Tragwyddoldeb a chyfrifoldeb

Tragwyddoldeb a chyfrifoldeb

Seiliedig ar bregeth a draddodwyd yn rhithiol i gynulleidfa’r Tabernacl, Efail Isaf, ar Sul, 25 Hydref 2020

Darlleniadau: Deuteronomium 34.1–10; Salm 90 (Beibl.net)

Mae ein dau ddarlleniad yn canolbwyntio’n sylw ar natur tragwyddoldeb. Mae hanes marwolaeth Moses yn Deuteronomium yn gwneud hynny trwy ein hatgoffa beth nad ydyw. Os ewch chi ar daith yng Ngwlad yr Addewid, fe welwch chi safleoedd sy’n gysylltiedig ag Iesu a Phedr, Mair a Martha, Abraham a Jacob – a beth bynnag fo cywirdeb archeolegol rhai o’r cysylltiadau yma, mae yna rywbeth i’w weld ac mae’r gweld yn gofiadwy.

Ond oni bai, efallai, i chi ddringo i ben mynydd Sinai, welwch chi ddim unman cysylltiedig â Moses. Mae’r hanes am ei farw yn dweud iddo gael ei gladdu ym Moab (nid yn Israel), a bod neb yn gwybod ymhle yn union. Dim creiriau, dim cofebau, dim arlliw iddo fod yno. Ac eto, byddai Iddewon yn dweud fod ganddo’r cofebau pwysicaf oll – llyfrau’r Torah a bodolaeth cenedl yr Iddewon hyd heddiw.

Mae mudiad Mae Bywydau Du’n Bwysig wedi dangos nad yw cael cofeb yn gwarantu coffâd da amdanoch yn y cenedlaethau a ddaw, ac nad yw bod yn ddi-gofeb yn golygu i chi gael eich anghofio. Pan daflwyd cerflun Colston i’r môr ym Mryste, fe gofiwyd am y cannoedd fu farw ar ei longau, a daflwyd yn gelain i’r môr, a sylweddolwyd – yn angof ni chânt fod.

Mae Salm 90 yn cael ei phriodoli i Moses – ymgais, dybiwn i, i gael tipyn bach o anfarwoldeb i’r gŵr heb gofeb. Mae’r salmydd, pwy bynnag ydoedd, yn myfyrio am dragwyddoldeb. Nid yn enw da dyn y gwelir hynny, meddai, ond ym modolaeth Duw ‘cyn i’r mynyddoedd gael eu geni a chyn bod y ddaear a’r byd yn bodoli’; ac mae hynny mor wahanol i bobl feidrol wrth i ni gael ein ‘hanfon ’nôl i’r pridd’ – darlun ychydig yn gignoeth i’n chwaeth ni, efallai, ond digon gwir serch hynny.

Dyma oedd y salm osod yn y darlleniadur rhyngwladol ar 25 Hydref. Ond yn hwnnw fe ofynnir i ni hepgor adnodau 7 i 12, yr adnodau sy’n sôn am lid Duw: dydyn ni ddim eisiau clywed rhyw bethau felly ar y Sul, mae’n amlwg. Ond dyw dechrau a diwedd y salm ddim yn gwneud unrhyw synnwyr heb yr adnodau hynny yn y canol. Fe fu hynny’n wir ers ei chyfansoddi, ond mae’n bendant yn wir yn ein hoes ni.

Dros y ganrif ddiwethaf fe fuom yn trefnu ein hoedfaon diolchgarwch bob hydref yn gwbl hyderus y byddai yna gynhaeaf yn ei bryd. Hyd yn oed os bydd ambell drafferth wrth i ni gynaeafu yng Nghymru, does dim angen i ni fecso, oherwydd bydd ein grym economaidd yn y byd yn sicrhau y cawn ni fewnforio bwyd o ble bynnag y mynnom, a gallwn barhau i ddiolch.

‘Anfeidrol Dduw rhagluniaeth, a Thad y greadigaeth,’ medd emyn Gwyneddon (Caneuon Ffydd, 97), ‘coronaist eto’r flwyddyn hon â’th dirion ddoniau’n helaeth’ – a gosodwyd yr emyn yno gan wybod y byddai’n wir bob blwyddyn. Yn ein hyder gorllewinol, fe aethom i weld tragwyddoldeb Duw yn y patrwm ffyddlon hwn. Yn yr oedfa ddiolchgarwch gyfoes, rydym hefyd yn ceisio cofio ‘trueiniaid byd’ (fel mae rhai emynau yn mynnu eu galw) sydd heb brofi llaw Duw yn yr un ffordd, ond hidiwch befo – bydd Cymorth Cristnogol yn gofalu am ambell friwsionyn o’r bwrdd ar eu cyfer nhw hefyd.

Cafodd ein hyder ei sigo ychydig eleni. Prin fu’r oedfaon diolchgarwch, yn un peth – ac arhoswch chi am yr wylofain a rhincian dannedd pan na fydd llysiau salad Sbaen yn gallu ein cyrraedd yn ddiogel fis Ionawr yn dilyn Brecsit caled. Ond fe allwn ni feio Tsieina am y feirws a Boris am y Brecsit, heb darfu ar ein sicrwydd diwinyddol fod Duw yn dal i ofalu amdanom ni.

Hynny yw, os nad ydyn ni’n darllen geiriau’r Salmydd yn yr adnodau yna a hepgorwyd o’r darlleniadur: ‘Dyna sut dŷn ni’n gwywo pan wyt ti’n gwylltio; mae dy lid yn ein dychryn ni am ein bywydau. Ti’n gwybod am ein methiant ni i gyd, ac yn gweld ein pechodau cudd ni. … Does neb eto wedi profi holl rym dy lid. Mae dy ddig yn hawlio parch! Felly dysga ni i wneud y gorau o’n dyddiau, a gwna ni’n ddoeth.’

Mae’r rhybudd yna’n atseinio yn emynau Cymru hyd at o leiaf y ddeunawfed ganrif: roedd Pantycelyn yn marchogaeth yn ddyddiol ‘dros y bryniau tywyll niwlog’, yn gwybod bob nos efallai na fyddai’n cyrraedd adre’n ddiogel, ac fe sefydlodd Howell Harris Gymdeithas Amaethyddol Brycheiniog nid i ddathlu sicrwydd y cynhaeaf ond am fod y cynhaeaf ar brydiau yn methu, a phobl ei sir ei hun yn llwgu.

Ond fe aeth y genhedlaeth neu ddwy ddiwethaf i gredu ein bod ni wedi concro’r ddaear, wedi datrys hyn oll – y gallem hepgor o ddarlleniadau’r Sul yr adnodau am lid Duw a’r alwad i ni fod yn ddoeth. Ond nid felly y mae.

Mae ein datrysiad tybiedig ni o broblem y cynhaeaf yng Nghymru wedi dibynnu ar losgi tanwydd ffosil a thynnu llawer mwy o’r ddaear bob blwyddyn nag y bwriadodd y Creawdwr erioed. Wyddai’r Salmydd ddim byd am gynhesu byd-eang – ond fe wyddai fod yna bris i’w dalu am gamddefnyddio rhoddion Duw.

Mae’r sicrwydd sydd wedi ein mwytho ni’n gyfforddus yn y gorllewin ers rhyw ganrif bellach yn diflannu o flaen ein llygaid. Do, fe gawsom gynhaeaf yng Nghymru eleni, ond chawsom ni ddim diolch amdano yn y capel. Mae bodolaeth ac ymlediad feirws angheuol wedi’i rag-weld gan wyddonwyr ers ugain mlynedd a mwy. Bellach fe ddaeth, a hyd yn oed os cawn ni frechiad, fe ddaw rhagor, wrth i ni reibio’r ddaear trwy fwyta’i hanifeiliaid a dinistrio’i chynefinoedd.

Bellach does dim rhaid i ni losgi’r coedwigoedd a’r gweundiroedd yn fwriadol er mwyn tyfu cnydau: rydym wedi cynhesu’r ddaear gymaint fel y byddant yn llosgi ohonyn nhw eu hunain. Fe wnaethom adennill tir o’r môr i dyfu bwyd; fe fydd y genhedlaeth nesaf yn gwylio’r môr yn ei ennill yn ôl, a fydd dim modd ei atal. ‘Dyna sut dŷn ni’n gwywo pan wyt ti’n gwylltio,’ medd y Salmydd, ‘mae dy lid yn ein dychryn am ein bywydau.’

‘O, peidiwch â dweud pethau fel’na,’ medd rhai wrtha i ar ôl pregeth y Sul. ‘Mae’n rhaid i chi roi gobaith i bobl.’ Oes, wir. Ond fe wyddai’r Salmydd nad trwy guddio breuder a thrallod bywyd y cawn obaith, ond trwy ei wynebu. Doedd bywyd erioed i fod yn rhwydd. Fe gofiwch chi, wrth i Adda ac Efa adael Eden, mai dyma ddwedodd Duw wrthyn nhw: ‘Felly mae’r ddaear wedi’i melltithio o dy achos di. Bydd rhaid i ti weithio’n galed i gael bwyd bob amser. Bydd drain ac ysgall yn tyfu ar y tir, a byddi’n bwyta’r cnydau sy’n tyfu yn y caeau. Bydd rhaid i ti weithio’n galed a chwysu i gael bwyd i fyw, hyd nes i ti farw a mynd yn ôl i’r pridd. Dyna o lle y daethost ti. Pridd wyt ti, a byddi’n mynd yn ôl i’r pridd.’ (Genesis 3:17–19). Nid bygythiad yw hynny, ond datganiad o sut mae pethau. Mae’r Salmydd, wrth ailadrodd y gwirionedd hwn, yn ei alw yn ‘llid Duw’, gan ddangos nad peth newydd yw dymuno i fywyd fod yn fwy cyfforddus a rhwydd nag yw e mewn gwirionedd.

Os oes gennych chi Netflix, gwyliwch, da chi, raglen ddogfen David Attenborough, A Life on our Planet, lle mae’n tystio i’w genhedlaeth ei hun dros y 90 mlynedd diwethaf etifeddu Eden a’i throi yn uffern. Fe aethom ni i gredu y gallem ni herio’r hyn a ddywedodd Duw wrth Adda, ond fedrwn ni ddim. ‘Ti’n gwybod,’ medd y salmydd, ‘am ein methiant ni i gyd, ac yn gweld ein pechodau cudd ni. … Felly dysga ni i wneud y gorau o’n dyddiau, a gwna ni’n ddoeth.’

Yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru (2–6 Tachwedd) byddaf yn aelod o banel yn trafod ‘Rôl cymdeithas wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd’ – ai mater i lywodraethau a chwmnïau mawr yw hyn, neu oes gennym ni oll gyfrifoldeb? Does gen i ddim byd newydd i’w ddweud. Yn wir, efallai y dylwn fodloni ar ddarllen Salm 90, gan barhau hyd ei diwedd, sy’n lleisio, dybiwn i, ddyhead pob yr un ohonom, yn Iddewon, yn Gristnogion, yn anffyddwyr fel ein gilydd:

‘Gad i ni brofi dy gariad ffyddlon yn y bore, yn gwneud i ni ganu’n llawen bob dydd!
Gad i ni brofi hapusrwydd am yr un cyfnod ag rwyt ti wedi’n cosbi ni –
sef y blynyddoedd hynny pan mae popeth wedi mynd o’i le …
Boed i’r Meistr, ein Duw ni, fod yn garedig aton ni.
Gwna i’n hymdrechion ni lwyddo. Ie, gwna i’n hymdrechion ni lwyddo!’

Mae’r ymdrech sy’n ein hwynebu ni nawr i adfer y blynyddoedd ‘pan mae popeth wedi mynd o’i le’ (neu, fel y dywedodd y proffwyd Joel, y blynyddoedd a ddifawyd gan y locustiaid) yn ymdrech aruthrol. Ond nid y locustiaid wnaeth y dinistr hwn; ni, blant dynion, wnaeth. Mae David Attenborough yn credu ei bod hi’n dal yn bosibl i ni edifarhau o’n ffolineb, a byw mewn cytgord â’r Cread, y gall ein hymdrechion lwyddo.

Fe ddywedwn i nad ymdrech yn unig sydd ei hangen ond hefyd gweddi daer ar y Creawdwr ei hun. A fydd unrhyw un yn cofio ein hymdrechion ni? Pa ots? Os ymdrechwn, gallwn wedyn orffwys yn dawel yn y pridd fel Moses, yn gwybod i ni ymateb i alwad Duw yn ffyddlon fel y gwnaeth ef.

Mae’r Parch. Gethin Rhys yn Swyddog Polisi i Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru), ond barn bersonol a fynegir yn yr ysgrif hon, a luniwyd ar 24 Hydref 2020.