Archif Awdur: Golygydd

Gŵyl Fai 2020

Gŵyl Fai 2020

Mae Gŵyl y Banc ddechrau mis Mai fel arfer yn cael ei chynnal ar ddydd Llun cynta’r mis. Y bwriad eleni, serch hynny, oedd cynnal yr ŵyl ddydd Gwener, 8 Mai, er mwyn nodi 75 mlynedd ers diwedd y rhyfela yn Ewrop ar 8 Mai 1945 – diwrnod VE (Victory in Europe). Bellach, mae Covid-19 wedi golygu na fydd unrhyw ddathliadau’n digwydd ar ŵyl Fai o gwbwl.

Ond mae’r garreg filltir hanesyddol yma yn gyfle i ni gofio, er ei bod hi’n 75 mlynedd ers i’r rhyfel ddod i ben yn Ewrop, fod ymarferion milwrol a’r gwariant ariannol ar baratoadau ar gyfer rhyfela wedi parhau. Ers y rhyfel mae llywodraethau’r Deyrnas Unedig wedi gwario cannoedd o filiynau o bunnoedd ar baratoi i fynd i ryfel, ac maent ar fin gwario rhagor.

Cyhoeddodd y llywodraeth yn ddiweddar ei bod yn codi’r gwariant milwrol o £2bn i £41.5bn. Caiff cyfran helaeth o’r arian hwnnw ei wario ar dros gant o awyrennau F-35 sydd wedi eu harchebu oddi wrth gwmni Lockwood.

F35. Awyrlu’r UD : gan Master Sgt. Donald R. Allen / Parth Cyhoeddus – Public domain

Mae’r arian yma’n fwy na dwywaith cymaint ag y mae’r Deyrnas Unedig yn ei wario ar geisio atal y bygythiad a ddaw yn sgil newid yn yr hinsawdd. Mae ganwaith yn fwy nag y mae’r llywodraeth wedi’i wario ar baratoi ar gyfer pandemig fel Covid-19, fel ry’m ni’n darganfod yn awr.

 

Dadl Ben Wallace, Ysgrifennydd Amddiffyn Prydain, mewn araith yn ddiweddar, yw bod ein gwariant milwrol yn ein galluogi i ymyrryd fel ‘grym er daioni’ mewn gwledydd lle mae gwrthdaro.

Ond, am yr ugain mlynedd diwethaf, bron, mae ymyrraeth milwrol y Deyrnas Unedig mewn gwledydd tramor wedi bod yn un o brif achosion gwrthdaro ac ansefydlogrwydd yn y byd. Mae ein hymyrraeth yn Irac ac yn Affganistan wedi cyfrannu tuag at greu mwy o ddioddefaint ac ansicrwydd yn y gwledydd hynny ac wedi hyrwyddo ffyniant mudiadau terfysgol fel Isis.

Ar hyn o bryd mae’r Deyrnas Unedig yn cyfrannu tuag at hyfforddi lluoedd milwrol Saudi Arabia yn ei hymosodiadau ar Yemen. Mae’r ymosodiadau hynny wedi achosi newyn enbyd yn y wlad, gan gyfrannu at gynnydd mewn afiechydon a chlefydau heintus. Mae Saudi Arabia wedi defnyddio arfau Prydain i fomio ysgolion, marchnadoedd ac ysbytai.

Ar ben y gwariant hwn i gyd, cyhoeddodd y llywodraeth yn y gyllideb ddiwethaf ei bod yn ‘creu cronfa newydd o £1bn i fenthyg arian i wledydd tramor i brynu nwyddau a gwasanaethau amddiffyn gan gwmnïau yn y Deyrnas Unedig’ – hynny yw, arfau. Y Deyrnas Unedig yw un o’r allforwyr arfau mwyaf yn y byd.

Ar achlysur cofio diwedd yr Ail Ryfel Byd, onid yw’r cynlluniau milwrol sydd ar droed gan y llywodraeth yn gywilydd ac yn warth, yn enwedig â ninnau yn y fath argyfwng ar hyn o bryd?

Wrth gloi, carwn dynnu eich sylw at ymgyrch ddiweddar ‘Healthcare, not Warfare’ gan Peace Pledge Union, gyda’r bwriad o bwyso ar y llywodraeth i wario mwy ar ‘Wella, nid Rhyfela’. Am fwy o wybodaeth:  

Mae Cymdeithas y Cymod wedi ryddhau’r neges yma o gefnogaeth i ymgyrch y PPU gan Mererid Hopwood:

Ac am na all bom waredu afiechyd,
Ac am na all gwn greu byd diofid,
Ac am na all ymladd na beunos beunydd
Wneud dim oll i wella’n gilydd

Heddiw
Trown beiriannau lladd yn beiriannau byw.

 

E-fwletin 3 Mai, 2020

Meudwyaeth

Wrth imi hunan-ynysu yma yn y tŷ, aeth fy meddwl ar grwydr at yr hunan-ynyswraig fwyaf dawnus a welodd y byd yma erioed. Rwy’n sôn am Emily Dickinson, bardd anhygoel o wreiddiol ei threiddgarwch. Am ugain mlynedd olaf ei bywyd anaml iawn y deuai allan o’i hystafell, heb sôn am fynd allan o’r tŷ. Yno y byddai gyda’i myfyrdodau a’i llythyrau a’i cherddi. O’i dyddiau ysgol gwrthododd blygu i dderbyn Calfiniaeth. Eithr datblygodd ryw gyfriniaeth bersonol, gan ei gweld ei hun mewn perthynas agos gyda Duw a Christ. O ran ei chrefydd yr oedd hi’n gwbl arbennig

Some keep the Sabbath going to church,
   I keep it staying at home
with a Bobolink for a chorister
   and an orchard for a dome.

Meddai hi wedyn am y ffordd y byddai pobol gynt yn credu:

Those dying then knew where they went,
   They went to God’s right hand;
That hand is amputated now
   And God cannot be found.

Mewn un llythyr mae’n dweud “Does gen i ddim parch at athrawiaethau.”

We both believe and disbelieve
   a hundered times an hour

Meddai am Iesu mewn cerdd arall:

He strained my faith...
Hurled my belief...
Wrung me with anguish...
Stabbed [me] while I sought His sweet forgiveness.

Ychydig sydd wedi canu am Iesu mewn ffordd mor rymus. Ond  go brin fod neb ychwaith, ar wahân i Ann Griffiths, wedi dangos y fath gariad tuag at Iesu. Lawer gwaith mae ei cherddi yn llawn sôn am fod yn briod â Iesu. Bydd rhai yn honni iddi wisgo gwyn bob dydd oherwydd ei bod am chwarae’r rhan yna, yn briodferch y Gwaredwr. Yr oedd ei charwriaeth gyda Christ yn angerddol, ond yn amhosib.

Chwilio am Iesu wnâi hi, a chael dysgeidiaeth ac athrawiaeth yn hollol ofer. Mewn un gerdd y mae hi’n dweud, pan fo pob cred wedi methu, o leiaf mae gweddi ar ôl:

At least to pray at last is left,
   Oh Jesus in the Air,
Your room I know not which it is -
   I'm knocking everywhere.

A dyna chi ar unwaith yn cofio ymchwil Ann Griffiths:

Byw dan ddisgwyl am fy Arglwydd,
    bod, pan ddêl, yn effro iawn
i agoryd iddo’n ebrwydd
    a mwynhau ei ddelw’n llawn.

Roedd Emily Dickinson, fel Ann Griffiths, yn defnyddio’r un ddelwedd, ei gweld ei hun yn briodferch i’r Iesu.

        I am ashamed - I hide - I hide
          What right have I to be a bride

Eto gwyddai fod ganddi addewid Duw y byddai hi yn dod i’r briodas honno,

        To that new Marriage, Justified
              through Calvaries of Love 

Dim ond athrylith a allai ganfod “Calfaria” yn y lluosog i ddisgrifio cariad diddiwedd Duw yng Nghrist. Ac wrth wynebu nosau a dyddiau diddig yn fy unigrwydd, bydd gweledigaethau Emily Dickinson yn gwmni a fydd yn fy syfrdanu ar bob tudalen.

Coch gwyn a gwyrdd

“Ar Fai y cyntaf helpwch yr Urdd
i droi’r diwrnod yn goch, gwyn a gwyrdd”

Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi bod 1 Mai 2020, yn Ddiwrnod Coch, Gwyn a Gwyrdd, ac y bydd yn codi arian i Llamau, prif elusen ddigartrefedd Cymru, ar y diwrnod arbennig yma. Mae aelodau a ffrindiau enwog yr Urdd yn annog pawb i gymryd rhan, trwy enwebu pum person i wisgo coch, gwyn a gwyrdd.

Mae teuluoedd, plant a hyd yn oed anifeiliaid anwes yn cael eu hannog i wisgo lliwiau’r Urdd. Gall pobl rannu eu lluniau ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio’r hashnod #UrddLlamau ac enwebu 5 person i wneud yr un peth. Gallwch gyfrannu drwy decstio URDD a’r swm yr hoffech ei gyfrannu, e.e. URDD5 i gyfrannu £5, at 70085. Mae tudalen justgiving hefyd ar gael: https://www.justgiving.com/cochgwynagwyrdd.

Mae gwaith Llamau, prif elusen ddigartrefedd Cymru ar gyfer pobl ifanc a menywod sy’n agored i niwed, yn bwysicach nag erioed. Mae’r elusen yn adrodd cynnydd yn nifer yr achosion o drais domestig, yn ogystal â phobl ifanc sy’n wynebu digartrefedd, gyda sofa surfers yn gadael cartrefi ffrindiau a theulu oherwydd y mesurau llymach ar hyn o bryd. Mae angen help ar Llamau i gefnogi’r bobl ifanc, y menywod a’r plant sydd yn eu gofal yn ystod y cyfnod hwn – gyda nifer heb fynediad i ardd na llefydd i chwarae ac ymlacio.

Dywedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru: “Fel mudiad ieuenctid mwyaf Cymru, roedden ni’n teimlo’n gryf y dylai’r Urdd fod yn gwneud rhywbeth positif i helpu ein partneriaid, Llamau. Mae’n gyfnod lle mae plant a phobl ifanc wedi dod yn ymwybodol iawn o anghenion cymdeithasol a sut gallan nhw helpu. Mae hefyd yn gyfnod lle mae croeso i rywbeth ychydig ysgafnach, felly gobeithio y bydd Diwrnod Coch, Gwyn a Gwyrdd yr Urdd yn rhoi gwên ar wynebau pobl, yn gyfle i rannu lluniau hwyliog ar-lein ac i godi rhywfaint o arian ar yr un pryd.”

Mae Llamau yn sefydliad sy’n gweithio gyda phobl ifanc a menywod bregus. Mae eu gwasanaethau hanfodol yn cynnwys – llety i bobl ifanc 24 awr y dydd, llochesau cam-drin domestig a chyngor ar wasanaethau cymorth argyfwng i bobl ifanc a menywod sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu o ddioddef camdriniaeth ddomestig, gan gynnwys Llinell Gymorth Digartrefedd Ieuenctid.

Wrth i’r sefyllfa fyd-eang COVID-19 barhau i esblygu, gwyddom fod hwn yn gyfnod anodd i lawer. Mae’n debygol o fod yn gyfnod anodd dros ben i’r bobl y mae Llamau yn eu cefnogi. Nid oes gan lawer ohonynt gefnogaeth ffrindiau a theulu fel sydd gan lawer ohonom ni, a thra mae eraill yn byw ‘adref’, yn anffodus nid yw’r adref hwnnw’n debygol o fod yn lle diogel.

Mae hwn yn gyfnod ansicr a phryderus i bawb a gwyddom fod gennych eich pryderon a’ch blaenoriaethau eich hunain. Fodd bynnag, os ydych mewn sefyllfa i helpu, byddem yn gwerthgfawrogi eich cefnogaeth. DIOLCH.

Cofiwch ddefnyddio #UrddLlamau i ddangos eich cefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gellir cael mwy o wybodaeth am Llamau ar www.llamau.org.uk.

Awdurdod y Cymun a’r lockdown

Awdurdod, y Cymun a’r lockdown

Tua diwedd yr 1980au oedd hi pan gododd y drafodaeth. Tydi hi ddim yn haeddu cael ei galw’n ddadl, heb sôn am ffrae, ond roedd yna drafodaeth eitha difrifol. Chofia i ddim bellach yn lle’r oedd yr Undeb i’w gynnal; aeth yr amser yn rhy hir i’r cof. Rhywle yn Sir Benfro, os cofiaf yn iawn, ond tydi hynny’n golygu fawr, gan mai’r gornel hynod honno o Gymru oedd un o gadarnleoedd yr enwad. Ond yn y sir honno yn rhywle yr oedd uchel ŵyl y Bedyddwyr i’w chynnal unwaith yn rhagor.

Fel pob enwad anghydffurfiol arall yng Nghymru, cymysgedd o wahanol gyfarfodydd busnes a defosiynol oedd yr Undeb hwn i fod: cyfle i swyddogion gyflwyno’u hadroddiadau; cyfle i’r Llywydd roi ei anerchiad; cyfle i bregethwyr gorau’r enwad ein swyno â’u huodledd. Ond y tro hwn, roedd gan yr eglwys lle y cynhelid y cyfarfodydd awydd cynnal oedfa gymun ar y bore Sul. A dyna destun y trafod.

Mae trefn y Bedyddwyr yn wahanol i’r Methodistiaid Calfinaidd a’r Annibynwyr. Un eglwys trwy Gymru gyfan sydd gan yr MCs – dyna pam y gelwir yr enwad yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Nifer fawr o eglwysi lleol ar hyd a lled y wlad sydd gan yr Annibyns, a phob un gynulleidfa yn gyfrifol am lywodraethu ei hunan. Yn yr ystyr hon o hunanlywodraeth yr eglwys leol, dyna drefn y Batus hefyd, ond bod gwahaniaeth pwysig – tra bo’r Annibynwyr yn undeb o eglwysi, undeb o gymanfaoedd ydi trefn y Bedyddwyr. Ond efallai mai manion ydi hynny erbyn heddiw.

Yr hyn sy’n bwysig ydi mai’r eglwys leol sy ben. Ac yn ôl traddodiad yr enwad, dim ond oddi mewn i’r eglwys gynnull y dylid cynnal cymundeb. Dyna pam y bu trafodaeth. Roedd yr eglwys lle y cynhelid cyfarfodydd yr Undeb am i gynrychiolwyr yr eglwysi dderbyn cymun fel Undeb. Na, meddai’r gwrthwynebwyr yn glir iawn, dim ond yr eglwys leol all weinyddu’r cymun. Nid eglwys leol sy wedi ymgynnull, ond yn hytrach cynrychiolwyr eglwysi wedi ymgasglu mewn Undeb. Ni fyddai’r cymundeb yn gymwys felly.

Fel cymaint arall yn hanes Anghydffurfiaeth Gymreig, daethpwyd o hyd i gyfaddawd derbyniol i bawb; wedi’r cwbl, sôn am y 1980au ydan ni, nid y 1880au. Bydded i’r eglwys leol gynnal oedfa gymun a gwahodd pwy bynnag arall oedd am ymuno gyda nhw at y bwrdd. Digon teg, am wn i. Fyddai neb o’r tu allan wedi gweld gwahaniaeth o gwbl, ond roedd yr enwad wedi dod dros y broblem.

Maddeuwch ragarweiniad eithaf hir i’r ysgrif, ond mae’r hanesyn yn dangos inni’r problemau a gyfyd i draddodiad pan ddaw gweinyddu’r cymun yn fater trafodaeth. Ac yng nghanol lockdown y Coronafirws, daeth dilysrwydd y cymundeb yn fater trafod unwaith yn rhagor. Gydag adeiladau ein heglwysi ar gau, a ddylem ni gael rhyddid i weinyddu cymundeb adref? Dyna’r cwestiwn.

Ffenest y Cymun Bendigaid, Eglwys Llanfihangel-genau’r-glyn

I un sydd â’i egwyddorion wedi eu plannu yn naear yr Ailfedyddwyr – er mai gyda’r Eglwyswyr yr addolaf – tydi’r cwestiwn ddim yn codi o gwbl. Bydd Helen a minnau’n torri bara ac yfed o’r cwpan yn y ffordd symlaf posib bob bore Sul. Tydi hynny ddim yn golygu nad ydw i’n cael budd a bendith o drefn yr Eglwys yng Nghymru – ddim o gwbl. Ond phlyga i’r un glin i’r peth chwaith. Tydi drysau eglwys y plwyf ddim ar agor; tydi’r offeiriad ddim ar gael i arwain; ond ddylai hynny ddim golygu na alla i dderbyn bendith Swper yr Arglwydd.

Dyna fy marn i. Gwn yn iawn nad dyna farn pawb. O bosib mai barn leiafrifol iawn ydyw oddi mewn i’r Eglwys, onid oddi mewn i sawl enwad arall yng Nghymru.

Bid a fo am hynny. Mae mwy i’r cwestiwn, wrth gwrs, na beth ydi eglwys; mae hefyd yn gwestiwn o bwy ddylai weinyddu. Unwaith yn rhagor, dywed f’egwyddorion ailfedyddiedig wrthyf nad oes angen rhyw boeni fawr am hyn chwaith. Offeiriadaeth yr holl saint ydi un o egwyddorion mawr y traddodiad. Does dim angen person wedi ei ordeinio i weinyddu’r cymun na’r bedydd. Defnyddiol iawn mewn oes lle mae prinder gweinidogion ordeiniedig, a mwy defnyddiol byth yng nghyfnod y lockdown!

Yn y bôn, mater o awdurdod yw hwn. Pwy yw’r person awdurdodedig i weinyddu’r ordinhad? Yr hyn a rydd awdurdod ydi’r act o ordeinio. Mae’r gair o bosibl yn golygu rhywbeth ychydig yn wahanol mewn gwahanol draddodiadau. Mae’r Bedyddwyr yn ordeinio’u gweinidogion – gan roi statws arbennig iddynt. Ond ddim mor arbennig ­ gobeithio – fel nad ydyw’n tarfu ar offeiriadaeth yr holl saint. Tybiaf ei fod yn gryfach gair yng ngeiriadur y Presbyteriaid, er bod peth llacio wedi bod yn ein hoes brin-o-weinidogion. Ond llaciodd yr Eglwyswyr ddim ar y gair – er bod yna lawn cymaint o greisis gweinidogaethol yn eu plith hwy ag unrhyw enwad arall. Na, dim ond offeiriad all weinyddu’r sagrafen. Rhoddwyd iddynt awdurdod rhyfeddol ar ddydd eu hordeinio, ac ni all dim wanio hynny. Dyna reswm sawl un dros beidio ag ordeinio merched. Ydach chi’n cofio’r drafodaeth honno? Mae’r offeiriad wedi ei osod ar wahân mewn ffordd unigryw – a dim ond dynion all gario’r fath awdurdod. Ac y mae ambell un, yn ôl y sôn, sy’n parhau i ddadlau felly. Awdurdod, felly, ydi’r gair allweddol.

Aeth amddiffyn yr awdurdod hwn yn bwysig, hyd yn oed yng nghyfnod y lockdown. Chaiff neb arall weinyddu’r cymun, er y golygai hynny na chaiff neb arall dderbyn y cymun chwaith. Yn wir, mae ambell offeiriad yn torri bara yn ei eglwys ac yn cael ei ddarlledu’n fyw i gartrefi ei blwyfolion yn gwneud hynny. Ysywaeth, yr offeiriad yn unig sy’n cymuno. Gwylio y mae pawb arall.

Eironi mawr y sefyllfa hon ydi mai’r traddodiadau hynny a rydd y pwyslais mwyaf ar bwysigrwydd cymuno, ac ar wir bresenoldeb Crist mewn ffordd gwbl unigryw yn y cymun, ydi’r un traddodiadau ag sy’n atal eu plwyfolion rhag cymuno yn ystod y lockdown. Onid yw eu pwyslais ar awdurdod unigryw’r offeiriad/gweinidog bellach yn atal y lleygwyr rhag derbyn eu bwyd ysbrydol?

Ydi hi’n amser meddwl eto am y pethau hyn? Dadl rhai yn nyddiau cynnar yr argyfwng ydi na ddylid newid athrawiaethau pwysig oherwydd anghyfleuster byr-dymor. Digon teg. Ond aeth y tair wythnos yn chwech yn barod, a does dim arwydd fod ymgynnull eglwysig yn mynd i gael ei ganiatáu yn fuan.

Am ba hyd, felly, y caniatewch chi i’r saint beidio derbyn y cymun? Ynteu ydi awdurdod yn ben ar bopeth bellach?

Dyfed Wyn Roberts

E-fwletin 26 Ebrill, 2020

Hanes y daith i Emaus a gawn ni yn y darlleniad o’r Efengyl sydd yn y Llithiadur ar gyfer heddiw. Fel mae’n digwydd, mae gen i atgofion melys iawn am fod yn Emaus yr adeg hon o’r flwyddyn tua chwarter canrif yn ôl. O leiaf, rwy’n credu mai yn Emaus yr oeddwn i, achos does neb yn siŵr iawn ble’n union mae’r pentref hwnnw.  Yn ôl ffrind i mi oedd wedi ei eni a’i fagu yn Jerwsalem, doedd yr enw’n golygu dim, a gan mai Iddew yw Nissim, doedd yr hanesyn o’r Testament Newydd ddim yn gyfarwydd chwaith. Ei farn ef oedd y gallai Emaus fod yn un o chwech neu saith o wahanol lefydd, ond wedi pendroni’n hir daeth i’r casgliad mai tref Arabaidd o’r enw Abu Gosh oedd y lleoliad mwyaf tebygol.

Pan gyrhaeddom ni yno, gwelsom eglwys ar y bryn gerllaw wedi ei chysegru i Arch y Cyfamod, a’r hanesyn am drigolion Ciriath-iearîm yn ei chludo i gartref Abinadab er  mwyn i’w fab, Eleasar, ofalu amdani. Roedd deall hynny fel petae’n cryfhau’r ddamcaniaeth mai yma’n wir y bu i Iesu dorri bara gyda’r ddau ddisgybl wedi iddo atgyfodi. Aethom ninnau yn ein blaenau i dŷ bwyta cyfagos lle cawsom ni gwmni pedwar o Arabiaid lleol dros damaid o ginio, a hwythau’n rhyfeddu o glywed ein stori ni am Emaus.

Un o’r fintai y diwrnod hwnnw oedd y diweddar Brifardd Dafydd Rowlands, ac fe sgrifennodd gerdd am y digwyddiad, dan y teitl “Abu Gosh”. Mae’n gorffen fel hyn:

Abu Gosh
Arabiaid sy’n byw ’ma nawr
Yn y pentre hwn ym mryniau Jwdea
Saith milltir a hanner o Jerwsalem
Saith milltir a hanner - os hynny -
O bobman.

Yr awgrym amlwg gan y bardd yw nad union leoliad Emaus sy’n bwysig o gwbl. Nid lle yw Emaus, ond profiad, sef cael y cyfle i gyd-deithio gyda Iesu, a dod i’w adnabod yn y mannau mwyaf annisgwyl.  Yn yr hanesyn yn y Testament Newydd, hwn oedd ymddangosiad cyntaf Iesu wedi’r Atgyfodiad, a’r hyn sy’n bwysig yw na wyddai’r disgyblion ei fod yn cadw cwmni iddyn nhw. Tybed sawl gwaith mae hynny wedi bod yn rhan o’n profiad ninnau wrth inni deithio ar hyd ffordd y ffydd? Ac fe wyddom mai yn y llefydd lleiaf tebygol y down i adnabod cariad a thosturi Iesu yn aml iawn.

Heno, fydd yna ddim rhannu bara pan ddaw hi’n fin nos yn Abu Gosh, er bod yr arferiad o ymgynnull i gymdeithasu ar derfyn dydd yn un o bleserau mawr cyfnod y Ramadan. Ond nid eleni, ynghanol y gwaharddiadau presennol. Bydd yr ymprydio’n ystod y dydd hefyd yn anos heb alwadau gwaith a dyletswyddau dyddiol i symud meddwl dyn. Ond ym mryniau Jwdea fel mewn sawl mosg yng Nghymru, ar strydoedd Jerwsalem fel ag yng Nghaerdydd neu yng Nghaernarfon, bydd daioni a thrugaredd yn amlygu eu hunain yn y sefyllfaoedd tywyllaf, waeth yn enw pa grefydd y bydd hynny’n digwydd.

Yn y pen draw, i’r un man y bydd ffordd y ffydd yn ein harwain, os byddwn yn arddel yr enw Emaus neu Abu Gosh.

E-fwletin 19 Ebrill, 2020

Mwy o Eiriau

Rwyf wedi sôn mewn lle arall am sut mae geiriau’n newid eu hystyron neu’n magu bloneg yn y dyddiau rhyfedd hyn. Ystyriwch: ‘smai?/shwmae?’ ‘ti’n ok?’ ‘iechyd da!’ ‘cadw’n iawn?’, ‘cadw hyd braich’ (neu ddwy neu dair), ‘gweld o bell’ (a dim nes na hynny), ‘wela’i di’ (gobeithio).

Pethau oedd bedair wythnos yn ôl yn ddim mwy na geiriau llanw’n byw bob dydd, sy bellach yn drwm o ystyr.

Mae rheidrwydd wedi gorfodi llawer ohonon ni i droi at y byd rhithiol am y tro cyntaf i weithio, i weld ein ffrindiau a’n teuluoedd neu i addoli. Ond mae nifer ohonon ni oedd eisoes yn byw cryn dipyn o’n hamser yn y byd hwn wedi dod o hyd i gilfachau newydd hefyd. Yn fy achos i cynadleddau fideo ydy’r dechnoleg honno. Doeddwn i ddim ofn y dechnoleg, roeddwn wedi ei defnyddio, ond doeddwn i ddim yn dewis ei defnyddio. Bellach mae’n rhaid i mi ac fe fydd yn newid rhan o mywyd i am byth.

Rwyf wedi cyfweld pobl am swydd, wedi ‘mynd allan’ i ffarwelio â chydweithiwr, wedi cynnal myrdd o gyfarfodydd, cyfarfod ffrindiau coleg am baned, wedi ‘faceteimio’ fy mam a’m modrybedd ac wedi ymuno â gwasanaethau na fyddwn i byth wedi ymuno â nhw fel arall.

Ac yn sgil hyn oll mae geiriau wedi magu ystyron newydd yn y byd rhithiol yn ogystal.

Tra’n hiraethu am gyfarfod, ysgwyd llaw a chofleidio, onid ydan ni bellach yn gwerthfawrogi ‘cadw mewn cysylltiad’ (efallai bod eironi’r Saesneg ‘keep in touch’ yn gryfach) mewn ffordd arall?  A chyfarfod ‘wyneb yn wyneb’ wedi mynd i olygu rhywbeth gwahanol. Efallai ein bod ni’n gweld emosiwn ar sgrin nad ydan ni’n ei glywed dros y ffôn?

Rhai o’r ymadroddion sy’n britho’n sgyrsiau ni mewn ffordd na wnaethon nhw erioed o’r blaen ydy ‘wyt ti’n fy nghlywed i?’ ac ‘wyt ti’n fy ngweld i?’

Fy mantra i ar hyn o bryd ydy meddwl allan o’r bocs a pheidio meddwl y bydd popeth yn mynd yn ôl i mewn iddo fo. Pan ddown ni allan o hyn fyddwn ni ddim yn adeiladu ar yr un seiliau. Yn wleidyddol allwch chi fentro y bydd ein gelynion ni’n manteisio ar bob cyfle, yn gymdeithasol gobeithio y byddwn ni, o hiraethu am yr agosatrwydd oedden ni’n arfer ag o, yn ei werthfawrogi fwyfwy. O ran addoliad, mae pob adnodd a grëir yn lleol ar gael i’r byd i gyd ac yn cynnig cyfle i brofi amrywiaeth o leisiau a phatrymau addoliad.

Mae fy mam yn siarad ar y fideo â’m modryb. Maen nhw’n gymdogion ac wedi gweld ei gilydd bob dydd ers degawdau. Gobeithio y byddwn ni fel eglwysi yn gwrando’n fwy astud byth am y lleisiau hynny sy’n holi ‘wyt ti’n fy nghlywed i?’ ac ‘wyt ti’n fy ngweld i?’ ac yn estyn allan fwy nac erioed i gyffwrdd â nhw. Yn eironig efallai fe fydd y dechnoleg oedd yn hwyluso cyswllt o bellafoedd byd yn rhan annatod o’r estyn allan a’r cyfwrdd hwnnw yn bell ac yn agos.

Llwybrau

Dyma gerdd fuddugol i’r dysgwyr yn Eisteddfod 2017, gan Judith Stammers, gafodd ei anfon ataf fore Sul y Pasg, gyda thristwch nad oedd eglwysi Bangor eleni’n gallu ymgynnull i  fyny yn y ‘Gwersyll Rhufeinig’ ar doriad gwawr i ddathlu’r atgyfodiad. 
AJE

LLWYBRAU    
Bore Sul y Pasg, Gwersyll Rhufeinig, Bangor

Trwy’r wawr ’dan ni’n dod
O bob cyfeiriad, i gopa’r bryn:
Ar lwybrau cul drwy’r goedwig dywyll  
Lle mae llygaid Ebrill yn gloywi ymhlith y dail,
Llwybrau bach, prin yn weladwy dros y glaswellt,
Llwybrau llithrig, llethrog, ar y bryn.

’Dan ni’n cyrraedd y copa.
’Dan ni o bob oed, bob capel, eglwys, enwad,
Henoed yn pwffio, plant hanner cysglyd eto.
Efo’n gilydd ’dan ni’n canu,
’Dan ni’n dathlu,
Dathlu atgyfodiad, gwanwyn, cyfeillgarwch.

Yn sydyn mae’r haul yn codi.
Dyma’r mynyddoedd, afon Menai, Môn, y porthladd,
Strydoedd a thai Bangor yn nythu odanon ni.
Efo’n gilydd ’dan ni’n syllu,
’Dan ni’n synnu,
Synnu at ein gwlad, harddwch, heddwch …

Bellach mae’n amser mynd i lawr
At ein bywydau unigol
Ar hyd llwybrau ar wahân.

Judith Stammers, 2017

Paid â glynu wrthyf

Paid â glynu wrthyf – paid dal gafael ynof fi
(Beibl.net)

Ers tair wythnos bellach mae aelodau Eglwys y Berth, Penmaen-mawr, wedi cynnal eu hoedfaon dros y ffôn. Y Sul cyntaf, y gynulleidfa ffyddlon wythnosol oedd yno – ynghyd ag Elwyn, y trysorydd, sy’n byw yng Nghaeredin. Mae’r gynulleidfa bellach wedi tyfu i gynnwys aelodau eglwysi eraill o Lanbryn-mair; Dryslwyn, Sir Gaerfyrddin; Tal-y-bont, Conwy; a Chasnewydd!

Yn ein Ffoniadaeth y Cysegr ar Sul y Pasg arweiniodd y Parch Olwen Williams ni’n ddychmygus drwy lygaid Mair Magdalen i weld digwyddiadau’r Wythnos Fawr: at artaith ac erchylltra’r Croeshoeliad, a thrwy hynny at fore bach y trydydd dydd a’r cyfarfyddiad hyfryd yn yr ardd.

Roedd bwrlwm ac emosiwn, tyndra ac ofn yr wythnos yn berwi yng nghymeriad Mair Magdalen: ei dryswch a’i galar, ei hunigrwydd ysig ynghanol ei dagrau.

A’r llais, yr enw a’r adnabyddiaeth – ‘dim ond Iesu allai ddweud fy enw fel’na!’ – y tynerwch rhyfeddol, y cyffyrddiad gofalgar a charedig. Gobaith yr atgyfodiad! Goleuni’r trydydd dydd!

Paid â glynu wrthyf, meddai wedyn. Ar ôl y tynerwch, y gorchymyn anodd hwnnw i ollwng gafael.

A ninnau ynghanol y dyddiau o ollwng gafael ar gwmni ein gilydd, o hunanynysu a thorri unrhyw gysylltiad corfforol â theulu a chyfeillion, fe gofiwn fod yr hanes cyntaf hwn o atgyfodiad Iesu wedi bod yn gyfarfyddiad ag unigolyn – gwraig, ar ei phen ei hun, gwraig oedd wedi arfer cael ei hesgymuno a’i gwrthod, gwraig amheus y saith cythraul, gwraig oedd wedi hen arfer hunanynysu rhag pobl eraill a’u gwawdio sarhaus.

Ac er y gorchymyn i beidio â chyffwrdd (William Morgan), i beidio glynu wrthyf (BCN), neu i beidio dal gafael ynof fi (Beibl.net), mae cwlwm y cariad, tynerwch y llais, adnabyddiaeth yr enw yn dal i gydio ynom drwy brofiadau Mair, yn ein cydio’n dynn yn ein gilydd ar draws y gwacter dau fetr a mwy – ac yn ein cofleidio yng nghalon Duw.

‘Mae o/hi wedi gollwng’ ydi cri balch rhiant wrth i blentyn gymryd ei gamau sigledig cyntaf a cherdded.

Beth fyddwn ni’n ei ollwng dros yr wythnosau nesaf fydd yn help i ni symud ymlaen yn gryfach ar ein taith ffydd fel unigolion ac fel eglwysi, tybed?

E-fwletin Sul y Pasg, 2020

Ni fethodd gweddi daer erioed…

Diddorol oedd deall fod y Pab Francis yn annog Catholigion i droi’n union at Dduw i geisio maddeuant os nad oedd offeiriad ar gael i’w harwain mewn cyffes yn ystod yr argyfwng presennol. Yn eu paratoadau ar gyfer y Pasg, mae’n arfer gan lawer o Gatholigion i ymweld ag offeiriad i gyffesu’u pechodau. Esboniodd y Pab ei bod yn gwbl bosibl iddynt nesáu at faddeuant Duw heb gael offeiriad wrth law.

A dyma feddwl am ein sefyllfa ni, gapelwyr ac eglwyswyr, y dyddiau hyn. Mae’n hadeiladau ar gau a’r cyfle i ni ddod at ein gilydd  i addoli dan  arweiniad gweinidog neu glerigwr, dyweder, wedi diflannu dros dro. Diolch, wrth gwrs, am ymdrechion glew y cyfryngau torfol a chymdeithasol i’n cadw ynghyd. Buom yn araf iawn at ei gilydd i fabwysiadu’r diwylliant digidol ac addasu iddo ac onid yw’n eironig fel mae Covid-19 wedi’n gorfodi ni, gerfydd ein clustiau ambell waith, i’r cyfeiriad hwnnw.

Ond nid yw hyd yn oed y cyfryngau cymdeithasol yn gallu llanw’r gwacter yn llwyr ychwaith. A phan mae’n byd yn newid yn syfrdanol a’n trefn feunyddiol yn chwalu, mae gofyn i ni yn ein bywyd personol addasu i sefyllfa newydd a mabwysiadu trefn amgen yn ein hunigedd mewn ymdrech i gynnal iechyd meddwl ac ysbrydol da.

Wrth feddwl, dyw unigedd ddim yn sefyllfa hollol anobeithiol i gyflawni hynny ychwaith  Hyd yn oed mewn sefyllfa fel hon dydyn ni ddim yn bell oddi wrth Dduw. Yn wir, gall unigedd ein helpu i nesáu at Dduw – dim ond i ni ddefnyddio’n hamser yn ddoeth.

Y ffordd orau i ddysgu am werth unigedd yw drwy edrych ar fywyd Iesu ei hunan. Rydyn ni’n darllen yn y Beibl fel y byddai’n mynd wrth ei hunan i le unig neu i ben mynydd i weddïo.  Byddai’n ymwahanu oddi wrth ei bobl, gweithgareddau bywyd bob dydd a gofynion ei weinidogaeth  er mwyn treulio amser yn unig gyda Duw.  Byddai’n gwneud hynny gyda’r hwyr neu’n gynnar yn y bore fel y gallai roi ei holl feddwl yn llwyr ar Dduw. Gwnaeth hynny wrth baratoi ar gyfer tasgau arbennig. Aeth allan i’r mynydd, er enghraifft, a threulio noson gyfan wrth ei hunan yn gweddïo ar Dduw cyn gwneud penderfyniad pwysig yn gynnar yn ei weinidogaeth, sef dewis ei ddeuddeg disgybl  A chododd yn gynnar a mynd ymaith i le unig i weddïo cyn dechrau taith bregethu drwy holl Galilea. Byddai’n troi at weddi mewn unigrwydd yng nghanol gofid mawr. Gwnaeth hynny cyn iddo gael ei restio pan aeth ymlaen ychydig oddi wrth ei ddisgyblion yng Ngardd Gethsemane i weddïo. Gweddi oedd sylfaen ei weinidogaeth.  Treuliodd sawl tro’n encilio i fannau unig i weddio ac mae’n ein hannog ninnau i droi at Dduw yn yr un modd er mwyn ini ddod i’w adnabod fel Tad. A mwy na hynny, fe’n dysgodd sut i weddïo.

Ydy, mae cyngor y Pab i’w braidd yr un mor berthnasol i ninnau. Yng nghanol ein hunigedd presennol, mae modd i ni fanteisio ar y cyfle euraidd sydd gennym i gysylltu’n union â Duw mewn gweddi i erfyn am ei faddeuant a’i gynhaliaeth mewn bywyd.