Ffordd Trwy’r Drain

Ffordd Trwyr Drain

Traethawd 4 – Byw ar Ffiniau

Enid R Morgan

Rywdro, heb fod yn bell iawn yn ôl, yr oedd llwyth o bobl yn Awstralia na fu mewn cysylltiad â phobl wynion. Roedden nhw’n byw ar y tir gan ddefnyddio’u gwybodaeth draddodiadol am y tywydd, y creigiau a’r pridd, y planhigion a’r creaduriaid, i gynnal ffordd syml a chaled o fyw. Roedden nhw’n byw mewn cytgord â’u hamgylchedd mewn rhwydwaith o fannau cysegredig, mannau a wnaed yn sanctaidd trwy gysylltiadau a chof gwerin. Yr oedd eu pennaeth yn ŵr da, a’i bobl yn ei barchu ac yn ymddiried ynddo am ei fod yn gwneud penderfyniadau doeth. Ond mae’n digwydd, o dro i dro, nad ydi meibion y da a’r doeth o reidrwydd yn etifeddu’r daioni na’r doethineb. Yn wir, maen nhw’n gallu bod yn achos gofid. Mab felly oedd gan y pennaeth – un gwyllt a byrbwyll, yn colli ei limpin yn wyneb gwrthwynebiad ac i bob golwg heb ddiddordeb mewn dysgu dim. Gwyliai’r bobl ef gan obeithio bod digon o amser iddo ddysgu.

Yn anffodus bu farw’r pennaeth yn ddisyfyd, ac yn ôl arfer y llwyth, y mab hwn a ddaeth yn bennaeth newdd. Ac yntau’n etifeddu cyfrifoldebau eu dad yn llawer rhy ifanc, ni welai neb arwydd fod y pennaeth newydd am gymhwyso’i ymddygiad; os rhywbeth, âi yn fwy ffôl a phenboeth. Gwyliai’r bobl a phryderent. Yr oedd y llanc yn gwerylgar ac aflywodraethus, yn hoff o godi cweryl gyda llwythau cyfagos. Ni thalai sylw i hen arferion doeth nag i gytundebau am lwybrau a ffiniau.

Un diwrnod, aeth y pennaeth ifanc allan gyda’i gyfeillion i hela. Ond ar ôl mynd rhyw bellter cododd y bendro arno ac aeth i deimlo’n sâl. Doedd e ddim am gyfadde unrhyw wendid i’w gyfeilion, ond cyhoeddodd wrthynt ei fod am gael tipyn o lonydd ac yn mynd i orffwys dan goeden. Gorchmynnodd iddynt fynd ymlaen hebddo a dychwelyd yn yr hwyr. Gosododd ei hun yn gyfforddus yng nghysgod y goeden a’u gwylio’n ymadael. Dan y goeden fe gysgodd a breuddwydio. Er ei fod yn llanc ffôl gwyddai fod breuddwydion yn bwysig, a hyd yn oed wrth gysgu fe dalodd sylw; wrth ddeffro, cofiodd ei freuddwyd a threuliodd y dydd yn eu hail-fyw yn ei feddwl ac yn synfyfyrio am ei hystyr.

Yn ei freuddwyd dynesodd ato ffurf debyg i ddyn ac edrych arno’n ddifrifol a thrist. Dywedodd wrtho: “Ŵr ifanc, dwyt ti ddim yn byw yn dda. Dwyt ti ddim yn dangos unrhyw arwydd o ddoethineb wrth arwain dy bobl. Rhaid i ti newid dy ffyrdd a dod yn dangnefeddwr.” Cywilyddiodd y llanc canys fe wyddai fod ei ymddygiad yn gywilydd i’w dad ac iddo’i hun. Gwyddai fod ei bobl yn gynyddol ofnus. Yn ei freuddwyd yr oedd arno ofn a chywilydd. Dywedodd y ffurf ddynol wrtho: “Rhaid i ti newid dy ffyrdd. Rhaid i ti ddysgu cân newydd. Rhaid i ti dorri dy bicell a dod yn dangnefeddwr.”

Felly, yn ei freuddwyd dysgwyd iddo gân newydd a phan ddeffrôdd, dan y goeden yn y brithgoed, canodd y gân drosodd a throsodd nes iddi ddod yn rhan ohono. Pan ddychwelodd ei ffrindiau i’w gyrchu yr oedd y newid mewnol yn y llanc yn hysbys. Yr oedd yn eistedd yn dawel heb ei aflonyddwch arferol. Dywedodd: “Fe gysgais, ac yn fy nghwsg breuddwydiais. Yn fy mreuddwyd dynesodd ffurf debyg i ddyn ataf ac edrych arna i’n ddifrifol a thrist. Dywedodd y ffurf wrtha i: ‘Ŵr ifanc, nid wyt yn byw yn dda. Nid wyt yn dangos unrhyw arwydd o ddoethineb wrth arwain dy bobl. Rhaid i ti newid dy ffyrdd a dod yn dangnefeddwr.’ Yr oedd arna i gywilydd oherwydd gwn yn iawn nad oes gennyf ddoethineb fy nhad a bod fy ngwylltineb yn peri cywilydd iddo. Rwy’n gweld bod ofn ar fy mhobl. Yn fy mreuddwyd yr oedd arna i ofn a chywilydd.” Syfrdanwyd ei gyfeillion, canys nid oedd y llanc erioed o’r blaen wedi cyfaddef bod arno ofn na chywilydd. Aeth ymlaen: “Dywedodd y ffurf ddynol wrtha i, ‘Rhaid i ti newid dy ffyrdd. Rhaid i ti ddysgu cân newydd. Rhaid i ti dorri dy bicell a dod yn dangnefeddwr.’’’ Yna, cododd ei lais a chanu ei gân newydd i’w gyfeillion. Cymerodd ei bicell a’i thorri dros ei ben-glin. Yn y man dychwelodd at ei bobl yn ŵr gwahanol.

Cenhedlaeth neu ddwy’n ddiweddarach, daeth pobl wynion o bell a chyrraedd y rhan honno o Awstralia a dwyn gyda hwy athrawon oedd hefyd yn genhadon. Ryw ddydd daeth y bobl i gyd ynghyd i wrando beth oedd gan yr athrawon gwynion i’w ddweud. Soniodd un ohonynt am ŵr o’r enw Iesu a ddaeth i achub y ddynoliaeth o effeithiau trais, dicter a chasineb. Yng nghysgod coeden yn y lle mwyaf anrhydeddus eisteddai pennaeth y llwyth a hwnnw mewn gwth o oedran. Pan orffennodd y cenhadon, cododd ei law mewn ystum urddasol a chyhoeddi: “Y Gwaredwr Iesu yr ydych yn sôn amdano – yr wyf i eisoes wedi cwrdd ag ef.”

Adroddwyd y stori hon gan ŵr o’r enw Wali Fejo wrth gynulleidfa o Gristnogion o bedwar ban y byd a ddaeth ynghyd yn Brasil dan nodded Cyngor Eglwysi’r Byd i drafod y thema ‘Un Efengyl, Sawl Diwylliant’. Un o drigolion cynhenid Awstralia a gweinidog Methodus ydoedd. Cymerodd saib wrth adrodd y stori gan adael i arwyddocâd yr hanesyn wawrio ar y gynulleidfa fawr. Yna ychwanegodd, “Y cwbl rydyn ni’n gofyn ganddoch chi, bobl y Gorllewin, yw eich bod yn edrych o’r newydd am arwyddion o’r efengyl yn ein diwylliant ni.”

Saib arall. Yna, “Rydyn ni’n chwilio’n galed am yr arwyddion hynny yn eich diwylliant chi.”

Mae’r stori am Dduw’n ymweld â chrwydryn dan dderwen yn Genesis 18 yn un o straeon allweddol yr Hen Destament. Mae’r stori am dri angel yn ymweld ag Abraham weithiau’n cael ei galw’n ‘proto-evangel’ – y cip cyntaf ar yr efengyl oedd i ddod. Os oedd Duw’n gallu siarad ag Abraham yr Aramead crwydrol dan dderwen yn Mamre, oni allai’r Duw hwnnw, mewn rhyddid breiniol, lefaru wrth Awstraliad dan goeden yn y brithgoed? Gwelir munudau o’r fath, munudau darpar-efengylaidd yn hanes gwerin a thraddodiadau llawer o ddiwylliannau dros y byd. Ond yn aml ni chwiliwyd amdanynt, ac nis clywyd. Yn rhy aml, daeth yr efengyl atynt ar gynffonnau byddinoedd a grym masnachol.

Edrych am ‘arwyddion o’r efengyl’ mewn diwylliant a wnaeth y Tad Vincent Donovan o Urdd Tadau’r Ysbryd Glân pan aeth i fyw gyda llwyth crwydrol y Masaai yn Kenya. Yr oedd wedi colli ei ymddiriedaeth yn hen batrwm yr ‘orsaf genhadol’, oedd yn golygu dwyn pobl grwydrol i mewn i ganolfan. Yn lle hynny, aeth ati i fyw gyda’r Masaai a chrwydro gyda hwy. Gwrandawodd a sylwi, gan wneud ei orau glas i ddysgu beth oedd gwerthoedd a rhagdybiaethau’r hen ddiwylliant hynod hwn. Aeth cryn amser heibio cyn iddyn nhw ofyn iddo pam nad oedd yn ceisio’u perswadio i newid eu ffordd o fyw fel yr oedd y gwynion eraill wedi gwneud. Ei ateb oedd fod ganddo rywbeth i’w gynnig iddynt os oedden nhw’n fodlon gwrando. Roedd yn funud ddramatig a mentrus. Gallen nhw fod wedi gwrthod. Roedd e’n dibynnu ar eu hymateb. Eu dewis hwy fyddai gwrando.

Trefnwyd cyfres o gyfarfodydd, a byddai ef yn disgrifio ac yn egluro’r newyddion da am Iesu. Yr oedd eu hymateb yn feddylgar a dwys, a dechreuwyd proses o ddysgu beth oedd prif bynciau’r ffydd. Yn y pen draw dyma’r bobl, gan ddeall y newid yr oeddynt yn mentro arno, yn cytuno i dderbyn a pharatoi ar gyfer y newid hwn a chael eu bedyddio.

Ond yr oedd un unigolyn nad oedd wedi bod yn gyson bresennol yn y gwersi ac a ymddangosai’n reit ddifater am beth oedd yn digwydd. Amheuai’r Tad Vincent a oedd yn barod i’w fedyddio. Ond pan awgrymodd y dylid ei adael allan, yr oedd y gwrthwynebiad i’r syniad yn unfryd elyniaethus. Yr oedd eu bywyd crwydrol yn mynnu undod amcan a chyd-ddeallwriaeth. Naill ai roedden nhw i gyd yn dod yn Gristnogion, neu ni fyddai neb: pawb neu neb ohonynt. Roedden nhw’n perthyn i’w gilydd.

Rhydd y Tad Vincent enghraifft arall o sut y datblygwyd yr undod hwn a’i gynnal gan y llwyth cyn iddo gyrraedd. Mae’n disgrifio proses a ddefnyddiai’r llwyth i ddwyn cymod ar ôl cweryl rhwng unigolion neu deuluoedd. Yr oedd y grŵp cyfan yn cymryd y cyfrifoldeb o ofalu am y rhai oedd wedi cweryla neu anghytuno. Byddai proses o drafod ac egluro, derbyn cyfrifoldeb ac ymddiheuro o’r ddwy ochr. Pan fyddai’r amser i ymddiheuro wedi dod, byddai’r teuluoedd ar y ddwy ochr yn paratoi pryd o fwyd ar gyfer aelodau’r teulu y buont yn cweryla â hwy. Roedd y pryd bwyd yn cael ei baratoi fel arwydd o ymddiriedaeth, o faddeuant a dechreuad newydd. O safbywnt Cristnogol, yr oedd yn gweithio fel sagrafen. Gwyddent am rym difaol unrhyw gam nas maddeuwyd, sut y gallai ddinistrio cyfeillach a’r cyd-ddealltwriaeth rhyngddynt. Gallai mewn gwirionedd beryglu bodolaeth y llwyth. Mewn diwylliant cymunedol a chytun yr oedd y syniad o ynysu a diarddel un unigolyn am ddim mwy na dealltwriaeth annigonol o gynnwys y ffydd yn gwbl amhosibl. Rhaid bod ffydd o’r fath yn gwbl anghywir. Dyma funud o roi prawf ar y Tad Vincent a’i neges.

Er mai ei amcan oedd dwyn efengyl bur a syml, heb olion o’i ragdybiaethau personol ef ei hun, sylweddolodd y Tad Vincent fod ei fagad diwylliannol gorllewinol, ei ‘bolisi bedydd’ wedi ei heintio gan agwedd unigolyddol y Gorllewin. Yr oedd bedyddio’r llwyth cyfan, gan gynnwys unigolyn heb ei baratoi’n drylwyr, yn ddatguddiad o beth oedd cyfamod â chenedl gyfan. Cafodd yr efengylydd wers gan y rhai y daeth i’w dysgu. Dysgu ar y ffin.

Ond pan ddaeth y cyfle cyntaf i weinyddu’r Ewcharist, cyfarfu’r Tad Vincent ag anhawster diwylliannol arall. Ymhlith y Masaai, dydi gwŷr a gwragedd ddim yn bwyta gyda’i gilydd. Annerbynniol ac amhosibl ei ddychmygu! Ond os oes yng Nghrist nac Iddew na Groegwr, na gwryw na benyw, na chaeth na rhydd, yna yn yr Ewcharist mae calon yr efengyl yn dweud ein bod i gyd yn un yng Nghrist. Felly, dylai gwŷr a gwragedd dderbyn y bara a’r gwin ym mhresenoldeb ei gilydd am eu bod ym mhresenoldeb Christ, yno yn yr Ewcharist, calon yr efengyl. Penderfynodd y Tad Vincent na allai syflyd o’r fan honno. Felly, i’r llwyth hwn yr oedd yr Ewcharist cyntaf yn chwyldroadol a newydd am fod gwŷr a gwragedd yn bwyta gyda’i gilydd, ond yr oedd hefyd wedi ei wreiddio yn eu profiad o gymod a grym maddeuant yn eu traddodiad eu hunain. Iddyn nhw yr oedd yn gamu allan o’u diwylliant ond yn dderbyn bod yr efengyl yn cyhoeddi rhywbeth newydd, anodd a chwyldroadol. Camodd y Tad Vincent a’r Masaai i dir neb, dros y ffin, a chamu drwy berth o ddrain a chael yno ‘fan dymunol’ a chreadigaeth newydd.

Mewn cyd-destun ehangach, gellid nodi nad yw’r eglwys a fynnodd fod gwŷr a gwragedd yn derbyn y cymun gyda’i gilydd ddim eto wedi caniatáu i wragedd arwain y dathlu hwnnw. Wrth i genedl neu lwyth dderbyn yr efengyl, mae yna gymhwyso graddol yn digwydd. Dydyn ni ddim yn gollwg gafael ar ein rhagdybiaethau, ac yn tybio bod Duw yn cytuno â’n syniadau ni o beth sy’n iawn a chymeradwy.

Teitl llyfr Vincent Donovan yw Christianity Rediscovered ac mae’n cyfleu sut yr oedd ailddarganfod y ffydd ar y ffin rhwng diwylliannau yn broses fentrus ond drawsnewidiol hefyd. Yn aml cynigiwyd y newyddion da heb wahaniaethu rhwng ‘hanfod yr efengyl’ a’n diwylliant ni ein hunain. Yn waeth fyth, fe orfodwyd y ffydd yn sgil grym milwrol a masnachol a’i heintio yn y broses. Hyd yn oed pan âi cenhadon tlawd o Gymru, aent â llyfr emynau a harmoniwm! A dysgid i’r plant yng Nghymru ganu dan gysgod hiliaeth ymerodrol:

Draw, draw yn China a thiroedd Japan,
Plant bach melynion sy’n byw;
Dim ond eilunod o’u cylch ym mhob man
Neb i ddweud am Dduw.
Iesu, cofia’r plant …

Y drafferth gyda chynnal traddodiad diwylliannol yw ei bod yn hawdd ei uniaethu â chalon yr Efengyl, a gall rydu gwerthoedd crefyddol a chrebachu ein hamgyffred o Dduw ac o beth yw bod yn ddynol. Nid gwers fach foesol am fod yn garedig yw dameg y Samariad Trugarog ond beirniadaeth ddeifiol ar system grefyddol a oedd yn gorfodi ei harweinwyr, yn lefiaid ac offeiriaid, i ymddwyn mewn ffordd greulon o annynol. Mae Iesu’n cyflwyno’r Samariad, sy’n talu affliw o ddim sylw i’r tabŵ am waed a defod litwrgaidd, fel un sy’n fendigedig rydd i ymddwyn fel dyn hael, caredig a dynol. Mae’n ddyn da a thrugarog yn union am ei fod yn rhydd i fod yn hael. Nid dim ond beirniadu rhagrith y parchusion yr oedd Iesu, ond dinistrio sail eu duwioldeb. Dyma danseilio sicrwydd y gymdeithas dduwiol, Phariseaidd, fod sicrhau eich bod yn rhydd o bob ‘aflendid’ yn sail i foeseg. Mae’n dweud, ar ffurf dameg, fod eu hymddygiad yn eu rhwystro rhag cadw craidd y ddeddf sylfaenol o garu Duw a charu cymydog. Nid ‘rhywun yn debyg i ni’ yw cymydog, ond unrhyw berson dynol ar y ffordd ar draws yr anialwch.