Cysur

Cysur?

Pa ffordd fyddwch chi’n darllen y Beibl? A fyddwch chi’n dehongli pob rhan ohono yn llythrennol? Clywsom i gyd, rywbryd neu’i gilydd, lythrenolwyr cadarn yn datgan fod pob llythyren o Air Duw yn wir, gan olygu ei fod yn llythrennol wir. Ond clywsom hefyd ddiwinyddion blaengar a rhyddfrydol yn honni y gwelir gwir werth rhai hanesion Beiblaidd drwy eu dehongli, nid yn llythrennol, ond fel mythau neu ddamhegion. Gwyddom mai dyna’r arfer gan lawer o ysgolheigion cynnar yr Eglwys. Byddai Origen, fel yn ei De principiis er enghraifft, yn dadlau o blaid dehongli rhai rhannau o’r Beibl yn alegorïaidd. Datblygiad ‘modern’ gan ddiwinyddion ceidwadol, meddir, yw’r duedd i fynnu derbyn dehongliad llythrennol bob tro.

Ond mae’n ddiddorol ystyried a oedd rhai o awduron a golygyddion llyfrau’r Beibl, eu hunain, weithiau’n rhoi dehongliad ‘damhegol’ ar rai hanesion yn y deunydd a oedd o’u blaen. Un enghraifft bosib yw’r ffordd y gwnaeth awdur neu olygydd Efengyl Ioan adrodd yr hanesyn a welir yn nechrau pennod 14. Yno adroddir, yn ôl y dehongliad arferol, fod Iesu yn dweud wrth y disgyblion am beidio ag ofni pan gaiff ei ladd. Mynd i ffwrdd y mae, meddai, er mwyn paratoi lle iddynt yn y nefoedd, ac y byddai’n dod yn ôl yn fuan er mwyn eu dwyn gydag ef yn ôl i’r nef. Dyna’r dehongliad sy’n gyfarwydd i bawb ohonom, a’r ‘mynd i ffwrdd’ yn cyfeirio at ei farwolaeth ar y groes. Ond y mae’n ddehongliad sy’n codi ambell anhawster ym meddwl y darllenydd. Mae’r syniad mor annodweddiadol o holl themâu dysgeidiaeth Iesu. Tybed ai dyna a adroddai’r darn yma yn wreiddiol?

Gellir ystyried posibilrwydd gwahanol: fod y darn hwn yn wreiddiol yn perthyn i’r hanes am Iesu a’i ddisgyblion yn nesu at Jerwsalem. Yn yr Efengylau Cyfolwg – Mathew, pennod 26; Marc, pennod 14 a Luc pennod 22 – ceir rhagarweiniad i hanes y Swper Olaf, a’r darnau hynny’n adleisio’i gilydd. Ynddynt dangosir na wyddai’r disgyblion ymlaen llaw ym mha le yr oedd yr oruwchystafell. Ond ni cheir darn tebyg i hyn yn Efengyl Ioan. Tybed a fyddai’r darn hwn yn wreiddiol yn perthyn i ddigwyddiadau Ioan, pennod 12, ac fe fyddai wedyn yn egluro’n naturiol y dirgelwch ynghylch lleoliad yr ystafell.

Dyma fyddai dilyniant yr hanes. Roeddent wedi dod i Jwdea ar gyfer gŵyl y Pasg, ac Iesu’n awyddus iawn i gael bwyta gwledd y Pasg yn eu cwmni. Er mwyn dilyn yr hen draddodiad, byddai’n dda iddynt gael lle y tu fewn i furiau’r ddinas. Roedd Iesu yn drefnydd hirben iawn. Gwyddai na allai ofyn i’r disgyblion eu hunain drefnu lle iddynt gan y byddai perygl wedyn i Jwdas ddatgelu’r lleoliad i’r awdurdodau, a thrwy hynny i Iesu gael ei gipio cyn bwyta’r swper. Yr unig ateb oedd iddo ef ei hun wneud y trefniadau. Ac y mae’r Efengylau Cyfolwg yn tystio mai Iesu yn unig a wyddai ble roedd yr ystafell gyfrinachol honno.

Gwyddai Iesu y byddai’r disgyblion yn dychryn petai’n diflannu’n ddirybudd o’u golwg wrth fynd i ffwrdd i gwblhau’r trefniadau, felly dyma’u rhybuddio: ‘Peidiwch,’ meddai, ‘â gadael i ddim gynhyrfu’ch calon pan fyddaf yn eich gadael chi am ysbaid.’ Yna meddai: ‘Yn Jerwsalem y mae yna lawer o fannau inni aros.’ Byddai Iddewon yn sôn am fynd i ‘dŷ Dduw’, neu i ‘dŷ ein Tad’, gan gyfeirio at y deml. Ond i Iddewon Galilea ac Iddewon alltud, arferid yr ymadrodd ‘mynd i dŷ Dduw’ wrth sôn am fynd i Jerwsalem i’r ŵyl. Un enghraifft yw Salm 122: ‘Awn i dŷ yr Arglwydd … y mae ein traed bellach yn sefyll o fewn dy byrth, O Jerwsalem.’ Ar y llaw arall, ni cheir unrhyw enghraifft yn yr efengylau o gyfeirio at y nefoedd fel ‘tŷ fy Nhad’. Felly, mae’n siŵr mai cyfeirio at y ddinas y mae Iesu fan hyn.

Yna mae Iesu’n defnyddio’r gair ‘trigfannau’. Y gair Groeg yn y fan yna yw monai, a’i ystyr yw ‘llefydd i aros dros dro’. Yn sicr, ni fyddai neb yn defnyddio’r fath air am fywyd tragwyddol yn y nefoedd. Dywed wedyn ei fod yn mynd i baratoi lle ar eu cyfer fel y byddai modd iddo ef swpera yn eu cwmni. ‘Yna fe ddof yn ôl,’ meddai, ‘a’ch cymryd chi gyda mi, er mwyn inni fod gyda’n gilydd.’

Roedd Thomas, yn unol â’i gymeriad ymchwilgar, yn gwrthod bodloni ar ryw wybodaeth amwys fel yna: ‘Ni wyddom ni i ble rwyt ti’n mynd, felly sut allwn ni wybod y ffordd.’ Cawn Iesu wedyn yn troi’r pwnc yn gelfydd iawn er mwyn osgoi’r holi pellach: ‘Myfi yw’r ffordd, a’r gwirionedd a’r bywyd!’

Fel y gwyddom oddi wrth fanylion amgylchiadau’r oruwchystafell gan yr efengylwyr eraill, mae’n sicr i Iesu fynd yn ei flaen i ymweld â Jerwsalem a gwneud nifer o drefniadau. Daw manylion diddorol y trefniadau hynny i’r golwg yn natblygiad yr hanes. Fe drefnodd ystafell gyda gŵr y llety. Ond hefyd dywedodd wrth hwnnw y byddai angen ystenaid o ddŵr arnynt. Mae’n debygol iawn iddo ofyn cymwynas ychwanegol: ‘Pan fyddi’n anfon rhywun allan i’r ffynnon i nôl y dŵr, gofala y byddi di’n anfon y gwas ac nid y forwyn.’ Roedd hynny’n beth hollol anarferol yn Jerwsalem: y menywod a fyddai’n cario dŵr o’r ffynnon yn ddieithriad. Ond gorchmynnodd Iesu hynny fel y medrai wedyn roi cyfarwyddyd i’r ddau ddisgybl a anfonid ymlaen i baratoi’r bwyd sut i ddod o hyd i’r ystafell a drefnwyd: ‘Ewch i’r ddinas, a chyferfydd â chwi ddyn yn cario ystenaid o ddŵr. Dilynwch ef.’ Druan ohono, yr unig ddyn yn Jerwsalem a fyddai’n cario stên! Ond yr oedd yntau’n rhan hanfodol o’r cynllun.

Yn ôl Marc, aeth Iesu yn ei flaen a dweud wrth y ddau ddisgybl, ‘Pa dŷ bynnag yr â i mewn dilynwch ef, a gofynnwch i ŵr y tŷ pa le mae fy ystafell.’ A bydd dyn y llety yn dangos iddynt oruwchystafell fawr, wedi ei threfnu yn barod. Pwy drefnodd? Iesu, wrth gwrs. Yn wir, fe feddyliodd Iesu am un manylyn arall yn y trefniadau. Byddai’n arferiad mewn gwledd i was fod wrth y drws i olchi traed y gwahoddedigion wrth iddynt ddod i mewn. Mae’n amlwg i Iesu drefnu ymlaen llaw nad oedd y gwas i aros ar gyfer y swper hwn, dim ond gadael y stên wrth y drws. Doedd dim angen gwas. Fe drefnodd Iesu hynny gan y bwriadai mai ef ei hun fyddai’r gwas a fyddai’n golchi eu traed!

Fe weithiodd yr holl drefnu manwl yn berffaith. A’r rhan allweddol yn nilyniant yr hanes fyddai darn fel hwn a soniai am Iesu’n mynd i wneud y trefnu. Petai’r dehongliad hwn yn gywir, mae’n debyg i un o olygyddion Efengyl Ioan weld rhyw arwyddocâd proffwydol yn y darn, gan newid yr hanesyn yn gynnil i awgrymu ystyr esgatolegol i eiriau Iesu.

Fel yr awgrymais, mae’r ystyriaethau ieithyddol, geiriau megis ‘trigfannau’ a ‘tŷ fy Nhad’, yn amlwg yn ffafrio dehongliad llythrennol yn y darn hwn. (Mae’n diddorol fod y golygydd/awdur wedi cadw’r geiriau hyn oedd yn y fersiwn gwreiddiol.) Byddai’r hanesyn hwn, o’i ddehongli’n llythrennol, yn hollol gyson â dawn Iesu yn paratoi’n ofalus. Rhaid cofio hefyd mai ychydig iawn a ddywedai’r Iesu am nefoedd arallfydol. ‘Deled dy deyrnas ar y ddaear’ fyddai ei thema ganolog ef. Ond y cwestiwn llosg yw hwn: os mai hanesyn syml am Iesu’n ymadael i drefnu oedd yma’n wreiddiol, a ellid cyfiawnhau dyfeisgarwch golygydd mentrus Efengyl Ioan yn symud lleoliad yr ymadroddion hyn i amseriad diweddarach yn yr hanes er mwyn rhoi dehongliad ysbrydol i’r ymddiddan?

Byddai rhai yn dweud i’r adnodau yna yn nechrau Ioan 14, gyda’u dehongliad alegorïaidd traddodiadol am fynediad i’r nefoedd, fod yn gysur mewn trallod i filiynau o gredinwyr ar hyd y canrifoedd. Byddai llawer yn ein rhybuddio na ddylid dwyn eu cysur oddi arnynt! Gadawaf i chi benderfynu.

John Gwilym Jones