Cymdeithas Waldo
Dydd Gwener nesa Tachwedd 10fed. am 10.00 cynhelir ‘Ocsiwn ‘Llên a chelf a llun a chân’ Cymdeithas Waldo’ yn Neuadd Ysgol Y Frenni. Crymych. Sir Benfro. Mae Cymdeithas Waldo’n dathlu ei phen blwydd yn deg oed y flwyddyn nesaf, a nod yr ocsiwn yw codi arian i alluogi’r Gymdeithas i barhau i drefnu gweithgareddau ymlaen i’r ddegawd nesaf. Dyma gyfle i brynu gwaith gan arlunwyr, beirdd a llenorion Cymru. I gael catalog o gynnwys yr ocsiwn cysylltwch ag Alun Ifans, Erw Grug, Maenclochog, Sir Benfro. SA66 7LB. E-bost alunifans@hotmail.com Ffôn 01437 532603.
Fel rhagflas o’r ocsiwn dyma 6 englyn gan Aled Gwyn ‘Waldo’, un y mae’n werth cael ein atgoffa amdano ar Sul y Cofio.
Waldo
Noddodd y Tâf a’r Cleddau – ei wreiddyn
Ger heddwch eu glannau.
Lle bore oes, lle bu’r hau,
Bro ei sail, ei Breselau.
Enaid o’r môr goleuni – gŵr addfwyn
Y greddfol wrhydri;
Yn niwl nos ein cynnal ni
Wna’r Dail, a’n hysbrydoli.
Mae’n gangen ein llawenydd, – a’n hyder
Inni gredu beunydd
Mae yn ddistaw y daw dydd
Cilio o bob cywilydd.
Er yn dderwen arbennig – y braffaf
Broffwyd; dirmygedig
Ydoedd a gwrthodedig.
Ni surai, ni ddaliai ddig.
Eneidfawr wawl mewn adfyd – i’n cynnal,
Ef yw cân ein gwynfyd;
Hwn a feddai gelfyddyd
Y bardd, i oleuo byd.
Yn ddiddiwedd ryfeddod – a diau
Dewin mwya’n cyfnod;
Y ddawn wych, i rai’n ddyn od
Dyn a wybu adnabod.
Aled Gwyn