Goroesi’r Pandemig

GOROESI’R PANDEMIG

Yn 1965 gwnaed ffilm The Flight of the Phoenix a seiliwyd ar nofel gan Elleston Trevor. Cyfarwyddwr y ffilm oedd Robert Aldrich, gyda’r actor James Stewart yn chwarae rhan Frank Towns, capten yr awyren cargo dwy injan. Nid oedd yn llwyddiannus pan lansiwyd hi yn 1965 ond erbyn hyn mae wedi ennill dilynwyr gan ddatblygu yn rhyw fath o gwlt.

Teithio mae’r awyren i Benghazi yn Libya, ac wrth iddi hedfan dros y Sahara mae storm dywod yn difrodi’r ddwy injan ac mae’n gorfod glanio ar frys yn yr anialwch. Mae’r rheini a oroesodd yn canolbwyntio’n llwyr ar sut i aros yn fyw, gan obeithio y daw rhywun i’w hachub. Cerddodd tri o’r criw i chwilio am werddon (oasis). Ddyddiau yn ddiweddarach, un yn unig a ddychwelodd, ac yntau bron â threngi. Ynghanol yr anobeithio cafodd un ohonynt – Dorfmann, oedd yn beiriannydd awyrennol – y syniad o adeiladu awyren fach arall o’r darnau a ddrylliwyd fel y gallent hedfan i ddiogelwch. Er bod y syniad yn swnio’n wirion, mae’n help i ganolbwyntio’u meddyliau wrth roi eu holl egni a’u gobeithion ar rywbeth positif a phosibl.

Wrth weithredu’r cynllun sylweddolant taw adeiladu modelau o awyrennau oedd arbenigedd Dorfmann, nid awyrennau mawr. Mynnodd Dorfmann taw’r un yw’r egwyddor. Eto, roedd y gweddill yn arswydo o feddwl hedfan mewn awyren oedd wedi ei hadeiladu gan berson oedd fel arfer gweithio gyda theganau! Canolbwyntia’r ffilm ar emosiynau gwahanol y cymeriadau. Wedi gorffen adeiladu’r awyren, fe’i henwir hi yn The Phoenix, ar ôl yr aderyn Groegaidd mytholegol a gododd allan o’r llwch.

Wedi cyfnodau o densiwn, mae’r awyren yn hedfan gyda’r actorion wedi eu clymu’n sownd i’r adenydd. Maen nhw’n cyrraedd gwerddon lle mae’r goroeswyr yn gorfoleddu eu bod yn dal yn fyw wedi’r fath brofiad.

Beth yn y byd sydd gan hyn i’w wneud â’r pandemig yma?

Mae megis dameg i ddangos y math o feddylfryd a gweithgarwch sydd ei angen wrth deimlo ar chwâl – boed yn fusnesau, theatrau, tafarndai, siopau, ffatrïoedd neu’n weithgarwch cymunedol ac, wrth gwrs, sefydliadau crefyddol. Siŵr iawn y bydd rhai yn methu ond mae’r gobaith yn yr wybodaeth y bydd rhai yn llwyddo.

Gallwn ddysgu sawl peth o’r ffilm hon:

  • Adeiladwyd y Phoenix drwy ddefnyddio dim ond yr adnoddau a’r defnyddiau drylliedig, sef yr hyn oedd wrth law. Doedd dim modd cael dim byd arall i’w ddefnyddio.  
  • Fe’i hadeiladwyd gan ddefnyddio pethau sylfaenol yn unig. Dim ond defnyddiau angenrheidiol oedd ar gael. Fe’i hadeiladwyd ag un nod mewn golwg, sef cludo’r goroeswyr gyda’u storïau, eu breuddwydion, a’u dyheadau ynghyd â’u gwerthoedd.
  • Nid rhywbeth tlws, sgleiniog, oedd y Phoenix. Doedd hi ddim i fod i bara am byth. Rhywbeth ymarferol, dros-dro yn unig, i ateb gofynion sefyllfa argyfyngus. Rhywbeth i ateb argyfwng y foment i ddianc o’r uffern a chyrraedd gwerddon lle byddai cyfle i adfer, ailennill, ailfeddwl. Mae gan y rhan fwyaf o enwadau eu cyfundrefnau sy’n cyfarwyddo dulliau gwahanol, megis diheintio, cadw pellter, cofrestr o’r rhai sy’n bresennol a’u manylion cyswllt, ynghyd â phennu llefydd eistedd 2 fetr ar wahân. Dim ond â’r adnoddau a’r deunydd sydd wrth law y gallwn adeiladu. Rhaid edrych o gwmpas ar holl ddarnau gwasgaredig ein cynulleidfaoedd i weld beth sydd ar gael ac a fydd o ddefnydd wrth gydweithio â’r adeiladu.
  • Er i’r awyren gael ei chwalu, gall fod yna adnoddau cuddiedig, efallai sy’n angof, neu nad ydym yn gwerthfawrogi eu gwerth. Rhaid peidio â dibynnu ar siawns y daw rhywbeth o rywle, boed yn ffliwc neu wyrth.
  • Roedd y Phoenix yn medru cael ei chynllunio a’i hadeiladu gan ddefnyddio darnau pwysicaf a mwyaf defnyddiol yr awyren a chwalwyd yn unig. Cafodd ei gwneud i gario pobl sydd â gweledigaeth, penderfyniad a dealltwriaeth, a’r awydd i ddefnyddio’u pwerau i wireddu breuddwydion.
  • Wrth i’r Phoenix godi o’r anialwch mae’n gadael y darnau diwerth ar ôl. Mae yna bethau diwerth yn medru bod yn ein crefydd, megis ofergoelion. Y cargo pwysicaf ar adenydd y Phoenix oedd y bobl. Wrth ganolbwyntio ar dechnegau a systemau newydd neu wahanol o gyfathrebu, peidiwn â cholli golwg ar bobl.
  • Ar yr union foment o greisis doedd dim angen i’r Phoenix fod yn brydferth, sgleiniog a glân, nac yn siwper effeithiol. Ni fydd yn barhaol a sefydlog. Agenda at rywbryd eto yw’r rheina. Yr hyn wnaeth Dorfmann oedd defnyddio’i brofiad a’i wybodaeth, a’u haddasu at heddiw. Y peth mawr heddiw yw codi o’r ddaear a glanio ger y werddon i adfer, ailfeddwl, ac efallai ystyried deinameg y grwpiau gwahanol.

Yn E-fwletin Cristnogaeth 21 ar 2 Awst cafwyd geiriau heriol:

Cafwyd rhaeadr fyrlymog o syniadau ar y cyfryngau cymdeithasol; rhaid, meddir, parhau gyda’r arlwy dechnolegol, rhaid cyfuno’r traddodiadol a’r newydd. Un farn bendant sydd wedi amlygu ei hun: nid dychwelyd i’r hyn a fu ddylai’n nod fel eglwysi fod. Os mai dim ond ymdrechu i gael pethau ’nôl i’r hyn oeddent yw ein dymuniad, cystal derbyn ein methiant nawr, a chyfaddef ein hamharodrwydd i ddysgu.

Estyn y cyfle hwn hefyd gyfle, nid yn unig i edrych ar ffurf ein haddoliad a’n cenhadaeth, ond hefyd ar sut y mae’n heglwysi yn cael eu rhedeg. Clywyd mewn trafodaethau ar Radio Cymru nifer o swyddogion eglwysi yn dweud ei fod yn ormod o waith i weithredu canllawiau’r Llywodraeth ac nad oedd y byd technolegol yn rhywbeth y medrent ymdopi ag ef. Clywyd mewn un cyfweliad gyfaddefiad bod cyfartaledd oed swyddogion yr eglwys yn 75 mlwydd oed ac mai go brin y medrent wneud llawer i sicrhau parhad y dystiolaeth. Dyma’r ffyddloniaid dewr a dygn sydd wedi brwydro i gadw’r achos i fynd ers degawdau. Mawr ein diolch iddynt, ac yn sicr ni ddylid bod yn feirniadol nac yn anystyriol ohonynt. Rhaid, er hynny, gofyn y cwestiwn: sut y crëwyd y fath sefyllfa?

Pan ddaw’r cyfnod hwn i ben, bydd ein cymunedau crefyddol yn edrych yn wahanol i’r hyn oeddent ar ddechrau’r flwyddyn. Am nawr, rhaid bwrw ymlaen i adeiladu fel y gallwn hedfan at yr oasis. Cofiwn, serch hynny, er mor hwylus yw’r cyfryngau cymdeithasol i gynnal cyfarfodydd ar lein, rhaid gofalu nad yw’n lladd y gelfyddyd o sgwrsio a chymdeithasu. I mi, mae addoli yn brofiad cymdeithasol ac yn gyfle i rannu ag eraill. Anodd cael y profiad a’r teimlad hynny drwy Zoom. Mae teimlad o bellter, o fod ar wahân ac yn unigolyddol. Canlyniad hyn yw’r teimlad o fod yn oeraidd ac yn anghymdeithasol.

Cen Llwyd