E-fwletin 20 Rhagfyr, 2020

Un o brif themâu tymor yr Adfent yw Goleuni, ac mae’n thema briodol iawn, ar yr adeg  o’r flwyddyn pan fyddwn yn fwy ymwybodol o’r tywyllwch na’r goleuni. Mae’r dydd yn fyr a’r nos yn hir a hynny yn symbol o afael y tywyllwch – ac eleni fe fuom ni i gyd yn ymwybodol iawn o hwnnw.

Roedd ein byd yn un tywyll iawn i filiynau o’i bobl cyn y pandemig, a gweithredoedd y tywyllwch mor amlwg  ag erioed, ond eleni bu fel y fagddu i filiynau ar draws y byd.

I ni, y golau mwyaf llachar oll yw golau’r Iesu. Golau ei eiriau a’i fyw dilychwyn, golau ei dosturi a’i gydymdeimlad ei ofal a’i gonsyrn am bobl.

Ym mhlith yr hanesion mwyaf trawiadol y mae ymwneud Iesu a’r gwahangleifion. Y gwahanglwyf oedd Covid-19 cyfnod Iesu. Mor heintus fel bod pob gwahanglwyfus yn gorfod ynysu ei hun am weddill ei oes! Yn esgymun o bob cymdeithas ac yn gorfod cario cloch neu glapiwr pren i rybuddio pobl o’u presenoldeb. Cymaint yr arswyd o’r gwahanglwyf, fel bod person oedd wedi cyffwrdd â dillad dioddefwr yn cael ei gyfri’n aflan!

A beth wnaeth Iesu? Mynd atyn nhw, treulio amser gyda nhw, a hyd yn oed cyffwrdd â nhw! Syfrdanol!  Meddyliwch mor olau a gobeithiol oedd bywyd iddyn nhw yn sgil hynny.

Yr hyn sy wedi bod yn gysur mawr yn ystod y cyfnod anodd yma, yw clywed  hanesion sy’ wedi goleuo dyddiau tywyll y pla o’r cychwyn cynta’.

Cymaint tywyllach y byddai arnom ni fel gwlad oni bai am ymroddiad ac ymdrechion  holl weithwyr y Gwasanaeth Iechyd. Pobl a fentrodd eu hunain er lles y rhai dan eu gofal, a hynny pan oedd gwybodaeth am yr haint a’i ledaeniad mor brin, a sawl un yn talu’r pris uchaf am wneud.

Sôn am efelychu Iesu gyda’r gwahangleifion!

Deth dwy ddihareb yn gyfarwydd iawn i ni bellach.

Y naill o Tsieina:  ‘Gall un gannwyll alltudio’r tywyllwch’

Y llall o Affrica:  ‘Paid â chwyno am y tywyllwch, goleua gannwyll’

Diolch i Dduw fod canhwyllau wedi, ac yn dal, i gael eu cynnau.

Dyna chi gannwyll  Marcus Rashford. Nid yn unig yn toddi calonnau caled, a llosgi’n ulw fwriadau llywodraeth, ond yn dod a gwirionedd pwysig i’r amlwg. 

                        “Edrychwch cymaint allwn ni wneud wrth weithio gyda’n gilydd

A dyna gannwyll Darryn Frost y gŵr  a fentrodd ei hun i ddal llofrudd Jack Merritt  a Siska Jones ar bont Llundain Rhagfyr y llynedd.  Flwyddyn yn union wedi’r digwyddiad, darlledwyd y cyfweliad cyntaf ag ef lle’r adleisiodd eiriau’r llythyr a adawodd i’r llofrudd ddyddiau wedi’r digwyddiad treisgar. 

Efallai y gallaf rywsut droi dy weithredoedd drwg i hyrwyddo cariad, caredigrwydd a thosturi. Yn olaf, rwy’n gadael rhosyn i ti, …….. wrth imi geisio bod mor dosturiol ag yr oedd Saskia a Jack, ond sylweddolaf fod gennyf dipyn o ffordd i fynd eto. Mae angen rhagolwg newydd, gytbwys, ar y byd yma, un yn rhydd o ofn. Byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i ddiffodd casineb, yn union fel y gwnes i ar y bont hon. Byddaf yn ymdrechu i ddangos i ti, ac i’r byd, gobeithio, bŵer cariad. ”

Dyna chi dywynnu golau glân Iesu i ganol tywyllwch trais a chasineb.

Ac yn wyneb bygythiad y Canghellor i leihau Cymorth Tramor, peth digon syml i chi a fi fydd goleuo cannwyll drwy ysgrifennu at ein  Haelod Seneddol a’r Canghellor i wrthwynebu’r bwriad, ac arwyddo’r ddeiseb ar lein i geisio gwyrdroi penderfyniad sy’n mynd i ddiffodd y golau i ddegau a miloedd o’r  bobl fwyaf anghenus a bregus.

Medde Ioan am Iesu;  Ynddo ef yr oedd bywyd, a’r bywyd, goleuni dynion ydoedd.  Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef. 

A fydd y tywyllwch ddim yn trechu chwaith, tra fod  yna rhywrai  yn dal ar gyfle i gynnau ambell gannwyll, ac ymroi i fyw ‘ fel plant goleuni,  oherwydd gwelir ffrwyth y goleuni ym mhob daioni a chyfiawnder a gwirionedd.

Mae un o ganeuon Garth Hewitt yn sôn am ‘Gynnau cannwyll yn y caddug‘, ac mae’n cloi fel hyn:

Cynnau gannwyll yn y caddug,
Dal ei fflam yn uwch o hyd
Fel bo golau cariad Iesu
Yn disgleirio dros y byd.

Dyna’r her o hyd. Er mor wahanol Nadolig eleni, gobeithio y bydd llewyrch y ‘gwir oleuni’ yn ysgogiad i ni gynnau canhwyllau bob cyfle gawn. 

Bendithion yr Wyl i chi i gyd.