Agora 16 mis Medi 2017

 

Agora rhif 16 mis Medi 2017

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis. Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

Cynnwys

 

Golygyddol – René Girard, Cawr o Esboniwr              Enid Morgan

Llwyd yw Lliw Gobaith (cofio Irina Ratushinskaya)    Pryderi Llwyd Jones

Sioned Webb yn sgwrsio gyda Pryderi Llwyd Jones

Oes deall ar Trump? Oes deall ar ei gefnogwyr?        Gethin Rhys

Allanol a Mewnol? Gwrthrychol neu Oddrychol?        Eric Hall

  • Allanol a Mewnol? Gwrthrychol neu Oddrychol?

    Allanol a Mewnol? Gwrthrychol neu Oddrychol?

    Meithrin ysbrydolrwydd plentyn

    Eric Hall

    Rwy’n cofio hyd heddiw y boen a gefais yn yr ysgol uwchradd wrth ddysgu ar y cof bethau nad oeddynt yn gwneud synwyr i fi ar y pryd. Dyfyniadau o Shakespeare, Pope a Grey; diffiniadau ffiseg fel grym, momentwm a chyflymiad; cystrawennau Lladin ‘amo amas amat’; nodweddion hawl dwyfol brenhinoedd mewn Hanes (sydd, mae’n siŵr yn gyfarwydd iawn i Theresa May!), ac yn y blaen, ac yn y blaen. Traddodwyd y casgliad yma i ryw bwll yn fy meddwl, pwll a enwyd ‘yn lol oedolion’ (neu efallai y byddai ‘cynhwysydd ...

    Rhagor
  • Golygyddol – René Girard, Cawr o Esboniwr

    Cawr o Esboniwr – René Girard

    Mae Rene Girard (1923–2015) yn fyd-enwog am ei ddamcaniaeth am ymddygiad y ddynoliaeth. Nid yw’n awdur hawdd ei ddarllen. Ond am fod ei syniadau mor bellgyrhaeddol, mae nifer o gyhoeddiadau o gwmpas i helpu’r newyddian.

    Ceir cyflwyniad eglur a dealladwy iawn mewn cyhoeddiad newydd gan Grove Books. Ysgrifennodd Simon J. Taylor bamffledyn – Imitation and Scapegoats: Pastoral Insights from the Work of René Girard – sy’n hynod o ddifyr a defnyddiol. O’i ddarllen â meddylfryd a phrofiad y Cymry, mae’n goleuo’n perthynas â’r byd mawr Seisnig ac ar werth a pherygl y traddodiad cystadlu eisteddfodol.

    Gwnaed Girard ...

    Rhagor
  • Sioned Webb yn sgwrsio gyda Pryderi Llwyd Jones

    Sioned Webb yn sgwrsio gyda Pryderi Llwyd Jones

    Mae doniau cerddorol, ei gwaith fel cerddor, offerynwraig, fel hyfforddwraig ac fel cyn-Gyfarwyddwr Artistig Canolfan Gerdd William Mathias wedi gwneud Sioned Webb yn enw cyfarwydd a phoblogaidd yng Nghymru ers blynyddoedd erbyn hyn. Pan gysylltais â hi i drefnu’r sgwrs hon, yr oedd, fel tiwtor addysgol, yn ymarfer gydag Only Boys Aloud ym Mro Morgannwg. Ddechrau Mai yr oedd hi ac Arfon Gwilyn, ei gŵr, yn lansio Canu Haf (detholiad o garolau haf), a olygwyd ar y cyd ganddynt a chan Cwmni Cyhoeddi Gwynn. Canu crefyddol a seciwlar yw carolau haf, wrth gwrs. Mae’r Sioned glasurol wrth ...

    Rhagor
  • Oes deall ar Trump?

    Oes deall ar Trump? Oes deall ar ei gefnogwyr?

    Gethin Rhys sy’n ein hannog i ddwys ystyried

    The Jesus Candidate: political religion in a secular age gan James Paul Lusk

    Ekklesia, Llundain, 2017; 116 + xv tt. ISBN: 978-0-9932942-9-7; £7.95 + £1.45 cludiant

    Wrth feddwl am wleidyddiaeth yr Unol Daleithiau yn 2017, fe dybiwn i mai’r cwestiwn mwyaf sy’n taro darllenwyr Agora yw sut y bu i Donald Trump, ac yntau’n ddyn mor ddi-grefydd, ddenu cefnogaeth cymaint o Gristnogion ...

    Rhagor
  • Llwyd yw Lliw Gobaith

    Llwyd yw lliw gobaith

    Trist oedd clywed am farwolaeth Irina Ratushinskaya, 63 oed, yn Mocso, ar Orffennaf 5ed. Yn 28ain oed cafodd ei dedfrydu i saith mlynedd mewn gwersyll llafur yn Moldofia a phum mlynedd o alltudiaeth fewnol. Bu’n ddifrifol wael ac nid yw hynny’n syndod o gofio amgylchiadau a chreulondeb corfforol a meddyliol y gyfundrefn Sofietaidd yn y cyfnod hwnnw. Yn wir, roedd hi a nifer o ferched eraill wedi eu caethiwo mewn ‘carchar o fewn carchar’ ac yn cael eu hystyried yn ‘ fygythiad gwleidyddol i’r gyfundrefn’. Mae wedi cofnodi ei phrofiadau yn y gyfrol Grey is the colour of hope, a gyhoeddwyd ...

    Rhagor