Ga’i eich cyflwyno chi i Mano Totau? Falle eich bod chi eisoes yn ei adnabod e. Os felly, dwi’n gwybod eich bod chi’n gwenu’n dawel wrth glywed ei enw ac yn diolch o fod wedi bod yn ei gwmni. Mae’n hen ŵr erbyn hyn, ond mae fflam direidi’n dal yn ei lygaid. A bois bach! Chi’n cofio amdano, fe a phump o’i ffrindiau, yn ‘cael menthyg’ cwch yr hen bysgotwr blin ’na? Chofia’i ddim ei enw ynte’. Na chithe’ chwaith, fentra’i swllt. Ond chi’n cofio sut y buodd hi!? Â Mano a’r criw wedi cael llond bola ar fywyd undonog yr ysgol, dyma benderfynu dianc dros dro. Hwylio mas i’r môr mawr am antur … Roedd y cynllun gadael yn glir. Doedd dim cymaint o siâp ar y cynllun dychwelyd.
A do. Cawson nhw eu dal mewn storm. Torrodd yr hwylbren. Roedd y cwch yn rhacs jibiders. Ac erbyn yr wythfed noson, a nhw ar eu cythlwng, roedd y disgyblion ysgol direidus yn falch i’w ryfeddu o weld ynys yn ymddangos o’u blaen yng nghanol y Môr Tawel.
Ac yno y buon nhw. Am flwyddyn a thri mis. Ar ynys ‘Ata. Ynys garegog, wydn, gwbl ddigroeso.
O do, cynhaliwyd angladdau a phopeth. Pawb wedi colli pob gobaith. A bydd y rhai hynny ohonoch chi na chlywodd am Mano cyn heddiw, wrthi nawr yn ceisio cofio enwau plant y Lord of the Flies, ac yn dyfalu ai Jack neu Piggy neu Ralph o fachgen ydoedd.
Ond gallwch chi fwrw’r hen stori greulon honno ymhell o’ch meddwl. Mae stori Ynys ‘Ata yn un am gymwynasgarwch a chyd-ymddiriedaeth. Ffrwyth dychymyg William Golding oedd stori Ralph. Mae stori Mano Totau’n stori wir a Rutger Bregman sy’n ei chofnodi yn ei lyfr ysbrydoledig Humankind a Hopeful History(Bloomsbury, 2020). Mae’n rhan o’r dystiolaeth sydd ganddo i argyhoeddi’r darllenydd ein bod ni, drigolion y ddaear, yn y bôn yn bobl dda.
Dydw i ddim eto wedi gweithio drwy’r 400 tudalen sydd ganddo i gefnogi ei ddamcaniaeth, ond hyd yma, rwy’n mwynhau bob gair.
Dyw hi ddim yn ddamcaniaeth newydd wrth reswm. Ond y mae hi’n radical. Mae hi’n radical am ei bod hi’n bygwth holl sail grym y rheiny sydd ar hyn o bryd yn dal awenau pŵer. Mae’n syniad sy’n awgrymu nad oes, wedi’r cyfan, raid i ni gael ein ffrwyno a’n rheoli. Does dim rhaid, wedi’r cyfan, i ni bentyrru arfau rhag ofn … achos does dim rhaid wrth ofn.
Fe’ch gadawaf chi ag un stori arall a glywais gan Bregman, un sy’n gosod y dewis yn blaen ger bron:
Dywed hen ddyn wrth ei ŵyr, ‘Tu mewn i mi mae brwydr. Brwydr enfawr rhwng dau flaidd. Mae un yn ddrwg – yn grac, yn drachwantus, yn genfigennus, yn drahaus a llwfr. Mae’r llall yn dda – yn heddychlon, yn gariadus, ym ddiymhongar, yn hael a ddibynadwy. Mae’r un ddau flaidd yn brwydro y tu mewn i ti hefyd, a thu mewn i bob person arall, wyddost ti.’
Ymhen eiliad, mae gan yr ŵyr gwestiwn: ‘Pa flaidd sy’n mynd i ennill?’
Credaf yn Nuw Hollalluog, a arweiniodd y bobl mewn alltudiaeth ac mewn ecsodus, Duw Joseff yn yr Aifft a Daniel ym Mabilon, Duw’r estroniaid a’r mewnfudwyr.
Credaf yn Iesu Grist, Galilead wedi ei ddadwreiddio, a anwyd ymhell o’i bobl a’i gartref, a ffodd o’i wlad gyda’i rieni pan oedd ei fywyd mewn perygl. Pan ddychwelodd i’w wlad fe ddioddefodd dan ormes Pontius Pilat, gwas i rym estron. Dioddefodd orthrwm, cafodd ei guro, ei arteithio a’i roi i farwolaeth anghyfiawn. Ond ar y trydydd dydd cododd Iesu o farw, nid fel estron dirmygedig ond er mwyn cynnig i ni ddinasyddiaeth yn nheyrnas Dduw.
Credaf yn yr Ysbryd Glân, mewnfudwr parhaol o deyrnas Dduw yn ein plith, sy’n siarad pob iaith, yn byw ymhob gwlad ac sy’n uno pob hil. Credaf mai’r Eglwys yw’r cartref diogel i estroniaid ac i’r holl gredinwyr. Credaf fod cymundeb y saint yn dechrau pan fyddwn yn cofleidio holl bobl Dduw yn eu hamrywiaeth. Credaf mewn maddeuant, sy’n ein gwneud i gyd yn gydradd gerbron Duw, ac mewn cymod sy’n iacháu ein cyflwr toredig. Credaf y bydd Duw, yn yr Atgyfodiad, yn ein huno fel un pobl lle mae pawb yn unigryw a thebyg yr un pryd. Credaf mewn bywyd tragwyddol lle na fydd unrhyw un yn estron ond bydd pawb yn ddinasyddion y deyrnas lle mae Duw’n teyrnasu am byth bythoedd. Amen.
José Luis Casal Cyn Genhadwr Cyffredinol Gofalaeth Tres Rios, Eglwys Bresbyteraidd yr Unol Daleithiau Cyf. Anna Jane Evans
I believe in Almighty God, who guided the people in exile and in exodus, the God of Joseph in Egypt and Daniel in Babylon, the God of foreigners and immigrants.
I believe in Jesus Christ, a displaced Galilean, who was born away from his people and his home, who fled his country with his parents when his life was in danger. When he returned to his own country he suffered under the oppression of Pontius Pilate, the servant of a foreign power. Jesus was persecuted, beaten, tortured, and unjustly condemned to death. But on the third day Jesus rose from the dead, not as a scorned foreigner but to offer us citizenship in God’s kingdom.
I believe in the Holy Spirit, the eternal immigrant from God’s kingdom among us, who speaks all languages, lives in all countries, and reunites all races. I believe that the Church is the secure home for foreigners and for all believers. I believe that the communion of saints begins when we embrace all God’s people in all their diversity. I believe in forgiveness, which makes us all equal before God, and in reconciliation, which heals our brokenness. I believe that in the Resurrection God will unite us as one people in which all are distinct and all are alike at the same time. I believe in life eternal, in which no one will be foreigner but all will be citizens of the kingdom where God reigns forever and ever. Amen.
Ni wyddom beth fydd pen draw’r pla sydd wedi ymosod ar ein byd ni. Mae fel rhyw anifail rheibus sydd hefyd yn anifail cyfrwys. Mae fel petai’n llechu’n guddiedig, yn barod i neidio o’i guddfan, fel y gwnaeth rai dyddiau yn ôl ym Manceinion, ac wedyn mewn mannau eraill. Ond mae’r mannau ar hyn o bryd yn ymddangos yn bell o Gymru fel na theimlwn ni ddychryn y posibilrwydd. Mae’r to iau hefyd yn sylweddoli mai ninnau’r hen a’r methedig sy’n cael eu taro’n angheuol; felly teimlant y gallant hwy gwmnïa’n ddihidio, gan dybio fod y pla yn ddigon pell oddi wrthynt hwy. Ond ni ŵyr neb i ba gyfeiriad y bydd hwn yn neidio nesa.
Y gwir amdani yw ei fod wedi cloi’r byd i gyd yn ei afael, ac mewn amrywiol ffyrdd y mae wedi cyffwrdd â bywyd pawb. Yr ydym oll yn ddiymadferth mewn rhyw fath o garchar. Ac eto, fe all pethau annisgwyl ddigwydd mewn carchar. Meddyliwch am y carchar hwnnw yn Philipi dros ugain canrif yn ôl. Roedd hi’n ganol nos a phawb yn y celloedd yn cysgu. Yn sydyn dyma nhw’n clywed dau garcharor yn gweddïo ac yn canu mawl i Dduw. Paul a Silas oedd wrthi, yng nghell ddyfna’r carchar. Roedden nhw wedi eu carcharu ar gam, a digon o achos ganddynt i gwyno am eu sefyllfa, ac eto canu mawl oedden nhw. Roedd y carchar yn ddifrifol ei gyflwr ac yn boen i gorff ac enaid, ac eto, moli a diolch i Dduw oedden nhw. Er gwaetha eu hamgylchiadau, fe droeson nhw’r cyfan yn gyfle i foliannu Duw am ei gariad tuag atyn nhw.
Ac yn yr argyfwng hwn mae’r un peth yn union yn medru digwydd. Fe welwn ni lu o bobol yn gweld cyfle annisgwyl i droi’r pla yn gyfle i wneud daioni. Mae yna gymdogion wedi dod i adnabod ei gilydd yn y pandemig. Mae yna deuluoedd yn tystio iddynt ddod yn nes at ei gilydd yn yr argyfwng. Fel Paul a Silas, maen nhw wedi gweld achos i daro nodyn daioni ynghanol y trallod.
Mae yna un frawddeg drawiadol yn yr hanes am y ddeuawd yn y carchar. Dywedir bod y ddau yn canu mawl i Dduw ac yna fod y ‘carcharorion yn gwrando arnynt’ (Actau 16.25). Dyna ichi berfformiad annisgwyl a gwefreiddiol i gynulleidfa annisgwyl. Ond wedyn, nid perfformiad mohono. Mae’n siŵr nad oedd Paul a Silas yn disgwyl y byddai’r lleill yn eu clywed nhw, heb sôn am wrando arnyn nhw. Mae’n siŵr mai tawel iawn fyddai eu canu rhag tarfu ar gwsg y carcharorion eraill. Nid canu i ddifyrru’r lleill oedden nhw. Duw oedd eu cynulleidfa nhw. Ond, yn gwbl ddifwriad, fe droes y canu yn fendith i gwmni bach y carcharorion eraill. Dyna eto nodweddion gorau cymwynasau cariad: mae dylanwad eich cariad a’ch cymwynasau chi’n ysbrydoli pobol eraill sy’n clywed amdanynt.
Ond fan hyn y gwelwn yr hanes yma’n dod yn gwbl gyfoes i ni heddiw. Meddyliwch beth sy’n digwydd y dyddiau hyn ar lu o draethau a threfi glan môr a llwybrau mynyddoedd yng Nghymru. Mae miloedd o bobol wedi teimlo eu bod nhw wedi gorfod bod dan glo. Am fisoedd wedi eu caethiwo. Yna, mae’r rheolau wedi eu llacio. A heb ystyried dim am bellhau corfforol nac am wisgo masgiau, yn sydyn dyma nhw’n heidio allan yn dorf enfawr i’r mynydd a’r môr. Fel yna yn union y buasech wedi disgwyl i garcharorion carchar Philipi ei wneud. Gweld drws eu cell nhw wedi ei ddatgloi ac allan â nhw heb feddwl yr eilwaith. Ond nid dyna beth ddigwyddodd. Arhosodd pawb yn ei gell. Y cwestiwn y byddem yn ei ofyn yw pam.
Faswn i ddim yn dychmygu am eiliad iddyn nhw deimlo rhyw barch newydd at gyfraith gwlad a’u bod am barchu’r ddeddf. Na. Clywed y mawl o gell Paul a Silas wnaethon nhw, a sylweddoli nad oedd cell na charchar na chaethiwed yn golygu dim yn y diwedd. Beth oedd yn cyfri oedd gras a charedigrwydd y Duw tragwyddol yn eu calonnau. Felly heddiw, tra bydd llaweroedd hunanol yn dathlu eu rhyddid drwy heidio allan fel carcharorion o gelloedd heb ystyried diogelwch neb arall, bydd yna niferoedd yn ymatal ac yn sylweddoli fod yna bethau pwysicach mewn bywyd, ac yn ymbwyllo’n gyfrifol. Yr ydym ninnau heddiw yn ddiogel ac iach oherwydd y miloedd sydd wedi ymddwyn yn ddoeth heb ruthro drwy ddrws agored y gell pan laciwyd y cloi-lawr. Felly, diolchwn heddiw am bawb sydd wedi byw yn gyfrifol, nid yn unig yn wyneb yr haint, ond hefyd yn wyneb y rhyddhau.
Brawddeg ddadlennol yw geiriau Paul wrth geidwad y carchar lle dywedai wrtho am beidio niweidio’i hun o dybio fod pawb wedi ffoi. Oherwydd, meddai, ‘yr ydym yma i gyd’. Sut gwyddai? Rhaid fod yna gymdeithas hyfryd newydd ymhlith y carcharorion fel y gwyddent oll am ei gilydd. Dyna ein gobaith ninnau yng nghyfnod y llacio hwn – y byddwn yn cael ein tynnu yn nes at ein gilydd fel unigolion ac fel gwledydd.
A hithau’n wythnos lle yr oedd y byd yn nodi 75 mlynedd ers gollwng y bom atomig ar Hiroshima a Nagasaki, daeth yr hanes yn ôl drwy luniau, fideos, erthyglau papur newydd ac atgofion unigolion o erchyllterau’r cyfnod hwnnw. Un frawddeg a’m gwnaeth yn oer drosta’i oedd clywed Prydeiniwr oedd yn Japan ar y pryd, yn nodi taw pwrpas y bomiau hyn oedd ymgais i “rhoi diwedd ar y rhyfel gan nad oedd unrhyw ffordd amlwg arall i ddod â’r rhyfel i ben.” Oedd difa chwarter miliwn o fywydau wir yn gyfiawnhad dros ystyried y fath ddull o ryfela? Ydy’r meddylfryd hon wedi newid o gwbl yn ein byd erbyn heddiw?
Fedra’i ddim dirnad rhesymeg y “buddsoddiad” anferthol anwaraidd sydd yn cael ei fynnu o hyd gan lywodraethau ar wariant arfau. Yn 2019 gwariodd y Deyrnas Unedig oddeutu £38 bn ar “amddiffyn”. I’w roi mewn cyd-destun bydd holl gyllideb Llywodraeth Cymru yn oddeutu £20bn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Nid yw hyn yn hanner o’r hyn sydd yn cael ei wario ar “amddiffyn” hyd yn oed. Ydyn ni wedi dysgu gwersi? Sgersli bilîf!
Gan ddilyn y llu o wyliau a seremonïau sydd wedi eu gorfodi i fynd yn ddigidol o ganlyniad i’r cofid, felly yr aeth yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon gyda Gŵyl AmGen. Ymweliad hanfodol i mi bob blwyddyn yw mynd i’r lle celf ac eleni cafwyd arddangosfa rithiol dan y teitl Epona. Os nad ydych wedi ei weld, rhaid i chi fynd. Mae’n llawn lluniau, delweddau, fideos a chelfyddyd sydd yn procio, plesio a pheri penbleth – yn ôl yr arfer, gydag ambell ddarn yn gadael ei ôl hefyd – yn ôl yr arfer. Mae’r arddangosfa ar ffurf galeri rhithiol lle y cewch ymlwybro drwy’r galeri yn eich amser eich hun.
Ond daeth dagrau i’m llygaid pan welais y llun hwn. Llun ffotograff gan Aled Rhys Hughes ydyw, llun o arwydd a welir wrth ddilyn y ffordd i fyny’r Epynt. Gan ddefnyddio ei hawl a’i ddawn artistig, mae Aled wedi “addasu’r” llun, edrychwch yn ofalus. Y mae’n drawiadol ac y mae’n dweud y cyfan sydd angen ei ddweud.
A glywn wir alwad y llun hwn? Fel galwad menywod Greenham, fel galwad trigolion yr Yemen, Syria ac Afghanistan…
Pryd, o pryd y gwanwn ni sylweddoli bod rhethreg rhyfel a’r gwariant anferthol diangen yn perthyn i’r oes a fu. Fel dwedodd Waldo
Cenedl dda a chenedl ddrwg – Dysgent hwy mai rhith yw hyn, Ond goleuni Crist a ddwg Ryddid i bob dyn a’i myn. Gwyn eu byd, daw dydd a’u clyw, Dangnefeddwyr, plant i Dduw.
Mae cyfle gyda ni yn sgil y cofid i ailfeddwl y gwariant hwn ar arfau. Mae angen galwad grymus o’r newydd i wario ar adfywio cymunedau, ar addysg ac ar waredu tlodi yn hytrach na bwydo ofnau a phryderon ein poblogaethau.
Rhaid i bob un ohonom wneud ein rhan i sicrhau bod yna heddwch y tu hwnt i unrhyw bafiliwn.
Oes, mae dwy enfys. Edrychwch yn fwy manwl. Diwrnod angladd John Lewis oedd hi ac yr oedd Nancy Pelosi yn honni bod y ddwy yn adewyrchu ar ei arch. Ers misoedd bellach yr ydym wedi
Llun drwy Twitter gyda chaniatad Anthony Tilghman @AnthonyTilghman gweler http://WashingtonInformer.com
gweld llun o’r enfys ym mhobman fel arwydd o obaith wedi’r Cofid 19. Ond mae dwy enfys yn wahanol. I lawer o Gymry – ac fe gafodd hynny ei adlewyrchu yn y diffyg sylw a roddwyd iddo ar ein cyfryngau Cymraeg pan fu farw – byw yng nghysgod Martin Luther King a wnaeth John Lewis. Yr oedd yn un o’r chwech (a’r ieuengaf) a orymdeithiodd ar ddechrau’r Ymgyrch Hawliau Sifil yn 1962 ac yn un a ystyriai fod MLK, hyd yn oed cyn ei farwolaeth, yn arwr mawr ei fywyd. Ond i’r mwyafrif yng Nghymru ac ym Mhrydain, efallai mai enw ar gadwyn o siopau yw John Lewis.
Roedd tri cyn-arlywydd yn ei angladd (31 Gorffennaf) ac un arall, sef Jimmy Carter (mae’n 95 oed), wedi anfon neges. Dewis peidio â bod yno wnaeth yr arlywydd presennol. Nid fy mwriad yw sôn am fywyd John Robert Lewis (gydag enw o’r fath, fe allai fod o Dalyllychau); digon yw dweud iddo ddod yn arweinydd yr ymgyrch trwy ei aberth – cafodd ei guro yn anymwybodol gan yr heddlu ar y bont yn Selma (‘Bloody Sunday’) a hefyd gan ddyn gwyn mewn gorsaf bysiau yn Rock Hill, De Carolina, efo bat rownderi gan dorri asgwrn ei benglog a gadael craith ac elfen o arafwch am oes. Bu John Lewis yn gynrychiolydd Democrataidd yn yr House of Congress am 33 mlynedd.
Ond cyfeirio at y ‘gobaith gobaith’ yng ngwasanaeth ei angladd yw bwriad yr erthygl hon. Yng nghapel y Bedyddwyr, Ebeneser, Atlanta (lle bu Martin Luther King yn weinidog) y bu’r angladd, ar ôl wythnos o wasanaethau cofio ledled y wlad, a’r gweinidog yno yw Raphael Warnock. ‘This is a Baptist church,’ meddai ar ôl ‘Amen’ gwachul ar ddiwedd y weddi agoriadol. ‘Let’s say it again,’ meddai, ‘AAAAAMEN.’ Ef oedd y cyntaf o nifer fawr i roi teyrnged. ‘As a young man, he started preaching but then he became a living, walking sermon about truth telling and justice making.’ Fe’n carodd ni fel gwlad (oedd geirau Warnock), y gororwyr hwn i gaethweision, nes i ninnau ddechrau ei garu yntau.
Geiriau gobaith
Meddai Bill Clinton yn yr angladd: ‘He has gone up yonder and left us with marching orders and I suggest … we salute, we suit up and we march on.’
Ac meddai Obama, ‘He was the founding father of a better America.’
Dyfynnwyd John Lewis ei hun, yn ei waeledd, ar ôl clywed am farwolaeth George Floyd yn dweud bod America wedi cyrraedd y ffordd sy’n arwain i newid mwy a newid mawr: un bobl, un teulu, un tŷ.
Rai ddyddiau cyn ei farwolaeth yr oedd wedi ysgrifennu neges i’w darllen yn ei angladd:
Er na fyddaf yna gyda chi, rwyf yn erfyn arnoch i ymateb i alwad fwyaf eich bywyd a sefyll dros yr hyn yr ydych yn gwirioneddol gredu ynddo. Mae America wedi newid, ac fe wyddom mai’r unig ffordd i heddwch yw ffordd yr heddwch di-drais. Dyma eich cyfle i seinio galwad rhyddid. Pan ysgrifennir hanes y ganrif hon, boed iddynt wybod mai chi yw’r genhedlaeth fydd wedi diosg baich casineb a bod heddwch wedi gorchfygu trais, gormes a rhyfel. Gofynnaf i chwi eto, frodyr a chwiorydd, cerddwch gyda’r gwynt a bydded i ysbryd heddwch a grym cariad fod yn arweiniad i chi.
Dyma eiriau felly, yn yr angladd, oedd yn ymateb i farwolaeth arweinydd ac i lofruddiaeth gŵr du ei liw – eto fyth – gan ormes yr awdurdodau a hen hilyddiaeth ddofn y gwyn eu lliw. Mae’r teyrngedau a roddwyd gan gyn-arlywyddion i John Lewis yn cydnabod mai’r gobaith i America yw meddiannu’r weledigaeth amgen sydd yma, nid yn unig i America, ond i’r byd. Yn ystod mis Gorffennaf 2020 mae wedi ymddangos fel enfys ddwbwl.
Dathliad o obaith gobaith fu’r addoli a’r canu; grym gobaith fu galar teulu George Floyd; datganiad o obaith ymysg pobl gyffredin drwy’r byd fu protestiadau Black Lives Matter; a bu’r cyfan, yng nghanol argyfwng y pandemig, yn ddathliad o ‘un bobl, un teulu, un tŷ’.
Gobaith Americanwr Cymraeg o Arfon
Ddiwrnod cyn angladd John Lewis, yr oedd Jerry Hunter yn gwneud datganiad rhyfeddol ar raglen Dros Ginio Radio Cymru. Bu’n trafod ei nofel fawr Ynys Fadog am hanes Cymry America. Dywedodd nad yw’n credu bod America yn wlad hiliol, ond ei bod yn wlad sy’n llawn o hiliaeth, fel y mae digwyddiadau Gorffennaf wedi profi. Ond dywedodd hefyd ei fod yn fwy gobeithiol nag erioed am ddyfodol America! Roedd yn ddatganiad cwbwl annisgwyl.
Gobaith newydd
Ymysg yr holl drafodaethau a fu yn ystod yr wythnos honno ar hiliaeth yr oedd y rhaglen Pawb a’i Farn (S4C), dan gadeiryddiaeth fywiog Betsan Powys, ac roedd yn rhifyn arbennig iawn. Yn y stiwdio ddi-gynulleidfa roedd hanner dwsin o bobl gweddol ifanc a dau ar sgriniau o leoliadau eraill. Roeddynt yn mynegi eu barn yn glir, yn onest ac mewn Cymraeg rhugl. Ond nid oedd yr un ohonynt yn wyn – ar wahân i’r un oedd yn arwain y drafodaeth. Go brin fod hyn wedi digwydd erioed o’r blaen ac yn nyddiau’r Eisteddod Amgen yr oedd y bobl ifanc yn cyflwyno gweledigaeth amgen John Lewis o ‘un bobl, un teulu, un ty’.
Ychydig ddyddiau cyn hynny yr oedd Ann Griffith o Washington wedi anfon y geiriau hyn ar e-bost; sylwch ar y ffynhonnell o dan y dyfyniad:
Ar 5 Gorffennaf roedd Ann – sy’n Gymraes wirioneddol ryngwladol ac wedi ei meddiannu gan y weledigaeth amgen ‘un bobl, un teulu, un tŷ’ – yn westai ar raglen Beti a’i Phobol (Radio Cymru). Mae’n briod ag Americanwr, Steve, sydd wedi dysgu Cymraeg, ac yn fam i Gwenan, Angharad ac Aled sydd, er na fuont yn byw yng Nghymru, yn Gymry Cymraeg. Y gân olaf a ddewisodd Ann ar y rhaglen oedd recordiad o Barack Obama yn canu (er nad yw fawr o ganwr) ‘Amazing Grace’, a’r gynulleidfa’n ymuno, yn angladd y gweinidog a’r gwleidydd Clementa Pickney yn Charleston yn 2015. Roedd y gweinidog a naw o’i aelodau wedi eu saethu yn farw gan eithafwr gwyn ar ôl bod yn eistedd gyda hwy mewn dosbarth Beiblaidd, a’r gweinidog wedi ei groesawu’n gynnes fel dyn gwyn i gapel lle roedd y gynulleidfa o liw tywyll. Roedd dewis Ann yn ddewis cwbwl annisgwyl fel ei dewis olaf a diwedd y rhaglen. Ond nid i Ann, na chwaith ar ddiwedd Gorffennaf 2020.
Gobaith gobaith
Mae llawer yn sôn na fydd y byd na bywyd yr un fath eto ar ôl y pandemig. Ond tybed na fydd y ddwy enfys, George Floyd, John Lewis, pobl ifanc du a gwyn eu lliw yng Nghymru, Ann Griffith, hiliaeth, haf 2020, aberth, caethwasiaeth ac AMEN Ebeneser Bedyddwyr, Atlanta, Georgia, yn adfywio’r ffydd sydd wedi wedi bod yn farw ac yn fewnblyg ynom? A tybed a ydym yn mynd heddiw drwy brofiadau personol, byd-eang, sydd yn profi fod neges y Testament Newydd nad oes ‘nac Iddew na Groegwr … un person ydych yng Nghrist’ – gweledigaeth amgen Iesu a Paul – yn gwbwl, gwbwl ganolog i fynd i galon yr Efengyl ?
Mae’n syndod na chafodd yr Eglwys Fore ei llongddryllio yn ei hanner can mlynedd cyntaf. Mae’r dadleuon tanbaid yn edrych yn ddigon od i ni – naill ai’n astrus a dibwys, neu hyd yn oed yn ddoniol. A oedd angen i Gristnogion newydd ufuddhau i ddeddfau bwyd yr Iddewon? Oedd angen rhoi’r gorau i fwyta cig moch a chimwch? Ai brad oedd i Gristion Iddewig fynd i dŷ Rhufeiniwr? A ellid caniatáu paentio darlun o’r Iesu? A ddylai gwragedd guddio’u gwallt? Ac a oedden nhw’n aflan ar ddyddiau misglwyf? Yn benodol a phoenus, a oedd enwaediad yn rheidrwydd i bob gwryw, boed Iddew neu beidio?
I Saul o Darsus, y Pharisead o ddinesydd Rhufeinig, bu’r rheolau hyn o bwys mawr. Cymaint oedd ei ofid am ei etifeddiaeth grefyddol a diwylliannol nes iddo erlid yn ddiarbed y sect newydd a honnai mai Iesu o Nasareth oedd y Meseia addawedig. Cawsai hwnnw ei groeshoelio gan yr awdurdodau Rhufeinig mewn cydweithrediad ag awdurdodau’r deml. Yr oedd y rheini’n argyhoeddedig fod Iesu am ddinistrio’r deml. Honnid gan ei ddilynwyr fod yr un a grogwyd ar bren wedi ei atgyfodi, ac yn Was, yn Fab, neu’n Air Duw. Daeth brwydr Paul yn erbyn y chwyldröwr hwnnw i’w hanterth wrth iddo deithio i Ddamascus i erlid y dilynwyr yno.
I’r Iddewon, enwaediad oedd y peth pwysicaf oll, arwydd yn y cnawd gwrywaidd eu bod mewn perthynas gyfamodol, nid dim ond partneriaeth, â Duw. I Paul, rhan o’r cyfamod oedd ei berthynas â’i lwyth – llwyth Benjamin, bod yn Hebrëwr o’r Hebreaid; bod yn Pharisead, hynny yw, yn fanwl ei barch i’r Gyfraith Iddewig. Golygai hyn ei fod yn barod i erlid y ffydd newydd am ei bod yn tanseilio’r pethau hyn i gyd.
Ar ôl ei brofiad ar y ffordd i Ddamascus, a chael ei dderbyn dros dro gan raslonrwydd y Cristnogion yno, y mae ei ddealltwriaeth o’r cwbl yn dra gwahanol. Ond yr oedd gorfod ffoi mewn basged, a mynd i Arabia am flynyddoedd cyn ei bod yn ddiogel iddo ddychwelyd, yn brawf fod y rhai a fu o’r un anian ag ef heb newid eu meddwl o gwbl. Wrth ysgrifennu ar y pwnc at Gristnogion yn Philippi, dywed (yn y cyfieithiad parchus Cymraeg) ei fod yn ystyried y cwbl yn ‘ysbwriel’. Tom yw cyfieithiad cywirach William Morgan (Philipiaid 3.8). I gyfleu dwyster y newid, gallem ddweud fod Paul yn edrych ar ei etifeddiath ac yn taeru mai ‘Cachu yw’r cwbl’. (Dyma i chi’r Paul diflewyn-ar-dafod.)
I Gristnogion mwy diweddar, nid mater cyfraith oedd hyn, ond mater o wrthod Iesu. Ac ar y mater dwys hwn y datblygodd rhwyg enbyd, rhwyg a ddatblygodd yn sail i gasineb gwrth-Iddewig. Am fod ymrannu yn ‘ni’ a ‘nhw’ yn rhan o batrwm pechadurus y ddynoliaeth, bu ymddygiad Cristnogion tuag at Iddewon yn amddiffyn Iesu yn brawf nad oeddent wedi deall neges Iesu. Yn y gweryl hon y gwreiddiodd casineb a arweiniodd drwy’r pogromau, yr Holocost, Seioniaeth, esgymundod Palesteina. Heddiw, mae gelyniaeth at Iddewon fel petai wedi rhwygo’r blaid Lafur, yn sicr ynghudd ymhlith Toriaid, ac yn peryglu heddwch y byd.
Nid dim ond Iddewiaeth a Christnogaeth sy’n caniatáu i’w profiad o’r trosgynnol gael ei lygru gan ymateb llwythol a diwylliannol. Mae’n amlwg ym myd Islam. Onid yw’n hynod fod ffydd yn Allah, yr holldrugarog, yn methu goresgyn ymlyniad nifer o genhedloedd Affrica wrth yr arfer o lurgunio organau cenhedlu merched bach. Tuedd patriarchaeth ffyddlon i Allah a Thad ein Harglwydd Iesu Grist fu babïo gwragedd. Mae’n chwerthinllyd na all gwragedd yrru ceir yn Saudi Arabia. Ond ym Mhrydain ni fedrai gwragedd priod fod yn berchen eiddo tan 1870, pan basiwyd y gyntaf o’r Deddfau Eiddo Gwragedd. Hyd heddiw, mae ’na eglwysi Cristnogol sy’n dweud wrth wragedd priod sy’n dioddef trais gan eu gwŷr mai eu dyletswydd yw bod yn israddol i’w gwŷr am mai hwy yw ‘pen’y wraig. Mewn rhai cymunedau Islamaidd bydd pobl gyffredin yn siarad am Allah â’r un rhwyddineb ag yr arferai gweithwyr glo de Cymru a gweithwyr llechi’r gogledd siarad am Iesu. Ond erbyn heddiw daeth tro ar fyd ac mae ’na swildod enbyd hyd yn oed am grybwyll enw Duw mewn trafodaeth. Bu grymusoedd diwylliannol ac economaidd ar waith i gynhyrchu diwylliant materol seciwlar, diwylliant ymosodol o wrth-dduwiol sy’n daer yn erbyn diwinyddiaeth geidwadol y llythyrenolwyr. Mae ambell Gristion fel petai’n amau defnyddioldeb diwinyddiaeth o gwbl.
Ond weithiau y rhai sydd wedi colli eu ffydd sy’n anwylo’r diwylliant fwyaf. Dyna sut y mae’r BNP yn hawlio bod yn blaid wleidyddol Gristnogol. Beth wnawn ni o hyn i gyd? Beth ddywed yr Efengyl? Pan ddechreuwch chi edrych ar yr efengylau gyda’r cwestiwn hwn yn eich meddwl fe sylweddolwch yn fuan fod yr Iesu’n ymwybodol iawn o’r problemau. Fe wnaeth ef herio llawer o arferion a deddfau Iddewiaeth gan ddweud “Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, ond yr wyf innau’n dywedyd…’
Ymhlith ein heglwysi, mater o ddiwylliant a damwain hanesyddol yw llawer o’r gwahaniaethau rhwng enwadau a thraddodiadau. Egwyddorion â’u gwreiddiau mewn materion diwinyddol a oedd yn bwysig iawn ar un cyfnod. Yn Ewrop y mae efengyl a diwylliant wedi eu gweu ynghyd, ond erbyn hyn mae’r gwead fel petai’n datod. Oes yna’r fath beth ag efengyl ‘bur’? Argyhoeddiad llawer o Brotestaniaid Efengylaidd yw mai dyna yw eu ffydd hwy, ac mae hynny’n rhoi hyder iddynt fentro i wledydd Pabyddol ac Uniongred i ddwyn y ‘gwir’ efengyl i’r dinasyddion yno. Byddai Cristnogion yn y canrifoedd cynnar yn galw eu hunain yn ‘ymwelwyr’, gwesteion dros dro (sojourners). Pobl nad oeddent yn ddinasyddion, nad oeddent yn perthyn i’r diwylliant o’u cwmpas oedd y rhain, ac nid ystyrid eu bod dan rwymedigaeth i’r wladwriaeth. A fyddai’r fath beth yn bosibl heddiw? Dan ba amgylchiadau y gallai hynny fod yn rheidrwydd?
Rhybuddiodd Iesu ni ‘Lle y mae dy drysor, yno hefyd y bydd dy galon’. Yr ydym yn trysori ein diwylliant; rhaid wrth arfer a threfn i fyw gyda’n gilydd o gwbl, i fedru cyfathrebu â’n gilydd, i berthyn i’n gilydd. Ond gallwn lithro i dderbyn cael ein diffinio gan ein diwylliant a dysgu ofni’r ‘arall’, y peth sydd ddim yn perthyn nac yn eiddo i ni. Mae’r dadleuon am fewnfudo (i Gymru ac i Loegr), iaith am gael ein boddi, yn drysu’r drafodaeth. Mae’r reddf i wrthod y dieithr a’i gau allan o’n diwylliant a’n cylch cysurus i’w weld yn yr anawsterau ynglŷn â gweinidogion Cristnogol sy’n ‘hoyw’ neu’n gyfunrywiol. Mae chwerwder a thaerineb y rhai sy’n barnu a chondemnio ac yn ceisio gyrru allan bobl hynod a dawnus yn dangos sut y mae diwylliant yn mynnu torri allan. Mae hanesion y ‘torri allan’ yn etifeddiaeth chwerw ym myd ymneilltuaeth heddiw. Arswyd yw gweld eglwysi Cristnogol yn ceisio bod yn ‘bur’ heb geisio bod yn drugarog.
Peth poenus yw newid ein ‘safonau’: mae troi cefn ar bethau a gymerid yn ganiataol yn teimlo fel brad. W. B. Yeats a fynnodd mai dim ond mewn arfer a seremoni y gall diniweidrwydd a harddwch ffynnu. Ond mewn llestri pridd y cadwn ein trysorau, a digon hawdd yw cyboli mwy am y llestri na’r trysorau. Yr oedd Iesu’n peryglu’r llestri pridd; mynnai na ellid rhoi gwin newydd mewn hen gostreli. Dyna un o’r rhesymau pam yr oedd y traddodiad a’r diwylliant yn ei ofni ac yn ei gasáu.
Mewn cyfres o draethodau rwy’n bwriadu edrych ar wahanol fathau o ddiwylliant – rhai traddodiadol yn bennaf – ac ystyried a ydynt yn wir gydnaws â’r efengyl. Y bwriad yw tanseilio ein hymlyniad diamod wrth y man lle rydyn ni’n gyfforddus a pheri i ni fod yn fwy ymwybodol o’r peryglon wrth hawlio ein bod yn ddiwylliant neu’n genedl ‘Gristnogol’. Cynigir yma storïau am deithio ar draws ffiniau, ac edrych a gwrando mewn ffordd fydd yn ein galluogi i fwynhau amrywiaeth diwylliant fel rhoddion gan Dduw. Cawn ein cymell i fod yn wylaidd a doniol am ein sicrwydd a’n trysorau, a bod yn barod i ddymchwel y delwau a addolir gennym.
Gyda chanllawiau COVID-19 yn cael eu llacio, ac ychydig mwy o ryddid, o leiaf yn arwynebol, trodd sylw ein trafodaethau eglwysig o fod yn canolbwyntio ar barhad argaeledd gwasanaethau ac addoliad, a chadw cyswllt a sicrwydd ‘koinonia’ yn fyw, i’r cyfnod ôl-COVID-19. Beth fydd goblygiadau’r cyfnod digynsail hwn ar ein heglwysi? Beth fydd ffurf addoli yn y dyfodol?
Cafwyd rhaeadr fyrlymog o syniadau ar y cyfryngau cymdeithasol; rhaid, meddir, parhau gyda’r arlwy dechnolegol, rhaid cyfuno’r traddodiadol a’r newydd. Un farn bendant sydd wedi amlygu ei hun: nid dychwelyd i’r hyn a fu ddylai’n nod fel eglwysi fod. Os mai dim ond ymdrechu i gael pethau nôl i’r hyn oeddent yw ein dymuniad, cystal derbyn ein methiant nawr, a chyfaddef ein hamharodrwydd i ddysgu. Mae angen gweddi ddwys a chyfeiriedig yn gofyn am arweiniad i’r hyn y dylem fod wedi ei ddysgu dros y misoedd aeth heibio.
Estyn y cyfle hwn hefyd gyfle, nid yn unig i edrych ar ffurf ein haddoliad a’n cenhadaeth, ond hefyd ar sut y mae’n heglwysi yn cael eu rhedeg. Clywyd mewn trafodaethau ar Radio Cymru nifer o swyddogion eglwysi yn dweud ei fod yn ormod o waith i weithredu canllawiau’r Llywodraeth ac nad oedd y byd technolegol yn rhywbeth y medrent ymdopi ag ef. Clywyd mewn un cyfweliad gyfaddefiad bod cyfartaledd oed swyddogion yr eglwys yn 75 mlwydd oed ac mai go brin y medrent wneud llawer i sicrhau parhad y dystiolaeth. Dyma’r ffyddloniaid dewr a dygn sydd wedi brwydro i gadw’r achos i fynd ers degawdau. Mawr ein diolch iddynt, ac yn sicr ni ddylid bod yn feirniadol nac yn anystyriol ohonynt. Rhaid, er hynny gofyn y cwestiwn, sut y crëwyd y fath sefyllfa?
Ymchwil diddorol fyddai edrych ar Adroddiadau Blynyddol ein heglwysi. Faint o swyddogion eglwysi sydd wedi bod yn gwneud y gwaith dros ddegawd a mwy o flynyddoedd? Gwnânt eu gwaith yn drwyadl a heb achwyn, ond a ydy’r fath barhad mewn swydd wirfoddol yn arfer da? Mewn cymdeithasau a sefydliadau seciwlar, tymor o dair a phum mlynedd yw’r arferol, ac efallai ail-ethol am un tymor arall. Oes yna genhedlaeth newydd o swyddogion eglwys yn cael eu meithrin yn ein heglwysi? Oes yna dimoedd cyllid ac ysgrifenyddol o fewn ein heglwysi yn magu swyddogion y dyfodol? A ydym yn dal at y cysyniad o fod yn ddiacon am oes? O roi cyfnod penodol ar dymor Swyddogion Eglwysi oni estynnir cyfle i eraill? Yn fwy pwysig, efallai, sbarduno eraill at y gwaith? A oes yna ‘elit’ yn rhedeg ein heglwysi ac fel y cynghorau lleol bondigrybwyll hynny yn yr 1960au a’r 1970au deiliaid yn gwrthod gadael i eraill gymryd lle?
Geilw COVID-19 am edrychiad newydd ar ein ffordd o addoli, o genhadu ac o redeg ein heglwysi. Ni fydd canolbwyntio ar y ddarpariaeth addoli yn unig yn ddigon. Rhaid ystyried o ddifrif sut i sicrhau ymwneud llawer mwy o’n pobl yn swyddogaeth a llywodraeth ein heglwysi. ‘Nid oes ganddynt ddiddordeb’ – dyna’r ymateb yn aml. Wel nag oes siŵr iawn, nid ydynt wedi cael unrhyw gyfle! Mae angen i ni edrych ar becyn cyfan ein heglwysi os ydym, trwy ras Duw, am oroesi’r cyfnod rhyfedd hwn.
Daw cyfraniad yr wythnos hon gan un o’r tîm sy’n gyfrifol am gylchgrawn ‘DRWS’ a gyhoeddir ym Mhen Llŷn ers dechrau’r Cyfnod Clo. Diolchwn i’r awdur am rannu’r profiad, ac am godi cwr y llen ar y math o weithgarwch sydd yn medru bod mor ddyrchafol ar adeg anodd
Un hedyn bach oedd o ac mae’r hedyn hwnnw wedi gafael a thyfu’n rhyfeddol. Cyfeirio at DRWS ydw i, newyddlen sydd wedi datblygu’n fwy na newyddlen a dweud y gwir a bydd rhifyn 18 yn ymddangos yr wythnos hon. Doedd DRWS yn ddim byd mwy nag ymgais i gadw mewn cysylltiad yn ystod y cyfnod clo am fod drysau ein heglwysi wedi cau. Caiff ei rannu ar facebook, ei anfon ar e-bost ac ar droed. Nid yw’n cynrychioli unrhyw farn benodol, rhoi llais i ystod eang o safbwyntiau a wna cyn belled â’n bod yn parchu barn ein gilydd a derbyn bod mwy nag un ffordd o gyrraedd copa’r mynydd. O’r dechrau un ceisiwyd sicrhau arddull gynnes agos atoch ac efallai bod hyn wedi bod yn anogaeth i bobl siarad ar bapur. Mae’r cyfraniadau wedi llifo mewn a phobol yn cysylltu ac yn rhannu cymaint, ac yn y rhannu mae yna ymestyn allan cwbl arbennig wedi digwydd.
Gallwn eich cyfeirio at erthygl Mared Llywelyn am Black Lives Matter neu eich arwain at gyfraniad Gwawr Thomas, bargyfreithiwr yn Siambr 1MCB yn Llundain aeth â’r darllenydd i fyd cyfraith droseddol, mewnfudo a hawliau dynol (Dylid cael rhaglen deledu am Gwawr Thomas, mae’n ferch arbennig a’i gwaith mor ddi-sôn amdano.)
Gallwn sôn am sgyrsiau y Parch Sara Roberts o’i Sied Weddi yng ngwaelod ei gardd ym mhentref Edern, a gwneud yn siŵr eich bod yn cael ‘chwerthin’ yn iawn efo Sian Roberts, Trefor.
Gallwn eich tywys i fyd nodau Sioned Webb neu ddangos cyfeillgarwch Glandwr i chi, cartref Catrin Roberts, Morfa Nefyn. Gallwn fynd â chi am dro i Gapel Penuel gyda thelyneg Stan Massarelli, eich rhoi yng nghefn tacsi Gwilym John Ceidio, neu eich gollwng yn nhŷ gwydr Meinir Giatgoch.
Gallwn eistedd efo chi heb ddweud gair o fy mhen ar y fainc honno yn Eglwys Boduan; taflu carreg gofidiau i ganol cerrig Dinas Dinlle neu ddarllen llythyr Elen Lewis at ei mam ym Mynydd Nefyn.
Gallwn drafod y cyfnod cyfunol newydd a’r dysgu carlam y dylai ein heglwysi ystyried ei fabwysiadu, mesur a phwyso manteision addoli digidol ac ar ôl gwneud hynny rhannu cerdd Casia Wiliam efo chi.
Ond wnâi ddim.
Ond yr hyn wnai ydi rhannu ychydig o eiriau Seiat Bach efo chi, pytiau byr sydd yn y golofn hon. Geiriau efo blas mwy arnyn nhw, geiriau sy’n estyn, geiriau gonest, geiriau’r galon. Ac wrth ddarllen mi welwn fod pobl am rannu mwy nag erioed ac isio siarad a sgwennu am bethau roedden nhw efallai yn betrys o wneud cyn hyn i gyd. Fel hyn mae un darllenydd yn ymateb i Seiat Bach ‘Mae’r pytiau am wahanol bobol yn gwneud i mi feddwl, pytiau, myfyrdodau i fynd yn nôl atyn nhw drachefn a thrachefn ydyn nhw. Testunau Seiat ydyn nhw a dyna un o ragoriaethau’r DRWS.’
Ydi hyn wedi codi awydd arnoch i bicio mewn i’r Seiat?
Dyma gyfraniad rhai fu’n seiadu i chi:
Diolch am y gerdd am ‘Amser’ – mae copi ar y cwpwrdd wrth y sinc. Meddwl fod pytiau fel hyn mor fendithiol. A fydd angen pregethau hirwyntog pan fydd yr argyfwng yma drosodd dybed?
Be ddaw ohonom ar ôl hyn i gyd? Fyddwn i’n closio at ein gilydd? Fyddwn i’n rhannu mwy? Mae isio i ni fod yn ddigon cyffyrddus i grio yng nghwmni’n gilydd weithiau. Does dim o’i le mewn crio. Dyna pam fod gynnon ni ddagrau.
Cau drysau ydan ni wedi bod yn ei wneud ar hyd yr holl flynyddoedd . Ond ar ôl bod adre yn Fron Haul am dros naw wythnos erbyn hyn mae cymaint o ddrysau wedi agor i ni am fod pobl wedi bod mor ffeind efo ni. A dyna ydi DRWS.
A dyma gyfle i ni fu’n agor DRWS i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu ac am roi y rwbath hwnnw na ellir ei ddiffinio’n iawn sydd yn ffeind ac yn ein nerthu ni i gyd i ddal ati ar adeg mor ddyrys.
A ninnau’n byw yn yr unfed ganrif ar hugain wyddonol, ddatblygedig a materol foethus, tipyn o ysgytwad fu darganfod bod pla ar gerdded ledled y byd.
Bu plaon achlysurol yn rhan o brofiad y ddynoliaeth ar hyd y canrifoedd maith, wrth gwrs, a’u heffaith ar fywyd a chymdeithas yn ddigon trawiadol i adael eu hôl ar gofnodion a llenyddiaeth. Crybwyllir yn y Beibl, yn Ecsodus, er enghraifft, gyfres o ddigwyddiadau adfydus yn yr Aifft rywbryd yng nghanol yn ail fileniwm cyn Crist, a fu’n ddigon i beri trychinebau cymdeithasol ac economaidd yn un o gymunedau mwyaf soffistigedig a datblygedig y byd ar y pryd. Barn Duw, meddid – cosb ar bennaeth gormesol yn Aifft – oedd yr esboniad.
Lledodd afiechyd dybryd, y dangoswyd yn ddiweddar mai’r Pla Du ydoedd, Pla Justinian, o’r Dwyrain Pell i Ewrop yn y chweched ganrif OC, gan chwalu’r hyn a oedd yn weddill o drefn yr Ymerodraeth Rufeinig. Arweiniodd hyn at newidiadau gwleidyddol pellgyrhaeddol yn Ewrop a gorseddu teyrn milwrol yno. Cyffyrddodd y pla hwnnw ein hanes ni yng Nghymru gyda’r disgrifiad o farw Maelgwn Gwynedd yn 547 OC, wedi gweld, trwy dwll y clo yn eglwys y Rhos, yr afiechyd a elwid yma yn Fad Felen, yn dod tuag ato fel niwlen a’i ladd. Cosb Duw arno am lygredd oedd hynny eto, yn ôl yr hanes amdano.
Ganol y bedwaredd ganrif ar ddeg, trawodd y Pla Du Ewrop eto, a lladd tua thraean o’r boblogaeth. Unwaith eto, mae cofnodion, llenyddiaeth a chelfyddyd ledled y Cyfandir a Chymru yn adrodd am yr ofn, y dychryn a’r chwalfa a achoswyd gan y fath glefyd. Digwyddai hyn mewn byd na wyddai sut i ymdrin â’r afiechyd, ac eithrio drwy ynysu trigiolion yn eu tai ac ymbellhau’n gymdeithasol. Ond yr oedd cred gyffredinol mai cosb Duw am ‘bechodau’ oedd marwolaeth mewn oes pan oedd amheuaeth grefyddol a gwrth-glerigaeth ar gerdded.
Go brin y byddai neb, wrth reswm, yn honni heddiw mai cosb am bechodau’r byd nac unigolyn yw ymddangosiad afiechyd Covid-19. Ac eto, mae hynt y clefyd a’r ymateb iddo’n amlygu tebygrwydd rhwng profiad y gorffennol a’r presennol. Clefydau newydd yn ysgubo’n donnau diatal am fod difffyg dealltwriaeth am eu hachos a diffyg meddyginiaethau effeithiol i’w lliniaru fu gynt, gan godi ofn, dychryn a galanastra. A’r un yw’r sefyllfa yn ein hunfed ganrif ar hugain ‘hollwybodus’ ninnau gyda’r feirws newydd, dieithr. Wyddom ni mo’r cyfan o bell ffordd, ac efallai mai da o beth yw i ni ddysgu’r wers honno. Nid yw dyn yn hollalluog.
Y mae ein byd mor ansicr heddiw ag yr oedd yng nghanol clefydau pandemig y gorffennol. I rai, bu’n gyfnod o alaru ar ôl anwyliaid. I lawer mwy, bu’n gyfnod o gaethiwed a cholli’r pleserau hynny sydd fel pe baent yn hanfodol i gymdeithas erbyn hyn: y goleuadau llachar a’r cyfleon dihysbydd i wario ar nwyddau a phleserau materol. Byd annifyr o fyw o fewn y filltir sgwar dan orfodaeth oedd hi, a byd o fyw oddi mewn i’w hadnoddau eu hunain. Tristwch y sefyllfa yw mai ychydig iawn o sylw a roddwyd yn y cyfryngau torfol i’r cyfoeth sydd gan Gristnogaeth i’w gynnig i bawb, yn unigolion a chymdeithas, yn y cyfwng hwn – yn gysur a gobaith. Y duedd fu cyflwyno parlyrau harddwch, chwaraeon, gwyliau, bwyd parod a diod fel YR ateb, Y nefoedd, a’r sawl sy’n feddygon corff a meddwl fel y duwiau ‘hollalluog’ newydd heb ystyried y Meddyg Gwell. Rhoddwyd Crist o’r neilltu gan y cyfryngau mewn capeli ac eglwysi clo. Prin bod Duw yn bod iddynt.
Mewn cyfrol o gerddi hollol ysgytiol a gyhoeddwyd ganddo yn ddiweddar, Cerddaf o’r Hen Fapiau mae Aled Jones Williams yn archwilio grym yr angen am ‘dduw’ ym mywydau pawb, ond yn dangos hefyd pa mor frau yw’r duwdod y mae’r hunan yn ei lunio a’i greu yn ei feddwl ac mewn geiriau. Mae duwdod o’r fath mor ddiflanadwy ag iaith, meddai, ond er hynny’n rhywbeth sy’n bodoli yn y gwacter y tu hwnt i strwythur. Pwysleisia yn ei ragair nad cerddi am Dduw sydd ganddo, ond yr ymchwil am dduw. Y mae yna ymchwil am dduw heddiw yn yr argyfwng sydd ohoni a chredwn y byddai’r meudwyo, yr arafu a’r heddwch wedi rhoi cyfle i ganfod o’r newydd y Duw yng Nghrist sy’n freichiau i gynnal dynoliaeth gyfan, fel y bu’n gynhaliaeth ym mhlaon y gorffennol – daeth Oes y Saint wedi’r Fad Felen. Gyda’r llacio, pylu mae’r gobaith hwnnw, ysywaeth, ond pery ffydd.
Fel y gwyddoch, does dim tâl aelodaeth am gael ymuno â Cristnogaeth 21, ac ni fyddem yn dymuno i bethau fod yn wahanol. Mae’n bwysig bod ein holl ddeunyddiau ar gael yn rhad ac am ddim er mwyn i bawb gael cyfle i ddarllen yr erthyglau ar y wefan a medru mwynhau’r negeseuon sy’n cael eu rhannu yn yr e-fwletin ac ar y dudalen Facebook. Y nod yw cyrraedd y nifer mwyaf posibl o gefnogwyr, ond byddai codi tâl aelodaeth yn eithrio rhai pobl ac yn cyfyngu ar y niferoedd. Yr unig dro y byddwn yn gorfod codi tâl yw er mwyn clirio costau cynnal encil neu gynhadledd.
Ychydig flynyddoedd yn ôl, penderfynwyd lansio apêl i dalu am ddatblygu’r wefan a sefydlu’r cylchgrawn digidol Agora, a chafwyd ymateb rhagorol mewn byr amser bryd hynny.
Erbyn hyn, rydym yn gorfod cydnabod bod cynnal y wefan yn faich ariannol, a heb incwm o unrhyw fath mae’n amlwg nad yw’r fenter yn gynaliadwy. Gyda hynny mewn golwg rydym wedi lansio apêl ariannol newydd am gefnogaeth ariannol gyson. Yn hytrach na chodi tâl aelodaeth penodol, gofynnwn i’n cefnogwyr ystyried cyfrannu’n fisol neu’n flynyddol ar sail wirfoddol tuag at gostau rhedeg C21.
Fe welwch dair ffurflen ar y wefan, i’w defnyddio yn ôl y gofyn gan ddibynnu ar sut y bwriadwch gyfrannu. Mae’r gyntaf ar gyfer archeb sefydlog drwy’r banc, sy’n ffordd hwylus a didrafferth o dalu. Mae’r ail ffurflen yn berthnasol i daliadau electronig neu drwy siec, ac mae’r ffurflen olaf yn rhoi caniatâd i ni hawlio 25c Rhodd Cymorth am bob £1 yr ydych yn ei gyfrannu.
Bydd rhai caredigion yn siŵr o fod yn ceisio dyfalu pa fath o swm y dylid ei gyfrannu. Tybed a fyddai modd ystyried y canlynol:
isafswm o £30 y flwyddyn i rai sydd mewn gwaith
isafswm o £20 y flwyddyn i rai sydd wedi ymddeol
fydden ni ddim yn disgwyl unrhyw gyfraniadau gan fyfyrwyr na rhai diwaith.
Diolch o galon am eich haelioni a’ch cefnogaeth gyson i Cristnogaeth 21.