Agora 32 mis Mai – Mehefin 2019

 

Agora rhif 32 mis Mai – Mehefin 2019

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.

Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

 

Cynnwys

Llyfrau i herio a chynnal                           
Enid Morgan

Tröedigaeth a democratiaeth                 
Gethin Rhys

Yn ein hemynau y mae ein diwinyddiaeth
 Neville Evans

Yr Ysbryd Glân
John Gwilym Jones

Hen Gapel John Hughes Pontrobert
Nia Rhosier

  • Apêl yr Hen Gapel

    Hen Gapel John Hughes, Pontrobert

    Clywsom eitem ar Radio Cymru’n ddiweddar yn rhoi sylw i’r argyfwng sy’n wynebu’r Hen Gapel ym Mhontrobert, a chyhoeddwyd manylion apêl newydd a lansiwyd drwy’r papurau bro i geisio codi arian.  Cawsom ninnau neges gan Nia Rhosier yn egluro beth yw natur y broblem bresennol:

    Sefyllfa Hen Gapel John Hughes Pontrobert (Gradd II*) a adferwyd gennym ni yma yn Sir Drefaldwyn gyda chefnogaeth Cymru gyfan ym 1995 a’i droi yn Ganolfan Undod ac Adnewyddiad Cristnogol yw bod y to yn gollwng ers blynyddoedd a’r adeiledd yn ...

    Rhagor
  • Yn ein hemynau y mae ein diwinyddiaeth

    Yn ein hemynau y mae ein diwinyddiaeth

    gan Neville Evans

    Rwyn credu mod i’n cofio’n gywir mai Pennar Davies a gynigiodd y sylw, ‘Os ydych am wybod beth yw diwinyddiaeth y Cymry Cymraeg, ewch at eu hemynau’. Gyda hynny’n gyfarwyddyd, rhoddais amser yn ddiweddar i chwilota yn Caneuon Ffydd (lle ceir 873 o emynau yn yr iaith Gymraeg) am gyfeiriadau at ddigwyddiadau Gwener y Groglith a Dydd y Pasg, hynny yw, am gyfeiriadau at y Croeshoeliad a’r Atgyfodiad.

    Y cam cyntaf a symlaf oedd troi at dudalen Cynnwys y llyfr emynau a chael bod un pennawd, ‘Y Groes’, gyda 61 o emynau (482–542) a phennawd arall, ‘Yr Atgyfodiad a’r Esgyniad’, gyda ...

    Rhagor
  • Llyfrau i herio a chynnal

    LLYFRAU I HERIO A CHYNNAL – Gwahoddiad i gyfrannu

    Dyma gyfres o lyfrau sydd wedi bod yn gymorth a sialens i rai o bobl Cristnogaeth 21. Maen nhw’n cynrychioli rhychwant eang o safbwyntiau. Ond os ydych am estyn eich adenydd ysbrydol a deallusol, porwch yn y rhestrau isod.

    Os carech chi ychwanegu teitlau, gyrrwch air at y golygydd: enid.morgan (at) gmail.com

    Duw yn Broblem

    Armstrong, Karen               A Short History of Myth (Canongate, 2005)

    Soelle, Dorothy                   Theology for Sceptics (Mowbray, 1993)

    Spong, John Shelby            Eternal Life: A New Vision (Harper, 2009)

    Tomlinson, ...

    Rhagor
  • Yr Ysbryd Glân

    Yr Ysbryd Glân
    gan John Gwilym Jones

    Ni chofiaf imi erioed wneud yr Ysbryd Glân na’r Drindod yn destun pregeth. Roeddwn wedi llunio darnau byrion ar ddatblygiad athrawiaeth y Drindod ar gyfer darlithoedd, a hynny’n cynnwys syniadau’r diwinyddion a’r athronwyr am yr Ysbryd Glân, eithr mwy anodd o lawer fyddai ceisio cyflwyno syniadau am y Drindod a’r Ysbryd dwyfol i gynulleidfa o’m cyd-aelodau ar y Sul. Ond dyma ni nawr yn sŵn y Pentecost, felly efallai y dylem roi cynnig eto ar ddeall lle’r Ysbryd Glân ym mywyd ein heglwysi.

    I mi, rhaid dechrau gydag Iesu, gan mai hwnnw yw’r person canolog ym mhob ystyr. Ond pa Iesu? Yn y ...

    Rhagor
  • Tröedigaeth a democratiaeth

    Tröedigaeth a democratiaeth

    Yn Agora Ionawr/Chwefror 2019, fe fûm yn sôn am fy nhröedigaeth o ran newid hinsawdd. Addewais geisio peidio â diflasu fy narllenwyr a’m cydnabod drwy sôn am y peth yn rhy aml. Ond un o nodweddion y sawl gafodd dröedigaeth yw eu bod yn closio at ei gilydd, ac yn porthi gweledigaeth ei gilydd.

    Dyma dderbyn drwy’r post, felly, gan un cyfaill gafodd brofiad tebyg (ac sydd, yn wahanol i mi, yn wyddonydd), gyfrol arall i’w darllen. The Uninhabitable Earth: A Story of the ...

    Rhagor