Dwy Ochr y Geiniog

Dwy Ochr y Geiniog

Mae yna ddwy ochr i bob ceiniog, medden nhw, ac mae hynny yn wir i ni fel eglwysi yn ystod y pandemig yma hefyd. Mae’r salwch ei hunan wedi bod yn ddieflig ac wedi achosi dioddef a thristwch ymhlith teuluoedd ar draws y byd. Ein gobaith mwyaf yw y bydd brechiad i wrthsefyll yr haint ar gael cyn gynted â bo modd.

Mae’n bwysig ein bod ni yn gweddïo am nerth i ddelio gyda’r sefyllfa, yn gweddïo am ras wrth ddelio gyda phobl ac yn cofio egwyddorion yr Arglwydd Iesu o gynnig cymorth i’r gwan a’r tlawd. Ni ddylid anghofio’r effaith feddyliol ar bobl chwaith, na’r unigrwydd mae cyfnodau dan glo yn gallu ei achosi.

Mae’r cyfnod ynddo’i hunan a’r ymateb i’r pandemig wedi ein pegynu ar adegau: rydym wedi gweld cymwynasgarwch a chariad at gymdogion ar ei orau, ond yn anffodus rydym wedi gweld hunanoldeb trahaus yn brigo i’r wyneb yn ogystal. Mae’r rhain i gyd yn ffactorau sydd raid i ni fel Cristnogion, ac yn wir fel dynoliaeth, eu hystyried ac ymateb iddynt.

Fel eglwysi lleol sydd dan fy ngofal fe wnaethom ymateb ar y cychwyn trwy gynnig gwasanaeth i unrhyw un oedd angen cymorth mewn unrhyw fodd, boed i gasglu meddyginiaethau neu siopa ar eu rhan. Roeddem wedi bod yn casglu ar gyfer y banc bwyd ers rhai blynyddoedd ond roedd hwn yn gyfle pellach i roi ein Cristnogaeth ar waith. Mae’n hanfodol fod pob eglwys yn rhan hyfyw o’i chymuned ac mae’n bwysig bod aelodau’r eglwys yn ymarfer egwyddorion yr Arglwydd Iesu lle bynnag bo cyfle i wneud hynny. Braint a phleser oedd cael cynnig y gwasanaeth ac fe’m plesiwyd yn fawr gan y nifer oedd yn fodlon cynnig cymorth.

O ran gwasanaethau ac oedfaon, fe orfodwyd ein heglwysi i gau wrth gwrs, ond prysuraf i ddweud mai drws yr adeilad oedd ar gau, nid drws yr eglwys. Mae drws yr eglwys wedi parhau ar agor led y pen a dyna’n dyletswydd ar unrhyw gyfnod fel hyn. Beth mae hyn yn ei olygu felly?

Rydym fel eglwysi ac aelodau wedi gorfod troi at gyfrwng newydd er mwyn cadw mewn cysylltiad, ac mae nifer wedi defnyddio e-byst a Facebook a Zoom am y tro cyntaf. Byddai’r enwau yna wedi bod yn ddieithr i nifer cyn y cyfnod yma, ond am wn i y byddan nhw bellach yn rhan annatod o eirfa’r eglwys wrth i ni symud ymlaen.

Rydw i wedi bod yn paratoi myfyrdodau wythnosol ers Sul y Blodau, ’nôl ym mis Mawrth. Yr hyn sydd wedi fy syfrdanu yw cael ymateb positif gan bobl na fuont yn agos i oedfa ers blynyddoedd ac mae’r nifer sydd wedi manteisio ar yr hyn sy’n cael ei gynnig yn anhygoel, a dweud y gwir.

Mae’r myfyrdodau yn fyrrach nag oedfa arferol wrth gwrs, ac yn yr oes yma lle mae soundbites yn cael eu defnyddio mor aml, mae’n ymddangos bod y neges yn cael croeso twymgalon.

Dw i’n credu hefyd ein bod ni mewn cyfnod lle mae pobl angen neges i bwyso arni, angen sicrwydd am ddyfodol diogel, angen clywed y Gair ac angen rhannu mewn gweddi. Rwy’n gwbl ymwybodol nad oes modd cyrraedd pawb trwy’r dulliau yma ac rydym wedi bod yn dosbarthu copïau caled o’r myfyrdodau yn ogystal.

Fe ddatblygwyd ar y syniad i greu gwasanaeth ar Zoom – cwrdd plant, Ysgol Sul, oedfa ddiolchgarwch a chymundeb, er enghraifft. Roedd hyn yn eithaf chwyldroadol i rai o’r aelodau hynaf, ond eto fe weithiodd y cyfrwng yn wych.

Mae cyrddau diaconiaid wedi eu cynnal dros Zoom, a phawb yn bresennol! Y cwestiwn y dylem ei ofyn i ni’n hunain yw: a fyddem wedi mentro mor ddwfn i’r cyfeiriad yma oni bai am ein sefyllfa bresennol?

Roeddwn wedi cyflwyno sgriniau yn yr eglwysi ac yn eu defnyddio yn achlysurol, er y gwyddwn fod rhai’n amheus o’r cynllun hwnnw. Mae’r arbrawf hwnnw wedi bod yn llwyddiant, wrth gwrs.

Ochr bositif y cyfnod yma yw ei fod wedi ein gorfodi i fentro, ac i gyfaddef y dylem fod wedi mentro yn gynt. Ond yr hyn sydd wedi gweithio i’r cyfeiriad yma yw nad oes neb wedi gwrthwynebu nac amau’r cyfrwng, gan nad oedd dewis, efallai! Gan mai traddodiadol yr ydym wrth natur, mae’n siŵr y byddai ceisio cyflwyno myfyrdodau fel hyn y tu allan i’r cyfnod yma wedi wynebu cwestiynau ac amheuon.

Does dim amheuaeth mai’r ochr orau i’r geiniog yn ystod y cyfnod tu hwnt o anodd yma yw’r modd y mae’r eglwys wedi gorfod edrych arni ei hunan, cynnig gwasanaeth i’r gymuned, cefnogi ein gilydd ac addoli trwy ddulliau newydd sydd wedi apelio at gynulleidfa ehangach.

Beth am y dyfodol, felly, beth am y cyfnod nesaf? Y ‘normal’ newydd.

Efallai mai’r ‘ffordd newydd’ ddylai fod, gan fod normaleiddio yn cymryd amser i dreiddio’n arferiad. Rhaid i ni gofio fod Eglwys Dduw wedi byw trwy lawer newid, sawl creisis a chyfnodau anodd.

Cofiwn hefyd mai Eglwys Dduw yw hi ac fe fydd e’n gofalu am ei eglwys; ein gwaith ni yw gofalu am y bobl.

Does dim amheuaeth nad oedd yna waith ystwytho ar ein heglwysi ers blynyddoedd lawer ac all pethau ddim mynd yn ôl i fel yr oedden nhw yn dilyn y cyfnod yma. Yn bersonol, rydw i’n parchu’r rhai sydd yn hoffi’r traddodiadol ond am gadw’r rhai sydd wedi ymuno yn y dulliau newydd hefyd, ac yn credu’n gryf fod yn rhaid priodi’r hen a’r newydd i gryfhau’r eglwys.

Ar ddiwedd y dydd, mae’n rhaid i eglwys fod yn berthnasol ac yn allweddol i’w chymuned. Bydd yn rhaid i ni ddefnyddio’r hyn rydym wedi ei ddysgu yn ystod y cyfnod yma, y dechnoleg fodern sydd wedi ei gorfodi arnom, os liciwch chi. Mae modd cynnal myfyrdodau, oedfaon, Ysgol Sul, creu podlediadau ac yn y blaen.

O briodi hyn i gyd ochr yn ochr â dychwelyd i’n capel ar gyfer oedfaon ym mha ddull bynnag, fe allwn gryfhau’r neges a lledaenu apêl yr eglwys.

Yn dilyn y cyfnod anodd yma mae pobl angen gobaith, oherwydd heb obaith, heb ddim! Mae ein byd wedi mynd trwy gyfnod lle mae casineb a hunanoldeb wedi teyrnasu mewn rhai agweddau o fywyd ac mae rhaid i ni fel Cristnogion ddangos y gobaith sydd yn neges efengyl Iesu Grist.

Cenhedlaeth sy’n prysur gefnu ar Dduw yw’n cenhedlaeth ni, fel y gwyddom, ac wrth gefnu ar Dduw fe gaiff Cymru ei hunan cyn hir heb obaith yn y byd fydd yn werth sôn amdano.

Duw yw ffynhonnell ein gobaith, nid dyn. Rydym yn byw mewn cyfnod o broblemau a chreisis, sut allwn ni ddatrys hyn? Pa obaith allwn ni ei gynnig iddyn nhw?

Beth am y dyfyniad Saesneg yma: “You have to live with men to understand their problems but you have to live with God to solve them.”

Ie, dyfyniad sydd yn mynd at galon y gwir a ’sdim ots sut y byddwn yn cyflwyno’r neges yma na pa ddull a ddefnyddiwn, mae’r neges yr un.

Rhaid ceisio manteisio ar yr hyn yr ydym wedi’i ddysgu ac wedi’i ddefnyddio yn ystod y cyfnod yma i adeiladu eglwys well gan sicrhau ein bod yn berthnasol i bawb o fewn ein cymunedau.

Dw i’n terfynu gyda geiriau Paul yn ei lythyr cyntaf at y Rhufeiniaid:

“A bydded i Dduw, ffynhonnell gobaith eich llenwi
â phob llawenydd a thangnefedd wrth i chwi
arfer eich ffydd nes eich bod, trwy nerth
yr Ysbryd Glân yn gorlifo â gobaith.”

Gwyn Elfyn Jones