Agora 28 mis Hydref 2018

 

Agora rhif 28 mis Hydref 2018

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis. Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

 

Cynnwys

Gwneud Synnwyr o’r Ysgrythurau – darlith Dr Jeffrey John         Enid Morgan   

Duw’r Creawdwr                                                                                 Dr Hefin Jones

Arweiniad ac arweinyddiaeth                                                           Y Parch Gethin Rhys

  • Arweiniad ac arweinyddiaeth

    Arweiniad ac arweinyddiaeth

    Yn Agora Awst 2018 fe fûm yn sôn am oblygiadau canlyniad etholiad arweinyddol UKIP yng Nghymru. Bellach fe ddaeth dau ganlyniad arall yn etholiadau arweinyddol pleidiau gwleidyddol Cymru. Credaf fod ganddynt rywbeth i’w ddysgu i ni, nid yn unig am wleidyddiaeth Cymru, ond hefyd am syniadau cyfoes am arweiniad ac arweinyddiaeth.

    Yn y Saesneg, un gair sydd am y ddau gysyniad yma (sef leadership). Ond yn Gymraeg rydym yn gwahaniaethu rhwng priodoleddau personol a chrefft yr arweinydd (arweinyddiaeth) a’r llwybr y mae pobl yn dewis ei ddilyn ai peidio (sef yr arweiniad). Efallai fod hyn yn help i ni ddeall yn well na’r Sais ambell agwedd ...

    Rhagor
  • Gwneud Synnwyr o’r Ysgrythurau

    GWNEUD SYNNWYR O’R YSGRYTHURAU

    Eleni Dr Jeffrey John, Deon St Alban, oedd y darlithydd yng Nghynhadledd flynyddol Cristnogaeth 21 ar 30 Mehefin yng Nghapel Salem, Canton, Caerdydd

    Dechreuodd drwy ddyfynnu’r Colect Anglicanaidd ar gyfer Sul y Beibl:

    Gwynfydedig Arglwydd, a beraist i’r holl Ysgrythurau Glân gael eu hysgrifennu i’n haddysgu ni, dyro i ni yn y fath fodd eu gwrando, eu darllen, eu chwilio, ac ymborthi arnynt, fel, trwy ddyfalbarhad, a chymorth dy Air Sanctaidd, y cofleidiwn ac y daliwn ein gafael yn wastadol yng ngobaith bendigedig y bywyd tragwyddol, a roddaist i ni yn ein Hiachawdwr Iesu Grist. Amen.

    Rhagor

  • Duw’r Creawdwr

    Duw’r Creawdwr

    Anerchiad a draddodwyd gan Dr. Hefin Jones yn Encil Cristnogaeth 21 yng  Nghlynnog Medi 22ain 

    “Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear.” (Genesis 1: 1) “Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol, ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol.” (Salm 139: 14) “Crea galon lân ynof, O Dduw, rho ysbryd newydd cadarn ynof.” (Salm 51: 10) “… ni oedd yn feirw yn ein camweddau, yn fyw yng Nghrist; trwy ras yr ydych wedi eich achub.” (Effesiaid 2: 5).

    Fel ‘Creawdwr’ y datgela Duw ei hun gyntaf i ni yn yr Ysgrythur; mae adnod gyntaf, pennod gyntaf y Beibl yn dangos i ni pwy a beth ...

    Rhagor