E-fwletin 26 Ebrill, 2020

Hanes y daith i Emaus a gawn ni yn y darlleniad o’r Efengyl sydd yn y Llithiadur ar gyfer heddiw. Fel mae’n digwydd, mae gen i atgofion melys iawn am fod yn Emaus yr adeg hon o’r flwyddyn tua chwarter canrif yn ôl. O leiaf, rwy’n credu mai yn Emaus yr oeddwn i, achos does neb yn siŵr iawn ble’n union mae’r pentref hwnnw.  Yn ôl ffrind i mi oedd wedi ei eni a’i fagu yn Jerwsalem, doedd yr enw’n golygu dim, a gan mai Iddew yw Nissim, doedd yr hanesyn o’r Testament Newydd ddim yn gyfarwydd chwaith. Ei farn ef oedd y gallai Emaus fod yn un o chwech neu saith o wahanol lefydd, ond wedi pendroni’n hir daeth i’r casgliad mai tref Arabaidd o’r enw Abu Gosh oedd y lleoliad mwyaf tebygol.

Pan gyrhaeddom ni yno, gwelsom eglwys ar y bryn gerllaw wedi ei chysegru i Arch y Cyfamod, a’r hanesyn am drigolion Ciriath-iearîm yn ei chludo i gartref Abinadab er  mwyn i’w fab, Eleasar, ofalu amdani. Roedd deall hynny fel petae’n cryfhau’r ddamcaniaeth mai yma’n wir y bu i Iesu dorri bara gyda’r ddau ddisgybl wedi iddo atgyfodi. Aethom ninnau yn ein blaenau i dŷ bwyta cyfagos lle cawsom ni gwmni pedwar o Arabiaid lleol dros damaid o ginio, a hwythau’n rhyfeddu o glywed ein stori ni am Emaus.

Un o’r fintai y diwrnod hwnnw oedd y diweddar Brifardd Dafydd Rowlands, ac fe sgrifennodd gerdd am y digwyddiad, dan y teitl “Abu Gosh”. Mae’n gorffen fel hyn:

Abu Gosh
Arabiaid sy’n byw ’ma nawr
Yn y pentre hwn ym mryniau Jwdea
Saith milltir a hanner o Jerwsalem
Saith milltir a hanner - os hynny -
O bobman.

Yr awgrym amlwg gan y bardd yw nad union leoliad Emaus sy’n bwysig o gwbl. Nid lle yw Emaus, ond profiad, sef cael y cyfle i gyd-deithio gyda Iesu, a dod i’w adnabod yn y mannau mwyaf annisgwyl.  Yn yr hanesyn yn y Testament Newydd, hwn oedd ymddangosiad cyntaf Iesu wedi’r Atgyfodiad, a’r hyn sy’n bwysig yw na wyddai’r disgyblion ei fod yn cadw cwmni iddyn nhw. Tybed sawl gwaith mae hynny wedi bod yn rhan o’n profiad ninnau wrth inni deithio ar hyd ffordd y ffydd? Ac fe wyddom mai yn y llefydd lleiaf tebygol y down i adnabod cariad a thosturi Iesu yn aml iawn.

Heno, fydd yna ddim rhannu bara pan ddaw hi’n fin nos yn Abu Gosh, er bod yr arferiad o ymgynnull i gymdeithasu ar derfyn dydd yn un o bleserau mawr cyfnod y Ramadan. Ond nid eleni, ynghanol y gwaharddiadau presennol. Bydd yr ymprydio’n ystod y dydd hefyd yn anos heb alwadau gwaith a dyletswyddau dyddiol i symud meddwl dyn. Ond ym mryniau Jwdea fel mewn sawl mosg yng Nghymru, ar strydoedd Jerwsalem fel ag yng Nghaerdydd neu yng Nghaernarfon, bydd daioni a thrugaredd yn amlygu eu hunain yn y sefyllfaoedd tywyllaf, waeth yn enw pa grefydd y bydd hynny’n digwydd.

Yn y pen draw, i’r un man y bydd ffordd y ffydd yn ein harwain, os byddwn yn arddel yr enw Emaus neu Abu Gosh.