E-fwletin 28 Tachwedd, 2021

Goleuo cannwyll

Wrth fodio trwy’r llyfr emynau a gefais pan ddeuthum yn aelod llawn o Eglwys Bresbyteraidd Cymru ym mis Ionawr 1971 cefais fy hun yn myfyrio ar yr hyn a gynigiodd y blynyddoedd cynnar (plentyndod) hynny o fynd i’r capel a’r Ysgol Sul i mi; ymgyfarwyddo â’r Ysgrythurau – oherwydd bu’n rhaid i ni ddysgu adnodau pob wythnos; cariad at ganu emynau; gafael gadarn ar sol-ffa, a chwilfrydedd am wirionedd a dehongliad Beiblaidd.  Ond dydw i ddim yn cofio dysgu dim am dymhorau blwyddyn yr eglwys.

Rwyf wedi byw gyda Chatholig o’r Almaen ers pymtheg mlynedd ar hugain a chofiaf ei fraw pan ddeallodd fy mod yn gwybod dim am dymor yr Adfent… na thraddodiad y torch Adfent:  Y ddefod o greu’r dorch – casglu brigau celyn, uchelwydd a phinwydd o’r goedwig – dewis y canhwyllau priodol – gosod y torch mewn man amlwg… ar y bwrdd bwyd neu sil y ffenest.  Ac yna, ar y Sul cyntaf o Adfent, byddwn yn goleuo’r gannwyll o obaith (canhwyllau cariad, llawenydd a heddwch yn dilyn ar Suliau olynol y tymor), a threulio’r wythnos yn myfyrio ar y thema gobaith.

Erbyn heddiw, mae gobaith yn cael ei ddeall fel ‘disgwyl i rywbeth ddigwydd, ond nid yw’n gwbl siŵr y bydd’; mae’n debycach i ddymuniad; gobeithio y bydd y tywydd yn gwella… gobeithio na fydd y trên yn hwyr… ond o Hebraeg yr Hen Destament a Groeg y Testament Newydd gallwn ddod i’r casgliad bod ystyr Beiblaidd gobaith yn ddyfnach – yn fwy dwys:

…edrych yn ddisgwylgar tuag at y dyfodol –

yn seiliedig ar ein ffydd yn Nuw yn y presennol –

a ffyddlondeb Duw yn y gorffennol.

Nawr, onid yw hynny’n werth ychydig oriau o fyfyrio?

Ond efallai y byddai’n well gennych feddwl ar rywbeth gydag ychydig mwy o ddiwinyddiaeth ymarferol? Dywedodd Martin Luther King Jr:  “Mae’r gobaith am fyd diogel, a byd gwerth ei fyw ynddo, yn gorwedd ar ysgwyddau anghydffurfwyr disgybledig sy’n ymroddedig i gyfiawnder, heddwch a chymuned.”  Hmm! Pa mor ddisgybledig yw fy anghydffurfiaeth?  Pa mor ymroddedig ydw i i heddwch drwy gyfiawnder yn y cymunedau yr wyf yn byw ynddynt – yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol, yn fyd-eang?  Mae hynny’n werth ychydig oriau o ystyriaeth!

Neu efallai bod rhywbeth mwy rhyngbersonol at eich dant?  Mae Maya Angelou yn ein herio fel hyn:  “Y peth braf am obaith yw y gallwch ei roi i rywun arall sydd ei angen yn fwy na chi, ac fe welwch nad ydych wedi rhoi eich gobaith chi i ffwrdd o gwbl.”  Hmm!  Yn ddiweddar, pryd wnes i gerdded ochr yn ochr â rhywun yn eu trafferthion? Pryd wnes i eistedd gyda rhywun yn eu galar? ‘Pryd y’th welsom di’n newynog a’th borthi, neu’n sychedig a rhoi diod iti?  A phryd y’th welsom di’n ddieithr a’th gymryd i’n cartref, neu’n noeth a rhoi dillad amdanat?’

“Pam nad yw eich dewisiadau’n adlewyrchu eich gobeithion, nid eich ofnau?” ofynnodd Nelson Mandela.  Yn ystod yr wythnos hon, sef wythnos gyntaf yr Adfent, byddaf yn myfyrio ar ystyr gobaith yn fy mywyd wrth ddechrau fy mharatoadau ar gyfer y Nadolig – ac yn nyfodiad Emaniwel rwy’n addo eto i ddewis gobaith.