E-fwletin 21 Tachwedd, 2021

Amlygir drygioni’r rhieni gan y plant

Mae trais yn y cartref wedi bod yn bwnc trafod ers hanner can mlynedd. Mae nifer o enwadau a nifer o weinidogion unigol yn estyn cymorth i’r cymar sy’n dioddef trais, ond yn anaml y clywir eglwysi yn llefaru yn eglur i gondemnio’r trais, yn hytrach na’r ysgariad. Mae rhai diwinyddion, rhai Catholig ac Efengylaidd yn bennaf, yn dewis delfrydu priodas. Gan fod y wasg yn rhoi mwy o sylw i agwedd eglwysi at berthynas rhywiol nac at unrhyw ran arall o’u dysgeidiaeth, mae’r syniad fod parhad unrhyw a phob priodas yn rhan hanfodol o gred y Cristion yn aros – tu fewn ac oddi allan i’r eglwysi.

Dyfynnir yn aml yr addewid “hyd oni wahanir ni gan angau” neu “mewn hawddfyd ac adfyd” heb gydnabod fod y cwpl wedi gwneud aduniadau gan ddisgwyl y bydd eu cymar yn cadw’r un addunedau. Mae Duw yn bendithio priodasau pan fo’r ddau yn ceisio cadw’r un addewidion. Pan mae priodas yn methu, er gwaetha pob ymdrech gan un cymar, clywir yn rhy aml am feirniadaeth gan gyd- Gristnogion. Dwedir wrthynt fod Duw yn disgwyl iddynt ddioddef a bod maddau, heb dystiolaeth o edifeirwch, yn rhan o addunedau’r briodas. Cyfeirir at ysgariad fel pechod yn hytrach na chanlyniad i bechod. Mae’r cyfan yn loes ychwanegol ac yn peri i’r sawl sy’n dioddef aros yn hirach mewn priodas dreisgar.

Wrth drafod trais yn y cartref ni chyfeirir yn unig at drais corfforol, wrth gwrs. Cyn yr ergyd gyntaf bydd trais seicolegol yn cynnwys  gwawdio, bychanu ac anwybyddu. Amcangyfrifir fod trais geiriol yn digwydd saith gwaith yn amlach na thrais corfforol.  O ganlyniad mae plant yn tyfu mewn sefyllfa lle mae creulondeb a chariad yn cael eu cymysgu a phan welant un rhiant yn cam-drin y llall maent yn credu fod cam-drin eraill yn ymddygiad derbyniol. Byddant, o bosib,  yn efelychu eu rhieni pan yn oedolion :  naill trwy fod yn greulon neu dderbyn camdriniaeth fel rhan naturiol o briodas. Daw bygythiadau  a chasineb yn ymddygiad naturiol iddynt. Nid yw’n syndod felly fod rhai yn ymddwyn yn gas at eraill mewn cymdeithas ac ar y cyfryngau cymdeithasol  os ydynt wedi profi’r fath ymddygiad yn eu cartrefi.  Canlyniad arall yw bod bechgyn yn credu fod ymddygiad  gwawdlyd neu dreisgar tuag at fenywod yn dderbyniol,

Os nad ydym yn herio trais yn y cartref ni fedrwn obeithio am gymdeithas neu fyd llai treisgar.

Dadleuir fod plant yn gwneud yn well yn byw gyda’u dau riant, ond pan ddaw priodas dreisgar i ben yna gall y plant ddysgu na fwriadwyd  i briodas fod fel perthynas eu rhieni. Gallent anelu a gobeithio am briodas well iddynt eu hunain. Ni ddylem ystyried priodas fel delfryd, ond fel cyfrwng i greu perthynas, gan gydnabod fod y cyfrwng yn methu weithiau, fel unrhyw gyfrwng arall. Er gwaethaf hyn, pan mae’r ddau gymar yn ymdrechu yn ddyddiol i gadw’r addewid “i garu ac ymgeleddu” y naill a’r  llall, mi fydd eu priodas yn parhau yn gadernid ac yn ddiogelwch i blant.