Archif Awdur: Golygydd

Coda dy lais!

Gŵyl Coda 2020
24–26 Gorffennaf 2020
Fferm Dôl Llys, Llanidloes

Amrywiol, cynhwysol, croesawgar, hael

Cymuned ar wasgar: yn uno ein celfyddyd, ein ffydd, ein creadigrwydd a’n gweithredu ac yn creu gofod lle gallwn ysgogi ein gilydd. Dyma ŵyl sydd yn denu ac yn gallu ysbrydoli pobl, eglwysi a chymunedau tuag at ffydd a gweithred.  

Yn 2018 fe gynhaliwyd yr ŵyl gyntaf gan CODA ar gaeau maes carafannau a gwersylla Dôl Llys. Dyma’r casgliad Cymreig agosaf at egwyddorion C21 y gwyddwn i amdano. Y llynedd cafwyd penwythnos yn y Gymraeg a’r Saesneg wedi ei dargedu at bobl ffydd, neu ymlwybrwyr agored, o amgylch pabell fawr oedd yn gyrchfan i gerddoriaeth o bob math, drama a chymdeithasu.

Rownd y babell fawr roedd pebyll llai er mwyn cynnal seminarau a thrafodaethau amrywiol a diddorol. Yno fe fues yn gwrando ar Wisam Salsaa, perchennog gwesty Banksy ym Methlehem, yn siarad am brofiadau’r Palestiniaid. Am brofiad ysgubol mewn cae yng Nghymru! https://www.theguardian.com/world/2017/mar/03/banksy-opens-bethlehem-barrier-wall-hotel

Hefyd yn cymryd rhan yn y penwythnos yr oedd yr ymgyrchydd hawliau dynol Israelaidd Daphna Baram; mae’n gweithio fel stand-yp, a daeth yn syth i lawr o Gaeredin i gefnogi CODA. Daphna sy’n arwain yr ymgyrch ym Mhrydain yn erbyn adeiladu tai Israelaidd ar dir Palestinaidd. https://www.greenbelt.org.uk/artists/daphna-baram/

Yn yr un lle roedd sesiynau gan Gethin Rhys, Manon Ceridwen James, Anna Jane a Delyth Wyn Davies, athro Economeg o Brifysgol Caerdydd ar gyfiawnder ac anghyfiawnder economaidd, a llu o weithgareddau eraill – y cyfan a mwy mewn cae hamddenol ar lannau’r Hafren yn Llanidloes.

Plis cadwch y dyddiad ar gyfer haf nesaf – y penwythnos rhwng y Sioe Amaethyddol a’r Eisteddfod Genedlaethol. Ac os ydych ar gael i ganu, i siarad, i actio neu gefnogi gweithgaredd, plis cysylltwch â geraintrees@hotmail.com er mwyn i griw CODA wybod am eich parodrwydd.    

Yn dilyn gŵyl 2018 fe ddywedodd Delyth Wyn Davies, “Un o lwyddiannau Coda yw bod siaradwyr Cymraeg a siaradwyr Saesneg yn gallu dweud, ‘Mae Coda i mi. Mae Coda’n gwerthfawrogi, yn cynrychioli ac yn cynnwys fy niwylliant.’ Rhywbeth arall yw ei fod yn gynhwysol: mae Coda yn lle diogel, ac yn lle agored, i’r rhai sy’n teimlo eu bod ar gyrion cydeithas neu eglwys neu beidio.”

Byddai’n dda gweld C21 yn cefnogi penwythnos arbennig i bob oed sydd wir yn dathlu’r hyn yr ydym.

E-fwletin 17 Tachwedd 2019

Trai a Llanw

Pethau rhyfedd yw penawdau,  disgrifiadau bachog a gyfansoddir i grynhoi cnewyllyn rhyw sefyllfa; pethau sy’n ein perswadio ar yr un pryd fod y disgrifiad hwnnw’n wirionedd, pa mor gywir bynnag yw hynny. Un peth sy’n cael ei wthio arnom beunydd beunos gan y cyfryngau erbyn hyn yw ein bod yn byw mewn oes ddigrefydd, neu ôl-grefyddol, oes pan yw ffydd yn ddiangen a diystyr, oes pan fo’r meddwl dynol arch-resymegol yn creu pob dim, yn deall pob dim ac yn rhoi ateb i bob dim. Yr hil ddynol, meddir, sy’n cynrychioli’r gallu mawr bellach, a phob dyn yn dduw bach ei hun. Pob unigolyn, yn ddyn a dynes, yn dduw neu dduwies a phob duw neu dduwies yn unigolyn dynol. Wfft, meddir, i grefydda ffurfiol ac wrth ddweud hynny, wfft i Gristnogaeth hefyd yn y fargen.

Fel tystiolaeth o hyn, codir y dystiolaeth barhaus o gapeli gweigion ac adfeiliedig, capeli wedi eu troi at ddefnydd amgen. Clybiau a bwytai yw rhai ohonynt, fel hen eglwys Pembroke Terrace yng Nghaerdydd, tra bod hen addoldy’r Methodistiaid Calfinaidd yn yr un ddinas yn Heol y Crwys a oedd, meddid, yn rhy beryglus i’r saint, yn fan cysegredig i grefydd arall, sef crefydd Islam. Dyna eironi’r sefyllfa. Er mynnu mai mewn oes ôl-grefyddol yr ydym yn byw, mae crefydd yn enw crefyddau heblaw Cristnogaeth yn hollbresennol mewn gwleidyddiaeth a chymdeithas ledled y byd. Efallai mai byw mewn oes ôl-Gristnogol yn hytrach nag ôl-grefyddol yr ydym.

Rhaid cofio, serch hynny, nad rhywbeth newydd yw rhincian dannedd am ddifaterwch a gwrthwynebiad i grefydd. Erbyn diwedd y canol oesoedd, yr oedd cwyno mai dyrnaid o fyneich yn unig a oedd yn un o abatai mwyaf urddasol Cymru, Margam, a sefyllfa debyg yn y rhan fwyaf o’r adeiladau trawiadol hyn a godwyd pan oedd ffydd yn ei hanterth. Cwynai’r Esgob Richard Davies ar gychwyn oes Elisabeth, wedyn, bod cyn lleied o offeiriaid yn ne-orllewin Cymru nes bod y nifer fach a wasanaethai esgobaeth Tyddewi yn rhuthro o un eglwys i’r llall ar y Sul er mwyn cynnal rhyw fath o oedfa. Pan ysgubodd ton o frwdfrydedd crefyddol, meddid, dros Gymru yn ystod y ddeunawfed ganrif wedi cyfnod, ie,  o ‘dywyllwch dudew’ yn ôl diwygwyr fel Williams Pantycelyn , dim ond tri aelod yn unig oedd ar un adeg yn seiad tref Caerfyrddin, a rhyw drigain neu lai oedd aelodaeth seiadau eraill ar y cyfan. Rhyw 10% yn unig o’r boblogaeth oedd yn ‘Fethodistiaid’ yn yr hyn a gyfrifir yn ganrif aur y mudiad. Yn 1851, pan oedd cyfrifiad crefyddol, dywedwyd gyda balchder bod Cymru’n ‘wlad o anghydffurfwyr’. Ie, anghydffurfwyr oedd y rhan fwyaf a gyfrifwyd; ac eto, rhaid cofio mai tua hanner y boblogaeth a fynychai le o addoliad o gwbl. Cymru o ‘ddwy fuchedd’ oedd Cymru bryd hynny hyd yn oed. Gwir, fe gyrhaeddodd crefydda poblogaidd ryw anterth ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf, ac efallai i hyn daflu golau anffafriol ar ein sefyllfa ninnau heddiw. Efallai mai eithriad oedd yr anterth hwn, a’n bod ninnau’n byw mewn cyfnod mwy nodweddiadol o ran ein hagwedd at grefydd.

Beth bynnag am wahanol gyfnodau o drai a llanw ar hyd y canrifoedd maith y mae gan Gristnogaeth, serch hynny, rywbeth go arbennig i’w gynnig, rhywbeth  sydd uwchlaw yr hyn y gall crefyddau eraill ei gynnig ac yn sicr uwchlaw rhesymeg noeth y meddwl dynol.  Mae hwnnw yn methu, ac o fethu, sut mae dygymod â hynny? Taflu goleuni i fyd tywyll a wnaeth Crist, rhoi pwys ar faddeuant fel sail i fywyd heb fagu chwewrder na dial; maddeuant a chariad ynghyd yn rhoi gobaith, a hynny yn ei dro yn gefndir i ffydd. Mewn byd sydd mor llawn o ansicrwydd a thywyllwch heddiw y mae’r waredigaeth a gynigiwyd ganddo yr un o hyd, beth bynnag am unrhyw drefniadaeth grefyddol. A na,  ddylem ni ddim digalonni am ddifaterwch ymddangosiadol y funud. Y mae llanw newydd mor anochel â thrai.   

E-fwletin 10 Tachwedd 2019

Cymdeithas Waldo 

Dydd Gwener nesa Tachwedd 10fed. am 10.00  cynhelir ‘Ocsiwn ‘Llên a chelf a llun a chân’  Cymdeithas Waldo’ yn Neuadd Ysgol Y Frenni. Crymych. Sir Benfro. Mae Cymdeithas Waldo’n dathlu ei phen blwydd yn deg oed y flwyddyn  nesaf, a nod yr ocsiwn yw codi arian i alluogi’r Gymdeithas i barhau i drefnu gweithgareddau ymlaen i’r ddegawd nesaf.  Dyma gyfle i brynu gwaith gan arlunwyr, beirdd a llenorion Cymru. I gael catalog o gynnwys yr ocsiwn cysylltwch ag Alun Ifans, Erw Grug, Maenclochog, Sir Benfro. SA66 7LB.  E-bost  alunifans@hotmail.com Ffôn 01437 532603.

Fel rhagflas o’r ocsiwn dyma 6 englyn gan Aled Gwyn ‘Waldo’, un y mae’n werth cael ein atgoffa amdano ar Sul y Cofio.

               Waldo

Noddodd y Tâf a’r Cleddau – ei wreiddyn

Ger heddwch eu glannau.

 Lle bore oes, lle bu’r hau,

 Bro ei sail, ei Breselau.

 

Enaid o’r môr goleuni – gŵr addfwyn

Y greddfol wrhydri;

 Yn niwl nos ein cynnal ni

 Wna’r Dail, a’n hysbrydoli.

 

Mae’n gangen ein llawenydd, – a’n hyder

Inni gredu beunydd

 Mae yn ddistaw y daw dydd

 Cilio o bob cywilydd.

 

Er yn dderwen arbennig – y braffaf

Broffwyd; dirmygedig

 Ydoedd a gwrthodedig.

 Ni surai, ni ddaliai ddig.

 

Eneidfawr wawl mewn adfyd – i’n cynnal,

Ef yw cân ein gwynfyd;

 Hwn a feddai gelfyddyd

 Y bardd, i oleuo byd.

 

Yn ddiddiwedd ryfeddod – a diau

Dewin mwya’n cyfnod;

 Y ddawn wych, i rai’n ddyn od

 Dyn a wybu adnabod.

                                    Aled Gwyn

E-fwletin 3 Tachwedd 2019

Prâg

Yn dilyn ymweliad diweddar â dinas Prâg mae tair cofeb yn aros yn y cof.

Mae’r gyntaf i’w gweld ar sgwâr enwog yr Hen Dref, gyda’i dŵr uchel a’i gloc astronomaidd. Yng nghysgod y tŵr saif cofeb enfawr i Jan Hus. Fe’i ganwyd i deulu tlawd ond dringodd i fod yn offeiriad yn yr eglwys Gatholig ym Mhrâg tua 1400. Roedd yn bregethwr radical a bu’n ddylanwadol iawn mewn cyfnod o newidiadau mawr o fewn yr eglwys. Er iddo gael ei esgymuno o’r eglwys parhaodd i bregethu gan leisio’i wrthwynebiad chwyrn i arfer yr eglwys o werthu maddeuebau er mwyn ariannu rhyfeloedd Pabyddol. Cafodd wahoddiad i egluro’i safbwynt o flaen Cyngor yr Eglwys yn 1415, ond cyn cael cyfle i ddweud gair yno fe’i harestiwyd a’i garcharu cyn cael ei losgi wrth y stanc fel heretic. Daeth yn arwr cenedlaethol i’r Tsieciaid dros nos gan ysbrydoli miloedd o bobl i wrthryfela yn erbyn yr awdurdodau. Yr arysgrif ar ei gofeb yw: “Pravda vitezi”, sef ‘Mae’r gwirionedd yn trechu’.

Penddelw o Franz Kafka yw’r ail gofeb, sydd i’w gweld yn ardal Iddewig o ddinas Prâg lle cafodd ei eni yn 1883. Daeth yn fyd-enwog fel nofelydd ac awdur straeon byrion, ac anodd credu iddo’i chael hi’n anodd cael cyhoeddwr i’w weithiau yn ystod ei fywyd.

Wedi ei farw cyhoeddwyd ei lyfrau yn yr iaith Tsiec a’r Almaeneg gan dderbyn canmoliaeth uchel, cyn i’r Natsïaid ei gwahardd. Cyfrifid ei ddisgrifiadau o greulondeb a grym biwrocratiaeth dros yr unigolyn yn rhy agos i’r asgwrn i awdurdodau Natsïaidd a Chomiwnyddol fel ei gilydd yn eu tro. Dyma rai dyfyniadau o’i eiddo:

‘Dechrau gyda’r hyn sydd yn iawn yn hytrach na’r hyn sy’n dderbyniol’.

‘Paid â’i blygu, paid â’i gymedroli, paid â’i wneud yn rhesymegol, paid â golygu dy enaid yn ôl ffasiwn’.

Y drydedd gofeb – os cofeb hefyd – yw Sgwâr Wenseslas, un o fannau cyfarfod enwocaf Prâg. Mae’r sgwâr hwn wedi tystio i rai o ddigwyddiadau mwyaf tyngedfennol dinas, gwlad a chyfandir. Mae i ddyfyniadau arwyddocaol eu lle yn y gofeb hon hefyd, sy’n peri i’r ymwelydd ymadael gyda llawer i gnoi cil yn ei gylch. Un sydd wedi aros gyda fi yw:

‘Allwn ni ddim cyfeirio’r gwynt ond gallwn addasu’n hwyliau’.

Mae yna baratoadau mawr yn mynd ymlaen ym Mhrâg ar hyn o bryd i ddathlu 30 mlynedd ers y ‘Velvet Revolution’,  chwyldro gwleidyddol di-drais, a arweiniodd at newid cymharol esmwyth o Gomiwnyddiaeth i ddemocratiaeth Orllewinol yn Tsiecoslofacia ar ddiwedd 1989.

Wn i ddim os ydyn ni yma yng ngwledydd Prydain heddiw yn byw trwy ryw fath y chwyldro, neu mewn cyfnod sy’n galw am chwyldro! Sut bynnag, gobeithio bydd y myfyrdod hwn yn help i ni gadw ein golwg ar yr hyn sy’n wir ac yn wâr ar ddechrau gaeaf a all fod yn un hir iawn.

E-fwletin 27 Hydref 2019

Calan Gaeaf

Calan Gaeaf yn barod! On’d yw’r cloc ‘na’n cerdded! Mae’r gaeaf ar ein gwarthau unwaith eto.

Fyddwch chi’n nodi Calan Gaeaf eleni? Mae’n medru bod yn dipyn o benbleth i rieni sydd â phlant ifanc, on’d yw e? Ydy hi’n addas gyrru’r Cristnogion bychain i’r disgo gwisg ffansi i bopio a hip-hopio  gyda phwerau’r Fall? Ydy eu gwisgo nhw fel y Dracula neu’r Frankenstein llenyddol yn mynd i olygu unrhyw beth iddyn nhw? A fyddan nhw’n cael eu dychryn o gael parti mewn ystafell dywyll yn llawn o ysbrydion, gwrachod, ystlumod a gwe corynod?

Neu ai gwell fyddai gweithio cyflaith, cynnau cannwyll mewn ambell erfinen gau a dwco ‘fale o fla’n tân yn y modd traddodiadol Gymreig? Ma’ hwnnw’n ddigon diniwed on’d yw e? Ond arhoswch – efallai mai traddodiad Celtaidd paganaidd yw hynny. A pheidiwch dechrau awgrymu mynd â’r plantos mas i chwarae trick or treat,  da chi. ‘Na ffordd sicr o gynddeiriogi cymdogion O diar! Penbleth.
 
Beth bynnag wnewch chi ar 31 Hydref, ymddengys bod yr hen ŵyl Gristnogol hon o weddi ac ympryd, Noswyl yr Holl Saint, wedi dirywio bellach i fod yn rhyw gawdel o ddelweddau cartwnaidd plentynnaidd. Mae sgriniau bach a mawr yn llawn lluniau o fwci-bos, gwrachod, bwystfilod a drychiolaethau amrywiol. Mae’r siopau’n llawn tranglwns du ac oren, iasoer eu bryd, i ddenu llygaid plant (a rheini’n dranglwns plastig gan mwyaf hefyd!). A phwy sy’n gyrru’r sbloet? Cwmnïau masnachol, fel ag erioed.

Drannoeth Calan Gaeaf bydd yr union gwmnïau yn annog y siopau i lenwi’u silffoedd â thranglwns a thrugareddau newydd yn barod at y Nadolig. Bydd yr oren a’r du tymhorol yn ildio’u lle i’r gwyn a’r coch Nadoligaidd er mwyn llenwi llygaid y plant unwaith yn rhagor. Ond, fel ma’ nhw’n dweud yn yr ardal ‘ma, “Wedi’r cyfan, rhywbeth i’r plant yw’r Nadolig on’d taw e?”. Fel Calan Gaeaf mae’n siŵr.

“Pan oeddwn yn blentyn, fel plentyn yr oeddwn yn llefaru, fel plentyn yr oeddwn yn meddwl, fel plentyn yr oeddwn yn rhesymu. Ond wedi dod yn ddyn, yr wyf wedi rhoi heibio bethau’r plentyn”. Dyna oedd geiriau’r Apostol Paul, on’d taw e?

Ond i ba raddau ry’n ni’n rhoi cyfle i bobl wneud hynny yn eu crefydda? Mae straeon a dramâu’r Nadolig a’r Pasg yn parhau’n fyw i ni ers dyddiau’r Ysgol Sul. Maen nhw’n rhan o’n dychymyg torfol. Ond ydy ein haelodau eglwysig wedi cael y cyfleoedd sy’n ddyledus iddyn nhw er mwyn medru symud ymlaen o hynny a rhoi heibio pethau’r plentyn.

I ba raddau mae yna gyfle gwirioneddol i bobl yn eu hoed a’u hamser ystyried a thrafod egwyddorion a sylfeini’r ffydd Gristnogol mewn modd aeddfed a deallus? Ble a phryd mae cyfle iddyn nhw holi cwestiynau ac i dwrio y tu ôl i’r tinsel a’r gwe corynod er mwyn llawn ddeall a gwerthfawrogi’r symbolaeth a’r negeseuon cyfoethog a heriol sy’n rhan annatod o’r traddodiadau, y straeon a’r dramâu cyfarwydd? Neu a ydyn ninnau hefyd yn ddigon cysurus i fodloni ar y tranglwns a’r gwisgoedd ffansi?

Calan Gaeaf iasol/heriol/gweddigar/diddig i chi – dileer fel bo’n berthnasol.

 

E-fwletin 20 Hydref 2019

Siwrne

O le daeth hi does neb yn siŵr iawn. Mae ’na straeon, wrth gwrs. Ond dyw hynny ddim yn bwysig nawr. Ei chyrraedd yw’r peth pwysig. Ei bod yma. Yna. Bob man fuodd hi ar hyd y siwrne.

Alle hi fod wedi cymryd llwybr syth, wrth gwrs. Neidio ar y trên. Neu’r Megabus. A gweud y gwir, wi’n credu fod hi wedi mynd ar hwnnw ran o’r ffordd. Ma’n nodiadau i dros y siop i gyd, ma’n ddrwg ’da fi, ond dwi’n credu fod rhyw hanes ges i ’da rhywun rywle yn dweud ma’ fyn’na aeth hi i eistedd yn agos i’r ferch ifanc ‘ma o’dd yn siarad â rhywun. Yn dadlau â nhw. Yn gweud Na-Na-Na! – Cer bant! – Bant! – mewn iaith ddiflewyn-ar-dafod – unionblydigyrchol. Ond y peth yw: doedd neb ’na. O’dd hi’n siarad â neb. ’Mond hi’i hunan.

Nes dechreuodd hi siarad â hi. Trio tynnu sgwrs â hi. A o’dd gwaith tynnu ‘da hi hefyd. Halio. Halio a halio. Ond gyda’r fath dynerwch. Tynerwch oedd cyn gryfed a dyfnder ei gwrando.

Achos, iddi hi, ystyr siarad oedd gwrando. ’Na gyd o’dd ise – i ddechrau newid pethe.

Falle mod i’n cymysgu nawr. Falle ma’ ar fws-syrfis digwyddodd hwnna. Yn y cymoedd. Achos ’na’r ffordd ddewisodd hi’i chymryd. Y ffordd hiraf bosib at ben ei thaith, glei. O ran pellter ac amser a phob dim arall.

Ble o’dd hi’n gael yr amynedd, dwn i ddim. Achos o’dd hi’n cael dim llonydd. Dim llonydd o gwbl. Bobol yn gweud eu cwyn wrthi. Am eu probleme’u hunain. Am eu salwch. Salwch eu plant yn arbennig. Ble o’n nhw’n byw. Pethe wedi cau. Ble fydden nhw’n arfer gael help. Pethe oedd i fod iddyn nhw. Pethe ddyle fod yn lleiafswm eu cyfran o fewn y wlad gyfoethog yma y’n ni’n byw ynddi.

Bobman fydde hi’n stopo – am baned – am beint – disgwyl y trên/bws nesa’ – yr un fydde’r storïe. Y cwynion. Y pryderon. Y boen. Poen-poen-poen.

Ambell waith – wel, sawl gwaith a gweud y gwir – bobol byw-ar-sylw o’n nhw. A’u storïau’n cymryd drwy’r dydd i’w gweud.

Ond yr un fydde’i hymateb. Gwrando. Hyd-yn-oed os o’dd y boen ynghudd dan domen enfawr o wastraff tywyll. Fydde hi’n dyfal-ddidwyll-wrando. Gwrando nes cyrraedd y groth a’i boen.

Dwi’n credu – alla’i ddim gweud yn iawn – ond dwi’n credu – o ddarllen rhwng llinellau’n nodiadau – ei bod hi wedi dod yn agos iawn at hildo unwaith neu ddwy. Yn agos iawn at droi sia-thre. Yn agos iawn ’fyd.

Ond gwnaeth hi ddim. Cario – na, bwrw yn ei blaen wnaeth hi. Bwrw a bwrw a bwrw yn ei blaen nes cyrraedd pen y daith. Aberexit – yr enw cyfredol ar darddle gymaint o’r dioddefaint a’r casineb a’r anghyfiawnder a fu bron a’i threchu ar ei thaith. Y boen a’r anghyfiawnder fu’n ysbrydoliaeth iddi barhau â’u chenhadaeth i dystio ar ran y Gwir yng nghadarnle Cyfoeth a Phŵer.

Tystio gan wybod y gost.

Ac yna, ymhen tridiau…

 

E-fwletin 13 Hydref 2019

Dychymyg

Dwi wastad yn rhyfeddu at ddychymyg plant a’r modd mae’n cael ei ymestyn, yn enwedig wrth chwarae.

Gwnaeth Albert Einstein gryn enw i’w hunan oherwydd ei wybodaeth eang a’i allu meddyliol rhyfeddol fel gwyddonydd a ffisegwr. Daeth ei theorïau, a’i ddarganfyddiadau, ynghyd a’i ddaliadau, yn enwog yn fyd-eang. Ond – fe ddywedodd rhywbeth annisgwyl iawn, sef bod dychymyg yn fwy pwerus na gwybodaeth. Heb ddychymyg, meddai, ni fyddai wedi llwyddo.

Gallwn gael ein cyfyngu gan ffeithiau a gwybodaeth, ac mi awn yn ddibynnol ar yr hyn yr ydym wedi ei ddysgu. Ond does dim ffiniau na chyfyngiadau i’r dychymyg. Gall dychymyg rhoi cyfle a chyfeiriad ehangach i bethau sy’n ymddangos yn amhosibl, gan arwain at bethau nad ydym yn ei wybod. Mae’r dychymyg yn gweld posibiliadau yn y sefyllfaoedd mwyaf annhebygol.

Heb ddychymyg ni fyddai unrhyw arloesi na datblygiad newydd. Mae dychymyg yn rhoi hawl i ni weld y tu hwnt i’n llwybrau dyddiol. Oni bai amdano ni fyddai gennym lawer o’r pethau sydd gyda ni. Onid dychymyg yw ffynhonnell bron yr holl o ddyfeisiadau a datblygiadau arloesol dyn? Ail adrodd ffeithiau caled rydym eisoes wedi eu dysgu mae’r meddwl. Mae’r dychymyg yn fodd i gamu tu hwnt i wybodaeth

Yn y Bregeth ar y Mynydd mae Iesu yn cychwyn ei weinidogaeth gyda gweledigaeth o ba mor dda gall pobol dduwiol fod. Mae’n eu galw’n oleuni’r byd, gan ddweud taw nhw sydd agosaf at deyrnas nefoedd. Ar y diwedd mae’n dymchwel yr hyn a oedd yn wireb y dydd, sef llygad am lygad a dant am ddant. Rhaid gwrthod y ddysgeidiaeth o ddial a thalu drwg am ddrwg. I’r gwrthwyneb, dyma gynnig ffordd newydd o ymddwyn trwy ddweud y dylen ni garu gelynion. Tyfodd hyn o’i ddychymyg. Onid o’r dychymyg y llifa holl elfennau creadigol bywyd?

Yn anffodus, o’r union fan honno hefyd y llifa llawer o’n trafferthion, gan esgor ar pob math o ofnau. Mae hyn wedi cael ei ecsploetio drwy hanes. Mae’r cyfryngau yn hoffi bwydo arno ac mae gwleidyddiaeth yn gwneud hynny hefyd. Nid yw dwylo crefydd yn lân chwaith. Mae crefyddwyr wedi manteisio ar ofnau pobl ac wedi chwarae ar y syniad fod yna rhywbeth ‘anghywir’ ynom i gyd – hynny yw, ein bod i gyd yn sylfaenol bechadurus a drwg.

Dwi’n hoffi’r stori ddychmygol honno o draddodiad y Cherokee am dad-cu’n dysgu gwersi i’w ŵyr. Meddai’r tad-cu, “Mae yna frwydro tu fewn i bawb, megis dau flaidd yn ymladd â’i gilydd. Mae un yn ddieflig, yn llawn casineb, eiddigedd a thrachwant; mae’n drahaus a thwyllodrus. Mae’r llall yn dda – llawn llawenydd a chariad, mae’n haelionus a charedig”.

Gofynnodd yr ŵyr pa un sy’n debygol o ennill? Yr ateb: “Yr un rwyt ti yn ei fwydo fwyaf”.

Cawn ein rhybuddio yn barhaus ynghylch pa fwyd i beidio a’i fwyta a beth sy’n dda neu’n ddrwg i’r corff. Onid felly y dylai hi fod gyda’n dychymyg hefyd? Parhawn i’w ddefnyddio ym materion ffydd, gan adael iddo fywiogi a sirioli ein bywyd ysbrydol.

 

E-fwletin 6 Hydref 2019

Nithio Neges Niclas

Ddoe dadorchuddiwyd cofeb i Niclas y Glais ar ben Crugiau Dwy, ei gynefin ger Crymych yn Sir Benfro. Roedd hi’n arw. Roedd hi’n arw pan daenwyd ei lwch yn yr union fan ym mis Tachwedd 1971. Yn ôl ei gyfaddefiad ei hun roedd hi’n dywydd mellt a tharanau pan anwyd ef 140 mlynedd nôl ar Hydref 6. Bu’n fab y ‘trwste’ fyth ers hynny.

Roedd gwreiddiau’r Parch T. E. Nicholas yn ddwfn yn y fro ond ni arddelai unrhyw sentimentaliaeth tuag ati chwaith. Mynnai iddo ddysgu bod yn Gristion ymhell cyn mynychu Academi’r Gwynfryn yn Rhydaman i baratoi ei hun ar gyfer y weinidogaeth. A hynny ar sail sgwrs y bu’n clustfeinio arni y tu fas i dyddyn unnos gwraig weddw yr arferai fynd â llaeth enwyn iddi.

Cafodd fraw o’i chlywed yn cynnal sgwrs â rhywun a hithau’n byw ar ei phen ei hun. O sylweddoli mai siarad ag Iesu Grist oedd hi deallodd Niclas o’r funud honno yn laslanc nad oedd yr Iddewon wedi lladd Crist wedi’r cyfan a’i fod yn fyw yng nghyffiniau Crug yr Hwch.

Mynnai iddo arddel Sosialaeth a Chomiwnyddiaeth ymhell cyn iddo glywed am Karl Marx a Lenin ac Engels. A hynny o ganlyniad i’w brofiadau fel plentyn ar ei brifiant. O ddarllen ysgrifau radical y wasg Gymraeg ar y pryd daeth i ddeall mai gorthrwm i’w waredu oedd landlordiaeth.

Prin y byddai ei dad yn talu rhent yr un flwyddyn nes y derbyniai wŷs. Roedd bywyd yn galed a phawb yn ymgodymu â thlodi. Nid felly ddylai hi fod yng ngolwg Niclas. Roedd ei Grist ef yn cefnogi’r tlodion ac yn erlid y cyfoethogion er mwyn dileu’r gwahanfur a fodolai rhyngddynt.

Nodweddiadol ohono oedd ei bregeth olaf ym mhulpud Antioch ei blentyndod ym mis Awst 1969. Brawddeg agoriadol Gweddi’r Arglwydd oedd ei destun. Cyfeiriodd at ribidirês o wleidyddion a brenhinoedd na chredai y dylent arddel Duw yn dad. ‘Na fydded i chwi’r un tywysog arall o dan y ne’ taranai gan gofio fod yna Arwisgo newydd fod yng Nghaernarfon.

Clamp o gymeriad. “Buoch yn un o broffwydi Crist yn ein hoes”, meddai’r Dr Pennar Davies amdano. Yn yr un mowld ag Emrys ap Iwan ac R. J. Derfel. Fel y rheiny byddai’n traethu ei argyhoeddiadau trwy gyfrwng y wasg – pan na chai ei wahardd gan ambell olygydd.

Ond roedd Niclas hefyd yn cyhoeddi ei syniadau ar lafar a thrwy gyfrwng sonedau. Ysgydwid Waldo Williams pan ddarllenodd gerdd hir Niclas, ‘Rhyfel a Gweriniaeth’, pan oedd yn llanc ifanc, a chael ei gynhyrfu eilwaith pan ddarllenodd hi eto ymhen blynyddoedd.

Dengys yr erthyglau a’r llythyron personol o’i eiddo sydd wedi’u dyfynnu yn y gyfrol newydd ei chyhoeddi, i gyd-fynd â’r dadorchuddio, ‘Nithio Neges Niclas’, bod ei eiriau yn dal i siarad â ni heddiw.

“Gweddnewid y ddaear yw neges yr efengyl: credaf na weddnewidir hi byth gan gyfreithwyr, a barnwyr, a milwyr, a charchardai a chrogwyr. Fe gedwir y byd gan egwyddorion Iesu”. Trafodwch!

 

Sesiwn Sioned Webb i Encil 2019

Sesiwn Sioned Webb yn Encil Undydd C21, 2019

Cyfraniad cerddoriaeth i’n hymwneud ni â’r ‘Cread a’r Cymod’ oedd gan Sioned Webb yn ei sesiwn yn Encil 21. Dyma’r darnau o gerddoriaeth y gwrandawyd arnynt:

(Mae’n bosib gwrando arnynt i gyd ar y we)

Alaw a cherdd a chân, y rhodd o gelfyddyd a’r rhodd o addoli sy’n ein gwneud yn warchodwyr y cread a’r cymod, yn ôl Sioned Webb. Mewn sesiwn arbennig iawn o wrando ar gerddoriaeth fel cyfrwng cawsom glywed cerddoriaeth oedd yn ein cydio â’r nef ac â’n gilydd; weithiau yn ein harwain i ddawns, weithiau i alar ond pob amser i obaith. Roedd y darn Ami Maamin gan y Rabi o wlad Pwyl a gyfansoddwyd ar y trên i’r siamberi nwy, yn datgan y gobaith tawel yn shalom Duw yng nghanol ei gread.

Gorecki: Totus Tuus

 

Siân James: Cymun

 

Britten: Young Person’s Guide to the Orchestra

 

Queen: ‘We Will Rock You’

 

Wagner: Agorawd i Die Meistersinger von Nürnberg

Tradd.: Ani Ma’amin

 

Wythfed Sul Adferiad Cymru

WYTHFED SUL ADFERIAD CYMRU

Annwyl Gyfaill,

Bydd dydd Sul 27ain o Hydref, 2019, yn garreg filltir arall yn hanes y frwydr yn erbyn dibyniaeth ar alcohol, cyffuriau ac ymddygiadau niweidiol eraill yng Nghymru.

Unwaith eto eleni, nodwyd Sul fel Sul Adferiad i annog eglwysi nid yn unig i ystyried sefyllfa’r rhai sy’n dioddef o ddibyniaeth o ryw fath, i ddysgu mwy am eu sefyllfa, eu hangen a’r help sydd ar gael trwy ymdrechion mudiadau megis y Stafell Fyw a CAIS, ond hefyd i weithredu yn ymarferol i estyn cymorth. Gall y cymorth olygu cyfraniad ariannol tuag at y gwaith i rai, tra bydd eraill yn cymryd sylw newydd o’r anogaeth sydd yn Hebreaid 13:3: “Daliwch ati i gofio’r rheiny sydd yn y carchar, gan feddwl sut brofiad fyddai hi i fod yn y carchar eich hunain!” Efallai mai carchar llythrennol sydd dan sylw awdur y llythyr at yr Hebreaid, ond ar Sul Adferiad cofiwn fod caethiwed dibyniaeth ar alcohol, cyffuriau, bwyd, rhyw, gamblo a mwy, yn garchar i gymaint o bobl heddiw.

Mae’r gwasanaeth eleni yn seiliedig ar hanes Jona, un o storïau mawr y Beibl. Byddwn yn gweld pa mor berthnasol yw’r stori i ni heddiw a bod yna Jona y tu mewn i ni i gyd. Y Parchedig Guto Llywelyn sy’n gyfrifol am baratoi’r gwasanaeth. Ganwyd a magwyd Guto yn Felin-fach, Ceredigion, ond mae’n byw yn Caerbryn, ger Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin, erbyn hyn. Ar ôl 25 mlynedd fel llyfrgellydd fe aeth i’r weinidogaeth yn 2013 ac mae’n weinidog gyda’r Annibynwyr yn ardal Hendy-gwyn, Sir Gaerfyrddin. Mae’n briod gyda Catrin ac mae ganddynt ddau o blant, sef Mari a Dafydd.

Mae croeso i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Gellir ei lawrlwytho o’n gwefan Stafell Fyw Caerdydd

neu Cynnal Cymru 

neu www.cynnal.wales

Dyma wythfed Sul Adferiad Cymru. Ar y Sul hwn, gwahoddwn Gristnogion Cymru i uno mewn gweddi dros y rhai sy’n gaeth, yn ddibynnol; yn gofyn i Dduw ein helpu ni i’w helpu nhw.

Diolch rhag blaen am bob cydweithrediad a chefnogaeth.

Wynford Ellis Owen

Ymgynghorydd Cwnsela Arbenigol
CAIS Cyf/Ltd – Stafell Fyw Caerdydd
58 Richmond Road, Caerdydd, CF24 3AT

Gellir gweld y llythyr cyfan, dwyieithog ar ffurf pdf YMA

Cliciwch YMA i weld trefn y gwasanaeth.