E-fwletin 27 Rhagfyr, 2020

Mae pobl o egwyddor yn rhai i’w hedmygu, a phobl ddiegwyddor i’w hosgoi.

Un o gwestiynau mawr Brexit yw a ddylid cadw at egwyddor, doed a ddêl, neu a fyddai’n ddoethach cyfaddawdu?

Ar y naill law, o orsymleiddio, mae’r tyndra rhwng Brexit heb gytundeb ar sail yr egwyddor ddisyfyd fod gennym yr hawl i ddilyn  ein llwybr ein hunain, ac ar y llaw arall  beth am ffyniant yr economi, a’r pris am wrthod cydweithredu.

Pa bryd mae penderfyniad yn  troi yn stwbwrnrwydd neu styfnigrwydd tybed?

Doedd proffwydi’r Hen Destament  ddim yn cyfaddawdu, na Iesu chwaith.  Câi’r proffwyd ei wawdio a’i erlid.  Aeth Iesu i’w groes “heb neb o’th du.” Mae bod yn broffwyd gau, a dweud y pethau  mae’r awdurdodau am eu clywed lawer yn haws.

Rwy’n ddiolchgar iawn na alwyd mohonof i fod yn broffwyd, i gyhoeddi “ fel hyn y dywed yr Arglwydd.” Mae pobl sy’n siŵr mai nhw sy’n iawn wedi achosi cymaint o hafog.

Roedd angen i’r Hen Genedl fedru gwahaniaethu rhwng gwir broffwyd a ffug broffwyd.  Doedd dim prawf di-droi- nôl, ond roedd yn werth holi, “ydy’r proffwyd yma yn boblogaidd?”  Os ydy’r ateb yn gadarnhaol, dyw hynny ddim yn arwydd da.

Talodd rhai yn ddrud iawn am wrthod cyfaddawdu.  Welwyd hynny erioed yn gliriach nag yng nghyfnod y Tuduriaid.  Roedd Mari yn gyfrifol am ladd llu o “hereticiaid,” ac Elizabeth yn fwy creulon fyth.

Rhaid edmygu unplygrwydd a dewrder y rheini nad oes  troi arnynt.  Gofynnaf i mi fy hun weithie ydw i yn credu unrhyw beth yn ddigon cryf i fynd i’r stanc drosto?

Un peth ydy bod yn broffwyd cyfiawn Duw yn talu am sefyll dros gyfiawnder. Y proffwyd ei hun sy’n dioddef.  Peth arall ydy dihirod pwerus sy’n benstiff ddi-ildio er eu lles eu hunain, eraill sy’n dioddef wedyn.

Yn amlach na pheidio, mae proffwyd a merthyr yn tynnu gwae. Nid arno’i hun yn unig, ond ar y rhai sy’n agos ato hefyd.

Rydym yn gyfarwydd â chlywed am bobl ddrwg yn achosi poen i eraill.  Pobl dda, egwyddorol, yn achosi poen i eraill sydd gan yr Americanes, Marilynne Robinson yn gyson yn ei nofelau.  Gwelir yr un peth yn nofel  fawr Emyr Humphries, “ Outside the House of Baal.” Gwn innau, o fewn cof, am wraig gweinidog fyddai ar dro heb swper, fel bod bwyd i’r plant.

Mae pris i’w dalu am lynu at egwyddor, a llawer i’w hedmygu am wneud.  Ond mae adegau hefyd, does bosib, pan mai cyfaddawdu sy’n iawn.

Adeg Rhyfel Cartre Sbaen roedd catrawd o anarchiaid yn ymladd yn erbyn Franco.  Gan nad oeddent ar egwyddor yn credu mewn awdurdod, fe saethon nhw’r swyddogion – a cholli’r rhyfel!

William Abraham (Mabon) oedd yr amlycaf o arweinwyr y glowyr yng nghymoedd y de yn chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd cyflogau ac amodau’r gweithwyr yn gwthio llawer tuag at streicio ond mantra Mabon oedd, “Mae  hanner torth yn well na dim torth” tra’n dal i ymladd â’i holl galon dros y gweithwyr.

Yn y diwedd felly, tybed nad  tyndra rhwng egwyddor a diegwyddor  ydy hi bob tro, ond brwydr rhwng egwyddor ac egwyddor.