Archif Awdur: Golygydd

E-fwletin 13 Mehefin, 2021

 

Y WAL GOCH

Pryd y trodd Walia wen  yn Wal goch? Cefnogwyr tîm pel droed Cymru yw’r Wal Goch; ffenomenon a dyfodd wedi llwyddiant Cymru yn Ewro 2016. Mae’r pwynt enillwyd ddoe yn erbyn Y Swisdir yn well na dim!

Ai’r Ddraig Goch a roddodd liw i’r genedl fechan hon? Ym Mrwydr Crecy 1346, y ddraig oedd y symbol ar faner byddin Prydain “and the archers in their beloved green and white defeated the French.” Yn ôl un ffynhonnell brenhinoedd Aberffraw cyn belled yn ôl â’r bumed ganrif oedd y cyntaf i fabwysiadu’r ddraig fel arwydd o bŵer ac awdurdod. Cadwaladr, brenin Gwynedd 655-682, a sicrhaodd mai draig goch oedd hi. Ie, hi; benywaidd yw draig!

Beth wneir â wal sydd wedi’i bylchu? Oherwydd rheolau Cofid rhyw furddun o wal goch allodd fod yn bresennol yn Baku bell. Fe wnaeth y Wal ei gorau (benywaidd yw ‘wal’ hefyd) i ganu’r anthem, i fod yn amddiffynfa solet i’r tîm ac i ddangos ei gwerthfawrogiad a’u cefnogaeth. Yr hyn a gyfyd y Wal yn ei hôl yw’r canlyniadau ar y cae. Wedi’r cyfan, mentaliti torf sydd ar waith. Fe all y dorf fod yn gefnogol. Fe all fod yn wamal hefyd. Peth prin mewn torf sy’n colli yw teyrngarwch.

‘Gorau chwarae cyd-chwarae’ yw arwyddair Cymdeithas Bel Droed Cymru, er nad yw’r arwyddair bellach ar y bathodyn. Dymuniadau gorau i’r bechgyn yn erbyn y Twrc a’r Eidalwr. Ac ymlaen!

Mae’r wal yn bwysicach na’r lliw.Tybed yde chi’n gyfarwydd â’r idiom “tu clyta i’r wal”? Ffrind o Fôn ddwedodd wrtha i am yr idiom – “clyta” yn yr ystyr o ‘fwyaf clyd.’ Hynny’n f’atgoffa, yn ei dro, o’r ymadrodd gwrthgyferbyniol Seisnig “the weakest go to the wall.” Daw’r ymadrodd hwnnw’n wreiddiol o’r Coventry Mystery Plays. Ganrif yn ddiweddarach roedd Shakespeare – nid y Wil a ddwedodd ‘wel’ wrth y wal – yn ‘Romeo and Juliet’ yn sôn am “a weak slave, for the weakest goes to the wall”. Cyfeirio y mae hynny at yr adeg pan oedd cwteri yn rhedeg gydag ymyl strydoedd culion trefi a dinasoedd a’r lle diogela i fyddigions oedd canol stryd. Gorfodid y gwan i’r ymylon.

Bu adeg pan oedd hi felly mewn eglwysi. Dyna’r seddi a gedwid i’r gwan, yr anabl, y cloffion a’r cleifion. Meinciau carreg hyd ymylon yr eglwys fyddai’r unig le i’r gweiniaid. A datblygodd y syniad fod lle wrth y wal yn arwydd o fethiant a gwendid.

Mae saith o wledydd cyfoethoca’r Gorllewin yn cyfarfod yng Nghernyw, a chyfle i Boris Johnson i dderbyn clod G7 am y bwriad i anfon brechlynnau i’r gwledydd tlota, os yw’n fwriad i wireddu’r addewid rhywdro. Ond gwrthodwyd pleidlais gan Brifweinidog Prydain ar benderfyniad y Llywodraeth i dorri ar wariant tramor. Dyna dorri £4bn i wledydd tlawd tra’n gwario £4bn ar arfau i wneud Prydain yn fawr. Dyma’r dyn a ddymunodd yn dda i Loegr yn yr Ewros; dim gair am Gymru. Ys dywed J. T. Jones yn ei gyfieithiad o Romeo a Juliet ‘Y gwanna sy’n mynd i’r wal bob tro.’

Y daith ydi adra

Y daith ydi adra

Yn y misoedd ar ôl imi gael fy nhywys oddi wrth hunanladdiad, treuliais lawer o amser gyda Huw a Mair Wynne Griffith [Gweinidog Capel Seilo a’i briod] yn Aberystwyth. Eu cariad a’r modd yr oeddynt yn derbyn yn ddiamod yr hyn oedd yn wahanol amdanaf oedd yr angor a ddaliai’n gadarn ar adeg pan mai’r unig beth y medrwn obeithio amdano oedd gallu dal ati trwy’r ychydig oriau nesaf. Ac felly llwyddais i ‘ddal ati’ am ddyddiau, a’r dyddiau yn troi’n wythnosau, a’r wythnosau’n fisoedd. Weithiau byddai Huw yn cynnig llyfr yr oedd wedi ei ddarllen imi – Is the homosexual my neighbour? gan Mollenkott a Scanzoni a Time for consent gan Norman Pittenger. Byddai Mair yn aberthu dyddiau ar eu hyd i wneud dim mwy nag eistedd efo fi. ‘Y daith ydi adra,’ fyddai hi’n ei ddweud, ‘ac weithiau, pan mae pethau’n anghyfforddus neu pan ’dan ni yn teimlo ar goll, mae angen cwmni ar y daith honno.’

Roedd hi’n hoff o chwarae casét o ganu yr oedd un o’r merched wedi dod ag o adref o Taize … canu o symlrwydd cynhwysol. Roeddwn yn arbennig o hoff o ‘Ubi caritas, et amor, Deus ibi est’ – ‘Lle bo graslorwydd a chariad, yno y mae Duw’, a chredaf fod llafarganu y Brodyr o Taizé nid yn unig wedi tawelu fy meddwl cythryblus ond hefyd wedi gwneud fy synhwyrau yn agored i fyfyrdod a gweddi.
(tudalen 108)

O’r gyfrol Y daith ydi adra gan John Sam Jones (Parthian, 2021, £15.00). Dyma hunangofiant gonest – ar adegau, hyd yn oed yn boenus o onest – am fywyd a phrofiadau bachgen oedd yn ymwybodol yn ifanc iawn ei fod yn hoyw. Yn y gyfrol fe gawn hanes ei frwydr ag ef ei hun, ei ysgol a’i gymuned, ei eglwys ac â’i Dduw. Mae’n fwy na’r hunangofiant cyntaf o’i fath yn y Gymraeg. Mae’n bererindod ysbrydol gyfoes.

PLlJ

 

CODA 2021

Nos Iau 10 Mehefin am 8yh bydd cymuned CODA yn ymgynnull ar-lein ac yn ailedrych ar ein hethos: 

“YSBRYDOLI FFYDD A GWEITHREDU” – cyfle gwych i rannu gyda’n gilydd, ysbrydoli ein gilydd ac i gael ein hannog!

Mae YMGYSYLLTU A GWEITHGAREDDyn allweddol i ddwyn newid. Ymunwch â ni i drafod gyda’n gilydd sut mae ymgysylltu ac actifiaeth yn edrych yn ymarferol.

Mae CREADIGRWYDD A’R CELFYDDYDAU yn rhan sylweddol o CODA. Rydym wrth ein bodd yn dathlu llawenydd creadigrwydd ond rydym hefyd yn gwerthfawrogi sut y gall creadigrwydd ysbrydoli, herio ac ysgogi.

UNO’R DOTIAU – rydym yn well gyda’n gilydd. Mae rhwydwaith CODA yn sylfaen i’r hyn ydym ni a beth rydym yn ei wneud.

Mae Coda Cymru yn ei hanfod yn ‘fan cyswllt; yn uno ein celfyddydau, ffydd, creadigedd a gweithredu ac yn creu gofod ble gallwn ysgogi ein gilydd’. Fel y gobeithiwn eich bod yn gwybod erbyn hyn, bwriadwn gyfarfod bob yn ail flwyddyn mewn cynulliad ar ffurf gŵyl, a chreu cyfleoedd rhyngddynt ar gyfer unrhyw un a fyddai’n ystyried eu hunain yn rhan o’r rhwydwaith i ddod ynghyd gyda’r un amcanion.

Adnewyddu Cristnogaeth – Parhau’r Drafodaeth

Adnewyddu Cristnogaeth: Parhau’r Drafodaeth

Fe gofia rhai o ddarllenwyr Agora am gynhadledd ‘Dechrau o’r Newydd’ a gynhaliwyd yn Aberstwyth yn 2019, wedi’i noddi ar y cyd gan Gristnogaeth 21, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac Adran Athroniaeth Urdd y Graddedigion.

Cafwyd ymdrech i ddatblygu ymhellach ‘agenda’ y gynhadledd honno – sef ystyried sut y gellid adnewyddu Cristnogaeth mewn oes ôl-wyddonol – mewn erthyglau gan ddau o’r cyfranwyr yn rhifynnau diweddaraf O’r Pedwar Gwynt.

Yn ‘Heb ei Fai, heb ei Eni’ (Gaeaf 2020) mae Gareth Wyn Jones yn archwilio ymhellach y myth Iddewig-Gristnogol am y Cwymp yng ngoleuni’r darganfyddiadau gwyddonol diweddaraf, ahynny er mwyn dod i waelod ‘ein natur ddynol amwys’ a’r cyfuniad trwblus o’r ‘gwych a’r gwachul, y cydymdeimladol a’r treisgar’ sy’n ein nodweddu fel rhywogaeth.

Mae’r dystiolaeth wyddonol yn dangos nad cwympo o ddiniweidrwydd paradwysaidd i gyflwr o bechod a wnaethon ni, ond yn hytrach ddatblygu yn raddol iawn, drwy broses ddidostur esblygiad, y ddawn o gydweithio a chydymdeimlo â’n ceraint llwythol, ond gan gadw’r greddfau treisgar cyntefig er mwyn gwarchod y ceraint hynny rhag bygythiadau allanol. Y cyfuniad cyferbyniol yna a alluogodd homo sapiens i ennill y ‘ras esblygiadol’ a goresgyn y blaned ar draul ein cystadleuwyr.

Ond nid dyna ddiwedd y stori i Gareth Wyn Jones. A ninnau’n wynebu argyfwng dirfodol newid hinsawdd a dinistr ecolegol, rhaid i ni dyfu’r tu hwnt i’n hetifeddiaeth esblygiadol. Rhaid i ni ymgymryd â phroses o ‘hunan-ddofi’ ymwybodol ar ben y dofi esblygiadol a ddigwyddodd drwy ddethol naturiol. Meddai, ‘Mae’r dyfodol yn dibynnu, nid ar ein hetifeddiaeth reddfol na’r defnydd o drais bwriadus ond ar ein gallu i wneud penderfyniadau doeth a diwylliedig – ac adeiladu cyfundrefnau rhyngwladol a lleol i’w cadarnhau a’u gwireddu.’

Ystyried pa gyfraniad all fod gan grefydd, a Christnogaeth yn benodol, yn y trawsnewidiad uchelgeisiol yna yw perwyl Cynog Dafis yn ‘Llongddrylliadau’ (Gaeaf 2020 a Gwanwyn 2021). A chymryd gyda Karen Armstrong mai i fyd ‘mythos’ y mae crefydd yn perthyn, ym mha fodd y mae iddi gyfrannu mewn byd y ffurfiwyd ei dealltwriaeth o bopeth gan empeiriaeth wyddonol?

Onid yw’r dramodydd o gyn-glerigwr Aled Jones Wiliams yn ei ddrama Lleu Llaw Gyffes yn codi’r cwestiwn a oes angen myth arnon ni o gwbl ac yn awgrymu’r posibilrwydd y gallai ceisio adfywio myth sy’n chwalu achosi mwy o lanast nag o les?

Wedi bwrw golwg ar gritîc sgeptigaidd-gyfeillgar Ioan Talfryn o drafodion cynhadledd ‘Dechrau o’r Newydd’ a Seven Types of Atheism, John Gray, mae Cynog Dafis yn dod i lawr yn go bendant o blaid safbwynt Karen Armstrong yn The Lost Art of Scripture fod angen ‘ailddarganfod cysegredigrwydd pob dyn ac ailgysegreiddio’r byd’ os ydyn ni i godi i sialens argyfwng yr amgylchedd naturiol.

Gall fod gan rai o’r ‘distiau’ a ddaw i’r lan wedi llongddrylliad Cristnogaeth draddodiadol ran o bwys i’w chwarae wrth i ddynoliaeth adeiladu’r foeseg newydd y bydd raid wrthi os yw ein gwareiddiad am oroesi.

Beth am ddarllen y tri chyfraniad yn llawn drwy ddilyn y dolenni yma i wefan O’r Pedwar Gwynt, lle mae modd i ddarllenwyr Agora eu darllen yn rhad ac am ddim:

Erthygl wreiddiol ‘Llongddrylliadau: Ailddychmygu Cristnogaeth’ gan Cynog Dafis (Rhifyn Gaeaf 2020).

‘Beth dda yw myth?’ (Llongddrylliadau 2) gan Cynog Dafis (Rhifyn Gwanwyn 2021) – 

Heb ei fai, heb ei eni: Ein natur ddynol amwys’ gan R Gareth Wyn Jones (Rhifyn Gaeaf 2020) – 

Reinhold Niebuhr

Reinhold Niebuhr

Ar 1 Mehefin 1971, hanner can mlynedd yn ôl, bu farw Reinhold Niebuhr yn 78 oed.

 

Ef oedd un o ddiwinyddion a phregethwyr enwocaf America yn ei ddydd, ond erbyn hyn anaml y clywir ei enw hyd yn oed. Ond, fel pob llais proffwydol, mae neges Niebuhr yn oesol ac mae’n werth nodi fod Barak Obama, yn ei gyfrol A promised land, yn sôn am baratoi ei anerchiad ar gyfer derbyn Gwobr Heddwch Nobel yn Oslo (2009) ac yn dweud ei fod wedi troi at weithiau Reinhold Niebuhr a Gandhi am ysbrydoliaeth. Mae wedi galw’r bennod honno yn ei gyfrol yn ‘The world as it is’, sy’n ddyfyniad o weddi enwog gan Reinhold Niebuhr.

O’r un gyfrol ar hugain a ysgrifennodd Niebuhr, y rhai pwysicaf – a ddarllenwyd yn eang yn ystod y cyfnod rhwng pedwardegau a chwedegau’r ganrif ddiwethaf – oedd Moral man and immoral society (1932) a Nature and destiny of man (dwy gyfrol, 1941–3 ).

Nid ysgrif o deyrnged i gyfraniad Niebuhr yw hon, ond cyfle i gynnwys dau ddyfyniad o’i waith ac i gyfeirio at un cyfnod arbennig yn ei fywyd.

Dyfyniad 1 – Gweddi gan Reinhold Niebhur

 Mae’r weddi yn un enwog ac yn dechrau â’r geiriau ‘Lord, give us the serenity to accept the things we cannot change’. Yn y cyfieithiadau sydd i’w cael yn Gymraeg, mae’r gair ‘serenedd’ wedi cael ei ddefnyddio’n gyson, ac er nad yw’n air a ddefnyddiwn yn aml, fe’i cysylltir erbyn hyn â’r weddi. Ond ychydig sy’n gwybod am awdur y weddi ac anaml iawn y mae’r weddi’n cael ei dyfynnu yn llawn:

Arglwydd, rho i ni’r serenedd
i dderbyn y pethau na ellir eu newid;
y dewrder i newid y pethau y dylid eu newid –
a’r doethineb i fedru gwahaniaethu rhyngddynt.

Gad i ni fyw un dydd ar y tro
a mwynhau pob munud o’r dydd,
gan dderbyn y rhwystrau ar y ffordd i heddwch
ac wynebu, fel Iesu,
y byd fel ag y mae,
nid fel yr ydym ni am iddo fod,
gan ymddiried y byddi Di
yn gwneud popeth fel y dylai fod
os ufuddhawn i’th ewyllys,
fel y byddwn yn weddol hapus ein byd
ac yn fythol lawen yn Dy dragwyddol fyd Di.

 Cafodd Reinhold ei eni yn Wright City, Missouri, lle roedd ei dad yn weinidog ar gynulleidfa fechan o Almaenwyr alltud. Yn 1915, yn dilyn addysg academaidd ddisglair, cafodd Reinhold ei anfon gan Genhadaeth Efengylaidd Almaenig i fod yn weinidog ar Eglwys Efengylaidd Bethel yn Detroit, Michigan. Pan ddechreuodd yno, 66 oedd nifer aelodaeth yr eglwys. Pan adawodd Detroit yn 1928, roedd yno 700 o aelodau. Beth, tybed, oedd yn egluro’r cynnydd?

Roedd Detroit yn ddinas oedd yn tyfu’n gyflym oherwydd y twf diwydiannol, a thwf y diwydiant moduron yn arbennig, gan ddenu mewnfudwyr du a gwyn o’r De yn ogystal â rhai Iddewig a Chatholig. Daeth yn bedwaredd ddinas fwyaf yn America. Ond daeth hefyd yn ganolfan bwysig i’r Ku Klux Klan (yr oedd cynifer ag 20,000 yno yn ystod cyfnod Niebuhr) a daeth yn ddinas o wrthdaro hiliol a chymdeithasol.

Roedd Niebuhr yn ymwybodol o amodau gwaith a chyflogau’r gweithwyr, oedd yn gweithio oriau maith fel y gallai Henry Ford ymelwa ar yr hyn a ystyriai Niebuhr yn ecsbloetio’r tlawd. Ar un achlysur dinesig yn ei eglwys, beirniadodd Henry Ford, ac yntau yn y gynulleidfa. Roedd y cyfalafwyr yn barod iawn i roi cynghorion i’w gweithwyr sut i fod yn ddarbodus ag arian a pheidio â’i wastraffu ar alcohol neu foethau. Cyhuddodd Niebuhr Ford o ragrith ac o bechod oherwydd amgylchiadau gwaith truenus, oriau meithion a chyflog isel y gweithwyr. Aeth y gweinidog mor bell â rhoi lle i arweinwyr yr undebau llafur i ymgyrchu dros y gweithwyr o’r pulpud. Nid oedd yn fodlon i’r eglwys leol fod yn dawel. Wedi’r cyfan, meddai, cyfiawnder ar waith yw cariad yn Detroit. Os nad yw’n gyfiawnder, nid yw’n ddim.

O ystyried trychineb y Rhyfel Byd Cyntaf, o gofio’r dirwasgiad yn y 30au a bod y rhan fwyaf o’r bobl gyffredin yn byw mewn tlodi, daeth yn amlwg i Niebuhr nad oedd gan y Gristnogaeth a goleddai ef – Cristnogaeth lipa, ryddfrydol, gyfforddus, barchus – ddim i’w gynnig i fyd oedd yn dyheu am newyddion da o obaith. Y tristwch mawr oedd fod y Gristnogaeth a’r eglwys honno’n adlewyrchu rhyddfrydiaeth dawel a hawdd arweinwyr gwleidyddol a Christnogol. Roedd Karl Barth yn cyflwyno’r un neges yn yr Almaen, a does ryfedd fod neges Niebuhr yn America a Barth yn Ewrop yn cael ei galw’n ‘ddiwinyddiaeth argyfwng’.

Dyfyniad 2 – Teyrnas Dduw ar y ddaear

A dyma ddod at yr ail ddyfyniad, nad yw mor adnabyddus â’r dyfyniad cyntaf ond sydd, efallai, yn bwysicach o gofio cyfraniad Reinhold Niebuhr. Mae ail hanner y dyfyniad yn yr iaith wreiddiol er mwyn i rym y geiriau a her y neges gael eu clywed.

Daw’r geiriau o’i gyfrol The Kingdom of God in America (1957). Fe fydd rhan o’r dyfyniad yn gyfarwydd i’r rhai hŷn ohonom a ddarllenodd rai o gyfrolau Niebuhr ac o gofio hanes yr eglwys a’i diwinyddiaeth yn y cyfnod hwnnw.

Yr oedd rhyw syniad rhamantaidd o Deyrnas Dduw ar y ddaear, ond teyrnas ydoedd heb argyfwng na thristwch nac aberth na cholled na chroes nac atgyfodiad. Yr oedd moeseg y deyrnas honno yn cyfuno a chymodi diddordebau a buddiannau cymdeithas â’r hyn fyddai orau i’r unigolyn. Ond mewn gwleidyddiaeth ac economeg yr oedd yn anwybyddu rhaniadau cenedlaethol a dosbarth, gan weld dim ond rhyw undod arwynebol gan anwybyddu’r ecsbloetio a’r haerllugrwydd moesol.

In religion it reconciled God and man by deifying the latter and humanising the former … Christ the Redeemer became Jesus the Teacher or the spiritual genius in whom the religious capacities of mankind were fully developed … Evolution, growth,development, the culture of religious life, the nurture of kindly sentiments, the extension of humanitarian ideals, and the progress of civilation took the place of the Christian revolution. A God without wrath brought men without sin into a kingdom without judgement through the ministration of a Christ without a cross.

Dylid pwysleisio mai beirniadaeth gweinidog proffwydol ar arweinwyr gwleidyddol ac eglwysig ei ddydd oedd neges Niebuhr yn ei bulpud yn Deroit ac yn nes ymlaen yn ei lyfrau, ‘yng nghanol y byd fel ag y mae’. Fel Eseia yn Jerwsalem. Y Gristnogaeth ryddfrydol, ddiogel, bietistaidd a gadwai’n glir o’r hyn ‘a ddywed yr Arglwydd’. Cristnogaeth hawdd, ddigynnwrf, lugoer a’i dehongliad a’i thystiolaeth o’i ffydd yn annheilwng o Iesu.

Mae angen cofio cyfraniad Niebuhr heddiw – ac nid yw’r erthygl hon yn ddim mwy na chyfeiriad at ran yn unig o’i waith a’i fywyd.

Mae’r eglwysi traddodiadol/enwadol (er yn effro i gyfrifoldebau elusennol ac yn barod eu cyfraniad fel erioed) yn parhau yn y meddwl rhyddfrydol yr oedd Niebuhr yn ei feirniadu. Naill ai ni allant – neu nid ydynt – yn mynd i’r afael ag argyfwng gwleidyddol ac ysbrydol ein hoes, boed hynny’n argyfwng cymunedol y gymdeithas Gymraeg, neu maent yn dewis ymwrthod â’r byd-olwg sy’n gwbwl angenrheidiol yn yr 21ain ganrif. Hyd yn oed yn yr argyfwng, gwarchodol a thraddodiadol i’r eithaf yw’r Gristnogaeth ryddfrydol hon.

Mae’r eglwysi a’r Cristnogion sy’n arddel y label Efengylaidd / Beiblaidd / Uniongred yn credu mai afiechyd personol yw pechod ac mai trwy achub yr unigolyn y mae achub y byd. (Rhaid cofio bod ‘eglwysi efengylaidd’ America ar chwâl erbyn hyn ac yn newid mewn rhannau eraill o’r byd – dylanwad Niebuhr o’r diwedd, efallai?) Er mwyn gallu newid y byd, roedd Niebuhr yn credu bod angen wynebu pechod strwythurol a gwleidyddol, a chamddarllen y Beibl yw peidio â gwybod hynny. Anfon ei fab i ‘achub y byd’ a wnaeth Duw, ac er bod angen dathlu am ‘bob pechadur sy’n edifarhau’, mae gan Duw a’i eglwys waith pwyiscach i’w wneud na chyfrif y cadwedig.

Galwad i radicaliaeth Iesu sy’n boenus o bersonol, yn anghyfforddus o ysgrythurol ac yn aberthol o ymrwymiad i Deyrnas Dduw ar y ddaear – dyna oedd galwad Niebuhr yn ei ddydd. Nid rhyw iwtopia o deyrnas a ddaw yw’r deyrnas honno, ond Duw ar waith yn y ‘byd fel ag y mae’. Mae ei ddilynwyr mor radical ag Iesu yn eu hagwedd tuag at y grymoedd sy’n teyrnasu, mor radical ag Iesu yn eu darllen o’r ysgrythur, ac mor radical ag Iesu yn eu hymrwymiad i ewyllys Duw ar gyfer ei fyd.

Beth yw bod yn Gristion ac yn eglwys radical heddiw? Dyna gwestiwn Niebuhr i ni.

A dyna pam ei bod yn werth cofio’i farwolaeth 50 mlynedd yn ôl.

Mae cyfrol E. R. Lloyd-Jones, Niebuhr, yng nghyfres Y Meddwl Modern (1989) yn cynnig dadansoddiad manwl, clir a byr o fywyd a gwaith Reinhold Niebuhr. Mae ei bennod olaf, ‘Gwerthfawrogiad a Beirniadaeth’ yn edrych yn feirniadol ar ei gyfraniad dan y penawdau: Cristnogaeth Berthnasol, Y Syniad o Ddyn, Crefydd a Gwleidyddiaeth, Heddwch a Rhyfel.

PLlJ

 

 

 

E-fwletin 6 Mehefin, 2021

Pwy ydw i?

Yn ystod y dyddiau diwethaf fe ddaeth hi’n amlwg i mi fy mod yn ddyn estron wrth ymweld â harddwch Gwynedd.  “Un o’r Sowth ‘da chi?” holodd cwpwl o bobl yn ystod yr wythnos.   Mae pobl yn y gwaith yn fy ngalw’n ‘valleys boy’.   Mae un person yn y gwaith, sy’n digwydd byw mewn ardal wledig iawn yng ngogledd Powys,  yn cyfeirio ataf fel  ‘city dweller’.   Rwy wedi gweithio lawr yng Nghaerdydd yn y gorffennol, ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd cydweithwyr oedd yn meddwl amdanaf fel ‘country bumpkin’.     Mae’n amlwg na all y cyfan uchod fod yn wir amdanaf ar yr un pryd, a byddwn i’n dweud mai dim ond un o’r disgrifiadau uchod sy’n gywir.  Rwy’n un o’r Sowth.

Mae’r byd yn un rhyfedd iawn gyda phawb, mae’n debyg, yn frwd i roi label ymwybodol neu anymwybodol ar bawb arall. 

Fel y mae amryfusedd am ddaearyddiaeth fy hunaniaeth, rwyf hefyd yn ymwybodol fod yr un aneglurder yn bodoli am fy mywyd crefyddol.   Mae’n hysbys yn y gwaith fy mod yn weithgar mewn eglwys.   Mae’r adborth sy’n gysylltiedig â hynny’n amrywio’n fawr.   Mae ambell un yn gweld y peth fel gwendid ymenyddol.  Y frawddeg orau a glywais i oedd “Am un sy’n credu mewn tylwyth teg a majic ar ddydd Sul, ti’n rhyfeddol o synhwyrol yn ystod yr wythnos”.  Roedd cydweithiwr arall yn fy holi gyda’r bwriad o wybod a ydwyf yn Gristion go iawn.   Roedd yr unigolyn hwnnw am wybod os yw fy eglwys yn credu yn y Beibl fel “gair Duw”.  Rwy’n tybio fod y ffaith i mi orfod gofyn iddo “beth yn union wyt ti’n ei feddwl wrth hynny?” yn golygu fy mod, iddo ef,  yn syth yn cwympo y tu allan i gylch y cadwedig. 

I fi, rwy’n Gristion ac yn Gymro.  Mae bod yn Gristion yn ddigon syml – sef rwyf wedi ymrwymo i geisio dilyn ffordd Iesu Grist a gwneud hynny yng nghwmni pobl sydd am wneud yr un peth.  Mae’n biti erbyn hyn bod mwy o amrywiaethau o Gristnogion nag sydd o fwydydd gan Heinz.  Fodd bynnag, gyda phêl-droed yr Ewros ar fin dechrau,  o leia fydd dim angen i mi esbonio fy nghenedligrwydd i neb arall am fis.  O deued y dydd pan fydd ein dealltwriaeth o fod yn Gristion yr un mor syml â’n dealltwriaeth o Gymreictod, a phan fydd dilyn Iesu a charu cyd-ddyn yn ddigon o esboniad i bawb arall.

 

E-fwletin 30 Mai 2021

Gorbryder

Mae pob un ohonom yn poeni am rywbeth neu rywun, mae hynny’n gwbl naturiol. Ond pan yw’r weithred o boeni’n broblem tymor hir sy’n effeithio ar eich byw bob dydd, mae’n troi’n anhwylder gorbryder.

A pha ffurf bynnag ar orbryder sy’n eich poeni (boed yn gymdeithasol, GAD: General Anxiety Disorder, OCD, PTSF) mae’n peri i chi wneud pob math o bethau gwirion.  Ofni lleisio eich barn mewn cyfarfod rhag ofn i eraill feddwl eich bod yn siarad trwy’ch het, ofni dweud y peth anghywir, neu ypsetio rhywun, neu’r ofn y bydd rhywun yn anghytuno â chi, ac y bydd pawb yn siarad amdanoch wedi’r cyfarfod. Dweud pob math o bethau twp er mwyn cynnal sgwrs, a phoeni am y pethau a ddywedwyd oriau ar ôl eu dweud.

Mae gorbryder yn peri i’ch calon lamu wrth glywed y postmon yn gwthio’r amlen drwy’r drws bob bore. Mae llythyr sy’n edrych yn swyddogol yn gwneud i chi ofni ei agor, rhag ofn – wn ni ddim rhag ofn beth ychwaith! Mae gorbryder yn peri i chi ofni agor ambell e-bost ac ofni ei ateb.

Mae gorbryder yn peri i chi fethu â phenderfynu beth i’w wisgo cyn mynd allan, a’r weithred o geisio dewis eich gwisg yn achosi i chi fod yn hwyr i’r cyfarfod. Haws yw aros gartref.  A sôn am fod yn hwyr, mae gorbryder yn peri i chi gyrraedd pobman yn ddiweddar gan nad ydych, mewn rhyw ffordd na ellir ei esbonio’n iawn, yn cael eich hunan yn barod i ddod mas o’r tŷ mewn pryd.

A oes gan Dduw gonsýrn am eich gorbryder? Credaf fod ganddo. Mae E’n gwybod taw llestri pridd digon bregus ydym. A yw Pedr yn dangos arwyddion o orbryder neu ddiffyg hyder wrth annog ‘Bwriwch eich holl bryder arno (Duw), oherwydd y mae ganddo ofal amdanoch’. (1 Pedr: 5:7)?   A yw Paul yn poeni am gyflwr iechyd meddwl y Philipiaid, ‘Peidiwch â phryderu am ddim, ond ym mhob peth gwneler eich deisyfiadau yn hysbys i Dduw trwy weddi ac ymbil.’ (Philipiaid 4:6).

Felly, mae Pedr yn dweud wrthym am beidio â phryderu – ydy hyn yn bosib tybed?  Fe fyddai unrhyw un sy’n dioddef o orbryder yn ei chael hi’n anodd dirnad yr anogaeth i beidio â phryderu o gwbl; yn wir, wn ni ddim faint o ddaioni y byddai clywed hynny’n ei wneud i ddioddefwr. Onid annog rhywun i ddelio â’r pryder sydd ei angen? Mae arbenigwyr yn cynnig pob math o ffyrdd o ddelio â gorbryder, a nifer ohonynt yn rhai llwyddiannus iawn.

Ond mae’r Beibl yn mynd â ni un cam ymhellach drwy sôn am ‘symud‘ y pryder, yn hytrach na pheidio â phryderu o gwbl. Dyna’n union yw ystyr ‘bwrw dy faich’, ei symud, fel symud pwysau, oddi ar ysgwyddau’r sawl sy’n ei gario ar Dduw.  A oes gan Gristnogaeth rywbeth arall i’w ddweud am orbryder tybed?

Yr hwn fo’n gaeth sy’n rhydd.

 

Mynd i Capal

MYND I CAPAL

Gan eu bod nhw’n gwybod y byddai pob lôn yn arwain at Ddinas Dinlle penderfynodd y ddau y bydden nhw’n mynd am dro i rywle arall. A mynd wysg eu trwyn ddaru nhw am Eifionydd. Anelu am ardal Bwlchderwin i ddechrau, a gweld lleoedd fel Ynys yr Arch a Chors y Wlad yn ymrithio’n chwedlau ar y lôn; roedd Crib Nantlle mor agos atyn nhw ac wedi bod wrthi ers ben bore yn tynnu pob blewyn a llwchyn o’r awyr. Rhyw bnawn Sul ffansïol felly.

Doedd hi erioed wedi bod yn un dda am ddarllen y map. Iddi hi, roedd pob dim wedi’i osod ffordd groes arno a dyna pam eu bod nhw wedi mynd ar goll braidd. Ac aeth pethau shedan yn flêr wedi iddyn nhw basio’r un goedlan dair gwaith. Rywsut mi landion nhw yng Nghapel Brynengan ac mi ddaru’r ddau ddotio at ei bensaernïaeth. Roedd llechen ar ei bared yn nodi ers faint y bu’n sefyll yno. Llwyddodd Pantycelyn i gyrraedd y fan mewn da bryd ar ôl 1777.

Ymlaen wedyn ar hyd y lonydd bach cul ac yn y man cyrraedd Capel y Beirdd. ’Rôl gwthio a chodi fymryn ar y drws, i mewn â nhw a landio’n syth yn y Sêt Fawr. Yn un rhes wrth ochra’i gilydd roedd hen Feiblau, Caneuon Ffydd a Beibl.net – dyna daith y llygad – wedi’u gadael yn sgi-wiff, yn dynodi ôl bodio neu ddarllen, ella.

Roedd yna Lyfr Ymwelwyr hefyd ac er bod Dewi Wyn o Eifion a Robert ap Gwilym Ddu yn sbio arnyn nhw drwy’r fframiau ar y wal, am ryw reswm ddaru nhw ddim crafu eu henwau. Sbio ar enwau pobol eraill ddaru nhw a dweud dim. Roedd gweld drws y festri ym mhen draw’r capal yn gorad yn taro’n flêr ar ei llygad – ôl bod y lle ar iws, ella. Gwelodd fod yno focsys wedi’u selio a bod llyfrau lliwgar maint A4 ar ben ambell un. Storio llyfrau, ar gyfer ysgol Sul yn rhywle, meddyliodd. Meddwl am fwy o bethau ddaru hi wedyn, ac ar ôl gweld y jwg a phowlen fetel wen a rhesen las iddyn nhw yn edrych yn ddigalon ar fwrdd yn y gornel penderfynodd adael reit handi.

Mi fuo hi’n trio peidio gadael i’r llwch a’r pryfed cop ddod efo hi i’r car. Roedd dringo’r gamfa chydig lathenni nes ’mlaen yn help i stwytho, fel y cerdded ar draws y cae i gyfeiriad adfail Capel Galltgoed ar lan yr afon. O leia fedar adfail ddim cau drws, meddyliodd, wrth sbio ar yr hen ffenest eglwysig.

Er ei bod hi’n gwybod yn iawn y byddai’n hwyr yn cyrraedd, mi benderfynodd yn y diwedd bod raid mynd, er mai ista’n car ar ochr lôn ddaru hi. Mynd i capal ar ei ffôn ar nos Sul clychau’r gog yn Eifionydd a sbio ’run pryd arno fo yn cerdded ar hyd y lôn ac yn diflannu’n ara deg dan fwa’r coed.

Esyllt Maelor

 

Pentecost

Pentecost

Mae Llyfr yr Actau yn sôn am yr Apostolion, dan ddylanwad yr Ysbryd Glân, yn siarad â thafodau, hynny yw yn llefaru mewn iaith ryfedd, a phawb yn ei chlywed fel ei iaith ef ei hun. Roedd yr arferion rhyfedd hyn i’w gweld mewn hen grefyddau paganaidd pan fyddai rhyw addolwr mewn ecstasi, ac fe gredid ei fod yn siarad iaith angylion.

Daeth hyn wedyn yn rhan o fywyd ambell eglwys Gristnogol yn y canrifoedd cynnar, ac yn ddiweddarach ymhlith y Pentecostiaid a’r mudiadau Apostolaidd a’r Mormoniaid. Beth gaed fyddai un o’r addolwyr, yn hollol ddigymell, yn torri allan i lefaru mewn iaith a swniai’n garbwl annealladwy, ac weithiau ceid un arall yn y gynulleidfa yn honni cyfieithu’r seiniau hyn i iaith ddealladwy. Mae yna gysylltiadau teimladwy i’r peth, ac oherwydd elfen emosiynol y diwygiadau fe frigodd y nodwedd hon i’r golwg am ysbaid yn y diwygiad yng Nghymru dros ganrif yn ôl. Bydddai rhai o blaid y peth am ei fod yn rhoi gwreichionyn o ysbrydoliaeth mewn oedfa. Byddai eraill yn ei weld yn hollol wrthun o ddisynnwyr a dibwrpas am ei fod yn annealladwy.

Ac eto, yr wrtheb ryfeddol yw hyn: mae holl bwyslais yr adroddiadau am lefaru â thafodau yn sôn fod y lleferydd yn annealladwy i’r gwrandawyr, tra mai’r prif bwyslais yn Llyfr yr Actau yw fod pawb o bob cenedl yn deall pob gair a lefarai’r apostolion. Un peth arall y dylid ei nodi yw na wnaeth Iesu ei hun erioed lefaru â thafodau na sôn am y peth. A dyna lle daw’r gwirionedd sylfaenol adre i ni. Roedd pob gair a lefarodd Iesu erioed yn ddealladwy i bob crefydd a phob cenedl dan haul, am ei fod yn sôn am yr hanfodion, cariad a thrugaredd.

Pentecost Iesu

Yn Jerwsalem ein heddiw ni
clywir côr o ieithoedd:
clywn dafodiaith y di-ffydd
a geiriau esmwyth y glastwryn glwth;
parabl y di-dduw a’r di-ddim,
a lleferydd yr amheuwr a’r sinic a’r penboeth gwyllt.

Ac yn y carbwl llafar hwn
mae clustiau plant ein strydoedd yn drysu,
a’u llygaid ar y lluniau yn eu sgrin fach gyfrin.

Gwaeth fyth yw hi ym Mhentecost ein crefyddau.
Bydd gan y Mwslim ddirgel fantra yn ei blyg,
a’r Bwdydd ei fyfyr, a’r Hindŵ ei berlewyg.
Ninnau yn ein Salem a’n Soar,
yn Annibynwyr chwyrn,
y mae gennym ninnau ein cystrawen dwt;
ym Methel y pentre nesaf
clywn acenion pêr eu Presbyteriaeth;
a chan deyrngarwyr capel Ainon
eu deddfol ddefodol fedydd.

A bydd plant ein strydoedd yn drysu mwy fyth ymhlith y lleisiau,
a suddo’n ddyfnach i’r lluniau bach ar eu sgrin gyfrin.

Ond yna ryw ddydd daw’r Ysbryd
i ffrwydro â’i dân drwy’r pedlera a’r ddogma ddall,
gan roi inni ei iaith newydd.
Iaith y gwneud fydd hon, nid iaith y dweud;
iaith y ffydd, nid iaith y duwiol gredoau.
Enwau a fydd yn drugaredd, ansoddeiriau maddeuant,
idiomau gras a chymwynas, a berfau’n gyhyrog gan gariad.
Hon yw iaith yr actau tosturiol y bydd pawb yn ei deall,
Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid y cychod brau
a ffoaduriaid y pebyll pell.

Canys iaith Iesu yw hon, a daw’n plant i’w deall,
petaem ni ond yn dechrau ei siarad hi.

(Daw’r gerdd hon o’r gyfrol, Am yn ail)

 

 

E-fwletin 23 Mai 2021

Beth wnes i heddiw?

Sŵn fel gwynt grymus yn rhuthro … tafodau fel o dân yn ymrannu ac yn eistedd un ar bob un ohonynt … pobl ofnus a dryslyd oedd yn llechu yn niogelwch yr oruwchystafell yn mentro allan ac yn dechrau annerch y dorf mewn ieithoedd dieithr … dyna’r hyn a ddigwyddodd, yn ôl Llyfr yr Actau, pan gafwyd ‘tywalltiad o’r Ysbryd Glân’ ar y Pentecost.

Yn wreiddiol, un o dair gŵyl Iddewig i ddiolch am y cynhaeaf oedd y Pentecost. Y Pasg oedd yr ŵyl gyntaf, diwrnod i ddathlu ‘geni’ y genedl yn yr Aifft pan gafodd ei gollwng yn rhydd dan arweiniad Moses. Saith wythnos yn ddiweddarach, byddai’r Iddewon yn diolch am gynhaeaf ‘blaenffrwyth dy lafur’ mewn gŵyl arbennig o’r enw ‘Gŵyl yr Wythnosau’.

Yn ddiweddarach, fe gyflwynwyd elfen grefyddol i’r ŵyl drwy honni i’r Iddewon dderbyn eu cyfraith ar lethrau mynydd Sinai hanner can diwrnod ar ôl iddyn nhw adael yr Aifft am y Môr Coch a’r anialwch.

Ond ar ddydd y Pentecost, rai canrifoedd yn ddiweddarach, a’r disgyblion yn drist ac yn ofnus ar ôl colli eu harweinydd, fe ddigwyddodd rhywbeth gwirioneddol ryfeddol iddyn nhw, rhywbeth a newidiodd eu bywydau am byth. Ac yn draddodiadol, ystyrir mai dyma ddiwrnod sefydlu’r Eglwys Fore a dechrau lledaeniad Cristnogaeth ledled y byd.

Wrth edrych ymlaen at ddydd y Pentecost eleni, roeddem yn cofio hanner canmlwyddiant marw Waldo Williams, bardd a lwyddodd i grynhoi mor effeithiol rai o brif egwyddorion Cristnogaeth – yn arbennig ei syniad o frawdoliaeth (a chwaeroliaeth). Mae pennill clo ei gerdd ‘Brawdoliaeth’ yn ysgytwol, ac yn dal mor berthnasol heddiw, er enghraifft, wrth inni feddwl am y gwrthdaro sy’n digwydd o hyd rhwng Israel a’r Palestiniaid:

            Mae Teyrnas gref, a’i rhaith

            yw cydymdeimlad maith;

            cymod a chyfiawn we

            myfi, tydi, efe

            a’n cyfyd uwch y cnawd:

            pa werth na thry yn wawd

            pan laddo dyn ei frawd?

Mae neges Waldo am faddeuant yn ei gerdd ‘Pa beth yw dyn’ yn siarad â phob oes:

Beth yw maddau? Cael ffordd trwy’r drain
At ochr hen elyn.

Sut allwn ninnau geisio ymgyrraedd at y ddelfryd hon? Beth am holi ein hunain, fel y gwnaeth Henri Nouwen ein hannog i wneud?

Wnes i gynnig heddwch heddiw?

Ddois i â gwên i wyneb rhywun?

Ddywedes i eiriau oedd yn iacháu?

Wnes i gael gwared ar deimladau cas a chwerw?

Wnes i faddau?

Wnes i garu?

 

Dyma’r cwestiynau hollbwysig.

 

(Henri Nouwen, offeiriad a diwinydd o’r Iseldiroedd, 1932–96)