Nithio Neges Niclas
Ddoe dadorchuddiwyd cofeb i Niclas y Glais ar ben Crugiau Dwy, ei gynefin ger Crymych yn Sir Benfro. Roedd hi’n arw. Roedd hi’n arw pan daenwyd ei lwch yn yr union fan ym mis Tachwedd 1971. Yn ôl ei gyfaddefiad ei hun roedd hi’n dywydd mellt a tharanau pan anwyd ef 140 mlynedd nôl ar Hydref 6. Bu’n fab y ‘trwste’ fyth ers hynny.
Roedd gwreiddiau’r Parch T. E. Nicholas yn ddwfn yn y fro ond ni arddelai unrhyw sentimentaliaeth tuag ati chwaith. Mynnai iddo ddysgu bod yn Gristion ymhell cyn mynychu Academi’r Gwynfryn yn Rhydaman i baratoi ei hun ar gyfer y weinidogaeth. A hynny ar sail sgwrs y bu’n clustfeinio arni y tu fas i dyddyn unnos gwraig weddw yr arferai fynd â llaeth enwyn iddi.
Cafodd fraw o’i chlywed yn cynnal sgwrs â rhywun a hithau’n byw ar ei phen ei hun. O sylweddoli mai siarad ag Iesu Grist oedd hi deallodd Niclas o’r funud honno yn laslanc nad oedd yr Iddewon wedi lladd Crist wedi’r cyfan a’i fod yn fyw yng nghyffiniau Crug yr Hwch.
Mynnai iddo arddel Sosialaeth a Chomiwnyddiaeth ymhell cyn iddo glywed am Karl Marx a Lenin ac Engels. A hynny o ganlyniad i’w brofiadau fel plentyn ar ei brifiant. O ddarllen ysgrifau radical y wasg Gymraeg ar y pryd daeth i ddeall mai gorthrwm i’w waredu oedd landlordiaeth.
Prin y byddai ei dad yn talu rhent yr un flwyddyn nes y derbyniai wŷs. Roedd bywyd yn galed a phawb yn ymgodymu â thlodi. Nid felly ddylai hi fod yng ngolwg Niclas. Roedd ei Grist ef yn cefnogi’r tlodion ac yn erlid y cyfoethogion er mwyn dileu’r gwahanfur a fodolai rhyngddynt.
Nodweddiadol ohono oedd ei bregeth olaf ym mhulpud Antioch ei blentyndod ym mis Awst 1969. Brawddeg agoriadol Gweddi’r Arglwydd oedd ei destun. Cyfeiriodd at ribidirês o wleidyddion a brenhinoedd na chredai y dylent arddel Duw yn dad. ‘Na fydded i chwi’r un tywysog arall o dan y ne’ taranai gan gofio fod yna Arwisgo newydd fod yng Nghaernarfon.
Clamp o gymeriad. “Buoch yn un o broffwydi Crist yn ein hoes”, meddai’r Dr Pennar Davies amdano. Yn yr un mowld ag Emrys ap Iwan ac R. J. Derfel. Fel y rheiny byddai’n traethu ei argyhoeddiadau trwy gyfrwng y wasg – pan na chai ei wahardd gan ambell olygydd.
Ond roedd Niclas hefyd yn cyhoeddi ei syniadau ar lafar a thrwy gyfrwng sonedau. Ysgydwid Waldo Williams pan ddarllenodd gerdd hir Niclas, ‘Rhyfel a Gweriniaeth’, pan oedd yn llanc ifanc, a chael ei gynhyrfu eilwaith pan ddarllenodd hi eto ymhen blynyddoedd.
Dengys yr erthyglau a’r llythyron personol o’i eiddo sydd wedi’u dyfynnu yn y gyfrol newydd ei chyhoeddi, i gyd-fynd â’r dadorchuddio, ‘Nithio Neges Niclas’, bod ei eiriau yn dal i siarad â ni heddiw.
“Gweddnewid y ddaear yw neges yr efengyl: credaf na weddnewidir hi byth gan gyfreithwyr, a barnwyr, a milwyr, a charchardai a chrogwyr. Fe gedwir y byd gan egwyddorion Iesu”. Trafodwch!