E-fwletin 7 Tachwedd, 2021

Hedfan i mewn i’r gwynt

Mae’n siŵr bod yr “Ail Eseia” wedi ymweld â rhyw fferm ar ddiwrnod cneifio, ac wedi rhyfeddu fel y byddai “dafad yn ddistaw yn llaw’r cneifiwr” (53.7). Mae’r darlun yn hollol gywir ac yn fyw i mi. Ond rwy’n cofio meddwl unwaith na allai’r awdur hwnnw fod wedi cael ei fagu ar fferm, neu ni fuasai wedi dweud “Nyni oll a grwydrasom fel defaid: troesom bawb i’w ffordd ei hun” (53.6). Petai erioed wedi gorfod trafod y creaduriaid hynny fe fyddai wedi dysgu drwy brofiad chwerw nad crwydro i’w ffordd ei hun a wna dafad, ond mynd ar gyfeiliorn drwy ddilyn rhyw ddafad fentrus o arloesol. Honno fyddai wedi gweld y bwlch bach yn y clawdd ac wedi ffroeni ei ffordd drwodd, a’r lleill i gyd yn dilyn. Felly nid un ddafad golledig a gaech chi ond praidd colledig wedi gadael eu cynefin. Peth anarferol iawn yw dafad golledig.

Yn ystod y Pandemig hwn fe welwyd ambell ddafad od yn mynnu hau celwyddau yn erbyn brechu nes creu amheuaeth ym meddyliau defaid eraill, a’r rheini yn rhy barod i’w dilyn. Cofiwch, mae’n rhaid i mi gyfaddef fod gennyf barch at yr anghydffurfiwr: y meddwl unigolyddol hwnnw sy’n mynnu aredig ei gŵys ei hun. Bellach rwy’n fwy parod i weld nad hwnnw efallai sy’n iawn bob tro. Hwyrach i Donald Trump, o ddifyr goffadwriaeth, faglu i mewn i’r gwirionedd pan gawliodd, mewn araith yn Philadelphia, rhwng “herd immunity” a “herd instinct”. Fe all greddf yr haid, yn ogystal ag imiwnedd yr haid, fod weithiau yn fuddiol iawn.

Y mae gan rai ifanc yn ein teulu ni ddiddordeb mewn seiclo, a pheri i ryw greadur disymud fel fi ddysgu rhywbeth am y gamp. Pan fyddant yn cystadlu mewn tȋm byddant yn trefnu fod pob aelod am ryw hyd yn mynd ar y blaen i dorri drwy rym y gwynt, gan arbed egni gweddill y tȋm. Bydd hynny’n golygu gwell cyfle i’r tȋm cyfan wedyn groesi’r llinell derfyn ar y blaen, ac ennill y ras. Fe welsom o hydref i hydref heidiau o adar yn hedfan gan drefnu eu hunain yn yr un modd, a greddf yr haid yn sicrhau y bydd hyd yn oed y gwannaf yn cyrraedd gwlad yr addewid.

Beth fydd pawb a derbyniodd frechlyn ac a wisgodd fasg yn ei wneud ond cymryd rhan o’r baich er mwyn y tȋm. Beth a wna pob gweithiwr iechyd, a gweithwyr mewn cartrefi gofal, ond cymryd eu tro i gysgodi’r bregus. A dyna bwrpas eglwys: modd i ni oll yn ein tro i hedfan i ddannedd y gwynt er mwyn eraill.