Efengyliaeth o’r newydd

Efengyliaeth o’r Newydd?

Cafwyd cryn sylw rai misoedd yn ôl i ganlyniadau ymchwil am agweddau at grefydd. Yn fras, y casgliad oedd bod dros hanner y boblogaeth yn dweud nad ydyn nhw’n arddel unrhyw grefydd a bod mwy o bobl yn rhoi eu ffydd mewn gwyddonwyr prifysgolion nag arweinwyr crefydd.

Sut ddylai cefnogwyr Cristnogaeth 21, crefyddwyr rhesymol a goleuedig un ac oll, ymateb i beth fel hyn, heblaw ochneidio a nodi nad oedd y casgliadau yn eu synnu o gwbl?

Man cychwyn hyn o sylwadau yw ail gymal y casgliadau: bod mwyafrif y boblogaeth yn rhoi eu ffydd mewn gwyddonwyr prifysgolion yn hytrach nag arweinwyr crefydd.

‘Ffydd’ ynghylch beth yw’r cwestiwn. Os mai ei ystyr yw ymddiriedaeth yn y gallu i esbonio byd natur – creu’r bydysawd a’r deddfau sy’n rheoli ei weithrediad, tarddiad ac esblygiad bywyd, ein cyfansoddiad genetegol a ffisegol ni, homo sapiens, ffenomenâu megis newid yn yr hinsawdd a dulliau ymarferol o’i gyfyngu, a rhoi rhai enghreifftiau – does bosibl na ddylen ni groesawu casgliadau’r ymchwil yn ddiamwys.

Un o ogoniannau hanes dynoliaeth yw’r ffordd yr ydyn ni, yn enwedig dros y pedair canrif ddiwethaf, wedi dod yn gynyddol i ddeall dirgelion byd natur, drwy astudio’r dystiolaeth, ei dadansoddi’n ddiduedd, datblygu theorïau a’u profi. Dyma’r dull empiraidd o ddeall, a diolch amdano.

Nawr ’te, un o dueddiadau mwyaf pryderus ein hoes ni yw’r adwaith yn erbyn parchu’r dystiolaeth wyddonol. Adwaith yn erbyn y sioc o sylweddoli mai canlyniad esblygiad biolegol yn hytrach na chreadigaeth unwaith-ac-am-byth Bod goruwchnaturiol daionus yw Dyn – dyna yw ffwndamentaliaeth grefyddol. Does ryfedd bod gwyddonwyr fel Richard Dawkins wedi’u cynddeiriogi ac wedi lachio allan, weithiau’n anghymedrol ac yn anwahaniaethol, yn erbyn ffug esboniadau megis Dylunio Deallus.

Mewn gwirionedd, yr hyn ddylai fod yn ofid i ddarllenwyr Agora yw bod cynifer yn dal i ffafrio esboniadau diwinyddol ar draul rhai gwyddonol. Mae carfanau crefyddol niferus a dylanwadol i’w cael sy’n gwadu’r dystiolaeth am newid yr hinsawdd, neu ddadlau mai barn Duw am bechod Dyn ydyw, neu weithiau mai mater i’r Bod Mawr yw ymyrryd i achub dynoliaeth, neu beidio, yn ôl ei ddoethineb.

Felly, rhaid ymwrthod â ffwndamentaliaeth, ac yn wir rhaid ei chollfarnu. Ond beth am Gristnogaeth gymedrol, ganol-y-ffordd – yr union fath sy ar hyn o bryd yn colli tir rhwng efengyliaeth ffwndamentalaidd ar y naill law a’r byd-olwg cyfangwbl wyddonol ar y llaw arall?

Ei phroblem hi, yn fy marn i, yw ei bod yn amwys ac yn aneglur. Wedi gwrthod llythrenoliaeth a ffwndamentaliaeth, mae’n dal i siarad mewn termau cyn-wyddonol, yn dal i awgrymu y gall diwinyddiaeth rywsut gwblhau’r darlun gwyddonol drwy ychwanegu’r syniad o bwrpas ac ymyriad goruwchnaturiol yn y bydysawd ac ym myd natur. Mewn geiriau eraill, mae gweddillion yr hen ddadl dreuliedig rhwng Crefydd a Gwyddoniaeth yn parhau.

Awn ni ddim ymhell, yn fy marn i, heb i ni adael y ddadl seithug yna o’n hôl unwaith ac am byth.

Gwyddoniaeth (gair arall am Wybodaeth) biau esbonio. Mae gwaith Crefydd yn wahanol, ac yn ddeublyg: ein helpu i ddygymod â’n cyflwr a’n tynged, yn wir i lawenhau ynddynt; ac i feithrin moeseg a all ein galluogi i fyw mewn cytgord â’n cyd-ddyn ac (fel rydyn ni’n sylweddoli’n gynyddol y dyddiau hyn) â gweddill y byd naturiol yr ydyn ni’n rhan annatod ohono.

Heb barch i Wyddoniaeth, gwae ni. A heb ymroi i’r ffordd grefyddol o weld y byd, heb fynd ati drwy ddefod i feithrin rhyfeddod, parchedigaeth, gostyngeiddrwydd, cydymdeimlad a chariad, gwae ni hefyd.

Rwyf i, beth bynnag, mor siŵr ag y galla i fod o unrhyw beth fod dysgeidiaeth Iesu a’r weledigaeth Gristnogol mor berthnasol heddiw ag y buon nhw erioed. Yn wir, gall fod yr angen amdanynt, a ninnau yng nghanol argyfwng amlweddog go ddifrifol, yn fwy taer nag erioed. Cymharwch wir werthoedd Cristnogaeth â’r rhai sy’n tra-arglwyddiaethu yn niwylliant y Gorllewin heddiw, ac mae’r cyferbyniad i’w weld yn glir. Dyma ymdrech i wneud hynny ar ffurf tabl amrwd:

Yr Efengyl Gristnogol

Ideoleg Cyfalafiaeth Brynwriaethol

Gofal dros eraill

Symlrwydd buchedd

Rhannu

Cydweithio er lles y lliaws

Cyfiawnder

Cydymdeimlad

Gostyngeiddrwydd

Onestrwydd

Diddigrwydd

Tangnefedd/Heddwch

Cymodi

Goddefgarwch

Gofalu am yr hunan

Gloddesta

Bachu

Cystadlu dilyffethair

Buddugoliaeth y trechaf

Ecsbloetio

Hunan-arddangos

Ffugio

Elw

Milwriaeth

Bygwth

Gorfodi

 

Er mwyn harneisio’r weledigaeth Gristnogol, mae angen ei disgrifio, a’i disgrifio o’r newydd. O wneud hynny, a allai hi esgor ar fath newydd o efengyliaeth?

Cynog Dafis
01.09.19