Meudwyaeth
Wrth imi hunan-ynysu yma yn y tŷ, aeth fy meddwl ar grwydr at yr hunan-ynyswraig fwyaf dawnus a welodd y byd yma erioed. Rwy’n sôn am Emily Dickinson, bardd anhygoel o wreiddiol ei threiddgarwch. Am ugain mlynedd olaf ei bywyd anaml iawn y deuai allan o’i hystafell, heb sôn am fynd allan o’r tŷ. Yno y byddai gyda’i myfyrdodau a’i llythyrau a’i cherddi. O’i dyddiau ysgol gwrthododd blygu i dderbyn Calfiniaeth. Eithr datblygodd ryw gyfriniaeth bersonol, gan ei gweld ei hun mewn perthynas agos gyda Duw a Christ. O ran ei chrefydd yr oedd hi’n gwbl arbennig
Some keep the Sabbath going to church,
I keep it staying at home
with a Bobolink for a chorister
and an orchard for a dome.
Meddai hi wedyn am y ffordd y byddai pobol gynt yn credu:
Those dying then knew where they went,
They went to God’s right hand;
That hand is amputated now
And God cannot be found.
Mewn un llythyr mae’n dweud “Does gen i ddim parch at athrawiaethau.”
We both believe and disbelieve
a hundered times an hour
Meddai am Iesu mewn cerdd arall:
He strained my faith...
Hurled my belief...
Wrung me with anguish...
Stabbed [me] while I sought His sweet forgiveness.
Ychydig sydd wedi canu am Iesu mewn ffordd mor rymus. Ond go brin fod neb ychwaith, ar wahân i Ann Griffiths, wedi dangos y fath gariad tuag at Iesu. Lawer gwaith mae ei cherddi yn llawn sôn am fod yn briod â Iesu. Bydd rhai yn honni iddi wisgo gwyn bob dydd oherwydd ei bod am chwarae’r rhan yna, yn briodferch y Gwaredwr. Yr oedd ei charwriaeth gyda Christ yn angerddol, ond yn amhosib.
Chwilio am Iesu wnâi hi, a chael dysgeidiaeth ac athrawiaeth yn hollol ofer. Mewn un gerdd y mae hi’n dweud, pan fo pob cred wedi methu, o leiaf mae gweddi ar ôl:
At least to pray at last is left,
Oh Jesus in the Air,
Your room I know not which it is -
I'm knocking everywhere.
A dyna chi ar unwaith yn cofio ymchwil Ann Griffiths:
Byw dan ddisgwyl am fy Arglwydd,
bod, pan ddêl, yn effro iawn
i agoryd iddo’n ebrwydd
a mwynhau ei ddelw’n llawn.
Roedd Emily Dickinson, fel Ann Griffiths, yn defnyddio’r un ddelwedd, ei gweld ei hun yn briodferch i’r Iesu.
I am ashamed - I hide - I hide
What right have I to be a bride
Eto gwyddai fod ganddi addewid Duw y byddai hi yn dod i’r briodas honno,
To that new Marriage, Justified
through Calvaries of Love
Dim ond athrylith a allai ganfod “Calfaria” yn y lluosog i ddisgrifio cariad diddiwedd Duw yng Nghrist. Ac wrth wynebu nosau a dyddiau diddig yn fy unigrwydd, bydd gweledigaethau Emily Dickinson yn gwmni a fydd yn fy syfrdanu ar bob tudalen.