Agora 29 mis Tachwedd-Rhagfyr 2018

Agora rhif 29 mis Tachwedd/Rhagfyr 2018

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis. Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

 

Cynnwys

Eugene Peterson a Bono                                     Pryderi Llwyd Jones

Ydy newid hinsawdd yn newid popeth?            Gethin Rhys

Dewis gwleidyddol yw tlodi                                  Gethin Rhys

Neges Nadolig Sabeel 2018

 

  • Neges Nadolig Sabeel 2018

    Neges Nadolig Sabeel 2018
    (Canolfan Gristnogol Ecwmenaidd Jerwsalem )

    ‘Peidiwch ag ofni, oherwydd yr wyf yn cyhoeddi i chwi newydd da am lawenydd mawr i’r holl bobl.’ (Luc 2:10)

    Annwyl gyfeillion,

    Wrth edrych yn ôl ar 2018, bu’n flwyddyn anodd iawn: gwadu hawliau i ffoaduriaid a blwyddyn arall o feddiant yn Gasa, y Llain Orllewinol a Dwyrain Jerwsalem. Bu mwy o drais, dinistrio cartrefi, carcharu heb gyhuddiad a chyfyngu ar yr hawl i deithio. Nid oes dim yn newydd yn y pethau hyn, ond eleni mae penderfyniadau gwleidyddol wedi gwaethygu’r sefyllfa. Mae hyn yn cynnwys Cadarnhau’r ‘Nation State Law’, symud Llysgenhadaeth America i Jerwsalem, a dod â therfyn ar ...

    Rhagor
  • Ydy newid hinsawdd yn newid popeth?

    Ydy newid hinsawdd yn newid popeth?

    Enw llyfr dylanwadol Naomi Klein am newid hinsawdd yw This Changes Everything. Ei dadl yw mai pethau ymylol yw llawer o’r materion sy’n ein blino – lefelau trethi, y gwasanaethau iechyd a gofal, arfau neu ynni niwclear – a byddai’r un peth yn wir am faterion sydd wedi codi ers sgrifennu’r llyfr, megis Prymadael (Brexit) neu gamweddau Donald Trump. Os ydym am achub y blaned, meddai, rhaid inni newid ein ffordd o fyw yn sylfaenol. Mae is-deitl y llyfr yn awgrymu’r llwybr sydd ganddi mewn golwg – Capitalism vs the Climate.

    Rhagor

  • Dewis gwleidyddol yw tlodi

    Dewis gwleidyddol yw tlodi – ac nid dewis y tlodion

    Ym mis Mawrth, pennawd Bwletin Polisi Cytûn oedd “Eglwysi yn poeni bod Cymru ar lwgu”. Nid ar chwarae bach y cyhoeddwyd pennawd mor ymfflamychol mewn bwletin sydd fel arfer yn ceisio bod yn syber ac yn wleidyddol ddiduedd, ac nid ar chwarae bach y defnyddiwyd bron hanner y rhifyn hwnnw i ymhelaethu ar y pennawd.

    Penderfynais wneud hyn wedi eistedd mewn cyfarfod o Grŵp Cyfeirio Plant a Theuluoedd yr Eglwys ...

    Rhagor
  • Eugene Peterson a Bono

    Eugene Peterson a Bono

    Bu farw Eugene Peterson, awdur The Message a chyfrolau eraill, ar Hydref 23ain yn 85 oed.  The Message yw cyfieithiad/aralleiriad o’r Beibl cyfan ac y mae o leiaf 17 miliwn o gopïau wedi eu gwerthu erbyn hyn.

    Pan gysylltodd Bono (prif leisydd y band U2) ag Eugene Peterson i ddiolch iddo am ei aralleiriad o‘r Salmau – oedd i ymddangos yn nes ymlaen yn y Beibl cyfan (The Message) – doedd Peterson erioed wedi clywed amdano. Wedi gwrthryfela yn erbyn crefydda cul-ranedig Gogledd Iwerddon (ei dad yn Gatholig, ei fam yn Brotestant), bu darllen The Message yn garreg ...

    Rhagor