Anghofio
Yng nghanol yr holl ganmol ar fanteision Zoom – canmol haeddiannol – a’r honiad bod mwy yn ‘addoli ar Zoom’ nag oedd yn addoli yn ein heglwysi o Sul i Sul, ni fu hanner digon o sylw i agwedd arall ar y manteision.
Roeddwn wedi cofrestru i ymuno mewn gwasanaeth yng Nghanolfan Sabeel yn Jerwsalem am 4.00 o’r gloch ddydd Sadwrn, Rhagfyr 19eg. Yn gynharach yn yr Adfent roeddwn wedi bod yn addoli yn Washington ac yn Genefa, ond roedd cael cyd-addoli mewn canolfan Gristnogol a sefydlwyd i fod yn gyfrwng cymod, yn hyrwyddo cyfiawnder ac yn dystiolaeth i’r ffydd Gristnogol yn gyffrous a grymus, ac yn dod o lygad y ffynnon.
Gan wybod fod ein dathliadau Nadolig yn cynnwys mwy na digon o actio mynd yn ôl i ‘ddyddiau Herod Frenin’ roeddwn yn edrych ymlaen at gael addoli gyda’r Cristnogion sydd heddiw yng nghanol gwlad ranedig lle mae grymoedd militaraidd a gwleidyddol yn rheoli ac yn gormesu.
Roedd y gwasanaeth yn cael ei arwain gan Munther Isaac (Palestiniad a gweinidog Lutheraidd ym Methlehem), Michel Sabbah, Patriarch Jerwsalem 1987-2008 (y Palestiniad cyntaf erioed yn Batriarch y ddinas) a Yousef Alkhouri, Eglwys Uniongred Groeg (yn byw ym Methlehem ac yn un o sylfaenwyr ‘Christ at the Chekpoint.’) Roedd rhai eraill hefyd yn cynnwys y pregethwr, sef Naim Ateek, sylfaenydd Sabeel ac un sydd yn parhau i arwain yno ac yn un o Ddiwinyddion Rhyddhad mwyaf a phwysicaf yr eglwys Gristnogol. Ond nid yw ei enw yn golygu dim i’r mwyafrif o Gristnogion y Gorllewin.
Yn Sabeel mae byw’r efengyl yn un â rhannu a dehongli’r efengyl ar lawr gwlad ranedig. Roeddwn wedi edrych ymlaen yn fawr iawn i addoli yn Sabeel.
Ond fe anghofiais.
Roeddwn ers misoedd wedi bod yn mynd o Zoom i Zoom i wasanaethau gyda ffrindiau a chydnabod, tebyg at debyg, ac yn teimlo weithiau fy mod yn Zoomoholig. Ond pan ddaeth gwasanaeth fyddai yn ehangu a dyfnhau addoliad ac yn gwneud ‘a drigodd yn ein plith ni’ yn gyfoes ac oesol – anghofiais ym mhrysurdeb paratoadau Nadolig, ac efallai mai un eglurhad am anghofio (er cywilydd) oedd mai pnawn Sadwrn oedd Rhagfyr 19eg.
Ond dyna rodd fwyaf Zoom i ni. Nid rhywbeth dros dro, ond cyfrwng i ddathlu ein bod erbyn hyn yn eglwys fyd-eang. A phechod yw anghofio hynny. Anfonais neges yn ymddiheuro na wnes ymuno (heb ddweud mai anghofio oedd y rheswm) a daeth ateb yn ôl o Sabeel gyda llun a neges annisgwyl.
Neges oedd hi gan Gristnogion yn poeni am y sefyllfa o ormes a thrais; gan Balestiniaid oedd yn perthyn i genedlaethau o ffoaduriaid ac yn parhau i fyw mewn tlodi dychrynllyd; a’r cyfan yn gyfarchiad dechrau blwyddyn i rai ohonynt a fydd yn dathlu Nadolig ar Ionawr 6. Neges fer oedd hi gyda llun llawen o arweinwyr a gwirfoddolwyr Sabeel yn anfon cyfarchion atom ni. Eu gobaith yw y bydd eu hymrwymiad a’u gobaith hwy yn ein hysbrydoli a’n cynnal ni yn 2021.
Blwyddyn newydd dda i ni i gyd gan hyderu na fydd argyfwng y Palestiniaid a’r Israeliaid, na’r Cofid chwaith, yn ein hamddifadu o obaith Teyrnas Crist.