Jonathan Sacks, Leonard Cohen, Brigyn a’r Nadolig
Bu farw Jonathan Sacks yn sydyn ar Dachwedd 7ed yn 72 oed. Ychydig iawn o sylw a gafodd ei farwolaeth yng Nghymru.
Jonathan Sacks, wrth gwrs, oedd cyn Brif Rabi Iddewiaeth Uniongred Prydain a’r Gymanwlad, ac mae’r teyrngedau iddo yn dystiolaeth o’i ddylanwad tu hwnt i Iddewiaeth. Roedd ei ddoniau fel athro yn unigryw. Cyhoeddodd o leiaf 30 o lyfrau academaidd a phoblogaidd, ac roedd yn gyfathrebwr heb ei ail ar y cyfryngau. Fel arweinydd ei bobl mewn oes seciwlar, ystyriai mai ei gyfrifoldeb mwyaf oedd cynorthwyo’r Iddewon i ateb y cwestiwn pwysicaf un, sef ‘Beth yw bod yn Iddew heddiw?’
Nid oedd yn boblogaidd gyda’r Iddewon Uniongred eithafol. Iddynt hwy yr oedd Sacks yn rhy ‘ryddfrydol’, yn enwedig yn ei gyfrol The Dignity of Difference: how to avoid the clash of civilizations (2002). Mae’n dechrau’r gyfrol ar Ground Zero yn Efrog Newydd flwyddyn wedi 9/11 ac yng nghwmni Cristion, Mwslim ac arweinwyr crefyddau eraill. Nid rhyw ddiwinyddiaeth ryddfrydol yw hyn, meddai Sacks, ond Duw yn gwrthod cael ei gyfyngu i un iaith ac i un ffordd. Gwirionedd fydd yn y nefoedd, ond gwirioneddau ar y ddaear. Nid un eirfa. Fe wthiodd Jonathan Sacks y ffiniau crefyddol – dyn, nid Duw sy’n creu ffiniau – ar sail Ysgrythurau’r Iddewon.
Rhan o neges y gyfrol The Dignity of Difference yw fod Duw yn llefaru yn aml drwy’r hyn sydd yn ein gwahanu ac yn dod atom yn y ‘dieithryn’ a’r ‘gwahanol’ o bob crefydd a diwylliant. Mae hon yn neges radical. Roedd yr Uniongred traddodiadol yn gweld safbwynt o’r fath yn heresi ac yn glastwreiddio Iddewiaeth. Ond, o gofio teitlau cyfrolau eraill ganddo, yn arbennig, Not in my name – confronting religious violence (2015) a To heal a fractured world (2006), fe welwn fod neges Sacks yn neges nid yn unig – nac yn wir, yn gymaint – i’r Iddewon ond i’r ddynoliaeth. Galwodd yr Iddewon eithafol am atal gwerthiant The Dignity of Difference a mynnu bod yr awdur yn cywiro’r heresi cyn ystyried ail argraffiad. Ond, yn hytrach na ‘chywiro’, esbonio’i safbwynt yn fwy manwl a Beibladd a wnaeth Sacks. Mae’r ysgrythurau Iddewig, sef stori fawr ymwneud Duw â’r Iddewon, ar yr un pryd yn stori am ymwneud Duw â’r ddynoliaeth ac â’r cread. Mae ganddo frawddeg awgrymog a dychanol yn un o’i lyfrau wrth iddo edrych ar gyflwr y byd: ‘When all else fails, read the instructions.’
Roedd ei gyfraniad i drafod materion cyfoes dyrys yn eithriadol o bwysig ac yn ennyn parch mawr tuag ato. Ar faterion fel yr amgylchedd, gwerthoedd moesol a chymunedol, teulu, hilyddiaeth, tlodi, cyfraith a threfn, carchardai a llu o faterion eraill, roedd ganddo arweiniad doeth, cadarn a goleuedig (Gw. Faith in the Future, 1995, ac yn arbennig erbyn hyn y gyfrol Morality. 2020). Does dim rhyfedd fod pedwar prif weinidog wedi troi ato am gyngor, a bod yr wasg a’r cyfryngau’n awyddus i gynnwys ei lais. ‘Prophet of Twitter and Times,’ meddai un ffrind amdano. Cyfathrebu â phawb – cred a di-gred, Duw neu di-dduw – oedd ei ddawn fawr. Llwyddai’n gyson i gyfleu llawenydd (a dwyster) y gwyliau Iddewig, ac roedd y teitl – Celebrating Life (2000) – a roddodd i’w gasgliad o fyfyrdodau Thought for the Day yn egluro pam yr oedd awydd mawr i wrando arno,
Roedd ganddo feirniaid eraill hefyd, yn arbennig o safbwynt ei gefnogaeth i Israel.Credai yn hawl Israel i gael ei gwladwriaeth ei hun ac i’w gwarchod ei hun. Ond roedd hynny i’w ddisgwyl gan Iddew o Lundain a’i wreiddiau yng ngwlad Pwyl. Roedd yn Jerwsalem yn ŵr ifanc 19 oed yn ystod y Rhyfel Chwe Diwrnod ac yn cofio profiad mawr ei fywyd ar Fynydd yr Olewydd yn meddwl am offeiriaid y deml yn 70 OC yn dyst i ddinistr y deml gan Rufain. Meddai, ‘Gobaith sy’n adeiladu adfeilion Jerwsalem. Iddewon gadwodd obaith yn fyw, a gobaith gadwodd yr Iddewon yn fyw’ (Radical then, radical now, 2001). Mae’n freuddwyd ac yn argyhoeddiad sylfaenol ei fywyd.
Cafodd ei feiriadu’n hallt am gynorthwyo Is-arlywydd America, Mike Pence, i ysgrifennu ei anerchiad pan symudwyd Llysgenhadaeth America i Jerwsalem o Tel Aviv (2018), digwyddiad oedd yn gam at feddiannu Jerwsalem yn llwyr i’r Israeliaid ar draul hawliau’r Palestiniaid i’r ddinas. Bu enghreifftiau eraill, yn cynnwys ei feirniadaeth hallt ar ymgyrch y BDS (Boycott, Divestment and Sanctions) yn erbyn Israel a hefyd ei feirniadaeth o Jeremy Corbyn, gan gymharu ei wrth-semitiaeth honedig ag anerchiad Enoch Powell gynt pan soniodd hwnnw am ‘afonydd o waed’ fyddai’n llifo ym Mhrydain oherwydd ymateb i’r mewnfudwyr du eu lliw.
Ond, yn gyson â’i gred, fe gadarnhaodd ei gefnogaeth i hawl y Palestiniaid, fel yr Israeliaid, i’w gwlad a’u gwladwriaeth eu hunain. Mae’n bwysig nodi hefyd i Sacks, yn Awst 2002, rybuddio Israel eu bod ar lwybr dinistr yn y trais eithafol yn erbyn y Palestiniaid. Roedd wedi gweld llun o filwr Israelaidd yn gwenu yn ymyl corff Palestiniad. Beth bynnag oedd ei fethiannau a’i gamgymeriadau, bu’n driw i weledigaeth broffwydol yr Hen Destament.
Cohen, Brigyn a’r Nadolig
Mae esboniadaeth Feiblaidd Sacks wedi bod yn arweiniad goleuedig i Gristogion i ddarllen yr Hen Destament. Gwreiddiau Cristnogaeth, ac nid monopoli Cristnogion i ddehongli’n gywir, sy’n rhoi’r hawl i ni rannu’r Hen Destament nid fel yr ‘hen un’ ond fel y cyntaf o ddau Destament. Yn wir, wrth ddarllen rhannau o waith Sacks, fe ddown yn agos iawn at galon y ffydd Gristnogol.
Mae ganddo, er enghraifft, fyfyrdod arbennig iawn ar gân olaf Leonard Cohen cyn marwolaeth Cohen ar 16 Tachwedd 2016.
Fe wyddom fod Cohen, oedd yn Iddew o dras, wedi crwydro – driffitio fyddai gair Cohen – i mewn ac allan o ffydd ac ysbrydolrwydd, gan gynnwys Cristnogaeth, ac wedi canu ei gwestiynau a’i amheuon, ei ofnau a’i ddagrau dros gyflwr y ddynoliaeth. Oherwydd mai dwys, os nad pruddglwyfus, yw llawer o ganeuon Cohen, fe fyddai rhai’n ei ystyried fel ‘proffwyd gwae a galar’. Ond Cohen hefyd oedd cyfansoddwr ac awdur geiriau’r enwog ‘Halelwia’, ac yr oedd ‘Halelwia’, meddai Sacks, yn isalaw i lawer o’i ganeuon.
Erbyn hyn, yng Nghymru, ‘Halelwia’ yw’r gân sydd bron â/wedi disodli ‘Un Seren’, Delwyn Siôn, fel Y gân Nadolig boblogaidd. I rai, mae fersiwn Brigyn yn well na’r gwreiddiol. Sôn y mae cân Cohen am fethiannau a throseddau Dafydd Frenin, ond eto, mae’r Halelwia yn enaid Dafydd. Mae fersiwn Brigyn, wrth gwrs, yn gân am Balesteina heddiw ac yn rhannu’r galar sydd yn y gwrthdaro rhwng Israel a Phalesteina sy’n gysgod dros bob Nadolig erbyn hyn.
Ond yn ôl at gân olaf Cohen y bu Sacks yn myfyrio arni. ‘You want it darker’ yw’r teitl. Yn ei esboniad – drannoeth ethol Trump yn Arlywydd America yn 2016 – y mae Sacks yn dweud bod ethol Trump wedi gwneud y byd yn dywyllach lle. Dywed ein bod yn byw mewn ‘amser tywyll’ ac mae’n gweld y gân yn un ingol a phroffwydol. Mae Cohen fel Job, heb atebion i’w gwestiynau mewn byd o ddioddefaint, ond eto mae’n parhau i chwilio am y cariad all achub y byd. Does dim ateb hawdd, nac ateb clir, ond mae Cohen yn medru canu yn y tywyllwch.
You want it darker / we kill the flame.
If you are the healer / I’m broken and lame,
If thine is the glory
Mine must be the shame.
You want it darker,
Magnified, sanctified,
Be the holy name,
Feel the fire crucified
In the human frame …
Hineni, hineni,
I’m ready, my Lord.
‘Hineni’ yw gair allweddol y cytgan, gair sydd i’w weld dair gwaith yn hanes Abraham yn cael gorchymyn gan Dduw (o bawb) i aberthu ei fab. Ystyr y gair ‘Hineni’ (sydd ar wefusau Abraham wrth ufuddhau i orchymyn Duw i ladd ac aberthu ei fab) yw ‘Dyma fi, rwy’n barod, Dduw’. Mae hyn yn ddirgelwch i Cohen: Duw yn gofyn i ddyn ladd ei fab, ac Abraham yn ei ufudd-dod i Dduw yn fodlon gwneud hynny? Sut mae person crefyddol yn barod i ladd y diniwed ac yn credu mai dyma oedd ewyllys Duw? Mae’r gân yn ymdrech i fynd i’r afael â ffyrdd Duw. Ond ni fu lladd yn yr hanes oherwydd nid un felly yw Duw.
Mae’r gân yn dod â’r Iddew – Cohen a Sacks – yn agos iawn at Iesu’r Meseia ac yn mynd ag Iesu yn ôl i’w wreiddiau. Dyna pam mae myfyrdod Sacks ar y gân yn ein cyfeirio at y Nadolig a dyfodiad y Meseia, mab Dafydd yn ninas Dafydd Frenin. A Dafydd, y brenin a droseddodd, y brenin bregus, a gyfansoddodd salmau, sy’n canu ‘Halleluja’. Mae’n sôn am ei ‘broken Hallelujas’ ef a’r ‘Holy Halleluja’ arall. Eto, meddai Dafydd:
I’ll stand before the Lord of song
With nothing on my tongue but Halleluja.
Mae addasiad Brigyn yn dod â’r Halelwia i ganol tywyllwch byd ac i ganol amgylchiadau’r Nadolig cyntaf ac i’r Nadolig cyfoes, cysgod y groes ar Fethlehem, dinas Dafydd, y Meseia croeshoeliedig a gwrthodedig.
[Ceir geriau’r gân wreiddiol ‘Hallelujah’ gydag esboniadau yma]Ond:
Mewn dwrn o ddur mae’r seren wen
mae cysgod gwn tros Fethlehem,
dim angel gwyn yn canu Halelwia.
Codi muriau, cau y pyrth
troi eu cefn ar werth y wyrth
mor ddu yw’r nos ar strydoedd Palesteina,
Halelwia, Halelwia …
Fe fyddai Jonathan Sacks wedi gwerthfawrogi fersiwn Brigyn. Geiriau olaf Sacks yn ei fyfyrdod ar gân Cohen yw’r geiriau hyn: ‘Hyd yn oed yng nghanol tywyllwch, y mae goleuni; yng nghanol marwolaeth, mae bywyd; yng nghanol casineb mae cariad; a hyd yn oed gyda’n hanadl olaf, fe allwn ganu Halelwia.’
Fe allai’r geiriau fod yn eiriau cerdyn Nadolig a cherdyn Pasg yn 2020.
W.O.R.