E-fwletin 17 Tachwedd 2019

Trai a Llanw

Pethau rhyfedd yw penawdau,  disgrifiadau bachog a gyfansoddir i grynhoi cnewyllyn rhyw sefyllfa; pethau sy’n ein perswadio ar yr un pryd fod y disgrifiad hwnnw’n wirionedd, pa mor gywir bynnag yw hynny. Un peth sy’n cael ei wthio arnom beunydd beunos gan y cyfryngau erbyn hyn yw ein bod yn byw mewn oes ddigrefydd, neu ôl-grefyddol, oes pan yw ffydd yn ddiangen a diystyr, oes pan fo’r meddwl dynol arch-resymegol yn creu pob dim, yn deall pob dim ac yn rhoi ateb i bob dim. Yr hil ddynol, meddir, sy’n cynrychioli’r gallu mawr bellach, a phob dyn yn dduw bach ei hun. Pob unigolyn, yn ddyn a dynes, yn dduw neu dduwies a phob duw neu dduwies yn unigolyn dynol. Wfft, meddir, i grefydda ffurfiol ac wrth ddweud hynny, wfft i Gristnogaeth hefyd yn y fargen.

Fel tystiolaeth o hyn, codir y dystiolaeth barhaus o gapeli gweigion ac adfeiliedig, capeli wedi eu troi at ddefnydd amgen. Clybiau a bwytai yw rhai ohonynt, fel hen eglwys Pembroke Terrace yng Nghaerdydd, tra bod hen addoldy’r Methodistiaid Calfinaidd yn yr un ddinas yn Heol y Crwys a oedd, meddid, yn rhy beryglus i’r saint, yn fan cysegredig i grefydd arall, sef crefydd Islam. Dyna eironi’r sefyllfa. Er mynnu mai mewn oes ôl-grefyddol yr ydym yn byw, mae crefydd yn enw crefyddau heblaw Cristnogaeth yn hollbresennol mewn gwleidyddiaeth a chymdeithas ledled y byd. Efallai mai byw mewn oes ôl-Gristnogol yn hytrach nag ôl-grefyddol yr ydym.

Rhaid cofio, serch hynny, nad rhywbeth newydd yw rhincian dannedd am ddifaterwch a gwrthwynebiad i grefydd. Erbyn diwedd y canol oesoedd, yr oedd cwyno mai dyrnaid o fyneich yn unig a oedd yn un o abatai mwyaf urddasol Cymru, Margam, a sefyllfa debyg yn y rhan fwyaf o’r adeiladau trawiadol hyn a godwyd pan oedd ffydd yn ei hanterth. Cwynai’r Esgob Richard Davies ar gychwyn oes Elisabeth, wedyn, bod cyn lleied o offeiriaid yn ne-orllewin Cymru nes bod y nifer fach a wasanaethai esgobaeth Tyddewi yn rhuthro o un eglwys i’r llall ar y Sul er mwyn cynnal rhyw fath o oedfa. Pan ysgubodd ton o frwdfrydedd crefyddol, meddid, dros Gymru yn ystod y ddeunawfed ganrif wedi cyfnod, ie,  o ‘dywyllwch dudew’ yn ôl diwygwyr fel Williams Pantycelyn , dim ond tri aelod yn unig oedd ar un adeg yn seiad tref Caerfyrddin, a rhyw drigain neu lai oedd aelodaeth seiadau eraill ar y cyfan. Rhyw 10% yn unig o’r boblogaeth oedd yn ‘Fethodistiaid’ yn yr hyn a gyfrifir yn ganrif aur y mudiad. Yn 1851, pan oedd cyfrifiad crefyddol, dywedwyd gyda balchder bod Cymru’n ‘wlad o anghydffurfwyr’. Ie, anghydffurfwyr oedd y rhan fwyaf a gyfrifwyd; ac eto, rhaid cofio mai tua hanner y boblogaeth a fynychai le o addoliad o gwbl. Cymru o ‘ddwy fuchedd’ oedd Cymru bryd hynny hyd yn oed. Gwir, fe gyrhaeddodd crefydda poblogaidd ryw anterth ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf, ac efallai i hyn daflu golau anffafriol ar ein sefyllfa ninnau heddiw. Efallai mai eithriad oedd yr anterth hwn, a’n bod ninnau’n byw mewn cyfnod mwy nodweddiadol o ran ein hagwedd at grefydd.

Beth bynnag am wahanol gyfnodau o drai a llanw ar hyd y canrifoedd maith y mae gan Gristnogaeth, serch hynny, rywbeth go arbennig i’w gynnig, rhywbeth  sydd uwchlaw yr hyn y gall crefyddau eraill ei gynnig ac yn sicr uwchlaw rhesymeg noeth y meddwl dynol.  Mae hwnnw yn methu, ac o fethu, sut mae dygymod â hynny? Taflu goleuni i fyd tywyll a wnaeth Crist, rhoi pwys ar faddeuant fel sail i fywyd heb fagu chwewrder na dial; maddeuant a chariad ynghyd yn rhoi gobaith, a hynny yn ei dro yn gefndir i ffydd. Mewn byd sydd mor llawn o ansicrwydd a thywyllwch heddiw y mae’r waredigaeth a gynigiwyd ganddo yr un o hyd, beth bynnag am unrhyw drefniadaeth grefyddol. A na,  ddylem ni ddim digalonni am ddifaterwch ymddangosiadol y funud. Y mae llanw newydd mor anochel â thrai.