E-fwletin 13 Hydref 2019

Dychymyg

Dwi wastad yn rhyfeddu at ddychymyg plant a’r modd mae’n cael ei ymestyn, yn enwedig wrth chwarae.

Gwnaeth Albert Einstein gryn enw i’w hunan oherwydd ei wybodaeth eang a’i allu meddyliol rhyfeddol fel gwyddonydd a ffisegwr. Daeth ei theorïau, a’i ddarganfyddiadau, ynghyd a’i ddaliadau, yn enwog yn fyd-eang. Ond – fe ddywedodd rhywbeth annisgwyl iawn, sef bod dychymyg yn fwy pwerus na gwybodaeth. Heb ddychymyg, meddai, ni fyddai wedi llwyddo.

Gallwn gael ein cyfyngu gan ffeithiau a gwybodaeth, ac mi awn yn ddibynnol ar yr hyn yr ydym wedi ei ddysgu. Ond does dim ffiniau na chyfyngiadau i’r dychymyg. Gall dychymyg rhoi cyfle a chyfeiriad ehangach i bethau sy’n ymddangos yn amhosibl, gan arwain at bethau nad ydym yn ei wybod. Mae’r dychymyg yn gweld posibiliadau yn y sefyllfaoedd mwyaf annhebygol.

Heb ddychymyg ni fyddai unrhyw arloesi na datblygiad newydd. Mae dychymyg yn rhoi hawl i ni weld y tu hwnt i’n llwybrau dyddiol. Oni bai amdano ni fyddai gennym lawer o’r pethau sydd gyda ni. Onid dychymyg yw ffynhonnell bron yr holl o ddyfeisiadau a datblygiadau arloesol dyn? Ail adrodd ffeithiau caled rydym eisoes wedi eu dysgu mae’r meddwl. Mae’r dychymyg yn fodd i gamu tu hwnt i wybodaeth

Yn y Bregeth ar y Mynydd mae Iesu yn cychwyn ei weinidogaeth gyda gweledigaeth o ba mor dda gall pobol dduwiol fod. Mae’n eu galw’n oleuni’r byd, gan ddweud taw nhw sydd agosaf at deyrnas nefoedd. Ar y diwedd mae’n dymchwel yr hyn a oedd yn wireb y dydd, sef llygad am lygad a dant am ddant. Rhaid gwrthod y ddysgeidiaeth o ddial a thalu drwg am ddrwg. I’r gwrthwyneb, dyma gynnig ffordd newydd o ymddwyn trwy ddweud y dylen ni garu gelynion. Tyfodd hyn o’i ddychymyg. Onid o’r dychymyg y llifa holl elfennau creadigol bywyd?

Yn anffodus, o’r union fan honno hefyd y llifa llawer o’n trafferthion, gan esgor ar pob math o ofnau. Mae hyn wedi cael ei ecsploetio drwy hanes. Mae’r cyfryngau yn hoffi bwydo arno ac mae gwleidyddiaeth yn gwneud hynny hefyd. Nid yw dwylo crefydd yn lân chwaith. Mae crefyddwyr wedi manteisio ar ofnau pobl ac wedi chwarae ar y syniad fod yna rhywbeth ‘anghywir’ ynom i gyd – hynny yw, ein bod i gyd yn sylfaenol bechadurus a drwg.

Dwi’n hoffi’r stori ddychmygol honno o draddodiad y Cherokee am dad-cu’n dysgu gwersi i’w ŵyr. Meddai’r tad-cu, “Mae yna frwydro tu fewn i bawb, megis dau flaidd yn ymladd â’i gilydd. Mae un yn ddieflig, yn llawn casineb, eiddigedd a thrachwant; mae’n drahaus a thwyllodrus. Mae’r llall yn dda – llawn llawenydd a chariad, mae’n haelionus a charedig”.

Gofynnodd yr ŵyr pa un sy’n debygol o ennill? Yr ateb: “Yr un rwyt ti yn ei fwydo fwyaf”.

Cawn ein rhybuddio yn barhaus ynghylch pa fwyd i beidio a’i fwyta a beth sy’n dda neu’n ddrwg i’r corff. Onid felly y dylai hi fod gyda’n dychymyg hefyd? Parhawn i’w ddefnyddio ym materion ffydd, gan adael iddo fywiogi a sirioli ein bywyd ysbrydol.