’n ...

    Rhagor
  • Golygyddol

     

    Golygyddol

    Mae Sul y Cofio yn agosáu eto. Bydd y pabi coch yn dechrau ymddangos ar ddillad y darllenwyr newyddion a bydd pobl y pabi gwyn hwythau yn rhoi tystiolaeth o’u rhinweddau ac yn rhoi prawf o’u heddychiaeth. (Gall swnio’n bur ymosodol weithiau. A sut mae dadlau achos heb swnio felly?) Beth yw’n hamcan wrth ddewis gwisgo pabi coch neu babi gwyn?

    Yn y ddadl hon rydw i wedi bod yn euog. Nid o hoffi byddin/llynges/llu awyr, ond o fod wedi bod dan ddyletswydd i arwain gwasanaethau ar ddydd y cofio, a derbyn baneri a’u gosod y tu cefn i’r allor. Mynnais na chenid ...

    Rhagor