E-fwletin 1 Tachwedd 2020

Gŵyl Yr Holl Saint

 hithau’n gyntaf o fis Tachwedd croeso i Ŵyl yr Holl Saint. Mae’n debyg bod yr ŵyl hon yn dyddio’n ôl i ddyddiau’r Pab Bened yr Ail yn y 6ed ganrif. Bryd hynny gŵyl i goffau merthyron yn unig oedd hi, sef y rhai a oedd wedi aberthu eu bywyd dros y ffydd.

Ond dros amser daeth yr ŵyl i gael ei defnyddio i gofio’r holl saint, byw neu farw, gan fabwysiadu yr ystyr a olygai’r apostol Paul i’r gair ‘saint’ yn ei lythyr at y Rhufeiniaid, rhai ‘sydd yn annwyl gan Dduw a thrwy ei alwad ef yn saint’ (Rhufeiniaid 1.7).

Ta waeth am hynny, mae gwahanol garfannau o fewn yr eglwys wedi cymryd arnynt eu hunain yr hawl i benderfynu pwy sy’n teilyngu cael eu cyfrif yn ‘saint’ neu beidio. Hanner can mlynedd yn ôl i’r wythnos ddiwetha cafodd 40 o Gatholigion o Gymru a Lloegr a ferthyrwyd yn ystod yr 16eg a’r 17eg ganrif eu derbyn yn saint gan y Pab Paul V1. 

Ond yn ystod teyrnasiad y Frenhines Mari’r 1af merthyrwyd Protestaniaid gan Gatholigion yng Nghymru a Lloegr. Bellach mae’n debyg yr ystyrir bod y rhai o’r naill garfan a’r llall ymhlith saint yr oesoedd, ac i’w coffáu ar yr ŵyl hon.

Dros y blynyddoedd mae’r syniad o nodweddion ‘sant’ wedi amrywio. Mewn cerdd ddychanol yn dwyn y teitl ‘Y Sant’, y darlun traddodiadol ’falle, sy’n cael ei bortreadu gan Waldo, sef un ‘Sy’n llwyr ymwrthodwr, cant y cant, … Sy’n mynychu’r achos, cant y cant .. Na bydd byth yn damio neb (ac) na bydd neb yn ei ddamio’. Mae’n holi wrth gloi ‘Pa le mae’r plant dan ofal sant / Sy’n ateb y gofyn, cant y cant?’

Yn ôl Geraint Lovegreen wedyn yn un o’i ganeuon ‘Mae pawb yn sant yn ei ffordd ei hun’. Trafodwch! A beth am y stori honno am athro yn holi dosbarth ysgol “Beth yw sant?”, ac un o’r plant, wrth gofio am luniau saint yn ffenestri lliw yr eglwys yn ateb, “Un y daw’r golau trwyddo”.

Byddai’r ateb hynny’n ddisgrifiad priodol o gannoedd o bobl sydd wedi amlygu eu hunain am eu caredigrwydd anhunanol dros gyfnod Covid 19. Pobl megis staff y GIG sydd wedi peryglu eu bywydau eu hunain er mwyn eraill, gweithwyr allweddol mewn gwahanol feysydd sydd wedi cynnal y gwasanaethau y mae cymdeithas yn dibynnu arnynt, a phobl sydd wedi siopa a choginio i gymdogion bregus yr oeddent prin yn eu hadnabod. A yw’n iawn ystyried y bobl hynny, rhai o wahanol grefyddau neu heb grefydd o gwbl, yn rhyw fath o saint?

Gyda ninnau o dan gyfyngiadau caeth unwaith eto ar ein mynd a’n dod, beth am oedi ar Ŵyl yr Holl Saint i ystyried pwy neu beth sy’n gwneud rhywun yn ‘sant’ yn eich golwg chi? Byddai Cristnogaeth 21 yn falch o glywed eich barn.

 

Cofiwch ein bod yn dal i wahodd cyfraniadau ariannol tuag at yr Apêl i hyrwyddo gwaith Cristnogaeth 21. Hyd yn hyn, rydym wedi codi’n agos at £2,000 ond mae angen rhagor i gynnal y wefan a sicrhau parhad y llwyfan i drafodaeth agored a blaengar ar Gristnogaeth gyfoes. Mae’r manylion ar sut i gyfrannu ar gael ar y wefan. Diolch yn fawr.