Siopa

SIOPA

Wrth ymweld â Biwmares tua chanol mis Hydref, sylwais fod yna boster mawr y tu allan i un o’r siopau yn atgoffa pawb o nifer y dyddiau oedd yna cyn y Nadolig, sef 72 diwrnod. Dyna un ffordd o atgoffa pawb oedd yn pasio bod angen gwneud y gorau o’r amser oedd yn weddill i brynu eu hanrhegion, gan eu hannog i brynu ambell un yn y siop honno.

Ond arhoswch, mis Hydref oedd hi; oni ddylid bod wedi tynnu sylw at yr Ŵyl Ddiolchgarwch i ddechrau, ac mae pawb yn gwybod bod honno’n dod o flaen y Nadolig. Ond ni allwn ddisgwyl gweld posteri i hysbysu peth felly tu allan i’n siopau, oherwydd nad yw’r ŵyl yn creu busnes ac elw. Mae’n siŵr bod digon o sylw wedi ei roi i Ŵyl Calan Gaeaf (yr Halloween bondigrybwyll). Y llynedd gwelais gar bychan yn llawn o’r geriach mwyaf dychryllyd wedi ei barcio ar ochr y lôn, a hynny adeg Gŵyl Calan Gaeaf. Roedd y cynnwys yn ddigon i godi ofn ar oedolion, heb sôn am blant. Mae’n amlwg fod gan rai arian i’w wastraffu, a bod yna farchnad i’r fath sothach.

Tybed a fu yna bosteri y tu allan i’n capeli a’n heglwysi eleni, i atgoffa pobl am yr Ŵyl Ddiolchgarwch, a Gŵyl yr Holl Saint, sydd mor agos i Ŵyl Calan Gaeaf. A beth am y Nadolig ei hun o ran hynny? Efallai fod gan y siopau llwyddiannus rywbeth i’w ddysgu i ni! Pan fydd Covid 19 wedi cilio, beth am i ni eu hefelychu? Beth am i ni hefyd fod yr un mor barod i ddysgu oddi wrth gamgymeriadau’r cannoedd o siopau sy’n methu y dyddiau yma.

Beth amser yn ôl, cyrhaeddodd catalog i’n tŷ ni, o siop weddol enwog yng Nghaer. Dyma ffordd arall i’n hatoffa y byddwn angen anrhegion, ac mor bwysig yw eu harchebu mewn pryd, gan fod y Nadolig yn agosáu. Diddorol oedd sylwi ar gynnwys y catalog: siocledi a chacennau moethus, a sylwais ar un gacen siocled â phump haen iddi! Celfi drudfawr i’r gegin a’r tŷ sydd ynddo hefyd, gyda phob math o awgrymiadau eraill i’ch temtio i’w prynu fel anrhegion. Diddorol yw eu hymgais i’n hargyhoeddi bod rhai o’u pethau’n wir angenrheidiol, gyda’r pennawd: “Don’t forget the essentials”. Ond, a dweud y gwir, prin bod unrhyw beth sydd yn y catalog yn essential, yn anhepgorol, a gallem oll fyw hebddynt yn ddigon rhwydd.

 

Yn rhyfedd iawn, yr un wythnos, daeth catalog arall drwy’r drws, a hwnnw gan Gymorth Cristnogol. Mor wahanol yw cynnwys y catalog hwn, oherwydd ynddo ymdrechir i ddangos beth yw gwir angenrheidiau pobl dlawd ein byd, a’r hyn sy’n anhepgorol mewn difri. Hwn ddylai gynnwys y teitl: “Don’t forget the essentials.” Beth oedd ynddo?

Dyma enghreifftiau: gellir prynu cwch gwenyn am £60, neu goeden ifanc i dyfu coco am £9, neu £9 am gyflenwad o dabledi gwrthfiotig ar gyfer plant a niweidiwyd mewn rhyfeloedd. Gallai £30 sicrhau bod cymuned yn derbyn dŵr glân yn ddyddiol. Byddai £15 yn helpu plentyn i fynd i’r ysgol, neu beth am £35 i brynu gafr i deulu, neu £187 i brynu buwch hyd yn oed. Dyma brosiect y gallai eglwys ymgyrraedd ato, efallai, yn enwedig eleni. Trowch at charity-gifts.christianaid.org.uk am fwy o fanylion, neu ffoniwch 029 2084 4646.

Ydy, mae’r cloc yn tician, a buan y daw’r Nadolig; faint o ddyddiau sydd ar ôl, tybed? “Beth gawn ni ei roi’n anrheg eleni? Mae ganddyn nhw bopeth.” Dyna’r gri yn ein tŷ ni bob blwyddyn. Beth am roi neges mewn ambell gerdyn Nadolig yn dangos bod gwerth yr anrheg arferol wedi ei roi i wella byd yr anghenus? Byddai hynny’n cyfrannu at hapusrwydd eu Nadolig hwy, a ninnau o ran hynny. Cofiwn eiriau ein Harglwydd ym Mhennod 25 o Efengyl Mathew:

“Yn wir, rwy’n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o’r lleiaf o’r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch …

… Yn wir, rwy’n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi beidio â’i wneud i un o’r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau chwaith. Ac fe â’r rhain ymaith i gosb dragwyddol , ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.” (Mathew 25:40, 45–6) 

Geiriau cryfion yw’r rhain, ond a ydyn nhw’n ddigon cryf i’n herio i weithredu’n wahanol y Nadolig hwn? O wneud hynny, dedwyddach fyddwn.

Gweddi

Dduw dad, gwyddom y fath wahaniaeth a wna’r pandemig presennol i’n bywydau ni oll. Bellach, cawsom ein gorfodi i sylweddoli beth yw gwir angenrheidiau bywyd. Diolchwn felly am ein hiechyd, ein teuluoedd a’n cyfeillion, ac am bawb sy’n gofalu amdanom. Diolchwn am Efengyl dy Fab annwyl, Iesu Grist, ynghyd â’r gwerthoedd a ddeillia ohoni.

Er cymaint yw ein gofidiau am holl effeithiau’r pandemig arnom ni, cymorth ni i gofio am eraill sydd yn eu hwynebu, a hwythau heb yr angenrheidiau a gymerwn ni mor ganiataol.

O ganol ein digonedd, agor ein llygaid i weld ein cyfle i fod o gymorth i’r rhai anghenus, a llanw ein calonnau â’th dosturi ac â’th gariad di dy hun.

Boed hunan balch ein calon
      Yn gwywo’n d’ymyl Di,
A’n bywyd yn egluro
      Marwolaeth Calfarî.

Derbyn ni, yn enw Iesu Grist dy Fab, wedi maddau ein beiau yn ei enw. Amen.

Eric Jones (Bangor)