Cadw’r drws ar agor

Cadw’r drws ar agor

Bob hyn a hyn down ar draws geiriau nad oes cyfieithiad iddynt mewn ieithoedd eraill. Gellid dweud bod ‘hiraeth’ neu ‘cynefin’ yn esiamplau o’r rhain yn Gymraeg. Maent yn cwmpasu cysyniad sy’n unigryw i un iaith arbennig a’i diwylliant, cysyniad na ellir ei drosglwyddo yn hawdd i iaith na diwylliant arall.

Gair felly a ddysgais yn ddiweddar yw Torschlusspanik. Mae’n gyfuniad o dri gair Almaeneg, sef Tor (dôr neu ddrws ), Schluss (cau) a Panik (panic). Mae’n debyg fod y term yn mynd yn ôl i’r Canoloesoedd ac yn cyfeirio at y teimlad hwnnw y byddai’r werin yn ei brofi wrth iddynt ruthro yn ôl at ddorau’r ddinas cyn iddynt gau am y nos. Byddai hyn yn golygu eu bod mewn perygl o ymosodiad gan anifeiliaid gwyllt neu ladron. Cafodd y term hwn hefyd ei ddefnyddio yn 1961 gan Times Magazine wrth gyfeirio at deimladau’r rheini oedd yn ffoi o Ddwyrain i Orllewin yr Almaen pan rannwyd y wlad yn ddwy. Ar lefel fwy arwynebol, mae’n bosib ein bod ninnau hefyd wedi profi rhywbeth tebyg wrth gyrraedd yr orsaf yn hwyr i ddal trên, ac ofni y byddai’r drysau’n cau a’n gadael ar ôl.

Erbyn hyn, mae ystyr Torschlusspanik wedi esblygu i ymgorffori teimlad mwy haniaethol, sef y pryder fod yr amser i weithredu’n llithro o’n dwylo a bod y drysau’n cau ar y cyfle i wireddu nod neu uchelgais mewn bywyd. Mae’n deimlad sydd wedi ymledu dros y naw mis diwethaf wrth i effeithiau Cofid-19 gau’r drysau ar gyfleoedd i gynifer o bobl: y rhai a gollodd eu gwaith, eu busnes, eu hiechyd, eu hanwyliaid, eu breuddwydion.

Mewn llenyddiaeth, mae gan ddrysau symbolaeth amrywiol. Gallant gynrycholi pŵer a pherygl ar yr un llaw, a rhyddid a gobaith ar y llaw arall. Gwelir agweddau deublyg y trosiad hwn yn y nofel Exit West gan Mohsin Hamid wrth i’r prif gymeriadau, Nadia a Saeed, ffoi o’u gwlad i ddianc rhag rhyfel ac erledigaeth. Wrth iddynt basio trwy wledydd ar eu ffordd i’r Gorllewin, fe ddysgant yn gyflym pa ddrysau sy’n rhoi rhwydd hynt iddynt i fywyd gwell. Mae dilyn eu stori’n ein hatgoffa o amodau peryglus teithiau ffoaduriaid, bob amser ar drugaredd y tywydd, smyglwyr diegwyddor a diffyg cydymdeimlad llywodraethau.

Gall diwedd blwyddyn fod yn gyfystyr â chau un drws er mwyn agor un newydd. Ac er y bydd rhai ohonom yn edrych yn ôl ar eleni gydag elfen o Torschlusspanik, gallwn hefyd edrych i’r dyfodol gyda gobaith a phenderfynu manteisio ar bob cyfle, nid yn unig i ofalu am ein lles ni a’r rhai sy’n agos atom, ond hefyd i gadw’r drws ar agor i groesawu eraill i’n cymunedau, gan wybod bod pob arwydd o garedigrwydd yn gwneud ein cymdeithas yn lle mwy cartrefol a diogel i bawb.

Anna Vivian Jones

(Mae Anna yn ferch i’n Llywydd Anrhydeddus, y Parchedig Vivian Jones, a’i briod, Mary, a’r ddau erbyn hyn yn derbyn gofal nyrsio yn Llanelli.)