Trechu’r Firws

Trechu’r Firws

Mae’n destun cryn falchder yma fod Tsieina wedi trechu’r firws corona ac mae pobl yn gwylio’r hyn sy’n digwydd yn Ewrop, ac yn yr Unol Daleithiau yn arbennig, gydag anghrediniaeth. Ychydig iawn o bethau, os unrhyw beth, sydd wedi arddangos y gwahaniaethau sydd rhwng diwylliant y Gorllewin a Tsieina mor glir ag y mae’r argyfwng hwn wedi’i wneud.

Bu problemau yn yr ymateb cyntaf un yn Wuhan, ac fe dalodd y swyddogion oedd ar fai gyda’u swyddi am y camau gwag hynny. Ond wedi hynny fe welwyd llywodraeth a chymdeithas yn symud mewn cytgord cwbl ryfeddol.

Yma, yn nhalaith Guangdong yn y de-ddwyrain, roedd y mesurau a gymerwyd a’r effeithiolrwydd wrth eu gweithredu yn anhygoel. Cyn bo hir, ar ôl i’r argyfwng gychwyn, roedd swyddogion ar gornel bron pob stryd gyda thermomedrau; os nad oedd swyddogion ar y gyffordd, byddai’r stryd wedi ei chau a neb yn cael mynd na dod ar ei hyd. Doedd neb yn cael troi o’r priffyrdd i’r parthau gwahanol yn y trefi a’r dinasoedd heb gael profi eu tymheredd. Doedd neb chwaith yn cael gadael eu parth nhw a thramwyo’r briffordd heb gael profi eu tymheredd. Pan fyddwn i’n mentro i’r archfarchnad, byddai fy nhymheredd yn cael ei fesur bum gwaith o fewn yr hanner awr y byddai’r siwrnai yn ei chymryd: wrth gyrraedd y stryd fawr, wrth gyrraedd y ganolfan siopa, wrth fentro i mewn i’r archfarchnad, wrth droi yn ôl i’r stryd yn fy nghymdogaeth i, ac wrth fynd yn ôl i mewn i’r bloc fflatiau lle dwi’n byw. Roedd pawb yn gwisgo mygydau drwy’r amser a neb yn cael mynediad i unrhyw le cyhoeddus heb fod yn eu gwisgo nhw. Nid yn unig roedd yn rhaid cael profi’ch tymheredd cyn dal y trên metro (ac mae hynny’n dal yn wir), ond roedd yn rhaid sganio cod gyda’r ffôn fel bod yr awdurdodau’n gallu dod o hyd i bawb oedd ar y trên os oedden nhw’n darganfod yn ddiweddarach fod un o’r teithwyr wedi bod yn dioddef gyda cofid.

Pan oedd perygl o ail don yn ninas Wuhan, daeth gorchymyn o Beijing fod pob un o’r 10 miliwn o drigolion i gael prawf o fewn deng niwrnod, ac roedd raid i bob awdurdod lleol ddarparu eu cynlluniau i gyflawni hyn o fewn tri diwrnod.

Oedd unrhyw un yn cwyno? Nac oedd siŵr. Roedd pawb yn cydnabod fod yn rhaid cymryd camau eithriadol a chryf er mwyn trechu gelyn mor gryf. Clywais sylwebyddion yn dweud fod Tsieina wedi llwyddo i drechu’r firws oherwydd grym anferthol y llywodraeth yn Beijing a grym y Blaid Gomiwnyddol, ond tydi hynny’n ddim ond hanner y stori. Oedd, wrth gwrs, roedd grym yr awdurdodau’n caniatáu gweithredu effeithiol a chyflym – fel ag a wnaed i atal yr ail don yn Wuhan – ond yr elfen bwysicaf wrth guro’r firws oedd agwedd y bobl. Mae Tsieineaid yn ystyried mai un teulu mawr ydi’r genedl gyfan ac mae’r teulu yn sanctaidd yn y wlad hon. Gan hynny, roedd pawb yn gwneud popeth o fewn eu gallu i atal lledaeniad y pla ac yn disgwyl i’r llywodraeth gymryd pob cam posib i sicrhau hynny. Drwy gydernes y bobl y llwyddwyd.

I ryw raddau, roedd y ffordd Tsieineaidd o fyw ynddi ei hun yn atal lledaeniad y firws. Ychydig o gymdeithasu sy’n digwydd tu hwnt i’r teulu ac, yma yn Guangdong, yn yr awyr agored yn y parciau mae pobl yn cyfarfod. Elfen gref arall oedd pwysigrwydd glendid. Fedrwch chi ddim cerdded canllath, bron, heb ddod ar draws rhywun yn sgubo’r ffordd a bob rhyw hyn a hyn mi welwch chi’r wagen fach yn aros wrth y biniau sbwriel i’w golchi. Os glywch chi sŵn hyrdi-gyrdi, mi wyddoch fod y cerbyd sy’n chwistrellu dŵr ar y ffordd er mwyn ei olchi yn cyrraedd. Y peth cyntaf sy’n rhaid i bawb ei wneud ar ôl eistedd wrth y bwrdd bwyd ydi golchi eu llestri gyda dŵr sydd wastad yn cael ei ddarparu yn unswydd ar gyfer hynny. Rhyfeddais fod y gorchwyl hwn yn dal i gael ei gyfrif yn allweddol, hyd yn oed pan fo’r llestri yn cyrraedd y bwrdd mewn lle bwyta wedi eu pacio mewn plastig ac yn sicr yn berffaith lân!

Roedd un peth arall yn gymorth mawr iawn i atal y firws, sef mai ychydig iawn iawn o bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal. Mae’n gywilydd ac yn warth cydnabod nad ydych yn gallu, neu yn fodlon, gofalu am yr henoed yn eich teulu. Mae hynny, ac agwedd y Tsieineaid at fywyd yn gyffredinol, wedi bod yn fendith mawr iawn dan yr amgylchiadau hyn, ac wedi cryfhau ein llaw yn ddirfawr wrth ymrafael â’r gelyn llithrig hwn.

Karl Davies