Agora 35 mis Medi-Hydref 2019

Agora rhif 35 mis Medi – Hydref 2019

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.

Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

Cynnwys

Sesiwn Sioned Webb i Encil Undydd C21, 2019

Gweddi ar gyfer Gwasanaeth Boreol
(Cymuned Iona – addasiad)

Efengyliaeth o’r newydd?
Cynog Dafis

Cread a chymod
Gareth Lloyd Jones

Englyn i Greta Thunberg
Annes Glynn

Beth yw Encil Undydd?
Pryderi Llwyd Jones

Satish Kumar
Pryderi Llwyd Jones

Gweddi amserol
Addasiad Ann D. Davies

Gweddi mewn ymateb i argyfwng Brexit
Rhannwyd gan Undeb yr Annibynwyr

Mamiaith
Enid Morgan

 

  • Sesiwn Sioned Webb i Encil 2019

    Sesiwn Sioned Webb yn Encil Undydd C21, 2019

    Cyfraniad cerddoriaeth i’n hymwneud ni â’r ‘Cread a’r Cymod’ oedd gan Sioned Webb yn ei sesiwn yn Encil 21. Dyma’r darnau o gerddoriaeth y gwrandawyd arnynt:

    (Mae’n bosib gwrando arnynt i gyd ar y we)

    Alaw a cherdd a chân, y rhodd o gelfyddyd a’r rhodd o addoli sy’n ein gwneud yn warchodwyr y cread a’r cymod, yn ôl Sioned Webb. Mewn sesiwn arbennig iawn o wrando ar gerddoriaeth fel cyfrwng cawsom glywed cerddoriaeth oedd yn ein cydio â’r nef ac â’n gilydd; weithiau yn ein harwain i ddawns, weithiau i alar ond pob amser i obaith. Roedd y darn Ami ...

    Rhagor
  • Efengyliaeth o’r newydd

    Efengyliaeth o’r Newydd?

    Cafwyd cryn sylw rai misoedd yn ôl i ganlyniadau ymchwil am agweddau at grefydd. Yn fras, y casgliad oedd bod dros hanner y boblogaeth yn dweud nad ydyn nhw’n arddel unrhyw grefydd a bod mwy o bobl yn rhoi eu ffydd mewn gwyddonwyr prifysgolion nag arweinwyr crefydd.

    Sut ddylai cefnogwyr Cristnogaeth 21, crefyddwyr rhesymol a goleuedig un ac oll, ymateb i beth fel hyn, heblaw ochneidio a nodi nad oedd y casgliadau yn eu synnu o gwbl?

    Man cychwyn hyn o sylwadau yw ail gymal y casgliadau: bod mwyafrif y boblogaeth yn rhoi eu ffydd mewn gwyddonwyr prifysgolion yn hytrach nag arweinwyr crefydd.

    ‘Ffydd’ ynghylch beth yw’r cwestiwn. Os ...

    Rhagor
  • Englyn i Greta Thunberg

    Englyn i Greta Thunberg yn dilyn ei hymddangosiad gerbron y Cenhedloedd Unedig.

    Un llais bach, ond lles y byd ynddi’n dân,
              a’r ddawn dweud fel ergyd;
        heddiw, drwy’i phrocio diwyd,
        clywn floedd gan filoedd fu’n fud.

    Annes Glynn

    Rhagor
  • Mamiaith

    Mamiaith

    Arfer y Cylch Catholig bob haf yw cynnal offeren Gymraeg yn yr eglwys blwyf leol. Yn y Fenni daeth criw o bobl y plwyf i gefnogi, er eu bod, y mwyafrif llethol ohonynt, yn ddi-Gymraeg. Wrth ddiolch iddynt, meddai’r Esgob Edwin Reagan: “Remember that the language of the Mass is Love”.

    Cofiais yr ymadrodd yn ddiweddar wrth ddarllen un o gyfrolau gweddïau Walter Brueggeman. Dyma fersiwn Cymraeg wedi ei seilio arni.

    Fe ddysgon ni siarad bron pob iaith ond ein hiaith ein hunain.
    Fe’n disgyblwyd yn iaith casineb ac ofn, iaith trachwant a phryder.

    Rydym yn hen gyfarwydd ag iaith gormes a chynffonna.
    Deallwn yn llwyr ramadeg rhyddfrydiaeth a cheidwadaeth,
    Y ...

    Rhagor
  • Gweddi amserol 1

    GWEDDI

    Gweddi gan yr Americanwr, y Parchedig Mark Sandlin, yn gofyn am ollwng gafael ar ein hunan-bwysigrwydd:

    Dduw da a graslon,

    Weithiau
    er mwyn bod yr hyn
    ddylem fod
    mae’n rhaid i ni wneud pethau
    sy’n gallu teimlo’n
    amhosib.

    Mae gan y rhan fwyaf ohonom amheuon
    a chwestiynau
    a meddyliau negyddol
    amdanom ein hunain
    ar adegau.

    Weithiau ymddengys
    yn rhan annatod
    o’r natur ddynol.

    Mae balchder a theimlo’n bwysig
    yn gallu bod yn angenrheidiol
    er mwyn gwrthbwyso
    sut y gwelwn ein hunain
    weithiau.

    Eto, gofynnodd Iesu i ni
    fod yn ostyngedig,
    y lleiaf o’r rhai hyn,
    yn olaf –
    i roi eraill yn gyntaf,
    i ollwng gafael ar ein hangen i fod yn bwysig …

    i ollwng ...

    Rhagor
  • Gweddi boreuol

    Gweddi ar gyfer Gwasanaeth Boreol
    (Cymuned Iona – addasiad)

    Mae’r byd yn eiddo Duw,
    y ddaear a’r holl bobl;
    mor dda yw byw ynghyd
    gyda’n gilydd;
    daw ffydd a chariad at ei gilydd,
    cyfiawnder a heddwch yn cydio dwylo;
    os yw disgblion Crist yn cadw’n dawel
    bydd y cerrig hyn yn gweiddi’n uchel.
    Agor ein gwefusau, O Dduw,
    a bydd ein genau yn cyhoeddi dy glod.

    Distawrwydd

    Dduw, bydd yn ein plith, rho i ni fywyd,
    gad i’th bobl lawenhau ynot ti;
    rho i ni eto hyfrydwch dy gymorth,
    yn rhyddid dy ysbryd cynnal ni;
    rho i ni galonnau glân
    ac adnewydda ni – gorff, meddwl ac ysbryd.

    Distawrwydd

    Gan ...

    Rhagor
  • Cread a Chymod

    CREAD A CHYMOD
    Yr Hen Destament a’r Amgylchfyd

    I.  Rhagarweiniad Am sawl rheswm, buddiol yw dechrau unrhyw astudiaeth drwy amlinellu’r cefndir i’n defnydd o’r Hen Destament fel canllaw awdurdodol i’n hagwedd at yr amgylchfyd. Nid mater syml ydi darganfod arweiniad ar bynciau moesol, pa bwnc bynnag y bo, yn y Beibl. Nid yw dyfyniad moel, o angenrheidrwydd, yn rhoi ateb digonol i unrhyw gwestiwn. Rhaid derbyn hefyd nad oedd gan yr awduron farn ar bynciau sydd o bwys i ni, am y rheswm syml nad oeddent o bwys iddynt hwy. Gochelwn rhag symud yn rhy sydyn o fyd y Beibl i’r byd modern, ac anwybyddu’r ...

    Rhagor
  • Beth yw Encil Undydd

    Beth yw encil undydd?

    Mae’n gwestiwn ddigon teg sydd wedi ei godi gan rhai sy’n ystyried dod i Encil Cristnogaeth 21 ym Mangor ar Fedi 21ain. (Mwy o wybodaeth ar ein tudalen ‘Hafan’.)

    Wrth feddwl am encil draddodiadol, y darlun a ddaw i’r meddwl yw hyd at dridiau i wythnos o amser wedi’i neilltuo mewn awyrgylch dawel, mewn lleoliad tawel, gwahanol i amgylchiadau ac awyrgylch llawn a phrysur ein bywyd bob dydd. Fe fydd digon o amser tawel i addoli, gweddïo ac i adnewyddu ysbryd a chorff.

    Rydym ...

    Rhagor
  • Gweddi amserol 2

    Gweddi a rannwyd gan Undeb yr Annibynwyr mewn ymateb i argyfwng Brexit

    Ein Tad cariadus, trown atat mewn cyfnod o ansicrwydd brawychus yn hanes ein gwlad, ein cyfandir a’n byd.
    Mae’n ddyddiau dieithr â datblygiadau’r naill ddiwrnod ar ôl y llall yn achosi penbleth a dryswch cynyddol inni a hynny’n troi’n rhwystredigaeth ddig ac ymosodol mor fynych.
    Yn ein gofid gofynnwn i Ti blannu ynom ddoethineb a phwyll ynghyd â chariad.
    Deisyfwn y bendithion hyn yn helaeth ar ein harweinwyr, etholedig a gwirfoddol ac ar eu tîmoedd gwaith.

    Llanw ni ag ewyllys dda a helpa ni i ymarfer goddefgarwch ac i roddi i eraill, ...

    Rhagor
  • Satish Kumar

    Satish Kumar

    Mae Satish Kumar yn ŵr unigryw sydd wed bod yn ymgyrchu dros Blaned Werdd ers blynyddoedd maith, cyn bod sôn am lawer o’r mudiadau amgylcheddol sydd mor weithgar erbyn hyn. Tawel, ond cwbwl allweddol, fu ymgyrchu Kumar. Cafodd ei eni yn India yn 1936, ac aeth yn fynach Jainaidd yn 1945 ar ôl darllen llyfr gan Gandhi ar fyw’n ddi-drais. Ond gadawodd y fynachlog er mwyn mynd ar bererindod heddwch o India yn 1962, a cherdded 8,000 o filltiroedd i ymweld â phedair prifddinas ...

    Rhagor