Byw ar y ffin

5 BYW AR Y FFIN

Rhwng Gwŷr a Gwragedd

Ym Montreal yng Nghanada ym 1850 yr oedd Arolygwr Cyffredinol Ysbytai ei Mawrhydi yn ddyn bach od. Gwisgai lifrai wedi eu gwneud o groen ychen gwyllt. Byddai’n mynd i’w waith gyda dau was i weini arno. ‘Arolygwr Cyffredinol’ oedd y swydd uchaf posibl i feddyg yn y fyddin yn y cyfnod hwnnw ac yr oedd gyrfa hwn wedi bod yn bur stormus.

Ganed James Barry yn yr Alban ac nid oes neb yn gwybod pwy oedd ei rieni, ond cafodd ei addysg trwy nodded Iarll Buchan; yn wir, tybiai rhai mai Buchan oedd ei dad, neu efallai ei dad-cu. Cafodd ei hyfforddi yng Nghaeredin a bu’n gweithio fel meddyg yn Sbaen a’r Iseldiroedd. Dichon ei fod wedi gwasanaethu ym mrwydr Waterloo cyn mynd i Dde Affrica ym 1817. Cafodd nodded gan y Llywodraethwr, yr Arglwydd Charles Somerset. Barn hwnnw oedd mai hwn oedd y meddyg gorau a welsai erioed, ond ei fod yn gwbl chwerthinllyd ym mhobpeth arall. Ef oedd y cyntaf yn y byd Seisnig ymerodrol i ddefnyddio llawdriniaeth Cesaraidd i eni plentyn.

Gall fod yr elfennau ‘chwerthinllyd’ y soniodd Charles Somerset amdanynt yn deillio o’r ffaith fod James Barry yn fychan iawn. Byddai’n ychwanegu at ei daldra trwy roi gwadnau tair modfedd o drwch dan ei esgidiau ac yn rhoi trwch o ddefnydd llanw dan ei ddillad i wneud iddo edrych yn fwy cyhyrog. Dywedid ei fod yn hynod o dirion a thyner gyda chlaf mewn poen, ond yn hynod ddiamynedd gyda phawb arall. Ymladdodd mewn gornest (duel); yr oedd yn llysieuwr, cadwai afr, ac ymolchai mewn gwin. Yr oedd yn ferchetaidd ac yn flin ei dymer, ac ymunodd â’r meddygon a fu’n sarhaus wrth Florence Nightingale yn Scutari.

Pan oedd yn gwasanaethu yn St Helen’s, fe adawodd ei ddyletswyddau a diflannu am fisoedd. Pan ddychwelodd ac wynebu dig ei uwch-swyddog, eglurodd ei fod wedi mynd i Lundain i gael torri ei wallt. Ymddeolodd o Montreal i Lundain ym 1864 i fyw gyda’i was croenddu, John, a pŵdl o’r enw Psyche. Pan fu farw, fe’i claddwyd ym mynwent Kensal Rise yn Llundain. Ond yn y cyfnod rhwng marw a chladdu, fe ddarganfu’r ddynes oedd wedi gwneud y dasg draddodiadol o baratoi’r corff i’w gladdu mai benyw ydoedd James Barry. Ac ar unwaith dyma pawb a’i hadnabu’n dweud eu bod wedi amau hynny erioed!

James Barry

Erbyn hyn rydyn ni’n llawer iawn mwy ymwybodol fod yna rychwant eang o rywedd o’r tra gwrywaidd i’r tra benywaidd, ac nad ydi nodweddion corfforol bob amser yn cyfateb i’r ymdeimlad personol. Mae’n peri dryswch i lawer, yn enwedig i’r rhai sy’n argyhoeddedig ‘nad ydi Duw’n gwneud camsyniadau’.

Yr eglurhad poblogaidd oedd fod Barry wedi mynd i Dde Affrica er mwyn bod yn agos at ddyn yr oedd hi mewn cariad ag ef. Dyna’r unig esgus a roddid dros ymddygiad gwragedd oedd yn dilyn byddinoedd, ac yr oedd nifer o wragedd wedi llwyddo i fod yn filwyr. Ond yr oedd Barry eisoes wedi ffugio bod yn ddyn er mwyn cael hyfforddiant i fod yn feddyg. Yn ddiweddarach yn y ganrif cafodd gwragedd a ddymunai fod yn feddygon heb orfod ffugio bod yn ddynion frwydr enbyd iawn i ennill yr hawl, a’r meddygon gwryw yn chwerw o ddig wrthynt. Ond yr oedd hon, na wyddom ei henw hyd yn oed, wedi byw celwydd er mwyn medru dilyn gyrfa, wedi cyrraedd safle uchel yn y proffesiwn meddygol trwy ei dawn a’i dewrder.

Ni fedrodd James Barry, pwy bynnag oedd hi, gael addysg feddygol heb ffugio, ac fe gynhaliodd hi’r twyll ar hyd ei hoes. Mae ’na amryw straeon am groesi’r ffin arbennig hon i chwarae rannau gwrywaidd. Mae’r straeon yn datgelu nid yn unig adnoddau a doniau unigolion, ond hefyd falais a gwawd gwrthwynebus pan mae priod safleoedd arferol gwŷr a gwragedd yn cael eu herio a’r ffiniau’n cael eu dymchwel. Bu’r gwahaniaethau corfforol amlwg rhwng benyw a gwryw yn sail i ffiniau addysgol, diwylliannol ac economaidd, a gwahaniaethu sydd wedi crynhoi i fod yn orthrwm ac yn erledigaeth. Câi gwraig a gafodd addysg nad oedd dan reolaeth gŵr ei hamau o fod yn rhywiol anfoesol. Pan aeth fy nhad-cu â fy mam i fod yn un o fyfyrwyr cynnar Prifysgol Abertawe, fe’i heriwyd gan ei chwaer: “’Pam wyt ti’n gwastraffu arian ar roi addysg i ferch?’

Mae’r ffin rhwng gwŷr a gwragedd yn destun cywreinrwydd mawr yn y mythau am ddechrau’r ddynoliaeth. Hawliwyd bod pob crefydd yn cadw gwragedd dan y fawd, ac yn gweithio’n gyson geidwadol i gynnal y gorthrwm. Defnyddiwyd stori Adda ac Efa i gadw gwragedd ‘yn eu priod le’ gan eu beio am bechod y ddynolryw. Yn wir, pechod cyntaf Adda yw beio’i wraig! Dechreuodd yr Eglwys Gristnogol â gweledigaeth hynod o’r posibilrwydd o gymuned lle y gellid sicrhau cyfartaledd. Er bod Paul mewn llawer ffordd ynghlwm wrth safbwyntiau gwrth-fenywaidd, eto fe oedd yr un a ddisgrifiai gymdeithas lle nad oedd dim gwahaniaeth rhwng ‘Iddew a Groegwr, caeth a rhydd, gwryw neu fenyw’.

Ond yr oedd hi’n gymuned â’i gwreiddiau’n ddwfn yn y traddodiad Iddewig, ac wedi ei hamgylchynu â diwylliant Groeg a Rhufain a wadai le i wragedd yn y bywyd cyhoeddus – systemau patriarchaidd i gyd. Mae systemau chwyldroadol yn aml yn dechrau drwy sôn am gyfartaledd, ond yn fuan yn syrthio ’nôl ar safbwyntiau patriarchaidd. (Eithriad fu’r Crynwyr yn hyn o beth.) Mae’n gwbl rhyfeddol fod gwŷr a gwragedd, ar waethaf casineb at wragedd (misogyny) a gynhaliwyd gan gau ddiwinyddiaeth, wedi llwyddo i fyw mewn teuluoedd cariadus, gan ddarganfod llawenydd a sancteiddrwydd ar sail y gwahaniaethau a’r tebygrwydd rhyngddynt.

Ond mae ’na newid wedi bod. Mae ’na ddarnau yn yr ysgrythurau sy’n cael eu gollwng o’r llithiaduron am eu bod yn chwerthinllyd o amherthnasol ac yn ‘embaras’ i’r meddwl ni heddiw, fel y cyfeiriadau at gaethwasiaeth.

Dichon fod angen rhywun o gefndir diwylliannol pur ddryslyd, sydd mewn cysylltiad â sawl myth cychwynnol, i ddisgrifio digrifwch a thrasiedi’r ffordd y mae gwŷr a gwragedd yn ymddwyn y tu mewn i batrymau a rheolau gwahanol.

Bardd a nofelydd yw Louise Erdrich ac yr oedd ei nofelau cynnar yn disgrifio bywydau cyfoes llwythi cynhenid America. Fe’i maged yng Ngogledd Dakota ac mae hi o dras Americanaidd ac Ewropeaidd. Mae hi’n aelod wedi ei chofrestru o dylwyth Turtle Mountain o lwyth yr Ojibwe. Mae ganddi gysylltiadau Almaenig hefyd, ac fel llawer o Americaniaid mae ganddi ddiddordeb ysol yn y broses o alltudio ac ymgartrefu yn y Byd Newydd lle mae gwahanol bobloedd a diwylliannau yn cymysgu, a sut mae pethau’n datblygu o genhedlaeth i genhedlaeth.

Yn Love Medicine mae hi’n disgrifio bywyd ar diriogaeth neilltuedig (reservation), nid y tlodi a’r rhwystredigaeth yn unig, ond y diffyg egurder ac amgyffred. Disgrifia bobl o dras gymysg sy’n greadigol tu hwnt, ac eraill sy’n ddryslyd a ddiffrwyth. Thema arall bwysig ganddi yw effaith y genhadaeth Gristnogol ar y diwylliannau a’r crefyddau cynhenid. Bu’r eglwysi Catholig a Lutheraidd yn drwm eu dylanwad yn ei chefndir hi, heb sôn am y gorthrwm dirmygus a threfedigaethol ar addysg, diwylliannol ac economaidd.

Daw hyn i’r golwg mewn nofel â’r teitl bwriadol hirwyntog The Last Report on the Miracles at Little No Horse (Harper Collins, 2001). Prif gymeriad y nofel yw’r offeiriad Catholig Rufeinig Damien Modeste, sydd wedi byw ymhlith yr Ojibwe am dros hanner canrif. Yr oedd yr urdd genhadol yr oedd yn perthyn iddi wedi sefydlu eglwys ymhlith yr Ojibwe ers amser maith, ynghyd â chwfaint. Ond yr oedd effaith ysbrydolrwydd blodeuog, Catholig, y bedwaredd ganrif ar bymtheg â’i bwyslais trwm ar seintiau a gwyrthiau wedi cynhyrchu cymuned lle roedd amgyffred y bobl gynhenid o’r da, y gwir a’r hardd wedi cael eu hystumio. Ychydig iawn oedd wedi deall nac estyn at ddyfnder a lled y ffydd Gatholig. Trowyd diddordeb yn yr ysbrydol a’r goruwchnaturiol yn chwilio dryslyd am y gwyrthiol. Felly, mae merch ifanc friwedig yn dod yn ganolbwynt digwyddiadau gwyrthiol. Maen nhw eisiau eu ‘sant’ eu hunain, a daw ymchwiliad swyddogol o uchelderau Eglwys Rufain i ymchwilio i’r digwyddiadau yn Little No Horse. Yn y cefndir y mae cymuned eithriaol o dlawd a phobl oedd â’u bywydau wedi eu chwalu gan golled a newid.

Rhan o ddoniolwch dirdynnol y stori yw mai benyw yw’r ‘Tad Damien’. Rhydd rhannau agoriadol y nofel i ni stori’r Agnes de Witt ifanc, sydd wedi colli’r cwbl sydd ganddi, hyd yn oed ei dillad o ganlyniad i storm, llifogydd a lladrad. Mae hi’n cyrraedd i blith yr ‘Indiaid’ yn gwisgo casog. Yr oedd ganddi ei stori gymhleth ei hun fel lleian; tan hynny yr oedd wedi bod yn Chwaer Cecilia, o dras Almaenig, ac yn ddwys ei chariad at gerddoriaeth.

Wedi ei bwrw allan drwy gyfres o anturiaethau trawmatig sy’n cynnwys carwriaeth ddwys, wedi ei dinoethi gan storm a llifogydd, mae hi’n cymryd casog offeiriad sydd wedi ei ladd. Mae’n ffordd o weinidogaethu i’r gymuned, ond yn y lle cyntaf yn ffordd o amddiffyn ei hunan yn erbyn trais rhywiol. Fel hyn, mae hi’n diogelu ei hun i fod yn anghyffyrddadwy yn ei rôl offeiriadol, ac yna mae hi’n darganfod bod yn rhaid iddi ddal ati.

Mae’r bobl yn ei derbyn fel offeiriad bychan bregus, braidd yn ferchetaidd – nid rhywbeth anghyffredin! Mae strwythurau’r sefydliad yn diffinio’i statws fel offeiriad, a’r un pryd yn crebachu ac yn cynnal ei bywyd. Wrth iddi hi chwarae rhan offeiriad, mae ei ffydd Gristnogol a’i phrofiad yn ei gwneud yn ymwybodol iawn o natur gywilyddus – hyd yn oed gableddus – ei thwyll, ond all hi ddim ymddihatru ohono a gadael heb wneud mwy o ddrwg nag a wnâi wrth ddal ati. Nid yn gymaint ei bod yn ofni cael ei dal, ond ei bod yn poeni y byddai ei gweinidogaeth yn cael ei gweld fel rhywbeth a allai wneud drwg tragwyddol i’r bobl y mae hi wedi eu caru a gofalu amdanynt. Y cwestiwn yw sut y gall sefydliad ddatgan drwy ei reolau fod cariad a gwasanaeth yn annilys.

Hanfod y stori yw’r ymgyrch i gael yr eglwys i ddatgan bod y Chwaer Leopolda, dynes rannol Indiaidd o’r enw Pauline Puyat, yn sant. Wrth i’r biwrocrat eglwysig ddechrau holi, mae’n cynhyrfu’r gymuned fregus ac yn bygwth dinoethi cyfrinach y Tad Damien. Gŵyr y Tad Damien nad oes gan y Chwaer Leolpolda yr un amgyffred o beth yw gwir natur sancteiddrwydd. Ond byddai dangos hyn yn bygwth y Tad Damien ei hun.

Ar un lefel, mae’r nofel yn ymateb i ddiwylliant eglwysig Eglwys Rufain. Ond mae’n fwy na hynny, oherwydd ei bod yn datgelu gallu trawsnewidiol hunanddarganfod rhywiol, hunanaberth a dawn ysbrydol cerddoriaeth a defod litwrgaidd. Mae’n disgrifio offeiriadaeth ddilys sy’n gwasanaethu pobl yr ymylon, rhai yr anghofiwyd amdanynt a’u dilorni a’u cau allan. Gwelwn sut y mae grym drygioni yn llygru ac yn dinistrio. Mae’r stori droellog, sy’n llawn ‘eironi’ doniol yn cael ei hadrodd yn ddwys, yn dyner ac yn fywiog. Mae’r ffiniau rhwng gwryw a benyw, lleyg ac ordeiniedig, Indiaid a gwynion, ysrbydolrwydd cynhenid ac athrawiaeth Gristnogol yn gawl cymysg. Mae’n gybolfa sy’n chwerthinllyd, yn gynhyrfus a thrasig.

Os oes rhyw fath o ddatrys ar y stori, fe ddaw yn y berthynas rhwng y Tad Damien a Nanapush, shaman y llwyth. Maen nhw’n gwrando ar ei gilydd ac yn cyrraedd rhyw fan ar y ffin rhwng y ddwy ffydd, y ddau ddiwylliant, lle mae’r ddau’n cydnabod dilysrwydd a diffuantrwydd y naill a’r llall. Daw’r ddau i ryw fan cyffredin sy’n her ac yn gysur. Hyd yn oed yn y llanast mae modd adnabod yr Ysbryd yn ‘gori’. Dyma Nanpush:

Mae ’na bedair haen uwchben y ddaear a than y ddaear. Weithiau, wrth greu neu freuddwydio fe fyddwn yn mynd drwy’r haenau, sy’n cynrychioli gofod ac amser. Wrth yngan y gair nindinawemaganidok, neu ‘fy holl dylwyth’, fe fyddwn yn llefaru am bob peth a fu erioed ym myd amser – yr hysbys a’r anhysbys, yr anweledig a’r amlwg, pobpeth a fu byw gynt ac sy’n bodoli nawr yn y bydoedd uwchben ac islaw.

Yn y nofel mae diwylliannau’n dod dan farn, ac mae Erdrich yn ein herio i ddod o hyd i’r hyn sydd gan yr efengyl i’w gynnig i’r llanast gwaddol. Beth sydd i’w ddweud am fenywdod a gwrywdod, am dra-arglwyddiaeth y gwynion a dileu hil, am fod yn fregus a bodloni ar fod yn wasaidd? Yn ei phregeth olaf, dywyll o synfyfyriol, wedi ei chywasgu o’i thaith a’i phoen, gofynna’r Tad Damien: ‘Beth yw cyfanswm ein byw ond sain cariad arswydus?’

Mae’r ymadrodd ‘cariad arswydus’ yn gysyniad hynod o drawiadol i Gristnogion sy’n sôn am ‘gario’r groes’. Mae’n cyfleu rhywfaint o’r ysfa bwerus sydd wedi gyrru a chynnal offeiriadaeth a sylfaenwyd ar dwyll. Mae hi’n cael ei maglu ar y ffin gan ddisgwyliadau pobl eraill, ac eto y mae hi ei hun yn cyrraedd at sancteiddrwydd sydd, er gwaetha’r twyll, yn tarfu ar y deddfau canonaidd.

Bu rhywedd yn hanfodol i’n hymwybod o bwy ydyn ni. Y cwestiwn cyntaf pan enir plentyn yw: ‘Bachgen ’te merch?’ Mae fel petai angen i ni wybod yr ateb cyn medru meddwl am y person a’n perthynas ni â hi/fe. Mae fel petai gwrywdod a benywdod y person newydd yn llunio nid yn unig pwy ydyn ni, ond sut i ymddwyn tuag at berson newydd. Mewn cymdeithasau traddodiadol y mae’r ffiniau rhwng gwŷr a gwragedd yn osodedig a chlir, a than yn ddiweddar magwyd ni i gyd yn ôl rhyw batrymau a disgwyliadau. Mae’r gwahaniaeth rhwng yr un sy’n creu cartref a’r un sy’n heliwr, yr un sy’n geni plant a’r un sy’n ceisio lladd eraill, yn arswydus o glir. Ond y mae’r amrywiaeth aruthrol o ffyrdd y bu i wŷr a gwragedd osod trefn ar eu bywyd gyda’i gilydd ac ar wahân yn dystiolaeth i’r ffaith mai’n anaml y down i ateb a threfn cwbl foddhaol. Nid yw’r gwahaniaeth rhwng dyn a dynes yn ddim mwy na’r gwahaniaeth rhwng unigolion a’i gilydd. Mae’n arwyddocaol hefyd fod y straeon am ein cychwyn, boed yn Genesis neu yn y traddodiad cynhenid Americanaidd, yn ystyried bod y berthynas rhwng y ddau rhyw yn greiddiol bwysig.

Y pennaf ymhlith yr amryw broblemau yw trais, a does ’na ddim gwraig na fu’n wrthrych ‘doniolwch’ traddodiadol gwrth-fenywaidd. Nid nad oes lle i ddoniolwch! Mae’n un o’r pethaf doniolaf amdanom.

Ac ar ben y cwbl, daeth i’r wyneb y rhychwant eang o hunaniaethau a welir yn y mudiad LGBT. Gwrando storïau, magu perthynas â phobl, a chlywed y boen, yr ansicrwydd a’r ofn sy’n tanseilio rhagfarnau – ac argyhoeddiadau hefyd. Mae gwrando stori bersonol â meddwl a chalon agored yn her i’r anwybodus a’r rhagfarnllyd. Ac mae’n ddiddorol nad ydi’r mater yn peri’r un anhawster i bobl ifanc – oni bai iddyn nhw gael eu llunio fel clai i feddwl mai dim ond un ffordd sydd o ddarllen y Beibl.

Yn y storïau am Iesu’n iacháu, mae ’na batrwm eglur o iacháu’r rhai oedd yn cael eu cau allan o’r Deml am eu bod yn dechnegol ‘aflan’, neu am eu bod yn cael eu beio am fod yn fethedig.

Onid dyna’r egwyddor hanfodol wrth fod yn ‘ffyddlon i’r Ysgrythur’?