E-fwletin 27 Hydref 2019

Calan Gaeaf

Calan Gaeaf yn barod! On’d yw’r cloc ‘na’n cerdded! Mae’r gaeaf ar ein gwarthau unwaith eto.

Fyddwch chi’n nodi Calan Gaeaf eleni? Mae’n medru bod yn dipyn o benbleth i rieni sydd â phlant ifanc, on’d yw e? Ydy hi’n addas gyrru’r Cristnogion bychain i’r disgo gwisg ffansi i bopio a hip-hopio  gyda phwerau’r Fall? Ydy eu gwisgo nhw fel y Dracula neu’r Frankenstein llenyddol yn mynd i olygu unrhyw beth iddyn nhw? A fyddan nhw’n cael eu dychryn o gael parti mewn ystafell dywyll yn llawn o ysbrydion, gwrachod, ystlumod a gwe corynod?

Neu ai gwell fyddai gweithio cyflaith, cynnau cannwyll mewn ambell erfinen gau a dwco ‘fale o fla’n tân yn y modd traddodiadol Gymreig? Ma’ hwnnw’n ddigon diniwed on’d yw e? Ond arhoswch – efallai mai traddodiad Celtaidd paganaidd yw hynny. A pheidiwch dechrau awgrymu mynd â’r plantos mas i chwarae trick or treat,  da chi. ‘Na ffordd sicr o gynddeiriogi cymdogion O diar! Penbleth.
 
Beth bynnag wnewch chi ar 31 Hydref, ymddengys bod yr hen ŵyl Gristnogol hon o weddi ac ympryd, Noswyl yr Holl Saint, wedi dirywio bellach i fod yn rhyw gawdel o ddelweddau cartwnaidd plentynnaidd. Mae sgriniau bach a mawr yn llawn lluniau o fwci-bos, gwrachod, bwystfilod a drychiolaethau amrywiol. Mae’r siopau’n llawn tranglwns du ac oren, iasoer eu bryd, i ddenu llygaid plant (a rheini’n dranglwns plastig gan mwyaf hefyd!). A phwy sy’n gyrru’r sbloet? Cwmnïau masnachol, fel ag erioed.

Drannoeth Calan Gaeaf bydd yr union gwmnïau yn annog y siopau i lenwi’u silffoedd â thranglwns a thrugareddau newydd yn barod at y Nadolig. Bydd yr oren a’r du tymhorol yn ildio’u lle i’r gwyn a’r coch Nadoligaidd er mwyn llenwi llygaid y plant unwaith yn rhagor. Ond, fel ma’ nhw’n dweud yn yr ardal ‘ma, “Wedi’r cyfan, rhywbeth i’r plant yw’r Nadolig on’d taw e?”. Fel Calan Gaeaf mae’n siŵr.

“Pan oeddwn yn blentyn, fel plentyn yr oeddwn yn llefaru, fel plentyn yr oeddwn yn meddwl, fel plentyn yr oeddwn yn rhesymu. Ond wedi dod yn ddyn, yr wyf wedi rhoi heibio bethau’r plentyn”. Dyna oedd geiriau’r Apostol Paul, on’d taw e?

Ond i ba raddau ry’n ni’n rhoi cyfle i bobl wneud hynny yn eu crefydda? Mae straeon a dramâu’r Nadolig a’r Pasg yn parhau’n fyw i ni ers dyddiau’r Ysgol Sul. Maen nhw’n rhan o’n dychymyg torfol. Ond ydy ein haelodau eglwysig wedi cael y cyfleoedd sy’n ddyledus iddyn nhw er mwyn medru symud ymlaen o hynny a rhoi heibio pethau’r plentyn.

I ba raddau mae yna gyfle gwirioneddol i bobl yn eu hoed a’u hamser ystyried a thrafod egwyddorion a sylfeini’r ffydd Gristnogol mewn modd aeddfed a deallus? Ble a phryd mae cyfle iddyn nhw holi cwestiynau ac i dwrio y tu ôl i’r tinsel a’r gwe corynod er mwyn llawn ddeall a gwerthfawrogi’r symbolaeth a’r negeseuon cyfoethog a heriol sy’n rhan annatod o’r traddodiadau, y straeon a’r dramâu cyfarwydd? Neu a ydyn ninnau hefyd yn ddigon cysurus i fodloni ar y tranglwns a’r gwisgoedd ffansi?

Calan Gaeaf iasol/heriol/gweddigar/diddig i chi – dileer fel bo’n berthnasol.