e-fwletin 13 Rhagfyr 2020

NADOLIG LLAWEN!

Y Ffindir, Denmarc, Norwy, Gwlad yr Iâ, Yr Iseldiroedd, Y Swistir, Sweden, Seland Newydd, Canada, Awstralia.  Beth sy’n nodedig am y rhestr hon, meddech chi?  Na, does a wnelo’r rhestr ddim â’r pandemig na chwaraeon o unrhyw fath ychwaith. Yn hytrach, rhestr yw hon, yn nhrefn blaenoriaeth, o’r deg gwlad mwyaf hapus yn y byd yn 2019!

Yn yr ail wlad ar y rhestr, Denmarc, mae amgueddfa newydd wedi’i sefydlu – Amgueddfa Hapusrwydd. Agorodd yn swyddogol ar 14 Gorffennaf 2020 yn Copenhagen. Adeg ryfedd i agor y fath le, meddech chi, gan fod cymaint yn y felan yng nghanol Covid-19!  Ar ben hynny, clywed rydyn ni’r dyddiau hyn am amgueddfeydd mewn trafferthion ariannol, yn hytrach nag yn agor o’r newydd. 

Y Sefydliad Ymchwil i Hapusrwydd ddechreuodd yr Amgueddfa. Sylfaenydd y sefydliad hwnnw yw Meik Wiking, awdur toreithiog  ac un sy’n ymchwilio’n fanwl i hapusrwydd, lles ac ansawdd bywyd.  Mae’r Sefydliad a’r Amgueddfa’n rhoi cyfle i bobl o bob oedran a chefndir ddysgu mwy am hanfod hapusrwydd a lles. Y prif nod yw astudio pam mae rhai cymdeithasau’n fwy hapus na’i gilydd er mwyn ceisio ysgogi newid gwleidyddol a chymdeithasol.

Mae gweithgarwch yr Amgueddfa Hapusrwydd yn cynnig llygedyn o obaith i lawer yng nghanol düwch ein dyddiau! Mae’n siŵr y bydden ni i gyd yn cytuno â Wiking fod angen mwy o hapusrwydd yn ein byd. Mae’n nod i ni i gyd, ddywedwn i.

Mae cynnal hapusrwydd yn ystod pandemig yn dipyn o her a bu un pennaeth ysgol yn ceisio gwneud hynny drwy wisgo gwisg chwyddadwy gwahanol, fel llew, dinosor a roced, ar gyfer cynulliad yr ysgol ar-lein bob bore Llun!  Marciau llawn am ddyfeisgarwch!

Yn anffodus, fodd bynnag, byr yw oes hapusrwydd. Er gwaethaf ambell gimig ac ymdrechion Wiking ac eraill, dyw hapusrwydd ddim yn rhywbeth sy’n para am byth. Mae wedi’i sylfaenu ar ddigwyddiadau. Os yw pethau’n mynd yn dda, yna rydyn ni’n hapus. Ar y llaw arall, os oes rhywbeth drwg yn digwydd i ni, yna mae’n hapusrwydd yn debygol o ddiflannu, Rhywbeth dros dro yw hapusrwydd. Mae’n wahanol iawn i lawenydd sy’n tarddu o ffynhonnell wahanol.  Rydyn ni’n gallu cael llawenydd a bod yn hapus ond allwn ni ddim bod yn hapus heb lawenydd.

Dyw’r Beibl ddim yn addo hapusrwydd ond mae’n addo llawenydd. Ffrwyth yr Ysbryd Glân yw llawenydd ac mae’n llawer dyfnach na hapusrwydd. A thrwy droi at Dduw yn Iesu yn unig y down i brofi gwir lawenydd. Ac wrth brofi’r llawenydd hwnnw y down yn genhedloedd a phobl wirioneddol hapus.

Gŵyl o lawenydd yw’r Nadolig – y llawenydd a ddaw o adnabod Duw drwy Iesu’r Meseia, y llawenydd o wybod fod Duw gyda ni hyd byth a’r llawenydd sy’n gallu bod yn eiddo i ni’n rhad ac am ddim. Mae’r llawenydd hwn yn dragwyddol ac yn dyfnhau wrth i ni droi at ein Gwaredwr a dathlu popeth a wnaeth drosom.  Diolchwn nad yw’r llawenydd hwn yn ein gadael, hyd yn oed os nad ydym bob amser yn teimlo’n hapus.