Agora 9 (mis Ionawr 2017)

Cynnwys Agora mis Ionawr

(Cliciwch ar y teitl i ddewis yr erthygl neu sgrolio i lawr nes y dewch ati)

Agorab

Golygyddol: Addoli Pam a Sut?                 Enid Morgan

Newyddion mis Ionawr

Cristnogaeth Sgeptigol                                Margaret Le Grice / Enid Morgan

Iaith Addoli – Ffordd Ymlaen                     Rwth Tomos

Teyrnged i John Heywood Thomas          Adolygiad Rhidian Griffiths

Duw yn y Pethau Hysbys                           Dietrich Bonhoeffer

Natur y Nadolig                                           Geraint Rees

Pedwerydd Cam yr AA                               Wynford Ellis Owen

Anerchiad yr Archesgob                             Barry Morgan                                   

Crist Gorllewinol a Chul                             Vivian Jones

Myfyrdod ar y Colect am Burdeb              Dynwarediad o waith Walter Brueggeman

 

 

 

  • Golygyddol: Addoli Pam a Sut?

    GOLYGYDDOL: Addoli – Pam a Sut?

    I lawer iawn o garedigion C21 mae geiriau addoli mewn perygl o fynd yn broblem. Mae mynegiant llawer o weddïau traddodiadol ac ieithwedd llawer o emynau yn peri mesur o swildod, naill ai am eu bod yn rhy benodol neu’n rhy aneglur eu hystyr. Mae ambell emyn yn wirioneddol dramgwyddus! Byddai’n help llythrennol i ysgafnhau’r llyfrau emynau.

    caneuon_ffydd_solffa_1024x1024

    Penderfynodd grŵp C21 yn y Morlan yn Aberystwyth arbrofi ychydig yn nhymor yr ...

    Rhagor
  • Pedwerydd Cam yr AA

    Parhad gyda’r

    Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AAWynford

    Wynford Ellis Owen,
    Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd

    Sefydlwyd Alcoholigion Anhysbys yn 1935 gan Bill Wilson a Dr Bob Smith – y ddau yn alcoholigion cronig, un yn gweithio yn y byd ariannol a’r llall yn feddyg teulu. Credent mai salwch ysbrydol oedd alcoholiaeth a hwnnw felly’n mynnu iachâd ysbrydol. Yn 1939 cyhoeddwyd llyfr o’r enw The Big Book sy’n crynhoi sut ...

    Rhagor
  • Natur y Nadolig

    Cyhoeddwyd yr erthygl isod yn Y Tyst ar drothwy’r Nadolig. Diolchwn i’r awdur a’r Golygydd am yr hawl i’w hatgynhyrchu yma.

    Natur y Nadolig

    Geraint Rees

    Eleni,  am y tro cyntaf, rwy wedi sylwi ar ddadleuon diwinyddol estynedig am natur y Nadolig  ar y cyfryngau cymdeithasol cyffredin.  Neithiwr, mewn ymateb i gwestiwn a ofynnwyd gan un blogiwr o dde Cymru am rȏl Mair Forwyn yn yr holl stori, datblygodd trafodaeth fywiog iawn. 

    Rhagor

  • Crist Gorllewinol a Chul

    Crist Gorllewinol a Chul

    Vivian Jones

    Bob Nadolig, rhyfeddaf fod geni un baban wedi gwneud cymaint o wahaniaeth. Ond tristâf hefyd am nad yw Cristnogion wedi gadael iddo wneud mwy o wahaniaeth. Soniaf am un ffordd y rhwystrwyd ei effaith gennym, sef culni affwysol ein gorwelion.

    Un o’n proffwydi cyfoes yw Andrew Walls, cyn-genhadwr a fu’n Athro ym Mhrifysgol Caeredin ar Gristnogaeth y Byd Anorllewinol. Wrth ei waith gwelodd o’r newydd Gristnogaeth y Byd Gorllewinol, ac un o’i ddywediadau yw: ‘For decades the God that theological students in the ...

    Rhagor
  • Teyrnged i John Heywood Thomas

    Rhidian Griffiths sy’n pwyso a mesur y gyfrol Dirfodaeth, Cristnogaeth a’r Bywyd Da: ysgrifau John Heywood Thomas a olygwyd gan E. Gwynn Matthews a D. Densil Morgan (Astudiaethau Athronyddol; 5) (Y Lolfa, 2016). ISBN 978-1-78461-268-9. £6.99

    Cyfrol Deyrnged i John Heywood Thomas

    Adolygiad Rhidian Griffiths

    Gan iddo dreulio ei yrfa academaidd y tu allan i Gymru, efallai nad yw enw’r Athro John Heywood Thomas mor adnabyddus i leygwyr ag y dylai fod. Eto i gyd, dyma Gymro Cymraeg sy’n haeddu ...

    Rhagor
  • Iaith Addoli – Ffordd Ymlaen

    Cyhoeddwyd erthygl gan Rwth Tomos yn rhifyn mis Medi, lle ’roedd hi’n dadlau ein bod wedi mynd yn ddiog iawn ein mynegiant ym myd crefydd, yn defnyddio’r un hen eiriau, mewn emyn, gweddi a phregeth, heb ystyried beth maen nhw’n ei olygu i’r genhedlaeth  ifanc.  Yn yr erthygl hon, mae’n cynnnig ffordd ymlaen.

    IAITH ADDOLI – FFORDD YMLAEN

    Rwth Thomas

    Rydym yn wynebu sefyllfa lle mae mwyafrif helaeth y Cymry Cymraeg o dan oed ymddeol yn anllythrennog ynglŷn â chrefydd. ...

    Rhagor
  • Newyddion mis Ionawr

    Newyddion mis Ionawr

    Cynhadledd Anaphora

    O gofio mai Syria, Irac, Yemen, yr Aifft a gwledydd eraill y Dwyrain Canol sydd agosaf at leoliad y Nadolig cyntaf  a chan gofio fod rhai o Eglwysi’r Dwyrain heb ddathlu’r Nadolig tan Gŵyl yr Ystwyll) gweithred broffwydol oedd i nifer o ddiwinyddion o wahanol draddodiadau Cristnogol gyfarfod yng Nghanolfan Anaphora ger Cairo yn ystod mis Rhagfyr, ychydig ddyddiau cyn i 25 o addolwyr Coptaidd gael eu saethu’n farw yn Eglwys St. Marc, yn y ddinas. Thema’r  gynhadledd oedd ‘Ireneaus a dynoliaeth oleuedig’. Er yn swnio’n bwnc academaidd a dyrys, nod Canolfan Anaphora yw ‘cloddio ...

    Rhagor
  • Anerchiad yr Archesgob

    Anerchiad yr Archesgob

    Cafodd anerchiad yr Archesgob ar ddefnyddio’r Ysgrythur rywfaint o sylw yn y wasg am ei fod yn trafod perthynas pobl hoyw. Dyma destun cyflawn yr anerchiad i Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, Medi 2016

    Rhaid cyfaddef, yn ystod y tair blynedd ar ddeg diwethaf, nid wyf erioed wedi ailddarllen un o anerchiadau’r llywydd a roddais i’r Corff Llywodraethol hwn. Efallai bydd rhai ohonoch yn dweud mai da o beth yw hynny, gan fod unwaith yn fwy na digon i bawb! Cyn mynd ati’r ...

    Rhagor
  • Myfyrdod ar y Colect am Burdeb

    Myfyrdod ar y Colect am Burdeb

    Walter Brueggeman

    Walter Brueggemann

    I Ti y mae pob calon yn agored,
    pob dymuniad yn hysbys, a phob dirgel yn amlwg;
    glanha feddyliau ein calonnau trwy ysbrydoliaeth dy Lân Ysbryd,
    fel y carom di yn berffaith a mawrhau’n deilwng dy enw sanctaidd;
    trwy Grist ein Harglwydd.
     
    
                     banner-949932__340  
       ...
    Rhagor
  • Duw yn y Pethau Hysbys

    Duw yn y Pethau Hysbys 

    Dietrich Bonhoeffer

    Mae’r gyfrol Golwg y Byd ar Ffiseg gan Weizsäcker yn fy nghadw’n brysur iawn. Mae wedi gwneud i mi sylweddoli’n glir iawn mor anghywir yw defnyddio Duw i lanw bwlch yn ein gwybodaeth.

    Os yw ffiniau gwybodaeth yn cael eu gwthio’n bellach ac yn bellach allan, ac mae’n rhaid mai felly y mae hi, yna mae Duw yn cael ei wthio ymhellach i ffwrdd gyda nhw ac felly’n gyson yn mynd ymhellach oddi wrthym. Fe ddylem ddod o hyd i ...

    Rhagor
  • Cristnogaeth Sgeptigol

    Cristnogaeth Sgeptigol – Robert Reiss

    Tipyn o siom oedd clywed am salwch yr Esgob John Spong. Ar ei daith yr oedd i fod i siarad â phobl C21 yn y de. Y cynllun oedd y byddai’n cynnal cynhadledd dros ddau ddiwrnod arall  yng Nghymru yn seiliedig ar ei gyfrol ddiweddaraf, ac (yn ei eiriau ei hun) ‘efallai ei gyfrol olaf’, Biblical Literalism: a Gentile Heresy.

    Yn Llyfrgell Gladstone, Penarlâg, yr oedd y gynhadledd i fod.

    Nid hawdd fyddai i’r llyfrgell ddod ...

    Rhagor