Bywyd Chwyldroadol y Deyrnas

Bywyd Chwyldroadol y Deyrnas

1

Mae rhai geiriau yn hawdd iawn i’w gorddefnyddio! Un ohonynt, fel arfer, fyddai’r gair ‘chwyldroadol’ – ond rywsut, prin fod gair arall yn gweddu cystal yn yr amseroedd rhyfedd yr ydym yn byw drwyddynt.

Yn ei draethawd – ie, ‘chwyldroadol’ (!) – ar athroniaeth gwyddoniaeth, The Structure of Scientific Revolutions, mae Thomas Kuhn yn cyferbynnu gwyddoniaeth ‘normal’ a gwyddoniaeth ‘chwyldroadol’. Cysyniad canolog Kuhn, wrth gwrs, yw’r ‘paradigm’, y fframwaith o feddwl sy’n galluogi gwyddonwyr i ymgodymu â phroblemau, llunio arbrofion, a phrosesu darganfyddiadau. O fewn y paradeim, fe ddigwydd gwyddoniaeth ‘normal’; y drafferth yw fod gwyddoniaeth normal fel pe’n dihysbyddu gallu’r paradeim cyfredol i fframio cwestiynau y gellir eu hateb o fewn y paradeim.

Dyna pryd y digwydd, yn ôl Kuhn, ‘chwyldro’ gwyddonol. Hanfod chwyldro o’r fath yw ‘llam’, neu ‘naid’ i mewn i baradeim newydd – syfliad paradeim, neu’r enwog ‘paradigm shift’. Yr enghraifft glasurol yw’r newid o baradeim Newton ar gyfer ffiseg i baradeim Einstein. Nid mater o esblygiad mo hyn; mae Kuhn yn berffaith glir y daw paradeim newydd i fodolaeth yn gyflawn, ac y caiff ei gydgrynhoi gan wyddonwyr yn dechrau gweithio, yn dechrau ‘gwneud gwyddoniaeth “normal”’ – o’i fewn.

Fe ellid mynegi’r peth fel hyn. Nid yw paradeim newydd yn codi o atebion y paradeim blaenorol, ond o’r cwestiynau sy’n amhosibl eu hateb o fewn yr hen baradeim.

Doedd disgyrchiant ddim yn plygu na gofod nac amser ym mharadeim Syr Isaac! Ni allai’r paradeim Newtonaidd egluro ffenomenau y gellid eu gweld gan seryddwyr, er enghraifft. Dim ond pan lamodd Einstein i mewn i baradeim lle mae disgyrchiant yn plygu gofod, ac yn arafu amser – oherwydd bod cyflymdra goleuni yn ddigyfnewid, ac felly dim ond plygu gofod all esbonio … Ac yn y blaen, ac yn y blaen. Ond beth sydd a wnelo hyn â COVID-19, a ninnau fel Cristnogion yn y 21ain ganrif?

2

Wel, mae’r byd wedi newid. Mae’r ymwybyddiaeth o hyn yn treiddio drwodd i bobl ar sawl lefel, ac mewn sawl ffordd. Mae dirnadaeth bellgyrhaeddol nad yw’r byd yn gweithio yn yr un ffordd ers diwedd mis Mawrth. Nid yw’r hen fframweithiau o feddwl yn abl i ateb y cwestiynau sy’n codi o ddydd i ddydd, bron iawn o awr i awr, bellach. Nid yn unig mae’r atebion yn henffasiwn a heb berthnasedd – dyna rywbeth yr ydym ni fel Cristnogion blaengar wedi bod yn ei rybuddio am iaith a hunangyflawniad yr Eglwys ers blynyddoedd! – mae’r cwestiynau, hyd yn oed y cwestiynau, oedd yn swnio’n gyfredol mor ddiweddar â mis Mawrth, yn dechrau ymddangos yn amherthnasol.

Dyna arwyddocâd COVID yng nghyswllt cymdeithas, diwylliant a ffydd: peri cyflymu’n aruthrol broses tranc yr hen baradeim. Yn sydyn, mae pandemig wedi newid nid yn unig amodau byw cymdeithasau cyfain ond dirnadaeth miliynau ar filiynau o bobl o gynaliadwyedd ein ffordd o fyw. Gellir crynhoi’r cyfan mewn chwe gair: ‘Ni allwn fynd ymlaen fel hyn …’

Yn sydyn, gellir dirnad y rheidrwydd o fformiwleiddio cwestiynau newydd, sy’n crisialu’r mewnwelediad ‘na allwn fynd ymlaen fel hyn’.

Cwestiynau newydd? Wel, mae rhai o’r cwestiynau newydd yn eithaf hen, bellach! Cwestiynau ynglŷn ag anghydraddoldebau economaidd anfoesol ar draws cymdeithasau yn fyd-eang, a’n cymdeithas ni yn arbennig iawn, ond y tu hwnt i hynny anghydraddoldebau gwirioneddol anhygoel rhwng golud cylchoedd cyfyng cyllid rhyngwladol a gweddill y ddynolryw, sydd, fel y dengys yr economegydd Rudolf Steiger, yn traflyncu economi’r byd; yn gryno, nid yn unig bod mwy a mwy o’r ‘deisen’ economaidd yn perthyn i lai a llai o bobl, mae’r broses yn crebachu’r deisen gyfan.

 

 

Ac wrth gwrs, y tu hwnt i hyn i gyd, saif y realiti enfawr, hollgynhwysol, nad oes modd i hud a lledrith cyfalafiaeth mo’i guddio bellach – argyfwng hinsawdd.

Daeth moment o fewnwelediad. A dyma’r foment o chwyldro.

3

Mewn syfliad paradeim clasurol, mae gwyddonwyr (y mwyafrif, ar y dechrau) sy’n gwadu rheidrwydd ymadael â’r hen baradeim. Ys dywedodd Mark Twain, gan foesymgrymu i gyfeiriad Freud, ‘Denial ain’t just a river in Egypt.’

Os gall gwyddonwyr fod yn adweithiol, wel, bid siŵr y bydd diwinyddion ac eglwyswyr adweithiol! Ac felly hefyd, ddegau – cannoedd – o filiynau o bobl sy’n delio mewn theorïau cynllwynio a ‘fake news’, er mwyn parhau i fyw mewn fframwaith o ddeall y byd nad yw, bellach, yn gwneud unrhyw sens.

Ond mae miliynau eraill wedi canfod breuder y byd: breuder economaidd cymdeithasau gorllewinol, gwerthu breuddwydion gweigion sy’n pweru prynwriaeth ac yn difrodi’r amgylchedd. ‘Ni allwn fynd ymlaen fel hyn …’

Mynnai Reinhold Niebuhr na ellid galw diwinyddiaeth yn Gristnogol nad oedd yn drwyadl eschatolegol. Eschatoleg? ‘Deled dy deyrnas, gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd …’ Anniddigrwydd sanctaidd, yr ymateb i alwad Iesu i fyw yn y byd fel y mae, y math o fywyd sy’n perthyn i’r byd fel y dylai fod, i fyw bywyd y Deyrnas yn awr – dyna eschatoleg, ac yn sydyn, mae cynulleidfa enfawr yn barod i ymateb i gyhoeddiad o’r fath, nid oherwydd eu bod wedi ymadael â’r hen baradeim, ond oherwydd na wna’r hen baradeim, wedi ei oleuo yn ei holl annigonedd affwysol gan fellten COVID, wedi ynganu’r hyn y gellid cynt ei wthio i gefn y meddwl: ‘Ni allwn fynd ymlaen fel hyn …’

4

A dyna’n profiad yn Eglwys Unedig Bute. Cyn mis Ebrill, fe fyddai cynulleidfa o 90–100 wedi bod yn Sul da i ni yn Rothesay. Bellach, rydym yn amcangyfrif bod dros 300 o bobl (efallai cryn dipyn dros 300) yn addoli gyda ni bob wythnos. Fe fydd yr un peth yn wir ym mhrofiad llawer ohonom.

Cawsom neges gan anffyddiwr yn diolch i ni am y gwasanaethau, a’r unig reswm y gallwn feddwl y byddai hynny’n digwydd oedd bod ein haddoliad yn mynegi – yn wir yn cyhoeddi – anniddigrwydd â phethau fel ag y maent, a’r rheidrwydd o ymadael â’r hen baradeim. Yn sydyn, ymddengys yr Eglwys nid fel sefydliad sy’n cyhoeddi hawliau hen ddyn gwyn, barfog uwchben y cymylau, ond fel ffenomenon sy’n galluogi byw bywyd sy’n mynegi ‘anniddigrwydd sanctaidd’ â phethau fel ag y maent, yn enw pethau-fel-y-dylent-fod. Dyma ystyr dyfnach y newidiadau amlwg yn ein bywyd fel cynulleidfa a chymuned: cofleidio cyfryngau digidol, ymfudo i cyberspace, dod i ddirnad nad oes dim afreal ynglŷn â rhithrealiti … (Duw a’n helpo ni, ai dyna’r cyfieithiad Cymraeg gorau o ‘virtual reality’ y gellid ei ddyfeisio?)

Sut mae dechrau dygymod â’n darganfyddiad fod dathlu’r Cymun am 11 y bore ar y Sul yn dwyn ynghyd nid yn unig bobl nad ydynt yn bresennol yn yr adeilad bryd hynny, ond nad ydynt hyd yn oed yn cymryd y bara a’r gwin yn yr un ‘foment’? Sut, ond trwy ymadael â’r hen baradeim a cheisio un newydd?

Nid arfer gormodiaith fyddai dweud fod popeth yr ydym ni wedi ei brofi fel cynulleidfa ers mis Ebrill yn cadarnhau ein bod ni, ynghyd â miliynau eraill, wedi ein lluchio allan yn derfynol o hen fframwaith, oherwydd nad oedd yn cyfateb i’r data.

O’r diwedd, yr ydym yn byw mewn zeitgeist chwyldroadol sy’n cyfateb i radicalrwydd yr Efengyl! Yr her, i ni fel cynulleidfa, yw derbyn hyn fel rhodd Duw. Nid cyfnod i ddiwinydda yn ‘normal’ mo hwn. Cyfnod yw i fyw bywyd chwyldroadol y Deyrnas.

John Owain Jones