E-fwletin 8 Tachwedd, 2020

A hithau’n Sul y Cofio, un o gefnogwyr Cymdeithas y Cymod sydd wedi derbyn y gwahoddiad i lunio’r e-fwletin ar ein cyfer heddiw.

Rhaid cofio – rhaid gweithredu

Heddiw yn draddodiadol rydym yn cofio’r rhai o bob gwlad a fu farw yn y rhyfel i ddod â rhyfel i ben. Gadewch inni gadw ein haddewid iddynt i ddiarfogu a hefyd i wireddu breuddwyd y 390,296 o fenywod Cymru a lofnododd ddeiseb yn 1923 yn galw am fyd di-ryfel.

Mae Clwb Pêl Droed Abertawe wedi cynnwys pabi gwyn (ynghyd â choch, du, a phorffor) ar eu logo ar gyfer eu crysau pêl droed, y clwb cyntaf i’w wneud hynny. Mae’r pabi gwyn yn sefyll am dri pheth: coffâd i bawb sy’n dioddef o ganlyniad i ryfel, ymrwymiad i heddwch a her i ymdrechion i gyfareddu neu ddathlu rhyfel.

Eleni, mae pwyslais y Lleng Prydeinig ar yr Ail Ryfel Byd, 75 mlynedd ers Diwrnod VE a VJ. Maen nhw hefyd yn cofio llawer o’r teimladau, yr emosiynau a’r heriau oedd yn wynebu cenhedlaeth yr Ail Ryfel Byd, ac yn eu cymharu gyda heddiw, gyda chymaint eto yn teimlo’n ynysig yn gymdeithasol, ein bod wedi ein hanghofio, a’r ofn sy’n dod gyda’r peryg y bydd prinder bwyd a nwyddau.

Eleni, bu Cymdeithas y Cymod yn cofio cymuned Mynydd Epynt 80 mlynedd yn ôl pan oedd 220 o bobl yn byw ar 54 fferm yno. Ar 30ain Mehefin 1940, roedd pob fferm yn wag a’r gymuned ddim yno mwy. ‘Dros dro’, dyna oedd y ddealltwriaeth pan ddaeth llywodraeth San Steffan i hawlio Mynydd Epynt. Ond ers hynny mae’r fyddin yn dal i hawlio’r lle i gael ymarfer rhyfela ar dros 30,000 acer, y trydydd maes hyfforddi mwyaf ar Ynysoedd Prydain.

Yn ei gywydd Daw’r Wennol yn ôl i’w Nythmae Waldo Williams yn galaru ar ôl colli Castell Martin i’r fyddin. Mae’r tri deg llinell gyntaf yn peintio darlun du. Ond, ar y funud olaf, yn y cwpled clo mae pethau’n goleuo: ‘Gaeaf ni bydd tragyfyth’, meddai, ‘Daw’r wennol yn ôl i’w nyth’.

Yn 2021, mae modd inni ddod â gwenoliaid yn ôl i Fynydd Epynt. Mae Tanwen sy’n grochenydd yn cymysgu clai Epynt i gynhyrchu cannoedd o wenoliaid i’w dosbarthu i gartrefi disgynyddion yr ardal. Medrwn noddi gwennol i’w rhoi mewn lle cyhoeddus wrth ymyl yr Epynt neu ar hyd a lled Cymru fel symbol o’n gobaith i ddi-filitareiddo ein gwlad.

Mae Cymru angen llais a chyfraniad Cymdeithas y Cymod heddiw yn fwy nag erioed. Mae gennym weledigaeth o Gymru ddi-drais yn cyfrannu at heddwch byd-eang. Ar ein safle we newydd, medrwch ddarllen cyfres o gyfweliadau gyda rhai sy’n rhannu’r weledigaeth hon.

Mae cymdeithasu a gweithredu trwy gelloedd lleol wedi mynd yn anoddach gyda llawer ohonom yn gaeth i’n cartrefi. Ond os oes gennym ffôn, papur a phensil neu gysylltiad gyda’r we, mae’r Gymdeithas yn creu ffyrdd newydd i bawb sy’n barod i fod yn fwy gweithredol.

Mae angen inni godi ein lleisiau wrth i’r Lluoedd Arfog ceisio sefydlu Amgueddfa Filwrol wrth ochr Senedd Cymru. Mae angen inni herio’r paratoi at ryfel a’r fasnach arfau sy’n digwydd yn y Fali ar Ynys Môn, sy’n bygwth Maes Awyr Llanbedr ac ardal Eryri, sy’n ymarfer yr Adar Angau yn Aberporth ac sydd wrthi yn ddistaw mewn ffatrïoedd ar draws Cymru.

Ymunwch gyda ni! Cysylltwch a gweithredwn gyda’n gilydd dros fyd di-ryfel. cymdeithasycymod@gmail.com