Archifau Categori: Agora 35

Sesiwn Sioned Webb i Encil 2019

Sesiwn Sioned Webb yn Encil Undydd C21, 2019

Cyfraniad cerddoriaeth i’n hymwneud ni â’r ‘Cread a’r Cymod’ oedd gan Sioned Webb yn ei sesiwn yn Encil 21. Dyma’r darnau o gerddoriaeth y gwrandawyd arnynt:

(Mae’n bosib gwrando arnynt i gyd ar y we)

Alaw a cherdd a chân, y rhodd o gelfyddyd a’r rhodd o addoli sy’n ein gwneud yn warchodwyr y cread a’r cymod, yn ôl Sioned Webb. Mewn sesiwn arbennig iawn o wrando ar gerddoriaeth fel cyfrwng cawsom glywed cerddoriaeth oedd yn ein cydio â’r nef ac â’n gilydd; weithiau yn ein harwain i ddawns, weithiau i alar ond pob amser i obaith. Roedd y darn Ami Maamin gan y Rabi o wlad Pwyl a gyfansoddwyd ar y trên i’r siamberi nwy, yn datgan y gobaith tawel yn shalom Duw yng nghanol ei gread.

Gorecki: Totus Tuus

 

Siân James: Cymun

 

Britten: Young Person’s Guide to the Orchestra

 

Queen: ‘We Will Rock You’

 

Wagner: Agorawd i Die Meistersinger von Nürnberg

Tradd.: Ani Ma’amin

 

Gweddi boreuol

Gweddi ar gyfer Gwasanaeth Boreol
(Cymuned Iona – addasiad)

Mae’r byd yn eiddo Duw,
y ddaear a’r holl bobl;
mor dda yw byw ynghyd
gyda’n gilydd;
daw ffydd a chariad at ei gilydd,
cyfiawnder a heddwch yn cydio dwylo;
os yw disgblion Crist yn cadw’n dawel
bydd y cerrig hyn yn gweiddi’n uchel.
Agor ein gwefusau, O Dduw,
a bydd ein genau yn cyhoeddi dy glod.

Distawrwydd

Dduw, bydd yn ein plith, rho i ni fywyd,
gad i’th bobl lawenhau ynot ti;
rho i ni eto hyfrydwch dy gymorth,
yn rhyddid dy ysbryd cynnal ni;
rho i ni galonnau glân
ac adnewydda ni – gorff, meddwl ac ysbryd.

Distawrwydd

Gan ymddiried ym maddeuant Duw,
cydnabyddwn ein ffaeleddau
a’n cyfraniad i boen y byd;
gerbron Duw
cydnabyddwn i ni droi oddi wrth Dduw
drwy’r ffyrdd ry’n ni’n anafu ein bywyd,

bywydau eraill,
a bywyd y byd.

Maddeued Duw i ni,
Adnewydded Crist ni,
A boed i’r ysbryd
ein galluogi i dyfu mewn cariad.
Amen.

 

Efengyliaeth o’r newydd

Efengyliaeth o’r Newydd?

Cafwyd cryn sylw rai misoedd yn ôl i ganlyniadau ymchwil am agweddau at grefydd. Yn fras, y casgliad oedd bod dros hanner y boblogaeth yn dweud nad ydyn nhw’n arddel unrhyw grefydd a bod mwy o bobl yn rhoi eu ffydd mewn gwyddonwyr prifysgolion nag arweinwyr crefydd.

Sut ddylai cefnogwyr Cristnogaeth 21, crefyddwyr rhesymol a goleuedig un ac oll, ymateb i beth fel hyn, heblaw ochneidio a nodi nad oedd y casgliadau yn eu synnu o gwbl?

Man cychwyn hyn o sylwadau yw ail gymal y casgliadau: bod mwyafrif y boblogaeth yn rhoi eu ffydd mewn gwyddonwyr prifysgolion yn hytrach nag arweinwyr crefydd.

‘Ffydd’ ynghylch beth yw’r cwestiwn. Os mai ei ystyr yw ymddiriedaeth yn y gallu i esbonio byd natur – creu’r bydysawd a’r deddfau sy’n rheoli ei weithrediad, tarddiad ac esblygiad bywyd, ein cyfansoddiad genetegol a ffisegol ni, homo sapiens, ffenomenâu megis newid yn yr hinsawdd a dulliau ymarferol o’i gyfyngu, a rhoi rhai enghreifftiau – does bosibl na ddylen ni groesawu casgliadau’r ymchwil yn ddiamwys.

Un o ogoniannau hanes dynoliaeth yw’r ffordd yr ydyn ni, yn enwedig dros y pedair canrif ddiwethaf, wedi dod yn gynyddol i ddeall dirgelion byd natur, drwy astudio’r dystiolaeth, ei dadansoddi’n ddiduedd, datblygu theorïau a’u profi. Dyma’r dull empiraidd o ddeall, a diolch amdano.

Nawr ’te, un o dueddiadau mwyaf pryderus ein hoes ni yw’r adwaith yn erbyn parchu’r dystiolaeth wyddonol. Adwaith yn erbyn y sioc o sylweddoli mai canlyniad esblygiad biolegol yn hytrach na chreadigaeth unwaith-ac-am-byth Bod goruwchnaturiol daionus yw Dyn – dyna yw ffwndamentaliaeth grefyddol. Does ryfedd bod gwyddonwyr fel Richard Dawkins wedi’u cynddeiriogi ac wedi lachio allan, weithiau’n anghymedrol ac yn anwahaniaethol, yn erbyn ffug esboniadau megis Dylunio Deallus.

Mewn gwirionedd, yr hyn ddylai fod yn ofid i ddarllenwyr Agora yw bod cynifer yn dal i ffafrio esboniadau diwinyddol ar draul rhai gwyddonol. Mae carfanau crefyddol niferus a dylanwadol i’w cael sy’n gwadu’r dystiolaeth am newid yr hinsawdd, neu ddadlau mai barn Duw am bechod Dyn ydyw, neu weithiau mai mater i’r Bod Mawr yw ymyrryd i achub dynoliaeth, neu beidio, yn ôl ei ddoethineb.

Felly, rhaid ymwrthod â ffwndamentaliaeth, ac yn wir rhaid ei chollfarnu. Ond beth am Gristnogaeth gymedrol, ganol-y-ffordd – yr union fath sy ar hyn o bryd yn colli tir rhwng efengyliaeth ffwndamentalaidd ar y naill law a’r byd-olwg cyfangwbl wyddonol ar y llaw arall?

Ei phroblem hi, yn fy marn i, yw ei bod yn amwys ac yn aneglur. Wedi gwrthod llythrenoliaeth a ffwndamentaliaeth, mae’n dal i siarad mewn termau cyn-wyddonol, yn dal i awgrymu y gall diwinyddiaeth rywsut gwblhau’r darlun gwyddonol drwy ychwanegu’r syniad o bwrpas ac ymyriad goruwchnaturiol yn y bydysawd ac ym myd natur. Mewn geiriau eraill, mae gweddillion yr hen ddadl dreuliedig rhwng Crefydd a Gwyddoniaeth yn parhau.

Awn ni ddim ymhell, yn fy marn i, heb i ni adael y ddadl seithug yna o’n hôl unwaith ac am byth.

Gwyddoniaeth (gair arall am Wybodaeth) biau esbonio. Mae gwaith Crefydd yn wahanol, ac yn ddeublyg: ein helpu i ddygymod â’n cyflwr a’n tynged, yn wir i lawenhau ynddynt; ac i feithrin moeseg a all ein galluogi i fyw mewn cytgord â’n cyd-ddyn ac (fel rydyn ni’n sylweddoli’n gynyddol y dyddiau hyn) â gweddill y byd naturiol yr ydyn ni’n rhan annatod ohono.

Heb barch i Wyddoniaeth, gwae ni. A heb ymroi i’r ffordd grefyddol o weld y byd, heb fynd ati drwy ddefod i feithrin rhyfeddod, parchedigaeth, gostyngeiddrwydd, cydymdeimlad a chariad, gwae ni hefyd.

Rwyf i, beth bynnag, mor siŵr ag y galla i fod o unrhyw beth fod dysgeidiaeth Iesu a’r weledigaeth Gristnogol mor berthnasol heddiw ag y buon nhw erioed. Yn wir, gall fod yr angen amdanynt, a ninnau yng nghanol argyfwng amlweddog go ddifrifol, yn fwy taer nag erioed. Cymharwch wir werthoedd Cristnogaeth â’r rhai sy’n tra-arglwyddiaethu yn niwylliant y Gorllewin heddiw, ac mae’r cyferbyniad i’w weld yn glir. Dyma ymdrech i wneud hynny ar ffurf tabl amrwd:

Yr Efengyl Gristnogol

Ideoleg Cyfalafiaeth Brynwriaethol

Gofal dros eraill

Symlrwydd buchedd

Rhannu

Cydweithio er lles y lliaws

Cyfiawnder

Cydymdeimlad

Gostyngeiddrwydd

Onestrwydd

Diddigrwydd

Tangnefedd/Heddwch

Cymodi

Goddefgarwch

Gofalu am yr hunan

Gloddesta

Bachu

Cystadlu dilyffethair

Buddugoliaeth y trechaf

Ecsbloetio

Hunan-arddangos

Ffugio

Elw

Milwriaeth

Bygwth

Gorfodi

 

Er mwyn harneisio’r weledigaeth Gristnogol, mae angen ei disgrifio, a’i disgrifio o’r newydd. O wneud hynny, a allai hi esgor ar fath newydd o efengyliaeth?

Cynog Dafis
01.09.19

 

 

Cread a Chymod

CREAD A CHYMOD
Yr Hen Destament a’r Amgylchfyd

I.  Rhagarweiniad Am sawl rheswm, buddiol yw dechrau unrhyw astudiaeth drwy amlinellu’r cefndir i’n defnydd o’r Hen Destament fel canllaw awdurdodol i’n hagwedd at yr amgylchfyd. Nid mater syml ydi darganfod arweiniad ar bynciau moesol, pa bwnc bynnag y bo, yn y Beibl. Nid yw dyfyniad moel, o angenrheidrwydd, yn rhoi ateb digonol i unrhyw gwestiwn. Rhaid derbyn hefyd nad oedd gan yr awduron farn ar bynciau sydd o bwys i ni, am y rheswm syml nad oeddent o bwys iddynt hwy. Gochelwn rhag symud yn rhy sydyn o fyd y Beibl i’r byd modern, ac anwybyddu’r bwlch rhyngddynt. Cwestiwn teg yw: ydi’r Hen Destament yn dangos, yn hybu ac yn gorchymyn parch at fyd natur? Os ydyw, i ba raddau? I ateb y cwestiwn, taler sylw i’r cefndir cyn ystyried y testun.

II. Pynciau Perthnasol Mae cefndir a chyfnod yr awduron, yn ogystal â natur yr ysgrythur, yn bynciau o bwys.

  1. Daearyddiaeth Daeth Israel i fodolaeth mewn rhan o’r byd a oedd yn ddidostur a garw, yn elyniaethus i ddyn ac anifail. I ymdopi, rhaid oedd ymdrechu’n ddiderfyn i feistroli’r amgylchfyd. Felly, cwestiwn perthnasol ydi: pa agwedd tuag at yr amgylchfyd sydd yn fwyaf tebygol yn yr Hen Destament o safbwynt daearyddol, un cadarnhaol ynteu un negyddol? Beth mae cymdeithas amaethyddol yn debygol o’i wneud yn wyneb caledi cyson: parchu byd natur ynteu ymdrechu’n gyson i’w ddofi?
  2. Hanes Yn ôl y Beibl, mae dwy elfen unigryw yn hanes Israel yn berthnasol i ddatblygiad y genedl.

    a. Crefydd Canaan Ym meddwl y Canaaneaid, roedd y duwdod yn datguddio’i hun ym myd natur, yn enwedig yn ffrwythlondeb y tir a’r ddiadell. Ffynhonnell y ffrwythlondeb oedd cyfathrach rhywiol rhwng y duwiau. I sicrhau cynhaeaf cynhyrchiol, roedd yn ofynnol i’r amaethwr uniaethu ei hun â’r ffrwythlondeb dwyfol trwy ddefnyddio puteiniaid cysegredig a oedd i’w cael ym mhob teml a chysegr-le. Am ei bod hithau’n awyddus i ffynnu, cafodd Israel ei hudo i dderbyn syniadau a dilyn arferion ei chymdogion – anathema i’r proffwydi (Jeremeia 3:6–9). Eu neges gyson hwy oedd mai oherwydd ei hanffyddlondeb yn dilyn arferion crefydd Canaan yr anfonwyd y genedl i’r gaethglud ym Mabilon.

    b. Sôn am Achub Digwyddiadau penodol yn hanes Israel, megis yr ymwared o’r Aifft, sy’n gwneud Duw yn realiti i awduron yr Hen Destament. Ar Dduw yr achubwr y mae’r pwyslais. Mae ei berthynas â dynoliaeth, a seliwyd trwy gyfamod Sinai, yn ddatblygiad o bwys yn nhreftadaeth grefyddol Iddew a Christion. Ond wrth sôn am achub a chyfamodi, dynoliaeth, nid yr amgylchfyd, sydd gan y Beibl dan sylw. Hyn sydd i gyfrif am y disgrifiad cyson o ddiwinyddiaeth Gristnogol fel un dyn-ganolog (anthropocentric). Hynny yw, hynt a helynt y ddynoliaeth yn unig sydd o bwys. Os felly, onid ofer yw disgwyl gweld yn yr ysgrythur agwedd gyfrifol at yr amgylchfyd?

  3. Anghysondebau Mae’r rhain yn britho’r testun, ac yn peri anhawster i’r sawl sy’n ystyried yr ysgrythur fel gair awdurdodol, anffaeledig a digyfnewid Duw. I ymdopi, mae pawb, pa liw bynnag fo’u diwinyddiaeth, yn dewis a dethol testunau, ac yn eu dehongli i gyd-fynd â’u safbwynt. A dyna sy’n digwydd gyda thestunau’r amgylchfyd, am eu bod hwythau’n gwrth-ddweud ei gilydd.

III. Stori’r Creu Mae gwreiddiau’r mudiad i warchod yr amgylchfyd yn ymestyn i flynyddoedd cynnar chwedegau’r ganrif ddiwethaf (e.e. llyfr Rachel Carson, Silent Spring). Pan ddaeth arweiniad ar y pwnc gan yr eglwysi, wedi hir ymaros, y testun sylfaenol oedd Genesis 1–3, lle mae dau fersiwn gwahanol o hanes y creu: Genesis 1:1–2:4a Hon yw’r stori ieuengaf. Fe’i priodolir i’r gainc P (priest), y garfan offeiriadol. Creu’r ddynoliaeth allan o ddim ar ôl creu popeth arall yw’r uchafbwynt. Genesis 2:4b–3:24 – Adroddiad cynharach yw hwn yn perthyn i’r gainc J (Jehofa). Llunnir dyn ac anifail, nid allan o ddim, ond o lwch y ddaear, a’r tro hwn, dyn sy’n cael ei greu gyntaf. Ar sail y testunau hyn, ceir dwy ddamcaniaeth ynglŷn â lle a diben dyn yn y greadigaeth: gormeswr a goruchwyliwr.

1. Gormeswr Yr adroddiad perthnasol yw P, yn enwedig 1:26–8. Dehongliad posibl yw fod gan ddyn hawl i ddefnyddio’r amgylchfyd i’w dibenion ei hun am ei fod ar lun a delw Duw. Un esboniad o’r ddelw yw mai yn awdurdod dyn dros ei amgylchfyd y mae i’w ganfod. Fel y mae Duw yn arglwyddiaethu ar y byd cyfan, mae’r un a greodd ar ei lun yn arglwyddiaethu ar fyd natur. Os felly, unig bwrpas natur yw gwasanaethu dynolryw. Dyfynnir testunau eraill i’r un perwyl (Genesis 9:1–3 a Salm 8). Mae’r syniad o arglwyddiaethu a darostwng yn cyd-fynd â’r ddiwinyddiaeth anthroposentrig sy’n ystyried y ddynolryw fel pinacl y greadigaeth. Rhoddwyd lle amlwg iddi mewn Cristnogaeth gan ein cyndadau Protestannaidd. Ond mae rhai ecolegwyr cyfoes yn beio’r Eglwys am ein hargyfwng oherwydd iddi lynu wth ddiwinyddiaeth ddyn-ganolog, a bod mor di-hid ynglŷn â’r amgylchfyd. Er enghraifft, mae Lynn White, yn ‘The Historical Roots of our Ecological Crisis’ (Science 1966), yn cyfeirio at ‘the orthodox Christian arrogance towards nature’. Mae crefydd, meddai, wedi tanseilio gwarchodaeth byd natur trwy ganiatáu i ddynolryw wneud fel y myn. Felly, cyhuddir dyn o fod yn ormeswr ar sail testunau dewisol a dehongliad poblogaidd a thraddodiadol o’r ysgrythur, un na ellir ei wadu.

2. Goruchwyliwr Mae esbonwyr Cristnogol wedi herio’r cyhuddiad yn erbyn y Beibl (e.e. Andrew Linzey, Animal Theology). Maent yn ei amddiffyn: a. Trwy ddangos nad Cristnogion yn unig sy’n euog. Llwyddodd sawl diwylliant i lygru’r amgylchfyd heb help Cristnogaeth. b. Trwy ddangos fod y Beibl yn anghyson, sy’n gwneud dewis a dethol testunau addas yn bosibl. c. Trwy gywiro’r dehongliad traddodiadol, dyn-ganolog, o Genesis a phwysleisio dyletswydd a chyfrifoldeb, yn hytrach na darostwng a llywodraethu. Dyma’r ‘Stewardship Interpretation’. Caiff ei hategu gan ddau destun: Genesis 1:1–25 lle mae’r greadigaeth gyfan yn dda yng ngolwg Duw, a Genesis 2:4b–3:24 sy’n rhoi swydd gyfrifol i Adda yn Eden. Mae’r Ardd yn gyfystyr â’r byd cyfan. Disgwylir iddo ofalu am y greadigaeth fel y mae brenin yn gofalu am ei ddeiliaid. Hefyd, yn ôl yr adroddiad yma, o lwch y ddaear, nid o ddim, y lluniwyd dyn ac anifail. Crëwyd y ddau o’r un stwff. Ymgais, efallai, i bwysleisio’r cysylltiad agos rhwng dynoliaeth a byd natur.

IV. Y Gyfraith a’r Proffwydi

  1. Anifeiliaid Pwyslais y Deg Gorchymyn ar y berthynas rhwng Duw a dynoliaeth, a rhwng unigolion a’i gilydd, yw un o seiliau diwinyddiaeth anthroposentrig. Hyn sy’n arwain un ysgolhaig Iddewig i honni nad oes gan Iddewiaeth unrhyw ofal am anifeiliaid.

    a. Agwedd negyddol Dyfynnir rhai testunau i ddangos nad oedd gan Israel reswm dros ddiogelu bywyd gwyllt. Y nod oedd ei feistroli, nid hyrwyddo’i barhad.

    i. Ci (Diarhebion 26:11; Salm 59:14–15) Prin bod ystyried y ci fel metaffor delfrydol am y ffŵl a’r gelyn yn arwydd o barch tuag ato. Dwy enghraifft o gi anwes sydd yn y Beibl, hyd y gwn i: Tobit 6:1; 11:4; Mathew 15:27.

    ii. Bugail a’i braidd Yn ogystal â gofalu am ei braidd, roedd yn rhaid i’r bugail eu hamddiffyn rhag anifeiliaid rheibus. Treuliodd Dafydd lawer o’i amser yn gwneud hyn cyn cael ei wneud yn frenin. Mae’r un peth yn wir mewn rhannau helaeth o’r byd heddiw.

iii. Arf Duw Un o ddulliau Duw o gosbi Israel oedd defnyddio byd natur i greu hafog (Eseia 13:12; Eseciel 34:25). Gwneir defnydd helaeth gan y proffwydi o fygythiad cyson yr amgylchfyd wrth geisio dod â’r genedl at ei choed.

b. Agwedd gadarnhaol Sylwn ar rai cyfreithiau a ddyfynnir i amddiffyn yr Hen Destament trwy weld agwedd gadarnhaol ynddo at anifeiliaid: Exodus 23:5,12; Deuteronomium 22:6. Ond beth mae ystyried yr adnodau yn eu cyd-destun yn ei awgrymu am eu diben gwreiddiol?

  2. Y Tir Mae cefnogaeth i faterion amgylcheddol yn fwy amlwg mewn testunau am y tir: Deuteronomium 20:19–20. Dangos parch at fyd natur trwy ffrwyno fandaliaeth rhyfel, ynteu sicrhau bwyd i’r fyddin fuddugol? Exodus 23:10. Diben cymdeithasol (helpu’r tlawd), diwinyddol (Israel fel tenant yn cydnabod mai eiddo Duw oedd y tir), ynteu amgylcheddol (rhoi cyfle i’r tir adennill ei nerth)?

V. I Gloi I ba raddau mae’r Hen Destament yn dangos, yn hybu ac yn gorchymyn parch at fyd natur? Mae dau ateb, cadarnhaol a negyddol. Mae llenyddiaeth sylweddol gan ddiwinyddion o fri ar gael yn cefnogi’r ddwy ochr. Barn rhai yw nad hybu gofal oedd bwriad yr awduron am nad oedd yr argyfwng presennol yn bod yn eu hamser hwy: ‘The biblical writers did not envision our current environmental crisis, nor should we expect them to have addressed it’ (R. Simkins, Creator and Creation, 263). Cred eraill y gellir canfod sylfaen grefyddol i arbed yr amgylchfyd yn yr Hen Destament. Dyn fel goruchwyliwr yw’r darlun llywodraethol. Gwyddai’r Israeliaid y byddai’r hyn oedd yn digwydd i fyd natur yn digwydd ymhen hir a hwyr iddynt hwythau. Gwyddent nad oeddent yn bodoli ar wahân i’r greadigaeth, ond fel rhan ohoni, ac o bosibl, y rhan fwyaf bregus: ‘The idea of a radical separation between human beings and the world of nature was totally foreign to Hebrew thought’ (I. Bradley, God is Green, 31). Mae ein dealltwriaeth o agwedd yr Hen Destament at fyd natur yn dibynnu ar yr adnodau y dewiswn eu dyfynnu, a’r dehongliad y dewiswn ei dderbyn. Yn y pen draw, yn yr achos hwn, fel mewn llawer un arall, y darllenwyr sy’n penderfynu pa destunau yn y Beibl sy’n awdurdodol, a pha rai sy ddim.

Yr Athro Gareth Lloyd Jones

Beth yw Encil Undydd

Beth yw encil undydd?

Mae’n gwestiwn ddigon teg sydd wedi ei godi gan rhai sy’n ystyried dod i Encil Cristnogaeth 21 ym Mangor ar Fedi 21ain. (Mwy o wybodaeth ar ein tudalen ‘Hafan’.)

Wrth feddwl am encil draddodiadol, y darlun a ddaw i’r meddwl yw hyd at dridiau i wythnos o amser wedi’i neilltuo mewn awyrgylch dawel, mewn lleoliad tawel, gwahanol i amgylchiadau ac awyrgylch llawn a phrysur ein bywyd bob dydd. Fe fydd digon o amser tawel i addoli, gweddïo ac i adnewyddu ysbryd a chorff.

Rydym yn sylweddoli, wrth gwrs, na fydd teithio ar frys yn ôl a blaen i Fangor, i bum awr a hanner o raglen lawn, yn cynnig y math yma o encil.

Ond nid cynhadledd fydd ym Mangor, chwaith. Mae Cristnogaeth 21 yn cynnal cynhadledd flynyddol yn ogystal i drafod (mewn grwpiau a siaradwyr) pynciau amrywiol trwy lygaid ffydd a chred, fel y gynhadledd a gafwyd yn gynharach eleni yng Nghaerdydd: ‘Wynebu yfory mewn Ewrop newydd’.

Rydym yn defnyddio’r gair ‘encil’ oherwydd bod Cristnogaeth 21 yn effro iawn i’r angen am feithrin ac ysgogi pwysigrwydd addoli yn ein bywydau fel Cristnogion. Nid yw’n gyfrinach mai addoli sy’n ailadrodd yr un iaith, yr un neges undonog a’r un dehongli sy’n gyfrifol, yn anffodus,  am y cilio mawr o addoli’r eglwysi. Bwriad encil yw cyfoethogi ein haddoliad. Fe fydd arbenigwyr yn ein harwain i fyfyrio ar y thema ‘Y Creu a’r cymod’ – dwy agwedd ar Gristnogaeth ddylai fod yn cael lle yn ei haddoli cyfoes fel eglwys fyd-eang yng Nghymru.

Ni fydd trafod, ond fe fydd cyfle i ofyn cwestiwn i Gareth Lloyd Jones, sy’n awdurdod ar yr hyn a ddywed y Beibl am y cread a’r Creawdwr, a hefyd i Dyfed Wyn Roberts, sy’n gweithio i Gymorth Cristnogol ac yn gyfrifol am ddeunydd addoli cyfoethog y mudiad. Fe fyddwn yn cael cwmni Sioned Webb ac Ifor ap Glyn, a fydd, drwy gyfrwng eu doniau creadigol, fel cerddor a bardd, yn ein hysgogi i ystyried ein cred a’n ffydd a chyfoethogi ein haddoliad a’n bywyd fel Cristnogion.

Fe fydd yna amser tawel, wrth gwrs, a chymdeithas dda, ac er bod yr amser yn fyr, yn ôl tystiolaeth yr encilion diweddar, fe fyddwch yn gadael wedi ymlacio ac wedi mwynhau … encilio rhywfaint ar ddydd Sadwrn ar ddiwedd Medi!

 

Y Creu a’r Cymod: encil undydd ym Merea Newydd, Bangor, 21 Medi.

Cofrestru erbyn 14 Medi.

catrin.evans @phonecoop.coop   01248 680858

 

 

Mamiaith

Mamiaith

Arfer y Cylch Catholig bob haf yw cynnal offeren Gymraeg yn yr eglwys blwyf leol. Yn y Fenni daeth criw o bobl y plwyf i gefnogi, er eu bod, y mwyafrif llethol ohonynt, yn ddi-Gymraeg. Wrth ddiolch iddynt, meddai’r Esgob Edwin Reagan: “Remember that the language of the Mass is Love”.

Cofiais yr ymadrodd yn ddiweddar wrth ddarllen un o gyfrolau gweddïau Walter Brueggeman. Dyma fersiwn Cymraeg wedi ei seilio arni.

Fe ddysgon ni siarad bron pob iaith ond ein hiaith ein hunain.
Fe’n disgyblwyd yn iaith casineb ac ofn, iaith trachwant a phryder.

Rydym yn hen gyfarwydd ag iaith gormes a chynffonna.
Deallwn yn llwyr ramadeg rhyddfrydiaeth a cheidwadaeth,
Y rhethreg sy’n chwyldroadol ac yn adweithiol.

Ond dieithriaid ydym mewn gwlad ddieithr.
Dysg ni o’r newydd i ymddiried yn ein mamiaith, iaith mawl a galar.
Diolchwn am ein hathrawon iaith,
Y lliaws mamau a thadau
Mewn llawer cyfnod
A llawer man,
A llawer diwylliant
Sydd, bawb ohonynt, yn adnabod yn well na ni
Ffyrdd y gwirionedd sy’n iacháu, a’r bywyd 
Sy’n bywiocáu.

Bydd yn air dilys ar ein gwefusau a derbyn ein llefaru ’nôl i ti.
A diolch i ti am ein mamiaith a ddaeth yn y cnawd. 
Amen.

Enid Morgan

Gweddi amserol 2

Gweddi a rannwyd gan Undeb yr Annibynwyr mewn ymateb i argyfwng Brexit

Ein Tad cariadus, trown atat mewn cyfnod o ansicrwydd brawychus yn hanes ein gwlad, ein cyfandir a’n byd.
Mae’n ddyddiau dieithr â datblygiadau’r naill ddiwrnod ar ôl y llall yn achosi penbleth a dryswch cynyddol inni a hynny’n troi’n rhwystredigaeth ddig ac ymosodol mor fynych.
Yn ein gofid gofynnwn i Ti blannu ynom ddoethineb a phwyll ynghyd â chariad.
Deisyfwn y bendithion hyn yn helaeth ar ein harweinwyr, etholedig a gwirfoddol ac ar eu tîmoedd gwaith.

Llanw ni ag ewyllys dda a helpa ni i ymarfer goddefgarwch ac i roddi i eraill, hyd yn oed y rhai sy’n groes eu daliadau a’u barn i ni, y parch sy’n ddyledus i bob un.
Deled dy deyrnas yw’n gweddi, heddiw, fel erioed.
Plyg ni i’th ewyllys a’th lywodraeth er mwyn inni weld y byd yn byw yn ôl dy fwriadau a bywyd yn ei holl gyflawnder yn eiddo i bawb yn ddiwahân.

Yn enw Iesu. Amen.

Gweddi amserol 1

GWEDDI

Gweddi gan yr Americanwr, y Parchedig Mark Sandlin, yn gofyn am ollwng gafael ar ein hunan-bwysigrwydd:

Dduw da a graslon,

Weithiau
er mwyn bod yr hyn
ddylem fod
mae’n rhaid i ni wneud pethau
sy’n gallu teimlo’n
amhosib.

Mae gan y rhan fwyaf ohonom amheuon
a chwestiynau
a meddyliau negyddol
amdanom ein hunain
ar adegau.

Weithiau ymddengys
yn rhan annatod
o’r natur ddynol.

Mae balchder a theimlo’n bwysig
yn gallu bod yn angenrheidiol
er mwyn gwrthbwyso
sut y gwelwn ein hunain
weithiau.

Eto, gofynnodd Iesu i ni
fod yn ostyngedig,
y lleiaf o’r rhai hyn,
yn olaf –
i roi eraill yn gyntaf,
i ollwng gafael ar ein hangen i fod yn bwysig …

i ollwng gafael ar ein hangen
i fod yn bwysig
yng ngolwg y byd.

Gofynnodd i ni ailddiffinio
beth ydy “pwysig”,
i geisio gwerth
mewn gwerthfawrogi eraill,
i ganfod hunanddelwedd gadarnhaol,
i weld eraill mewn modd cadarnhaol,
i ddarganfod ein bod
yn gyfartal ag eraill
drwy weithio tuag at
gydraddoldeb pawb.

Weithiau
er mwyn bod yr hyn
ddylem fod
mae’n rhaid i ni wneud pethau
sy’n ymddangos
yn amhosib …

… nes i ni ddechrau eu gwneud.

Atgoffa ni
bod dy Gariad
yn ein hannog a’n cynnal
wrth i ni weithio i greu
byd gwell –
nad ydy tywysogaethau
y byd hwn
yn ennill
yn y diwedd –
mai’r un peth
sydd yn cyfrif
yn y bywyd hwn
ydy
ein gilydd
a’r cariad a rannwn. Amen.

Addasiad Ann D. Davies

 

Satish Kumar

Satish Kumar

Mae Satish Kumar yn ŵr unigryw sydd wed bod yn ymgyrchu dros Blaned Werdd ers blynyddoedd maith, cyn bod sôn am lawer o’r mudiadau amgylcheddol sydd mor weithgar erbyn hyn. Tawel, ond cwbwl allweddol, fu ymgyrchu Kumar. Cafodd ei eni yn India yn 1936, ac aeth yn fynach Jainaidd yn 1945 ar ôl darllen llyfr gan Gandhi ar fyw’n ddi-drais. Ond gadawodd y fynachlog er mwyn mynd ar bererindod heddwch o India yn 1962, a cherdded 8,000 o filltiroedd i ymweld â phedair prifddinas y cenhedloedd niwclear, sef Mosco, Paris, Llundain a Washington. Nid oedd ganddo ef a’i gydymaith, E. P. Menon, arian yn eu poced ar ddechrau’r daith ac fe fu’n rhaid iddynt weithio ar adegau er mwyn parhau â’u taith. Ar ôl egluro i wraig oedd yn gweithio mewn mewn ffatri yn Mosco beth oedd bwriad eu pererindod, rhoddodd y wraig bedwar paced o de iddynt, ac fe gyflwynwyd paced o de i arweinwyr y wlad yn y pedair brifddinas gan eu hannog, os oedd bwriad hyd yn oed i ystyried pwyso’r botwm niwclear, i eistedd gyda phaned o de a meddwl, myfyrio, pwyllo ac ystyried y canlyniadau.

Pan oedd yn 50 oed, aeth ar bererindod arall gan gerdded 2,000 o filltiroedd y tro hwn. Taith ydoedd i ymweld â mannau cysegredig Prydain fel mannau canolog bywyd.

Yn 1973 daeth i Loegr a’i benodi’n olygydd y cylchgrawn Resurgence (yn nes ymlaen daeth yn Resurgence and Ecologist). Bu’n golygu’r cylchgrawn tan 2016 – cyfnod o 43 o flynyddoedd. Bu’n gylchgrawn dylanwadol iawn ac yn un o’r ychydig gychgronau sy’n cael ei ddarllen gan bobl o wahanol grefyddau a diwylliannau. Mae’n arwyddocaol fod y coleg a sefydlodd Kumar yn Nyfnaint yn 1991 wedi ei alw yn Goleg Schumacher (yr enw, wrth gwrs, ar ôl awdur y gyfrol enwog Small is beautiful). ‘Mae chwyldro newydd wedi dechrau,’ meddai Kumar.

Pan ofynnwyd iddo unwaith ai deffro pobl i’r ‘ysbrydol’ oedd ei fwriad, dyma ei ateb:

Ie, wrth gwrs – ac atgoffa pobl o’r hyn y maent yn ei wybod yn eu calonnau ond yn ei anghofio yng nghanol rhuthr bywyd. Trwy fy llyfrau a’m teithiau a thrwy Resurgence and Ecologist yr wyf yn ceisio annog pobl i fyw yn holistig, i feddwl yn ehangach, i feddwl yn ysbrydol, yn hytrach na meddwl, er enghraifft, mai cynhesu byd-eang neu rywbeth arall yw’r broblem. Mae ein problemau mawr yn gydgysylltiedig.

Roedd Iesu, Gandhi, Martin Luther King, y Fam Theresa, Mandela, Dalai Lama a Wangari Maathai i gyd yn ymgyrchwyr, ond roedd sylfaen eu hymgyrchu’n ysbrydol a’r sylfeini’n cyfannu’r cread a’r ddynoliaeth.

 Yn 2013 cyhoeddodd gyfrol o’r enw Soil, Soul, Society.

‘Mae “trioedd” yn bwysig ym mhob diwylliant,’ meddai, wrth gyflwyno’r gyfrol. ‘Yn y grefydd Gristnogol mae “Duw’r Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân”. Ond fe hoffwn ofyn, Beth am y fam? Beth am y ferch? A beth am yr ysbrydol materol? Mae’n rhaid cael cydbwysedd rhwng y gwrywaidd a’r benywaidd, rhwng y materol a’r ysbrydol. Mae’r Drindod yn ardderchog, ond nid yw’n “holistig”. Mae’r un peth yn wir am y Chwyldro yn Ffrainc: Liberté, égalité, fraternité, sy’n ymwneud â’r berthynas rhwng pobl a’i gilydd ond nid am y berthynas â’r cread. Mae trindod yr Oes Newydd – body, mind and spirit – mewn gwirionedd yn golygu: fy nghorff i, fy meddwl i, fy ysbryd i. Nid oes awgrym o gysylltiad â’r cread nac â chyfiawnder cymdeithasol.’

‘Ymgais,’ meddai ymhellach, ‘at eirfa ystyrlon i fywyd holistig yw’r gyfrol a hynny mewn cyfnod sy’n dechrau deffro i bwysigrwydd ysbrydolrwydd. Roeddwn angen gair i’n cysylltu â’r cread: pridd, pridd o’r pridd, pridd i’r pridd. Rydym i gyd yn rhan o’r un ddaear; rydym i gyd yn perthyn. Gofalwch am y pridd. Hebddo ni allwn fyw.

‘Ac enaid. Mae bod yn “berson” yn golygu adnabod ein hunain ac eraill fel “eneidiau hoff, cytûn”. Mae’n golygu parch a chariad.

‘Ac yr ydym yn rhan o gymuned; tu hwnt i wahaniaethau a rhaniadau, rydym yn gymuned ein dynoliaeth gyffredin.

‘Wrth roi’r tri gair gyda’i gilydd: pridd, enaid, cymuned, rydym yn ymestyn yr ymwybod i gynnwys y cread, ac wrth wneud hynny rydym yn cyffwrdd meddwl Duw ac felly’n rhan o undod pob peth.’

Mae Satish Kumar wedi rhoi llais a chyfeiriad i nifer gynyddol o bobl sydd wedi eu dadrithio gan werthoedd a chyfeiriad ein byd.

Pryderi Llwyd Jones