Agora 5 (Mis Medi)

Cynnwys Rhifyn 5 (Mis Medi)

(Cliciwch ar y teitl i ddewis yr erthygl neu sgrolio i lawr nes y dewch ati)

Agorab

Golygyddol

Iaith Addoli                                       Rwth Tomos

Ymlaen yr Awn                                 Joyce Boyd Tilman

Yr Ymneilltuwyr                               Nia Higginbotham

Ofnau ar ôl Brexit                             Rocet Arwel Jones

Ond                                                     Rocet Arwel Jones

Rhodd Duw i Gymru                       Wynford Ellis Owen

Does neb yn poeni am Seion           Enid Morgan

Dau Hanner Bywyd

Pytiau i’w Trafod

  • Golygyddol

    GOLYGYDDOL 

    Dinas Barhaus?
    Yr Almaen

    Yn yr Almaen mae miloedd o newydd-ddyfodiaid wedi cael croeso – a thipyn o gwyno o’r herwydd. Mae dull trefnus a phwrpasol yr Almaenwyr a doethineb Angela Merkel wedi golygu rhoi llety diogel dros dro i filoedd o bobl tra maent yn penderfynu sut i roi statws cyfreithiol iddyn nhw. Bu’n hynod ddiddorol gwrando ym mis Gorffennaf ar Almaenwyr ymroddedig a hoffus, rhai’n Gristnogion, rhai ddim, yn trafod canlyniadau’r mewnlifiad.Rhagor

  • Ymlaen yr Awn

    Ymlaen yr Awn

    Ymlaen yr awn yn llawn o’r Atgyfodiad,
    ymlaen yr awn, o nerth i nerth bob dydd,
    ymlaen yr awn mewn ffydd yn dweud yr hanes
    am gariad Duw a’n deil yn dynn a rhydd;
    fe ganwn gân i newid byd sy’n wylo,
    breuddwydio wnawn am glwyfau na fydd mwy,
    cawn lunio brodwaith o’r holl fyd mewn undod
    Rhagor   
  • Ofnau

    OFNAU’N CODI AR ÔL BREXIT

    Rocet Arwel Jones

    Mae gen i ofn. Am y tro cyntaf yn fy mywyd mae gen i ofn gwirioneddol ynglŷn â natur a chyfeiriad gwleidyddol a chymdeithasol Cymru.

    Dyw canlyniad y refferendwm ar Ewrop ddim ond yn un darn o hynny. Fe fydd yn garreg filltir o bwys yn nhreigl y blynyddoedd hyn, ond yn ei hanfod, nid dyna’r broblem.

    Dwi ddim yn awgrymu ...

    Rhagor
  • Rhodd Duw i

    Rhodd Duw i’r 20fed Ganrif

     Astudiaeth o Ddeuddeg Cam yr AA (Alcoholigion Anhybys) (AA)

    Wynford

           Wynford Ellis Owen,
    Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd

     Wrth dderbyn gwahoddiad y golygydd i ysgrifennu am 12 Cam Alcoholigion Anhysbys dros y deuddeg mis nesaf i Agora, tybiais y byddai’n well, cyn dechrau, egluro peth o athroniaeth ac ethos y Stafell Fyw – fel y gallwch ddeall yn well beth sydd wrth wraidd ...

    Rhagor
  • Dau Hanner Bywyd

    Dau Hanner Bywyd

    Enghraifft yw’r isod o waith Richard Rohr – awdur toreithiog a Ffransisiad yn America sy’n gyfrifol am y Centre for Action and Contemplation

    Datblygiad Dynol yn yr Ysgrythurau

    rainbow-1205807_960_720Mae’n help gwybod am y ffurf bwa enfys cyfan sydd i’n hoes, i ble mae’n anelu ac yn arwain. Bu i Walter Brueggemann, un o’m hoff ysgolheigion ysgrythurol, wneud cysylltiad disglair iawn rhwng  datblygiad yr ysgrythurau ...

    Rhagor
  • Iaith Addoli

    Iaith addoli – yr angen am newid

    Rwth Tomos

    Datblygodd y Llyfr Gweddi Gyffredin bum canrif yn ôl mewn cyfnod o ddadleuon ffyrnig ynglŷn â beth yn union yr oedd Eglwys Loegr yn ei gredu. Ll Gweddi GyffDatblygodd addoli Anghydffurfiol, gydag un weddi hir a phregeth hir, pan oedd gwrando ar un person yn siarad am gyfnod hir yn ddull cyffredin iawn o drosglwyddo gwybodaeth. Erbyn heddiw mae mathau eraill o gyfathrebu, gweledol yn bennaf, ...

    Rhagor
  • Yr Ymneilltuwyr

    Dyma’r ail erthygl mewn cyfres am gyflwr yr eglwysi yng Nghymru. Mae’r gyntaf, am yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yn Agora 4.

    Yr Ymneilltuwyr

    Nia Higginbotham

    Personol iawn yw fy myfyrdod ar sefyllfa Anghydffurfiaeth yng Nghymru. Personol a chymysglyd. Does dim dechrau pendant na diweddglo clir. Does gen i ddim atebion. Sgwrs dros baned fel petai, nid erthygl gyflawn. Gan wybod hefyd fod yna eithriadau disglair.

    Wrth nesu at oed yr addewid, synnaf at y newidiadau aruthrol ...

    Rhagor
  • Ond

    OND

    Rocet Arwel Jones

    Aberystwyth: Haf 2016

    Mae gen i ofn yr haf a’i gymylau fel dyrnau duon yn poeri sen i gannwyll ein llygad.

    Mae gen i ofn gweld ein plant yn gwreiddio mewn cynefin crin ac yn chwarae â thân, tra bod awel o hen fegin front yn siglo’r crud a chyfeilio i hwiangerddi’n hunllef.

    Mae ...

    Rhagor
  • Does neb yn poeni am Seion

    Ymaflyd â’r Testunau: Jeremeia 30:12-17; Luc 13:31-5 a 19:41-4

     “Does neb yn poeni am Seion,”

    Ydi Ewrop ar fin chwalu? Ydi’r drefn economaidd ar fin dymchwel? Ydi symud pobloedd yn mynd i ddadsefydlogi teyrnasoedd y ddaear? Ydi trais yn mynd i sgubo ymaith ein gwerthoedd a’n traddodiad? Ydi hi ar ben arnom ni?

    Wrth edrych ar enbydrwydd ‘cyflwr y byd’ drwy sbectol y cyfryngau, y demtasiwn yw mynd i guddio, cysuro’n hunain y daw popeth yn iawn rywsut neu’i gilydd, mygu ...

    Rhagor
  • Pytiau i’w Trafod

    Pytiau i’w Trafod

    (Mae croeso i bawb anfon eu hoff ddyfyniadau i’r Golygydd i’w rhannu â phawb o bobl C21)

    “Mae’r traddodiad Cristnogol yn rhodd, rhodd gymhleth, sy’n gwahodd ac yn hawlio hyrwyddo  ac nid mygu dadl.”

    Stanley Hauerwas

    **********************

    “Chwiliais mewn temlau, mewn eglwysi, mewn mosques. Ond yn fy nghalon y deuthum o hyd i’r dwyfol.” 

    Rumi

    **********************

    “Dwyt ti ddim yn berchen ar enaid, enaid ...

    Rhagor