E-fwletin 3 Tachwedd 2019

Prâg

Yn dilyn ymweliad diweddar â dinas Prâg mae tair cofeb yn aros yn y cof.

Mae’r gyntaf i’w gweld ar sgwâr enwog yr Hen Dref, gyda’i dŵr uchel a’i gloc astronomaidd. Yng nghysgod y tŵr saif cofeb enfawr i Jan Hus. Fe’i ganwyd i deulu tlawd ond dringodd i fod yn offeiriad yn yr eglwys Gatholig ym Mhrâg tua 1400. Roedd yn bregethwr radical a bu’n ddylanwadol iawn mewn cyfnod o newidiadau mawr o fewn yr eglwys. Er iddo gael ei esgymuno o’r eglwys parhaodd i bregethu gan leisio’i wrthwynebiad chwyrn i arfer yr eglwys o werthu maddeuebau er mwyn ariannu rhyfeloedd Pabyddol. Cafodd wahoddiad i egluro’i safbwynt o flaen Cyngor yr Eglwys yn 1415, ond cyn cael cyfle i ddweud gair yno fe’i harestiwyd a’i garcharu cyn cael ei losgi wrth y stanc fel heretic. Daeth yn arwr cenedlaethol i’r Tsieciaid dros nos gan ysbrydoli miloedd o bobl i wrthryfela yn erbyn yr awdurdodau. Yr arysgrif ar ei gofeb yw: “Pravda vitezi”, sef ‘Mae’r gwirionedd yn trechu’.

Penddelw o Franz Kafka yw’r ail gofeb, sydd i’w gweld yn ardal Iddewig o ddinas Prâg lle cafodd ei eni yn 1883. Daeth yn fyd-enwog fel nofelydd ac awdur straeon byrion, ac anodd credu iddo’i chael hi’n anodd cael cyhoeddwr i’w weithiau yn ystod ei fywyd.

Wedi ei farw cyhoeddwyd ei lyfrau yn yr iaith Tsiec a’r Almaeneg gan dderbyn canmoliaeth uchel, cyn i’r Natsïaid ei gwahardd. Cyfrifid ei ddisgrifiadau o greulondeb a grym biwrocratiaeth dros yr unigolyn yn rhy agos i’r asgwrn i awdurdodau Natsïaidd a Chomiwnyddol fel ei gilydd yn eu tro. Dyma rai dyfyniadau o’i eiddo:

‘Dechrau gyda’r hyn sydd yn iawn yn hytrach na’r hyn sy’n dderbyniol’.

‘Paid â’i blygu, paid â’i gymedroli, paid â’i wneud yn rhesymegol, paid â golygu dy enaid yn ôl ffasiwn’.

Y drydedd gofeb – os cofeb hefyd – yw Sgwâr Wenseslas, un o fannau cyfarfod enwocaf Prâg. Mae’r sgwâr hwn wedi tystio i rai o ddigwyddiadau mwyaf tyngedfennol dinas, gwlad a chyfandir. Mae i ddyfyniadau arwyddocaol eu lle yn y gofeb hon hefyd, sy’n peri i’r ymwelydd ymadael gyda llawer i gnoi cil yn ei gylch. Un sydd wedi aros gyda fi yw:

‘Allwn ni ddim cyfeirio’r gwynt ond gallwn addasu’n hwyliau’.

Mae yna baratoadau mawr yn mynd ymlaen ym Mhrâg ar hyn o bryd i ddathlu 30 mlynedd ers y ‘Velvet Revolution’,  chwyldro gwleidyddol di-drais, a arweiniodd at newid cymharol esmwyth o Gomiwnyddiaeth i ddemocratiaeth Orllewinol yn Tsiecoslofacia ar ddiwedd 1989.

Wn i ddim os ydyn ni yma yng ngwledydd Prydain heddiw yn byw trwy ryw fath y chwyldro, neu mewn cyfnod sy’n galw am chwyldro! Sut bynnag, gobeithio bydd y myfyrdod hwn yn help i ni gadw ein golwg ar yr hyn sy’n wir ac yn wâr ar ddechrau gaeaf a all fod yn un hir iawn.