Dewiswch fywyd
Y dyddiau yma teimlaf fy mod wedi fy ngorlethu gydag anghenion cymdeithas a byd – anghenion sy’n pentyrru ym mhob man. Nifer y teuluoedd sydd angen bwyd yng Nghymru yn tyfu a straeon effaith Cofid ar ein pobl a’n plant yn amlhau. Yna deddfau ar y gweill i’w gwneud yn anoddach protestio, croesawu’r ffoadur, diogelu gwasanaethau iechyd a sicrhau ein hiawnderau.
Yn rhyngwladol mae iawnderau dynol mewn perygl mawr a does dim ond angen enwi Israel/Palestina, yr Uighurs a Myanmar … Mae democratiaeth mewn peryg – yn America, Hwngari, Tsieina, Rwsia …Mae newyn yn cynyddu, ac anghyfiawnder yn amlhau.
Arferwn deimlo fod pethau’n gwella er yn lawer rhy araf . Ond beth welaf? Banciau bwyd ymhob tref ym Mhrydain; mwy o gwmnïau yn elwa o afiechyd; ofn dieithriaid o’n cwmpas; tlodi’n gwaethygu; hil-laddiad yn cynyddu. A dwi ddim wedi sôn am argyfwng y Cread ei hunan!
Mae bron pob sgwrs y dyddiau yma am yr angen a’r boen.
Nid wyf erioed wedi deall pam roedd angen i Deuteronomiwm ddweud ‘Dewiswch fywyd nid marwolaeth’. Pwy fyddai yn dewis marwolaeth yn lle bywyd? Ond sylweddolaf faint o bobl a sefydliadau sy’n gwneud hynny. Oherwydd fod yna arian i’w wneud wrth ein cyflyru i ofni cymaint, yn ein hofn yr ydym yn ynysu rhag eraill – a dewis marwolaeth.
Yn y cyfnod ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf yr oedd teimlad o bopeth yn dod i ben ac argyfyngau lawer yn wynebu’r byd. Yng Nghymru bu farw tua 40,000 o ddynion ifanc yn y brwydro ac yna, yn fuan wedyn amcangyfrifwyd colli tua 10,000 o Gymry i’r ffliw. Roedd y cyfan yn ofid a gwae.
Ynghanol hyn i gyd trefnwyd Apêl gan wragedd Cymru. Yn 1924 arwyddodd bron i 400,000 o wragedd Cymru Apêl Heddwch at fenywod yr Unol Daleithiau, yn erfyn arnynt i berswadio eu llywodraeth i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd. Yn sgil y Rhyfel roeddynt yn ceisio cyfeillgarwch rhwng cenhedloedd er mwyn osgoi rhyfel arall.
Mae grŵp bychan Heddwch Nain/Mam-gu wedi cydio yn yr hanes hwn a bellach yn rhan o bartneriaeth ehangach i ddathlu a choffau canmlwyddiant y digwyddiad hanesyddol hwn.
Heddiw, yn sgil pandemig rhyngwladol, fe wynebwn ninnau fygythiadau i heddwch, iechyd a dyfodol ein byd. Fel gwragedd, rydym yn ddyddiol yn dioddef effeithiau tlodi, afiechyd, anghyfiawnder, eithrio a thrais. Mae angen llawer mwy na choffâd a dathliad ac yr ydym, fel grŵp o ferched am geisio herio ein hunain ar sut i wireddu breuddwyd gwragedd 1924 am fyd di-ryfel.
Roedd gallu’r gwragedd i gasglu bron i 400,000 llofnod mewn cwta chwe mis, ac mewn oes heb ryngrwyd, ffôn na cheir, yn golygu gweledigaeth a gwaith caled. Bu cannoedd yn cerdded a chnocio drysau a chafwyd cefnogaeth eglwysi, capeli, grwpiau gwragedd, grwpiau hanes a grwpiau heddwch yn eu plith. Trefnasant fod y llofnodion yn cael eu hebrwng i’r Amerig lle cyflwynasant yr Apêl i 300 o fudiadau gwragedd ac i’r Arlywydd Coolidge.
Sbardunwyd fi yn ystod y pandemig gan hanes ein cyn-neiniau. Mae’r angen yn parhau i ‘ddewis bywyd’ heb wybod yn iawn beth mae hyn yn mynd i’w olygu. Ond y mae’n siŵr o olygu gobaith er gwaethaf popeth.
Gwahoddwn ni chi i ymuno. Mae criw ohonom yn fodlon siarad â phobl ac â mudiadau i rannu’r hanes ac i weld yma ffordd y gallwn ddewis bywyd yn y Gymru gyfoes.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â heddwchnain.mamgu@gmail.com