Y Nadolig Cyntaf

Y Nadolig Cyntaf

gan Vivian Jones (2006)

Mae cyfrol Vivian Jones, Y Nadolig Cyntaf, yn unigryw. Nid oes yr un gyfrol arall yn y Gymraeg wedi rhoi sylw manwl i’r Nadolig ar gyfer oedolion – neiniau, teidiau a rhieni’r plant a’r genhedlaeth sydd yn tueddu i gredu mai gŵyl i blant ydyw. Fel mae cyfranwyr eraill wedi ysgrifennu yn Agora yn ystod y mis, mae neges y Nadolig yn heriol ac yn radical iawn.

Meddai Vivian Jones yn ei Ragymadrodd:

Mae’n rhaid cofio bod cefndir i holl gynnwys y Beibl, a rhaid gweld popeth sydd ynddo yn erbyn y cefndir hwnnw. A’r cefndir hwnnw yw’r frwydr gosmig sy’n dechrau â’r creu yn Genesis ac yn dod i ben â buddugoliaeth derfynol yn llyfr y Datguddiad, y frwydr fawr waelodol rhwng bywyd a phopeth sy’n elyniaethus i fywyd. Iddo fod yn ddilys, rhaid i unrhyw ystyr a gawn ni yn unrhyw ran o’r Beibl gyfrannu at y naratif gorchestol hwnnw.

Ac fel hyn y mae’r gyfrol yn gorffen, gyda’r bennod ‘Rhywbeth am ddim’ (‘Mab a roed i ni’ Eseia 9:6). Meddai Vivian:

Craidd yr ŵyl yw rhywbeth anhraethol fawr a roddir am ddim i ni, graslonrwydd digymysg, pur tuag atom sydd yn ein harddel a’n codi ac sydd felly yn ein rhyddhau.

Ymhlyg yn hanesion Mathew a Luc am y graslonrwydd hwnnw y mae darlun o fywyd. Ni all dim gymryd lle’r hanesion hynny, yn yr ystyr pe baent hwy yn marw byddai’r darlun yn marw gyda nhw. Nid dull o fynegi rhywbeth yw’r hanesion chwaith, fel pe gellid eu rhoi naill ochr a chymryd allan ohonynt eu neges, fel pe bai’r hanesion yn fasgl a’r cynnwys ynddynt yn gnewyllyn. Hanesion ydynt y mae biliynau o Gristogion wrth dderbyn y darlun ynddynt wedi cael ysbrydiaeth a’u cynorthwyodd i wynebu pob peth y gallodd bywyd ei daflu atynt, a gwneud hynny â mesur da o raen a llwyddiant.

Cofiaf ddarllen am ddarlun gwahanol iawn yn fy arddegau, yn Mysterious Universe Syr James Jeans, y Seryddwr Brenhinol ar y pryd, a darllenais am ddarlun tebyg i hwnnw eto yn ddiweddarach yn The Problem of Pain, C. S. Lewis. ‘Pe byddai rhywun wedi gofyn imi pan oeddwn yn anffyddiwr,’ meddai Lewis, ‘pam na chredwn yn Nuw, buaswn wedi ateb rhywbeth fel hyn: “Edrychwch ar y bydysawd: mae’r cyrff nefol yn y gofod mor ychydig o’u cymharu â’r gofod ei hun, fel pe bai pob un ohonynt yn orlawn o greaduriaid cwbwl hapus. Hyd yn oed wedyn, byddai’n anodd credu bod bywyd a hapusrwydd yn ddim namyn cynnyrch damweiniol y pŵer a wnaeth y cread.”’ Â ymlaen i sôn am fyrder bywyd dynol ar ein daearen ni, y modd y mae’r ymwybod dynol wedi gwneud poen yn bosibl, a deall wedi ei gwneud yn bosibl rhagweld poen ac angau. Casgliad Jeans oedd bod y cread yn ddi-ddadl yn elyniaethus i fywyd dynol, a chasgliad Lewis bryd hynny oedd: naill ai nad oedd unrhyw ysbryd tu cefn i’r cread, neu fod yna ysbryd sy’n ddihitans o ddrwg a da y tu cefn iddo, neu fod yna ysbryd drwg yno.

Cynigia’r Nadolig i ni ddarlun o fyd y mae tu cefn iddo Dduw sydd, nid yn dirfeddiannwr absennol, nid yn ddirgelwch pur na allwn dreiddio i’w hanfod, ond sy’n Ysbryd presennol a fydd bob amser ‘gyda ni’ mewn addewid dihaeddiant o dynerwch plentyn-debyg ond anorchfygol. Darlun yw sy’n ein gwahodd i ymuno â’r angylion mewn mawl, a darlun yw sy’n ein nerthu i fod o gwmpas y themâu Nadoligaidd o barch a goleuni a thangnefedd a llawenydd i bawb yn y byd. Darlun yw a grisielir mewn geiriau y mae Cristnogion wedi eu hen feddiannu a’u gwneud yn eiddo iddynt hwy eu hunain, geiriau y proffwyd Eseia – ‘mab a roed i ni’. Halelwia, ac Amen.