Archif Awdur: Golygydd

E-fwletin 28 Tachwedd, 2021

Goleuo cannwyll

Wrth fodio trwy’r llyfr emynau a gefais pan ddeuthum yn aelod llawn o Eglwys Bresbyteraidd Cymru ym mis Ionawr 1971 cefais fy hun yn myfyrio ar yr hyn a gynigiodd y blynyddoedd cynnar (plentyndod) hynny o fynd i’r capel a’r Ysgol Sul i mi; ymgyfarwyddo â’r Ysgrythurau – oherwydd bu’n rhaid i ni ddysgu adnodau pob wythnos; cariad at ganu emynau; gafael gadarn ar sol-ffa, a chwilfrydedd am wirionedd a dehongliad Beiblaidd.  Ond dydw i ddim yn cofio dysgu dim am dymhorau blwyddyn yr eglwys.

Rwyf wedi byw gyda Chatholig o’r Almaen ers pymtheg mlynedd ar hugain a chofiaf ei fraw pan ddeallodd fy mod yn gwybod dim am dymor yr Adfent… na thraddodiad y torch Adfent:  Y ddefod o greu’r dorch – casglu brigau celyn, uchelwydd a phinwydd o’r goedwig – dewis y canhwyllau priodol – gosod y torch mewn man amlwg… ar y bwrdd bwyd neu sil y ffenest.  Ac yna, ar y Sul cyntaf o Adfent, byddwn yn goleuo’r gannwyll o obaith (canhwyllau cariad, llawenydd a heddwch yn dilyn ar Suliau olynol y tymor), a threulio’r wythnos yn myfyrio ar y thema gobaith.

Erbyn heddiw, mae gobaith yn cael ei ddeall fel ‘disgwyl i rywbeth ddigwydd, ond nid yw’n gwbl siŵr y bydd’; mae’n debycach i ddymuniad; gobeithio y bydd y tywydd yn gwella… gobeithio na fydd y trên yn hwyr… ond o Hebraeg yr Hen Destament a Groeg y Testament Newydd gallwn ddod i’r casgliad bod ystyr Beiblaidd gobaith yn ddyfnach – yn fwy dwys:

…edrych yn ddisgwylgar tuag at y dyfodol –

yn seiliedig ar ein ffydd yn Nuw yn y presennol –

a ffyddlondeb Duw yn y gorffennol.

Nawr, onid yw hynny’n werth ychydig oriau o fyfyrio?

Ond efallai y byddai’n well gennych feddwl ar rywbeth gydag ychydig mwy o ddiwinyddiaeth ymarferol? Dywedodd Martin Luther King Jr:  “Mae’r gobaith am fyd diogel, a byd gwerth ei fyw ynddo, yn gorwedd ar ysgwyddau anghydffurfwyr disgybledig sy’n ymroddedig i gyfiawnder, heddwch a chymuned.”  Hmm! Pa mor ddisgybledig yw fy anghydffurfiaeth?  Pa mor ymroddedig ydw i i heddwch drwy gyfiawnder yn y cymunedau yr wyf yn byw ynddynt – yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol, yn fyd-eang?  Mae hynny’n werth ychydig oriau o ystyriaeth!

Neu efallai bod rhywbeth mwy rhyngbersonol at eich dant?  Mae Maya Angelou yn ein herio fel hyn:  “Y peth braf am obaith yw y gallwch ei roi i rywun arall sydd ei angen yn fwy na chi, ac fe welwch nad ydych wedi rhoi eich gobaith chi i ffwrdd o gwbl.”  Hmm!  Yn ddiweddar, pryd wnes i gerdded ochr yn ochr â rhywun yn eu trafferthion? Pryd wnes i eistedd gyda rhywun yn eu galar? ‘Pryd y’th welsom di’n newynog a’th borthi, neu’n sychedig a rhoi diod iti?  A phryd y’th welsom di’n ddieithr a’th gymryd i’n cartref, neu’n noeth a rhoi dillad amdanat?’

“Pam nad yw eich dewisiadau’n adlewyrchu eich gobeithion, nid eich ofnau?” ofynnodd Nelson Mandela.  Yn ystod yr wythnos hon, sef wythnos gyntaf yr Adfent, byddaf yn myfyrio ar ystyr gobaith yn fy mywyd wrth ddechrau fy mharatoadau ar gyfer y Nadolig – ac yn nyfodiad Emaniwel rwy’n addo eto i ddewis gobaith.

E-fwletin 21 Tachwedd, 2021

Amlygir drygioni’r rhieni gan y plant

Mae trais yn y cartref wedi bod yn bwnc trafod ers hanner can mlynedd. Mae nifer o enwadau a nifer o weinidogion unigol yn estyn cymorth i’r cymar sy’n dioddef trais, ond yn anaml y clywir eglwysi yn llefaru yn eglur i gondemnio’r trais, yn hytrach na’r ysgariad. Mae rhai diwinyddion, rhai Catholig ac Efengylaidd yn bennaf, yn dewis delfrydu priodas. Gan fod y wasg yn rhoi mwy o sylw i agwedd eglwysi at berthynas rhywiol nac at unrhyw ran arall o’u dysgeidiaeth, mae’r syniad fod parhad unrhyw a phob priodas yn rhan hanfodol o gred y Cristion yn aros – tu fewn ac oddi allan i’r eglwysi.

Dyfynnir yn aml yr addewid “hyd oni wahanir ni gan angau” neu “mewn hawddfyd ac adfyd” heb gydnabod fod y cwpl wedi gwneud aduniadau gan ddisgwyl y bydd eu cymar yn cadw’r un addunedau. Mae Duw yn bendithio priodasau pan fo’r ddau yn ceisio cadw’r un addewidion. Pan mae priodas yn methu, er gwaetha pob ymdrech gan un cymar, clywir yn rhy aml am feirniadaeth gan gyd- Gristnogion. Dwedir wrthynt fod Duw yn disgwyl iddynt ddioddef a bod maddau, heb dystiolaeth o edifeirwch, yn rhan o addunedau’r briodas. Cyfeirir at ysgariad fel pechod yn hytrach na chanlyniad i bechod. Mae’r cyfan yn loes ychwanegol ac yn peri i’r sawl sy’n dioddef aros yn hirach mewn priodas dreisgar.

Wrth drafod trais yn y cartref ni chyfeirir yn unig at drais corfforol, wrth gwrs. Cyn yr ergyd gyntaf bydd trais seicolegol yn cynnwys  gwawdio, bychanu ac anwybyddu. Amcangyfrifir fod trais geiriol yn digwydd saith gwaith yn amlach na thrais corfforol.  O ganlyniad mae plant yn tyfu mewn sefyllfa lle mae creulondeb a chariad yn cael eu cymysgu a phan welant un rhiant yn cam-drin y llall maent yn credu fod cam-drin eraill yn ymddygiad derbyniol. Byddant, o bosib,  yn efelychu eu rhieni pan yn oedolion :  naill trwy fod yn greulon neu dderbyn camdriniaeth fel rhan naturiol o briodas. Daw bygythiadau  a chasineb yn ymddygiad naturiol iddynt. Nid yw’n syndod felly fod rhai yn ymddwyn yn gas at eraill mewn cymdeithas ac ar y cyfryngau cymdeithasol  os ydynt wedi profi’r fath ymddygiad yn eu cartrefi.  Canlyniad arall yw bod bechgyn yn credu fod ymddygiad  gwawdlyd neu dreisgar tuag at fenywod yn dderbyniol,

Os nad ydym yn herio trais yn y cartref ni fedrwn obeithio am gymdeithas neu fyd llai treisgar.

Dadleuir fod plant yn gwneud yn well yn byw gyda’u dau riant, ond pan ddaw priodas dreisgar i ben yna gall y plant ddysgu na fwriadwyd  i briodas fod fel perthynas eu rhieni. Gallent anelu a gobeithio am briodas well iddynt eu hunain. Ni ddylem ystyried priodas fel delfryd, ond fel cyfrwng i greu perthynas, gan gydnabod fod y cyfrwng yn methu weithiau, fel unrhyw gyfrwng arall. Er gwaethaf hyn, pan mae’r ddau gymar yn ymdrechu yn ddyddiol i gadw’r addewid “i garu ac ymgeleddu” y naill a’r  llall, mi fydd eu priodas yn parhau yn gadernid ac yn ddiogelwch i blant.

 

E-fwletin 14 Tachwedd 2021

Dewiswch fywyd

Y dyddiau yma teimlaf fy mod wedi fy ngorlethu gydag anghenion cymdeithas a byd – anghenion sy’n pentyrru ym mhob man.  Nifer y teuluoedd sydd angen bwyd yng Nghymru yn tyfu a straeon effaith Cofid ar ein pobl a’n plant yn amlhau.   Yna deddfau ar y gweill  i’w gwneud yn anoddach protestio,  croesawu’r ffoadur, diogelu gwasanaethau iechyd a sicrhau ein hiawnderau.

Yn rhyngwladol mae iawnderau dynol mewn perygl mawr a does dim ond angen enwi Israel/Palestina,  yr Uighurs a Myanmar …  Mae democratiaeth mewn peryg – yn America,  Hwngari, Tsieina, Rwsia …Mae newyn yn cynyddu, ac anghyfiawnder yn amlhau.

Arferwn deimlo fod pethau’n gwella er yn lawer rhy araf .  Ond beth welaf?  Banciau bwyd ymhob tref ym Mhrydain; mwy o gwmnïau yn elwa o afiechyd; ofn dieithriaid o’n cwmpas; tlodi’n  gwaethygu; hil-laddiad yn cynyddu.  A dwi ddim wedi sôn am argyfwng y Cread ei hunan!

Mae bron pob sgwrs y dyddiau yma am yr angen a’r boen.

Nid wyf erioed wedi deall pam roedd angen i Deuteronomiwm ddweud ‘Dewiswch fywyd nid marwolaeth’.  Pwy fyddai yn dewis marwolaeth yn lle bywyd?  Ond sylweddolaf faint o bobl a sefydliadau sy’n gwneud hynny.  Oherwydd fod yna arian i’w wneud wrth ein cyflyru i ofni cymaint, yn ein hofn yr ydym yn ynysu rhag eraill – a dewis marwolaeth.

Yn y cyfnod ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf yr oedd teimlad o bopeth yn dod i ben ac argyfyngau lawer yn wynebu’r byd.   Yng Nghymru bu farw tua 40,000 o ddynion ifanc yn y brwydro ac yna, yn fuan wedyn amcangyfrifwyd colli tua 10,000 o Gymry i’r ffliw. Roedd y cyfan yn ofid a gwae.

Ynghanol hyn i gyd trefnwyd Apêl gan wragedd Cymru.  Yn 1924 arwyddodd bron i 400,000 o wragedd Cymru Apêl Heddwch at fenywod yr Unol Daleithiau, yn erfyn arnynt i berswadio eu llywodraeth i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd.  Yn sgil y Rhyfel roeddynt yn ceisio cyfeillgarwch rhwng cenhedloedd er mwyn osgoi rhyfel arall. 

Mae grŵp bychan Heddwch Nain/Mam-gu wedi cydio yn yr hanes hwn a bellach yn rhan o bartneriaeth ehangach i ddathlu a choffau canmlwyddiant y digwyddiad hanesyddol hwn.

Heddiw, yn sgil pandemig rhyngwladol, fe wynebwn ninnau fygythiadau i heddwch, iechyd a dyfodol ein byd.  Fel gwragedd, rydym yn ddyddiol yn dioddef  effeithiau tlodi, afiechyd, anghyfiawnder, eithrio a thrais.  Mae angen llawer mwy  na choffâd a dathliad ac yr ydym, fel grŵp o ferched  am geisio herio ein hunain ar sut i wireddu breuddwyd gwragedd 1924 am fyd di-ryfel.

Roedd gallu’r gwragedd i gasglu bron i 400,000 llofnod mewn cwta chwe mis, ac mewn oes heb ryngrwyd, ffôn na cheir, yn golygu gweledigaeth a gwaith caled.    Bu cannoedd yn cerdded a chnocio drysau a chafwyd cefnogaeth eglwysi, capeli, grwpiau gwragedd, grwpiau hanes a grwpiau heddwch yn eu plith.  Trefnasant fod y llofnodion yn cael eu hebrwng i’r Amerig  lle cyflwynasant yr Apêl i 300 o fudiadau gwragedd ac i’r Arlywydd Coolidge.

Sbardunwyd fi yn ystod y pandemig gan hanes ein cyn-neiniau.  Mae’r angen yn parhau i ‘ddewis bywyd’ heb wybod yn iawn beth mae hyn yn mynd i’w olygu. Ond y mae’n siŵr o olygu  gobaith er gwaethaf popeth.

Gwahoddwn ni chi i ymuno.  Mae criw ohonom yn fodlon siarad â phobl ac â mudiadau i rannu’r hanes ac i weld yma ffordd y gallwn ddewis bywyd yn y Gymru gyfoes. 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â   heddwchnain.mamgu@gmail.com

 

 

E-fwletin 7 Tachwedd, 2021

Hedfan i mewn i’r gwynt

Mae’n siŵr bod yr “Ail Eseia” wedi ymweld â rhyw fferm ar ddiwrnod cneifio, ac wedi rhyfeddu fel y byddai “dafad yn ddistaw yn llaw’r cneifiwr” (53.7). Mae’r darlun yn hollol gywir ac yn fyw i mi. Ond rwy’n cofio meddwl unwaith na allai’r awdur hwnnw fod wedi cael ei fagu ar fferm, neu ni fuasai wedi dweud “Nyni oll a grwydrasom fel defaid: troesom bawb i’w ffordd ei hun” (53.6). Petai erioed wedi gorfod trafod y creaduriaid hynny fe fyddai wedi dysgu drwy brofiad chwerw nad crwydro i’w ffordd ei hun a wna dafad, ond mynd ar gyfeiliorn drwy ddilyn rhyw ddafad fentrus o arloesol. Honno fyddai wedi gweld y bwlch bach yn y clawdd ac wedi ffroeni ei ffordd drwodd, a’r lleill i gyd yn dilyn. Felly nid un ddafad golledig a gaech chi ond praidd colledig wedi gadael eu cynefin. Peth anarferol iawn yw dafad golledig.

Yn ystod y Pandemig hwn fe welwyd ambell ddafad od yn mynnu hau celwyddau yn erbyn brechu nes creu amheuaeth ym meddyliau defaid eraill, a’r rheini yn rhy barod i’w dilyn. Cofiwch, mae’n rhaid i mi gyfaddef fod gennyf barch at yr anghydffurfiwr: y meddwl unigolyddol hwnnw sy’n mynnu aredig ei gŵys ei hun. Bellach rwy’n fwy parod i weld nad hwnnw efallai sy’n iawn bob tro. Hwyrach i Donald Trump, o ddifyr goffadwriaeth, faglu i mewn i’r gwirionedd pan gawliodd, mewn araith yn Philadelphia, rhwng “herd immunity” a “herd instinct”. Fe all greddf yr haid, yn ogystal ag imiwnedd yr haid, fod weithiau yn fuddiol iawn.

Y mae gan rai ifanc yn ein teulu ni ddiddordeb mewn seiclo, a pheri i ryw greadur disymud fel fi ddysgu rhywbeth am y gamp. Pan fyddant yn cystadlu mewn tȋm byddant yn trefnu fod pob aelod am ryw hyd yn mynd ar y blaen i dorri drwy rym y gwynt, gan arbed egni gweddill y tȋm. Bydd hynny’n golygu gwell cyfle i’r tȋm cyfan wedyn groesi’r llinell derfyn ar y blaen, ac ennill y ras. Fe welsom o hydref i hydref heidiau o adar yn hedfan gan drefnu eu hunain yn yr un modd, a greddf yr haid yn sicrhau y bydd hyd yn oed y gwannaf yn cyrraedd gwlad yr addewid.

Beth fydd pawb a derbyniodd frechlyn ac a wisgodd fasg yn ei wneud ond cymryd rhan o’r baich er mwyn y tȋm. Beth a wna pob gweithiwr iechyd, a gweithwyr mewn cartrefi gofal, ond cymryd eu tro i gysgodi’r bregus. A dyna bwrpas eglwys: modd i ni oll yn ein tro i hedfan i ddannedd y gwynt er mwyn eraill.

Addasiad o eitem ar flog Philip Yancey

Addasiad o eitem ar flog Philip Yancey, sydd wedi bod yn ddylanwad cadarnhaol iawn ar genhedlaeth o Gristnogion sydd wedi bod ar daith o gulni dogmataidd i lwybr cariadus dilyn Iesu. Mae ei gyfraniadau’n parhau i ysbrydoli.

Wrth drafod fy hunangofiant diweddar Where the Light Fell, rwy’n aml yn defnyddio’r geiriau “eglwyswenwynig” i ddisgrifio ffurf eithafol o grefydd ffwndamentalaidd taleithiau’r De y cefais fy magu ynddi. Rwy’n sôn weithiau fy mod wedi bod “mewn adferiad”, mewn proses o ddadwenwyno, byth ers hynny.

“Dywedwch wrthyf, ”gofynnodd un fu’n fy ngyf-weld mewn podlediad,“beth sy’n gwneud eglwys yn wenwynig?” Daeth tair nodwedd i’r meddwl ar unwaith.

  1. OFN

Mae atgofion eglwys fy ieuenctid yn ail-greu teimladau o ofn a chywilydd. Roedd yn anodd clywed yr efengyl fel newyddion da pan oedd y rhan fwyaf o’r pregethau’n canolbwyntio ar bechod ac uffern. Dros y degawdau, mae eglwysi wedi chwarae ar lawer o ofnau: Arlywydd Catholig (JFK), Armagedon, comiwnyddiaeth, yr ail ddyfodiad, Y2K, AIDS, dyneiddiaeth seciwlar, rhywioldeb hoyw, sosialaeth, ffantasi’r New World Order, COVID-19. Mae rhai o’r ofnau hyn wedi bod yn ddilys, ond mae eraill yn ffinio ar feddylfryd cynllwyn.

“Mae cariad perffaith yn gyrru allan ofn,” meddai 1 Ioan 4:18. Nid yw eglwys iach yn defnyddio tactegau dychryn i gam-drin emosiynau pobl. Nid yw ychwaith yn gwadu y byddwn yn wynebu sefyllfaoedd brawychus yn ystod ein bywydau. Yn hytrach, mae’n cyfeirio pobl ofnus tuag at Dduw dibynadwy. Mae’r Salmau a’r Proffwydi yn dangos y patrwm yn glir: dro ar ôl tro, atgoffir pobl sy’n wynebu trychineb am y Duw nad yw’n ychwanegu at eu pryder. “Byddwch lonydd, gan wybod mai fi yw Duw,” meddai Salm 46 fel cyngor, hyd yn oed pan fydd cenhedloedd mewn rhyfel a’r mynyddoedd yn siglo.

Ie, dylem frwydro yn erbyn anghyfiawnder ac ymateb i drasiedi, ond o sefyllfa o dosturi. Mae’r byd yn dal i fyw’n fregus trwy bandemig sydd wedi effeithio ar bron pawb ar y blaned. Rwyf wedi siarad â gweinidogion sydd wedi disgrifio cynulleidfaoedd sydd wedi’u rhwygo gan ddicter ac ofn dros frechlynnau a mygydau. Ai dyma’r gorau y gallwn ei wneud wrth gynrychioli’r Un y mae’r apostol Paul yn ei ddisgrifio fel “Duw pob cysur, a Thad tosturi”?

  1. EITHRIO

Roedd eglwys fy mhlentyndod yn Atlanta yn gosod diaconiaid wrth y drws i wrthod mynediad i bobl ‘drafferthus’ fel pobl groenddu oedd am geisio mynychu oedfa. Diolch i Dduw, mae ein cymdeithas wedi symud y tuhwnt i’r math hwnnw o hiliaeth oedd wedi’i gyfreithloni — ac eto mae rhagfarn yn parhau mewn ffurfiau eraill.

Mae’r apostol Paul, oedd unwaith yn Pharisead na fyddai hyd yn oed yn ystyried cyffwrdd â chenedl-ddyn, caethwas, neu fenyw, yn gosod egwyddor gadarn ar ôl ei dröedigaeth: “Nid oes Iddew na chenedl-ddyn, nid oes caethwas na rhydd, ac nid oes gwryw a benyw, rydym i gyd yn un yng Nghrist Iesu.” Mewn un ergyd, chwalodd y muriau sy’n gwahanu hil, dosbarth a rhyw. Er hynny, nid yw’r eglwys erioed wedi rhoi’r gorau i gael trafferth gyda’r union faterion hyn.

Ysgrifennodd y gweinidog o Ganada Lee Beach: “Os ydych chi eisiau tyfu mewn cariad, wnewch chi ddim o hynny drwy fynychu mwy o astudiaethau Beiblaidd neu gyfarfodydd gweddi; bydd yn digwydd wrth i chi fynd yn agosach at bobl nad ydynt yn debyg i chi.”Mae gras yn cael ei brofi pan fyddwn ni’n dod wyneb yn wyneb â phobl sy’n wahanol i ni.Ydyn ni’n eu croesawu?Rwy’n meddwl am y bobl oedd yn ffeindio Iesu’n ddeniadol – ac yn cael eu derbyn gan Iesu –“hereticiaid” (fel y menywod o Samaria), tramorwyr (swyddog Rhufeinig), yr isaf mewn cymdeithas (puteiniaid, casglwyr trethi, yr anabl, y rhai â’r gwahanglwyf).

Ni wn am unrhyw eglwysi a fyddai’n mynd ati i eithrio rhywun o hil neu ddosbarth cymdeithasol gwahanol erbyn hyn, ond gwn am lawer o eglwysi sy’n “digwydd” cynnwys pobl o’r un dosbarth, hil a safbwynt gwleidyddol. Pa fath o groeso fyddai person digartref neu fewnfudwr tlawd yn ei gael mewn cynulleidfa o’r fath? Efallai, mewn ymateb i’m magwraeth hiliol, nawr pan fyddaf yn cerdded i mewn i eglwys newydd, po fwyaf y mae ei haelodau’n debyg i’w gilydd, ac yn debyg i mi, y mwyaf anghyfforddus yr wyf yn teimlo yn eu plith nhw.

  1. ANHYBLYGRWYDD

Gall diffyg hyblygrwydd eglwysig fod ar sawl ffurf. Mewn achosion eithafol, gall gweinidog awdurdodol greu awyrgylch sydd yn agos at un cwltaidd. Mae cyfres o bodlediadau poblogaidd a gynhyrchwyd gan Christianity Today yn olrhain twf a chwymp Eglwys Mars Hill yn Seattle, a arweiniwyd gan Mark Driscoll trwy gynnydd rhyfeddol, dim ond i weld yr eglwys yn chwalu o achos ei arddull awdurdodol. Mae cyfaill i mi sy’n seicolegydd sydd wedi astudio gweinidogion, yn amcangyfrif bod gan 80 y cant ohonynt dueddiadau narsisaidd cryf. Pam na ddylent fod felly? Rydym yn eu dyrchafu, yn llythrennol, ar lwyfannau, ac yn neilltuo’r dasg anhygoel iddyn nhw o ddweud wrthym beth i’w gredu a sut i ymddwyn.

Yn rhy aml o lawer, mae arweinwyr narsisaidd yn canolbwyntio ar fân bwyntiau athrawiaethol ac yn colli’r brif neges, o gariad di-ben-draw Duw at fodau dynol sydd wedi ymddieithrio. Mae Efengyl Ioan yn disgrifio Iesu fel un sy’n “llawn gras a gwirionedd”. Mae eglwysi anhyblyg yn tueddu’n drwm tuag at ochr “gwirionedd” y raddfa gydbwysedd honno, ac yn aml yn pentyrru rheolau ymddygiad nad oes hyd yn oed sôn amdanyn nhw yn y Beibl.

Unwaith eto, mae’r apostol Paul yn dangos ffordd fwy hyblyg. “I ryddid y rhyddhaodd Crist ni. Safwch yn gadarn, felly, a pheidiwch â phlygu eto i iau caethiwed,” datganodd wrth y Galatiaid, gan wrthwynebu’n chwyrn y rhai a fynnai fod dilynwyr Iesu yn arddel yr arfer Iddewig o enwaedu. Ac eto, dewisodd dderbyn yn wirfoddol (Actau 18, 21) er mwyn uniaethu â chredinwyr Iddewig. Yn yr un modd, yn dibynnu ar aeddfedrwydd ysbrydol yr eglwys yr oedd yn ymdrin â hi, addasodd ei gyngor ar faterion fel gwyliau paganaidd a bwyta cig oedd wedi’i gynnig fel offrwm i’r delwau.

Rhoddodd Paul grynodeb o’i ddull gweithredu: “Rwyf wedi dod yn bopeth i bawb fel y gallwn achub rhai drwy bob dull posib.” Gwyddai pa faterion diwinyddol a moesegol oedd angen eu pwysleisio a pha rai i’w diystyru. Roedd ef yn gweld diffyg hyblygrwydd fel bygythiad difrifol i undod yr eglwys. Mae bodolaeth tua 54,000 o enwadau yn y byd yn dangos nad yw pawb wedi dilyn arddull Paul ar hyd yr oesoedd.

Eglwys Iach …

Ar ei noson lawn olaf gyda’i ddisgyblion, nododd Iesu fformiwla ar gyfer arweinyddiaeth iach yn yr eglwys (Ioan 13–17). Yn gyntaf, cododd o’r pryd bwyd a golchi eu traed, er mawr anesmwythyd iddyn nhw. Dangosodd nad yw arweinwyr da yn glynu at fod yn freintiedig mewn ffordd narsisaidd. I’r gwrthwyneb, maent yn gwasanaethu’r union rai y maent yn eu harwain.

Wedyn, rhoddodd Iesu orchymyn hollbwysig sy’n goresgyn unrhyw bosibilrwydd o eithrio a diffyg hyblygrwydd: “Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd, wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych.”

Yn olaf, gweddïodd am undod – nid yn unig i’r disgyblion ond i bawb mewn hanes a fyddai’n ei ddilyn. Ni fyddai dim yn dystiolaeth mwy pwerus i’w neges. Yn ei weddi, dywedodd Iesu, “er mwyn iddynt fod yn un fel yr ydym ni yn un: myfi ynddynt hwy, a thydi ynof fi, a hwythau felly wedi eu dwyn i undod perffaith, er mwyn i’r byd wybod mai tydi a’m hanfonodd i, ac i ti eu caru hwy fel y ceraist fi.” 

Gwasanaeth, cariad, undod: enwodd Iesu’r rhain fel prif nodweddion ei ddilynwyr. Ydych chi erioed wedi gofyn i ddieithryn, “Pan fyddaf yn dweud y gair Cristnogol neu efengylaidd, beth yw’r peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl?” Rwyf wedi gwneud hynny, ac nid unwaith, nid unwaith, wedi clywed rhywun yn ateb gydag un o’r tri gair hynny.

Weithiau rwyf wedi ymweld â “megachurch”, yr eglwysi hynny sy’n cwrdd mewn awditoriwm gydag orielau a lefelau gwahanol. Wrth i mi edrych ar y llwyfan dan y llifoleuadau, rwy’n teimlo fel pe bawn i mewn gêm bêl-fasged bwysig, gyda 10,000 o wylwyr yn cefnogi deg chwaraewr proffesiynol ar y cwrt islaw. Mae’n fy nharo mai dyna’r gwrthwyneb i weledigaeth feiblaidd o eglwys. Mae addolwyr i fod i ymgynnull gyda’i gilydd, nid fel gwylwyr i’w diddanu, ond fel cyfranogwyr gweithgar. Er bod gwenwyn yn gweithio’i ffordd i mewn i’r eglwys yn ôl pob golwg yn hawdd a diymdrech, bydd angen cynulleidfa gyfan, wyliadwrus i sicrhau eglwys iach.

Yn y cyfamser, mae’r gynulleidfa go iawn yn eistedd y tu allan i’r eglwys, yn aros i weld a ydym yn cynrychioli Iesu mewn gwirionedd drwy ein gweithredoedd sydd wedi eu seilio ar dri gair: gwasanaeth, cariad ac undod.

Philip Yancey, 2021

 

Sylwadau ar gelfyddyd eglwysig, wedi ymweliad â Santiago de Compostela

 

Sylwadau ar gelfyddyd eglwysig, wedi ymweliad â Santiago de Compostela

O fewn milltir i’r gadeirlan ysblennydd, ceir dros ugain o eglwysi plwyf, a phob un o’r rheiny yn rhyfeddod ynddi ei hun. Ar gyfer pob cwpwl o strydoedd yn yr hen ddinas, ceir eglwys ‘fach’ – gan amlaf gyda’r gofod i gynnal oedfa i ryw 200 o bobl. Ym mhob un o’r eglwysi hyn ceir celfyddyd gain, gyda delweddau godidog, nodweddiadol o gyfnod y dadeni a’r cyfnod baróc o’r Iesu gwyn a’i angylion.

Un o nodweddion Cristnogaeth fodern yw’r ffaith mai geiriau (ac yn y traddodiad Cymreig, efallai, geiriau ar ffurf ambell emyn a cherdd) sydd yn costrelu ein gweledigaeth neu ein dealltwriaeth o’r ffydd. Fodd bynnag, i’r oesoedd a fu, fel y gwelir yn eglwys Teilo Sant yn Sain Ffagan, neu eglwys hynafol Llancarfan, roedd delweddau a darluniau yn hollbwysig. Y rhyfeddod i anghydffurfiwr wrth ymweld ag Ewrop Gatholig yw parhad statws y delweddau gweledol. Maen nhw weithiau’n bethau syml mewn eglwysi gwledig, ond weithiau’n furluniau llachar a soffistigedig o aruchel mewn corneli cwbl annisgwyl. A hynny er i Moses dderbyn gorchymyn ar y mynydd i beidio gwneud delweddau o bethau’r goruchaf.

Mae meistri mawr celfyddyd Ewrop Gristnogol (fuodd ’na feistres?) wedi gadael eu hôl, nid yn unig ar ein waliau a’n nenfydau eglwysig, ond hefyd ar ein psyche crefyddol. Gan amlaf, darluniwyd y Drindod fel yr hen ddyn barfog yn yr awyr, y dyn croen golau iawn oedd yn edrych gan amlaf fel fersiwn ifanc o’r hen ddyn barfog, ac wedyn y golomen wen i gwblhau’r teulu o dri. O’u hamgylch yn y delweddau ceir y darlun o nefoedd gymylog, yn aml yn cynnwys symbolau oedd yn pwyntio at gymeriadau mawr y ffydd. Roedd y lluniau’n cael eu comisiynu i fynegi diwinyddiaeth y dydd, gyda briff penodol iawn gan amlaf gan yr eglwys i’r artist ar gomisiwn.

Un o broblemau’r math hwn o gelfyddyd i bobl sy’n rhan o draddodiad deallusol ac ysbrydol fel C21 yw ei fod bron bob tro yn creu darlun o Dduw theistaidd – y Bod sy’n llwyr y tu allan i’r byd, sydd ddim yn rhan o’r byd, ond bod ganddo’r gallu i newid patrymau mecanyddol y byd, yn aml mewn ymateb i weddi gan fodau dynol. Mae awduron ein Beibl yn osgoi’r delweddu yma – ac yn sôn am dduw fel ysbryd, neu wynt, neu hyd yn oed yn cael ei rym wedi darlunio fel tân mewn perth. Yn y canoloesoedd fe ddyluniwyd Duw fel hen ddyn gwyn, ac iddo ddwylo, pen a thraed dynol. Dyma’r ddelwedd sydd gan drwch pobl y gorllewin (a’r de a goloneiddiwyd) o Dduw o hyd. Anaml iawn y cyflwynir Duw fel dyn du, a hyd y gwn, nis cyflwynwyd fel merch. Ddim hyd yn oed fel menyw ddoeth, oedrannus. Wrth grwydro dinas Santiago, roedd hi’n amlwg fod Iesu hefyd yn wynnach na phawb o’i gwmpas, ac roedd hyn yn codi cwestiwn i mi am natur stereoteipio hiliol ein traddodiad Cristnogol. Does dim arlliw o liw haul arno, er gwaetha’r ffaith iddo grwydro yn yr awyr agored yn y Dwyrain Canol gydol ei weinidogaeth, a phregethu yn yr awyr agored heb het (mor belled ag mae’r lluniau sydd gennym ohono yn ei awgrymu!).

Wrth grwydro eglwysi Santiago de Compostela, mae’r gelfyddyd hon yn peri problem i mi. Rwy wedi fy magu mewn traddodiad ac eglwys sy’n gweld y dwyfol fel egni di-ffurf, yn rym bywyd o fewn ein bydysawd, neu, fel y dywed Spong, fel sail neu hanfod ein bodolaeth (the ground of our being). Mae’r miliynau o ddelweddau o’r hen ddyn barfog yn achosi diogi ymenyddol, a hefyd yn gwneud ein ffydd yn destun hawdd i’w wrthod, neu hyd yn oed i’w ddychan. Efallai fod mwy gan Gristnogion modern i’w ddysgu o waith Picasso neu Gaudi nag sydd gennym i’w ddysgu oddi wrth artistiaid a diwinyddion canoloesol oedd yn gweld Duw yn yr awyr uwchben ein byd fflat, a’r tân tragwyddol yn llosgi o dan y byd fflat hwnnw. Hefyd, ydy’r ffaith ein bod erbyn hyn yn gallu cadw ar record sŵn a delweddau o fath gwahanol wedi newid y gelfyddyd y gallwn ei defnyddio i ddarlunio Duw? Pren, carreg a phaent oedd yr unig bethau parhaol oedd ar gael i artistiaid yr Oesoedd Canol. Erbyn hyn, gallwn gadw ar record ein mynegiant o egni Duw, a’n hangen am lonyddwch a chyffro drwy gelfyddyd lawer mwy amrywiol – fel dawns, cerddoriaeth a theatr. A diolch am hynny. Mae’n bosib y gallwn ddiosg yr hen ddyn gwyn, cymylog, oni bai fod y presenoldeb hwnnw eisoes wedi gwneud cred yn amhosib i’r genhedlaeth sydd wedi eu geni yn y ganrif hon.

Yng ngoleuni’r perygl hwnnw, byddai’n dda troi at Matthew Fox. Pwysleisiodd ef fod ein ffordd o fyw yn gelfyddyd ynddi’i hun. Gall bywyd sy’n cael ei fyw’n dda gyfleu llawenydd, rhyfeddod a gobaith i bobl sy’n teimlo’u bod yn byw bywyd arwynebol mewn oes o anobaith. Efallai mai her fawr ein hoes ni yw fod angen inni ymroi i saernïo bywydau sy’n dangos celfyddyd ysbrydol o ansawdd.

“A lifestyle is an art form. It brings life and wonder, joy and hope to persons otherwise condemned to superifical living. Our times call for the creation of lifestyles of spiritual substance” yw geiriau Matthew Fox yn ei lyfr Cosmic Christ.

 

Geraint Rees
31 Hydref 2021

Argraffiadau o Santiago de Compostela, dinas y pererinion

Argraffiadau o Santiago de Compostela, dinas y pererinion

Mae hi’n ddiwedd mis Hydref 2021, ac mae arwyddion boreol bod gaeaf ar ddod i’r ardal hon o Galisia, gogledd Sbaen. Fodd bynnag, yn haul lled gynnes y prynhawn mae Santiago dan ei sang wrth i gadwyn o grwpiau bach o bererinion gyrraedd y ddinas fu’n nod iddyn nhw. Wrth eistedd o flaen y gadeirlan gwelaf fod pedwar neu bump o bobl newydd yn cyrraedd bob awr, pob un yn arddangos emosiwn – rhai’n chwerthin yn llawen, rhai’n gwenu o glust i glust ac ambell un mewn dagrau wedi’r ymdrech. Beth bynnag yr ymateb, mae maint eu tasg yn dangos yn eglur ar eu hwynebau, ac mewn ambell achos mae’n dangos ar eu traed wedi iddyn nhw ddiosg eu hesgidiau.

Mae’n braf gweld pererinion ysbrydol a cherddwyr mentrus yr unfed ganrif ar hugain yn mwynhau profiad canoloesol y Camino de Santiago, a syndod oedd clywed mai gweithgaredd diweddar fu adfer traddodiad oedd, i bob pwrpas, wedi marw. Wedi Expo mawr yn Seville ar ddechrau’r 1990au a thwf sydyn twristiaeth i Madrid a Barcelona yn y blynyddoedd wedi marwolaeth Franco, heb sôn am y pererindota gan y miliynau i’r Costas del Haul o’r 1970au ymlaen, fe sylweddolodd arweinwyr Galisia eu bod yn mynd i fod yn fythol dlawd oni bai eu bod yn ymateb i’r her a’r cyfle twristaidd. Yn 1992, cwpwl o gannoedd yn unig a gerddodd ar y Caminio de Santiago mewn blwyddyn gyfan. Yn dilyn cyhoeddiad mawr un o uwch-weinidogion Galisia am eu bwriad i adfer y Caminio yn 1993, fe gerddodd cwpwl o filoedd y llwybr. Yn y flwyddyn cyn y pandemig, fe amcangyfrifwyd i 350,000 gerdded y Camino, ac o ganlyniad mae Santiago yn ferw dan gyffro’r twristiaid. Mae hi’n fenter ddefosiynol sydd wedi ei hatgyfodi gan gymhelliant masnachol pur! Ac wrth gwrs, dyna hanes cymaint o’n gwyliau crefyddol.

Yn y gadeirlan yn Santiago, fe welir yr arogldarthydd ysblennydd sy’n hedfan ar raff fawr drwy’r gadeirlan i rhyddhau mwg sawrus, i lenwi’r adeilad â pherarogl nefolaidd. Mae dau beth gwerth ei nodi am hwnnw. Fe sefydlwyd yr arfer o ddefnyddio arogldarthydd mawr o achos y drewdod oedd ar gymaint o bererinion y Canoloesoedd, oedd yn mentro i Santiago i geisio maddeuant am eu pechodau. Roedd yr arogldarthydd yn llenwir’r gadeirlan ag arogl oedd yn dderbyniol i dduw a dyn, yn hytrach nag arogl traed a cheseiliau’r trueniaid chwyslyd a oedd wedi mentro i Santiago i geisio diogelu eu lle yn y nefoedd.

Yr ail fater sy’n werth ei nodi yw gallu’r eglwys i elwa o’r bererindod i Santiago. Ar hyd y ddinas, fe nodir pwy yw perchennog pob hen adeilad, a hynny gan symbol wedi ei gerfio uwchben y drws ffrynt. Symbol y gadeirlan yw’r gragen fylchog (scallop shell), sy’n symbol i’r Camino cyfan (gweler y llun), ac sydd wedi ei gosod ar y daith i Santiago, o’r ffin â Ffrainc, a phob cam o Madrid, a phob cam o Bortiwgal i Santiago. Wrth i’r werin Ewropeaidd deithio i Santiago i geisio maddeuant pechodau, roedd dawn arbennig gan yr eglwys o droi ei heiddo masnachol i letya’r teithwyr. Erbyn hyn, gwneir elw newydd o’r pererinion. Mae’r archarogldarthydd mawr yn segur am y rhan fwyaf o ddyddiau’r flwyddyn. Caiff ei ddefnyddio ar ddyddiau gŵyl mawr yr Eglwys yn unig. Oni bai … fod grŵp o bererinion yn barod i dalu 400 Ewro i sicrhau defnydd ohono pan fyddan nhw yn dod i offeren y pererinion ar y noson y byddan nhw’n cyrraedd pen eu taith i Santiago. 400 Ewro!

Mae hi’n ddinas hudolus a hyfryd. Ac fel pob lle arall yn y byd, mae’n gymysgwch arbennig o’r nefolaidd a’r daearol, y byd a’r betws, yr haelioni a’r elw. A dyna sydd wedi diogelu ei pharhad fel un o ryfeddodau Ewrop ganoloesol yn y cornel tawel hwn o Iberia.

Geraint Rees

Cregyn bylchog yw symbol y gadeirlan, ac fe’u defnyddir ar draws Sbaen i arwyddo’r ffordd i Santiago i’r pererinion

 

Mae’r tai niferus sy’n eiddo i’r gadeirlan yn dangos arwydd y cregyn bylchog uwchben y drws ffrynt

Arogldarthydd y gadeirlan, Santiago

 

 

 

 

 

 

 

Myfyrdod gan John Pavlovitz ar farwolaeth

Addasiad o fyfyrdod gan John Pavlovitz, yn ystyried goblygiadau ei farwolaeth

Mae Pavlovitz nawr yn flogiwr blaenllaw ac yn awdur sy’n gwneud ei orau i gynnig tystiolaeth Gristnogol i genhedlaeth yn America sydd wedi blino gydag agweddau cynyddol angharedig, arallfydol ac asgell dde eithafol Cristnogaeth ffwndamentalaidd eu gwlad. Yn ystod mis Hydref, cafodd tiwmor ei dynnu o’i ymennydd. Roedd ei flog ar farwolaeth wedi ei lunio a’i gyhoeddi ymhell cyn iddo fod yn ymwybodol o’r cancr, yn dilyn cyfres o flogiau a luniodd yn trafod galar rai blynyddoedd yn ôl. Gallwch ddilyn Pavlovitz ar Facebook, neu trwy ei flog cyson.

Ar ddiwrnod fy marwolaeth, gan John Pavlovitz (On the day I die, 2016)

Y diwrnod y byddaf yn marw bydd llawer yn digwydd.
Bydd llawer yn newid, ac mae’n debyg y bydd yn ddiwrnod prysur.

Y diwrnod y byddaf yn marw, bydd yr holl apwyntiadau pwysig sydd wedi hawlio lle pwysig yn fy nyddiadur yn cael eu gadael heb eu cyflawni.
Bydd y cynlluniau niferus nad oeddwn cweit wedi’u cwblhau yn parhau i fod heb eu cwblhau gennyf, a hynny nawr am byth.

Bydd y calendr sydd wedi rheoli cymaint o’m dyddiau nawr yn amherthnasol i mi.
Bydd yr holl bethau materol yr oeddwn yn eu hel a’u gwarchod a’u trysori yn cael eu gadael yn nwylo pobl eraill i benderfynu naill ai gofalu amdanyn nhw, neu eu taflu i’r sgip.
Bydd geiriau fy meirniaid, a fu’n gymaint o faich i mi tra oeddwn byw, yn peidio â’m brifo na llenwi fy meddwl mwyach. Ni fydd hyd yn oed un o’m beirniaid yn amharu arnaf mwyach.
Ni fydd y dadleuon yr oeddwn yn credu i mi eu hennill yma ar y ddaear o unrhyw help i mi mwyach, na’r buddugoliaethau hynny’n rhoi unrhyw foddhad i mi.

Bydd fy holl hysbysiadau Facebook, y negeseuon testun a’r galwadau sy’n pingio mor swnllyd ar fy ffôn yn mynd heb eu hateb. Bydd eu brys mawr yn gwbl ddiystyr.
Bydd fy mhryderon niferus i gyd yn cael eu gosod yn ddiogel i’r gorffennol, lle dylent fod wedi bod wastad, beth bynnag.
Bydd yr holl bryderon arwynebol am fy nghorff y bûm i wastad yn becso amdanyn nhw, maint fy mol, neu foelni fy mhen, neu’r bagiau dan fy llygaid, yn pylu’n llwyr.

Bydd y ddelwedd ohonof, yr un rwyf wedi’i saernïo mor ofalus, yr un y gweithiais mor galed i’w siapio, yn cael ei gadael i eraill ei chloriannu a’i gorffen.
Ni fydd yr enw da y gweithiais mor galed i’w gynnal yn peri llawer o bryder i mi mwyach.
Bydd yr holl bryderon bach a mawr a’m cadwodd yn effro yn yr oriau mân nawr yn gwbl ddi-rym.

Bydd y dirgelion dyfnion ac enfawr hynny am fywyd a marwolaeth a oedd yn destun chwilfrydedd mawr i mi yn cael eu hamlygu a’u datrys o’r diwedd mewn ffordd nad oedd yn bosib tra oeddwn yn fyw.

Bydd y pethau hyn i gyd yn wir ar y diwrnod y byddaf farw.

Ac eto, er y cyfan fydd yn digwydd ar y diwrnod hwnnw, bydd rhywbeth arall hefyd yn digwydd.

Y diwrnod y byddaf yn marw, bydd yr ychydig bobl sy’n wirioneddol yn fy adnabod ac yn fy ngharu yn galaru’n fawr.
Byddant yn teimlo gwacter.
Byddant yn teimlo’u bod wedi eu twyllo.
Ni fyddant yn teimlo’n barod am yr hyn sydd wedi digwydd.
Mae’n debyg y byddant yn teimlo fod rhan ohonyn nhw wedi marw hefyd.

A’r diwrnod hwnnw, yn fwy na dim yn y byd, byddan nhw yn dymuno cael mwy o amser gyda mi. Gwn hyn o brofiad y rhai yr wyf wedi eu caru ac yn dal i alaru amdanynt.

Ac felly, er fy mod yn dal yn fyw, mae angen i mi gofio’n ddyddiol fod terfyn pendant ar fy amser gyda fy nghydnabod, ac y gall yr amser hwnnw fod yn fyr, ac yn werthfawr iawn – a rhaid i mi wneud fy ngorau i beidio â gwastraffu eiliad ohono.

Rhaid i mi beidio â gwastraffu eiliadau amhrisiadwy yn poeni am yr holl bethau eraill a fydd yn digwydd ar y dydd y byddaf yn marw, oherwydd nid fy mhroblem i yw llawer o’r pethau hynny ac maen nhw tu hwnt i’m rheolaeth.

Gyfeillion, mae gan y pethau eraill hynny ffordd ryfeddol o’ch cadw rhag byw’n llawn hyd yn oed tra ydych chi’n fyw; maen nhw’n brwydro am eich sylw ac yn cystadlu am eich hamser.
Maen nhw’n gallu dwyn llawenydd a phosibiliadau’r bywyd hwn. Maent yn anweddu eich pleser a’ch gallu, ac yn eich dwyn yn ddyddiol oddi wrth y rhai sy’n eich caru chi ac am rannu eu bywyd â chi.

Peidiwch â cholli’r cyfle i ddawnsio gyda nhw tra gallwch chi. Mae’n hawdd gwastraffu cymaint o olau dydd yn y dyddiau a’r blynyddoedd cyn i chi farw.

Peidiwch â gadael i’ch bywyd gael ei ddwyn bob dydd oddi wrthych gan bethau ry’ch chi’n credu sy’n bwysig. Achos, y ffaith yw, ar y diwrnod y byddwch farw, bydd cymaint o’r pethau hynny yn gwbl ddibwys.

Byddwn. Byddwn ni i gyd farw ryw ddydd.
Ond, cyn i’r diwrnod hwnnw ddod: gadewch i ni fyw!

John Pavlovitz

E-fwletin 31 Hydref 2021

Beth yw’r cysylltiad rhwng teisen a thrên a gweledigaeth?
Dewch gyda mi ar daith y meddwl!

’Sgen i ddim i’w dweud wrth Galan Gaeaf. Anwybydder y pantomeim a goleuo cannwyll ddweda’ i.

Ond sawl un ohonom sy’n cofio mynd ar drên bach ysbrydion mewn ffair a chael ofn enbyd? Yn y foment honno, roedd yr arswyd yn real, a’r cryndod ym mêr yr esgyrn yn rhywbeth cyffyrddadwy. Ar hyn o bryd rydym yn teithio drwy gyfnod o ofid. Mae gweld dirywiad yn nifer mynychwyr ein heglwysi yn destun pryder ac mae ceisio dirnad sut mae rhwydweithio cariad Duw, mewn modd byw a ffyddiog, yn daith yr ydym yn ymrafael â hi’n barhaol erbyn hyn. Wyddoch chi mai’r gair ‘gweddi’ oedd y gair mwyaf poblogaidd ar safle chwilio’r we yn ystod mis Mawrth 2020 a bod y nifer oedd yn chwilota ystyr y gair wedi codi dros 50% o fewn mis yn ystod dechrau’r cyfnod clo? Ydy, mae’r angen am Dduw yno o’n cwmpas ac mae’n wirioneddol real.

Clywais rywun yn ddiweddar, oddi fewn i furiau capel, yn dilorni’r syniad o ail-ddechrau cwrdd gweddi. Hawdd fyddai digalonni o glywed ebychiad o’r fath a phenderfynu neidio oddi ar drên ein teithio fel capelwyr. Gallwn fod wedi dyfynnu’r gân ‘The Warning’ sydd, gyda llaw, yn ymdebygu’n agos i’r gân ysbrydol ‘The Gospel Train’, – ‘Behold your station there, Jesus has paid your fare, Let’s all engage in prayer, Be in time!’

Ond mae digon o gecru’n digwydd ymysg ein gilydd fel pobl, fel enwadau, fel cyfranwyr gwefannau cymdeithasol, i lenwi trên i ebargofiant a pwy sydd eisiau bod ar y trên hwnnw? Nid y fi.

Adnabyddir Crewe yn Sir Caer fel tref ddiwydiannol ac mae’r gweithfeydd cynnal-a-chadw trenau yno’n enwog. Ar arfbais y dref yn wreiddiol yr oedd y geiriau ‘Never Behind’, ond penderfyniad cyngor y dref yn y saithdegau oedd ei newid i ‘Always Ahead’ neu ‘Semper Contendo’ fel sydd ar yr arfbais; yn ogystal penderfynwyd ychwanegu’r geiriau ‘Semper Progrediamur’ i arfbais bwrdeistref Crewe & Nantwich sef ‘Always Progress’ neu beth am hyn:  ‘Dewch bois bach! Gadewch inni symud ymlaen!’ Ebychiad arall sydd i’w glywed yn aml.

Dilyn yr hen arfer o ymweld â beddau hynafiaid ar Ddygŵyl Eneidiau, sef yr ail o Dachwedd, wna’r ffilm animeiddiedig ‘Coco’ gan Pixar/Disney; mae’n werth ei gweld, a byddwn yn argymell teuluoedd i eistedd a’i mwynhau gyda’i gilydd. Traddodiad Catholig ydyw yn fwy na dim wrth gwrs, ond mae’n parhau gyda’n cyfeillion Ewropeaidd hyd heddiw.

Dros Glawdd Offa hefyd, ers talwm, byddai Teisennau’r Enaid yn cael eu pobi ar gyfer y cantorion hynny a arferai deithio o gwmpas yr ardal ar Noswyl yr Eneidiau yn cynnig gweddïau am y danteithion. Beth bynnag a gredwch chi ynglŷn ag eneidiau ym mhurdan neu yn y nefoedd, mae modd inni i gyd gofio a rhoi diolch am yr hyn a gyflawnwyd gan ein hynafiaid a’r modd y bu iddynt ymdrechu ymlaen yn wyneb caledi o bob math.

Beth am i ninnau ymroi, wrth i’r clociau symud nôl a’r nosau’n hir, i ymddatod ein heneidiau oddi wrth ddigalondid, i osgoi beirniadu ein gilydd, ond yn hytrach i gyd-weithio, trafod yn ddi-ofn, cyd-weddïo, ac yn bennaf oll i barhau ar y daith.

Ymlaen ar y trên gyfeillion!

E-fwletin 24 Hydref, 2021

Mae’r Pab Francis, druan, wedi ei amgylchynu â phobl sy’n arddel awdurdod y Pab ond yn brwydro yn ei erbyn. Bu’n sgwrsio gydag aelodau o’i Urdd ei hun, yr Iesuwyr, gan gyfaddef bod yna aelodau o Eglwys Rufain oedd yn deisyf i’w salwch diweddar fod yn angheuol. “Mae ar bobl ofn rhyddid,” meddai. “Maen nhw am ffoi i’r gorffennol gan feddwl bod yno ddiogelwch di-sigl”.

Beth wnaeth e? Cyfyngu ar ddefnydd o’r hen Offeren, ‘Dridentaidd’.

Ers cyfnod adnewyddiad Fatican 2 mae ffurf yr offeren wedi ei chymhwyso’n ddiwinyddol a bellach yn cael ei gweinyddu yn ieithoedd y bobl heddiw. Ond mae ‘na offeiriaid ifanc, newydd eu hordeinio, sy’n awyddus i ddefnyddio’r hen wasanaeth. Gofynnodd dau ohonyn ‘nhw i’w hesgob am ganiatâd i astudio Lladin. Dywedodd yr esgob wrthynt fod angen iddyn nhw ddysgu Sbaeneg yn gyntaf, gan fod cymaint o bobl yn eu hesgobaeth yn siarad yr iaith honno. “Wedyn” meddai “dewch nôl ata’i, ac fe ddywedai wrthoch chi faint o bobl yn eich esgobaeth sy’n siarad iaith Fietnam. A phan fyddwch chi wedi dysgu’r iaith honno dewch yn ôl ata’i am yr hawl i astudio Lladin.” Ychwanegodd bod angen ar yr offeiriaid ifanc i gadw’u traed ar y ddaear.

Mae cadw traed ar ddaear yn anodd am fod yr amgylchiadau ar hyn o bryd mor heriol, a gwawd y di-ffydd yn dibynnu ar yr hyn y gellir ei brofi’n wyddonol a materol.

Pleser felly yw darllen traethodau gan Marilynne Robinson, y nofelydd hynod o America, yn llefaru’n ddi-dderbyn-wyneb dros ei ffydd yn wyneb dirmyg y deallusion balch. Mae hi’n cymryd yn ganiataol nad ydi’r asgell dde geidwadol – a Trump pan fu’n chwifio’i Feibl o gwmpas – yn ddim ond llurguniad o’r ffydd. Yn ei chyfrol ddiweddaraf What are we doing here? (Gwasg Virago £9.99) mae hi’n herio ‘hanes’ poblogaidd America mewn ffordd ddeifiol iawn: “Beth bynnag yw ‘realiti hanes’, gwelwn pa mor bwysig yw hanes pan yw’r stori a adroddir ynddo yn ffug”.

Mae’n demtasiwn i bawb, y crefyddol a’r seciwlar eu bryd, i wrthod ail-ddehongli eu hanes a glynu wrth fytholeg sy’n cyfiawnhau eu rhagfarnau. Rydyn ni’n pigo a dewis ein ‘hanes’ i gyfiawnhau’n teyrngarwch, ein gwleidyddiaeth, ein moesau neu’n henwad.

Yn ei chyfrol ar O. M. Edwards mae Hazel Walford Davies yn dinoethi casineb O.M. at Eglwys Rufain. Ond mae propaganda Oes y Tuduriaid yn dal yn gryf yn ein bryd. Ymladd hen ddadleuon – ac roedd angen diwygio’r Babaeth yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a’r pymthegfed. Ond mae angen cofio mai un o sgil effeithiau rhoi rhyddid i ddehongli’r Beibl i’r bobl fu dau gan mlynedd o ryfel yn Ewrop. Bu’r casineb a enynnwyd yn wenwyn hyd ein hoes ni.

Bu Cristnogaeth yn arf yn llaw’r rhai oedd yn hapus i elwa ar feddiannu caethion. Darllener nofel ddeifiol newydd Jerry Hunter Safana.

Awn ni ddim ar ôl problemau’r Pab Francis druan, ond mae ei anawsterau ef yn ddameg i agweddau digon tebyg ymhlith Protestannaidd. Sut mae diwygio heb gynnau coelcerth o gweryl?