E-fwletin 13 Mehefin, 2021

 

Y WAL GOCH

Pryd y trodd Walia wen  yn Wal goch? Cefnogwyr tîm pel droed Cymru yw’r Wal Goch; ffenomenon a dyfodd wedi llwyddiant Cymru yn Ewro 2016. Mae’r pwynt enillwyd ddoe yn erbyn Y Swisdir yn well na dim!

Ai’r Ddraig Goch a roddodd liw i’r genedl fechan hon? Ym Mrwydr Crecy 1346, y ddraig oedd y symbol ar faner byddin Prydain “and the archers in their beloved green and white defeated the French.” Yn ôl un ffynhonnell brenhinoedd Aberffraw cyn belled yn ôl â’r bumed ganrif oedd y cyntaf i fabwysiadu’r ddraig fel arwydd o bŵer ac awdurdod. Cadwaladr, brenin Gwynedd 655-682, a sicrhaodd mai draig goch oedd hi. Ie, hi; benywaidd yw draig!

Beth wneir â wal sydd wedi’i bylchu? Oherwydd rheolau Cofid rhyw furddun o wal goch allodd fod yn bresennol yn Baku bell. Fe wnaeth y Wal ei gorau (benywaidd yw ‘wal’ hefyd) i ganu’r anthem, i fod yn amddiffynfa solet i’r tîm ac i ddangos ei gwerthfawrogiad a’u cefnogaeth. Yr hyn a gyfyd y Wal yn ei hôl yw’r canlyniadau ar y cae. Wedi’r cyfan, mentaliti torf sydd ar waith. Fe all y dorf fod yn gefnogol. Fe all fod yn wamal hefyd. Peth prin mewn torf sy’n colli yw teyrngarwch.

‘Gorau chwarae cyd-chwarae’ yw arwyddair Cymdeithas Bel Droed Cymru, er nad yw’r arwyddair bellach ar y bathodyn. Dymuniadau gorau i’r bechgyn yn erbyn y Twrc a’r Eidalwr. Ac ymlaen!

Mae’r wal yn bwysicach na’r lliw.Tybed yde chi’n gyfarwydd â’r idiom “tu clyta i’r wal”? Ffrind o Fôn ddwedodd wrtha i am yr idiom – “clyta” yn yr ystyr o ‘fwyaf clyd.’ Hynny’n f’atgoffa, yn ei dro, o’r ymadrodd gwrthgyferbyniol Seisnig “the weakest go to the wall.” Daw’r ymadrodd hwnnw’n wreiddiol o’r Coventry Mystery Plays. Ganrif yn ddiweddarach roedd Shakespeare – nid y Wil a ddwedodd ‘wel’ wrth y wal – yn ‘Romeo and Juliet’ yn sôn am “a weak slave, for the weakest goes to the wall”. Cyfeirio y mae hynny at yr adeg pan oedd cwteri yn rhedeg gydag ymyl strydoedd culion trefi a dinasoedd a’r lle diogela i fyddigions oedd canol stryd. Gorfodid y gwan i’r ymylon.

Bu adeg pan oedd hi felly mewn eglwysi. Dyna’r seddi a gedwid i’r gwan, yr anabl, y cloffion a’r cleifion. Meinciau carreg hyd ymylon yr eglwys fyddai’r unig le i’r gweiniaid. A datblygodd y syniad fod lle wrth y wal yn arwydd o fethiant a gwendid.

Mae saith o wledydd cyfoethoca’r Gorllewin yn cyfarfod yng Nghernyw, a chyfle i Boris Johnson i dderbyn clod G7 am y bwriad i anfon brechlynnau i’r gwledydd tlota, os yw’n fwriad i wireddu’r addewid rhywdro. Ond gwrthodwyd pleidlais gan Brifweinidog Prydain ar benderfyniad y Llywodraeth i dorri ar wariant tramor. Dyna dorri £4bn i wledydd tlawd tra’n gwario £4bn ar arfau i wneud Prydain yn fawr. Dyma’r dyn a ddymunodd yn dda i Loegr yn yr Ewros; dim gair am Gymru. Ys dywed J. T. Jones yn ei gyfieithiad o Romeo a Juliet ‘Y gwanna sy’n mynd i’r wal bob tro.’