Agora 22 mis Mawrth 2018

 Agora rhif 22 mis Mawrth 2018

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis. Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

Cynnwys

Groglith i Basg (diwedd gweddi gan Walter Brueggemann)

Gweddi Stafell Fyw Caerdydd ar gyfer y Pasg

Sgwrs gyda’r telynor Osian Ellis               Pryderi Llwyd Jones

Rhag hysbysiad – Cynhadledd ‘Gair i’r Cymry: Archwilio Testament Newydd 1567’

Pasg 2018

Gweddïau ar gyfer y Pasg                        Enid Morgan

Gweddi i’r Grawys

Mae’r Pasg yn Gwawrio

  • Mae’r Pasg yn Gwawrio

    MAE’R PASG YN GWAWRIO


    Myfyrdod wedi ei ysbrydoli gan “Easter is Breaking”  gan Kathleen Rolenz.

    Ym mhobman ar draws y byd, mae hi’n gyfnod y Pasg. 
    Nid y Pasg y meddyliwn amdano lle bydd pobl yn gweiddi “atgyfododd!” ar hyd y strydoedd, ond rhywbeth distaw, Pasg llai dramatig. 

     Yn rhywle yn y byd, efallai nid heddi, ond yn fuan ar ddiwrnod fel heddi,

    Mae dyn a dynes yn codi o’u gwely ac yn ysgwyd y cwsg o’u llygaid. Maen nhw’n darganfod fod eu plant eisoes wedi dihuno ac yn paratoi am eu gweddïau boreol.  

    Dros nos, ni fu sŵn drylliau na bomiau.  Dros nos, ni fu saethu rhwng y dynion cyffuriau.  Dim ...

    Rhagor
  • Gweddïau ar gyfer y Pasg

    AR DDYDD IAU CABLYD

    O Iesu Grist, a arlwyaist ford ger ein bron a thaenu drosti liain gwynnaf dy sancteiddrwydd, rho inni, y llygrwyd ein dant gan foethau pechod y byd, archwaeth at dy swper mawr a boneddigrwydd wrth dy fwrdd. Er mwyn dy enw, Amen. (Gweddi gan Dewi Tomos)

    O Grist, anweswyd dy draed
    Ag ennaint a gwallt gwraig;
    Cymeraist badell a thywel
    A golchi traed dy ffrindiau.
    Golcha ni yn dy diriondeb
    Wrth i ni gyffwrdd â’n gilydd,
    Fel, wrth ymaflyd yn rhydd yn dy wasanaeth
    Y cawn wrthod unrhyw gaethiwed arall,

    Yn dy enw, Amen.

    (seiliedig ar Janet Morley – o Cyfoeth o’i Drysor, gol. Enid R. Morgan)

    GWEDDÏAU AR ...

    Rhagor
  • Gair i’r Cymry: Archwilio Testament Newydd 1567

    Gair i’r Cymry: Archwilio Testament Newydd 1567

    Dydd Sadwrn, 26 Mai 2018
    Ystafell Teifi, Canolfan Gynadledda Halliwell
    Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EP

    Trosolwg

    Brwydrodd William Salesbury (1520 – 1599?) yn daer ar i’r Cymry gael “yr yscrythur lan yn ych iaith”. Un o’i weithiau pwysicaf oedd Kynniver llith a ban, sef cyfieithiad i’r Gymraeg o’r Epistolau a’r Efengylau a benodwyd yn Llyfr Gweddi Gyffredin Saesneg 1549. Fodd bynnag, cofiwn amdano yn bennaf oll am y gwaith arloesol a wnaeth ef, ochr yn ochr â Richard Davies, Esgob Tyddewi, ym Mhalas yr Esgob yn Abergwili, i gyfieithu’r Testament Newydd a’r Llyfr Gweddi i’r Gymraeg. Mae’r ...

    Rhagor
  • Gweddi’r Pasg

    Gweddi Stafell Fyw Caerdydd ar gyfer y Pasg, 2018

    Gallwch weld y poster ar faint llawn yma

    Rhagor
  • Gweddi i’r Grawys

    Gweddi i’r Grawys

    Mae Iesu yn ein gwahodd i fyw mewn llawenydd ac yn ein gwahodd i gwrdd a gwledda gyda’r gorthrymedig a’r tlawd

    Cyd-gerddwn ei ffordd mewn llawenydd

    Mae Iesu yn ein gwahodd i fyw bywyd cyffrous, gan hepgor ein hawydd am ddiogelwch.
    Mae’n ein herio i wrando ar leisiau’r rhai sydd â dim i’w golli

    Cyd-gerddwn ei ffordd mewn llawenydd

    Mae Iesu yn ein cyfeirio at ffordd hunanaberth, ffordd sy’n tanseilio byd sy’n dwlu ar statws a grym
    Mae e’n ein galw i ddilyn ffordd y groes, lle mae pris i’w dalu am fyw daioni a chariad diamod

    Cyd-gerddwn ei ffordd  mewn llawenydd

    Wrth ofalu, gadewch i ni fod yn ddiflino,
    Rhagor

  • Pasg 2018

    PASG 2018 (Marc 16:1–8)

    “Peidiwch ag arswydo. Yr ydych yn ceisio Iesu, y gŵr o Nasareth a groeshoeliwyd. Y mae wedi ei gyfodi; nid yw yma; dyma’r man lle gosodasant ef. Ond ewch, dywedwch wrth ei ddisgyblion ac wrth Pedr. ‘Y mae’n mynd o’ch blaen chwi i Galilea: yno y gwelwch ef, fel y dywedodd wrthych.’”

     ‘Pasg llawen!’– dyna’r ymadrodd cyfoes, yntê, tebyg i’r Saesneg: ‘Happy Easter!’

    Maen nhw’n gwneud y pethau hyn yn well yng ngwlad Groeg. Hyd yn oed mewn gwesty digon syml fe fydd ymwelwyr yn derbyn wy wedi’i ferwi’n galed a’r anerchiad ‘Christos Anneste’. A phan fydd rhywun yn clywed y geiriau, yr ateb iawn yw ‘Alithos ...

    Rhagor
  • Sgwrs gydag Osian Ellis

    Sgwrs gyda’r telynor Osian Ellis

    Ychydig wythnosau yn ôl yr oedd Osian Ellis yn 90 oed ac fe fydd cyngerdd i ddathlu ei fywyd a’i gyfraniad yng Ngŵyl Telynau Cymru yn y Galeri nos Sul y Pasg, Ebrill 1af. Mae ei yrfa, ei lwyddiant a’i gyfraniad wedi bod yn fawr yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae’n effro ei feddwl, yn ifanc ei ysbryd ac yn parhau i gyfansoddi, er nad yw bellach yn perfformio’n gyhoeddus. Mae ei ffydd wedi dod â sefydlogrwydd iddo ar hyd ei oes ac o’i gartref ym Mhwllheli mae’n gwneud y siwrnai fer pob bore Sul yn ei hen Volvo i gapel Seion (Wesleaidd) yn ...

    Rhagor
  • Groglith i Basg

    Groglith i Basg

    (Diwedd gweddi gan Walter Brueggemann ar ddydd Gwener y Groglith a dechrau gweddi dydd Sul y Pasg)

    Groglith …

    Fe feiddiwn weddïo er i’r tywyllwch
    gau amdanom ac i’r ddaear grynu,
    fe feiddiwn weddïo am lygaid i weld yn iawn
    a lleisiau i siarad yn glir am rym marwolaeth o’n cwmpas,
    fe feiddiwn weddïo, yng Nghae Chwarae ein plant,
    am fedru sylweddoli mewn dychryn
    fod plant eraill yn mynd yn dawel, ac yn marw.
    Fe weddïwn yn fwy a mwy am
    am eich hiacháu wrth feiddio parhau i weddïo.

    Ond ar y Gwener hwn ...

    Rhagor