E-fwletin 22 Tachwedd 2020

Pwy yw fy nghymydog?

Beth ydyn ni’n ei feddwl o’n cymdogion? A beth maen nhw’n ei feddwl ohonon ni? O ran hil, crefydd a mewnfudo, er enghraifft, pa faterion sy’n ein rhannu a beth sy’n ein clymu at ein gilydd?

Dyma rai o’r cwestiynau y mae astudiaeth arbennig a gynhaliwyd yn ystod y ddwy flynedd diwethaf wedi ceisio’u hateb. Gwnaed yr astudiaeth gan yr Woolf Institute yng Nghaergrawnt a sefydlwyd yn 1998 i ymchwilio a cheisio deall y berthynas rhwng Cristnogion, Iddewon a Mwslimiaid. Ac yn ôl yr adroddiad How We Get Along, a gyhoeddwyd yr wythnos hon ac sy’n crynhoi casgliadau’r gwaith, mae rhagfarn ar sail crefydd yn gryfach na rhagfarn ar sail hil.

Mewn arolwg o 11,700 o bobl yng Nghymru a Lloegr, gwelwyd bod y rhan fwyaf o bobl yn oddefgar tuag at rai o gefndiroedd ethnig gwahanol neu o genhedloedd eraill, ond fod gan lawer o bobl agweddau negyddol ar sail crefydd.

Mae hyn yn arbennig o wir yn achos Mwslimiaid. Nhw oedd yn fwyaf tebygol o gael agweddau negyddol tuag at bobl o grefyddau eraill, a nhw hefyd oedd yn fwyaf tebygol o ddioddef agweddau negyddol gan grwpiau ffydd eraill.

Canolbwyntiodd yr ymchwilwyr ar gwestiwn priodas gymysg fel ffordd o fesur goddefgarwch a rhagfarn. Yn gyffredinol, roedd yr agweddau tuag at briodasau cymysg rhwng pobl o grwpiau ethnig a chenhedloedd gwahanol yn rhai cadarnhaol. Ond roedd y gair ‘Mwslim’ yn ennyn teimladau mwy negyddol na’r gair ‘Pacistani’, er bod y rhan fwyaf o Bacistaniaid Cymru a Lloegr yn Fwslimiaid.

Pobl dros 75 oed, y rhai heb fawr o gymwysterau addysgol, pobl o grwpiau ethnig nad oedd yn Asiaidd, a Bedyddwyr, oedd yn dangos y rhagfarn fwyaf ar sail crefydd. Ac mae dynion fel petaen nhw’n fwy anghyfforddus â’r syniad fod perthynas agos yn priodi rhywun o gefndir ethnig, o genedl neu o grefydd wahanol.

Yn gyffredinol hefyd, roedd agweddau’r Cymry a phobl gogledd Lloegr tuag at amrywiaeth yn fwy rhagfarnllyd na phobl sy’n byw yn ardal Llundain.

Ystrydeb bellach yw dweud bod y bleidlais o blaid Brecsit fel petai wedi agor cil y drws i alluogi rhai pobl i fynegi rhagfarnau hyll a di-sail yn erbyn sawl carfan o gymdeithas, ac mae diffyg goddefgarwch a pharch at eraill hefyd i’w weld mewn bywyd cyhoeddus, er enghraifft yn yr honiadau o fwlio a brofwyd yn erbyn un o weinidogion llywodraeth Llundain yr wythnos hon.

Gall hyn i gyd wneud i rywun deimlo mor ddiymadferth a di-rym, felly beth allwn ni fel unigolion cyffredin ei wneud yn wyneb hyn oll?

A mynd yn ôl at adroddiad yr Woolf Institute, efallai y dylem i gyd ddechrau wrth ein traed, ac ystyried sut rydyn ni’n dod ymlaen gyda’n cymdogion. Yydyn ni’n euog o fod yn anoddefgar a rhagfarnllyd – ar sail hil neu’n fwyaf arbennig ar sail crefydd, neu ar sail enwad, hyd yn oed?

Gellir darllen yr adroddiad cyflawn – How We Get Along: The Diversity Study of England and Wales 2020 ar wefan y Woolf Institute: https://www.woolf.cam.ac.uk/research/projects/diversity