E-fwletin 19.7.2020

Pla

A ninnau’n byw yn yr unfed ganrif ar hugain wyddonol, ddatblygedig a materol foethus, tipyn o ysgytwad fu darganfod bod pla ar gerdded ledled y byd.

Bu plaon achlysurol yn rhan o brofiad y ddynoliaeth ar hyd y canrifoedd maith, wrth gwrs, a’u heffaith ar fywyd a chymdeithas yn ddigon trawiadol i adael eu hôl ar gofnodion a llenyddiaeth. Crybwyllir yn y Beibl, yn Ecsodus, er enghraifft, gyfres o ddigwyddiadau adfydus yn yr Aifft rywbryd yng nghanol yn ail fileniwm cyn Crist, a fu’n ddigon i beri trychinebau cymdeithasol ac economaidd yn un o gymunedau mwyaf soffistigedig a datblygedig y byd ar y pryd. Barn Duw, meddid – cosb ar bennaeth gormesol yn Aifft – oedd yr esboniad.

Lledodd afiechyd dybryd, y dangoswyd yn ddiweddar mai’r Pla Du ydoedd, Pla Justinian, o’r Dwyrain Pell i Ewrop yn y chweched ganrif OC, gan chwalu’r hyn a oedd yn weddill o drefn yr Ymerodraeth Rufeinig. Arweiniodd hyn at newidiadau gwleidyddol pellgyrhaeddol yn Ewrop a gorseddu teyrn milwrol yno. Cyffyrddodd y pla hwnnw ein hanes ni yng Nghymru gyda’r disgrifiad o farw Maelgwn Gwynedd yn 547 OC, wedi gweld, trwy dwll y clo yn eglwys y Rhos, yr afiechyd a elwid yma yn Fad Felen, yn dod tuag ato fel niwlen a’i ladd. Cosb Duw arno am lygredd oedd hynny eto, yn ôl yr hanes amdano.

Ganol y bedwaredd ganrif ar ddeg, trawodd y Pla Du Ewrop eto, a lladd tua thraean o’r boblogaeth. Unwaith eto, mae cofnodion, llenyddiaeth a chelfyddyd ledled y Cyfandir a Chymru yn adrodd am yr ofn, y dychryn a’r chwalfa a achoswyd gan y fath glefyd. Digwyddai hyn mewn byd na wyddai sut i ymdrin â’r afiechyd, ac eithrio drwy ynysu trigiolion yn eu tai ac ymbellhau’n gymdeithasol. Ond yr oedd cred gyffredinol mai cosb Duw am ‘bechodau’ oedd marwolaeth mewn oes pan oedd amheuaeth grefyddol a gwrth-glerigaeth ar gerdded.     

Go brin y byddai neb, wrth reswm, yn honni heddiw mai cosb am bechodau’r byd nac unigolyn yw ymddangosiad afiechyd Covid-19. Ac eto, mae hynt y clefyd a’r ymateb iddo’n amlygu tebygrwydd rhwng profiad y gorffennol a’r presennol. Clefydau newydd yn ysgubo’n donnau diatal am fod difffyg dealltwriaeth am eu hachos a diffyg meddyginiaethau effeithiol i’w lliniaru fu gynt, gan godi ofn, dychryn a galanastra. A’r un yw’r sefyllfa yn ein hunfed ganrif ar hugain ‘hollwybodus’ ninnau gyda’r feirws newydd, dieithr. Wyddom ni mo’r cyfan o bell ffordd, ac efallai mai da o beth yw i ni ddysgu’r wers honno. Nid yw dyn yn hollalluog.

Y mae ein byd mor ansicr heddiw ag yr oedd yng nghanol clefydau pandemig y gorffennol. I rai, bu’n gyfnod o alaru ar ôl anwyliaid. I lawer mwy, bu’n gyfnod o gaethiwed a cholli’r pleserau hynny sydd fel pe baent yn hanfodol i gymdeithas erbyn hyn: y goleuadau llachar a’r cyfleon dihysbydd i wario ar nwyddau a phleserau materol. Byd annifyr o fyw o fewn y filltir sgwar dan orfodaeth oedd hi, a byd o fyw oddi mewn i’w hadnoddau eu hunain. Tristwch y sefyllfa yw mai ychydig iawn o sylw a roddwyd yn y cyfryngau torfol i’r cyfoeth sydd gan Gristnogaeth i’w gynnig i bawb, yn unigolion a chymdeithas, yn y cyfwng hwn – yn gysur a gobaith. Y duedd fu cyflwyno parlyrau harddwch, chwaraeon, gwyliau, bwyd parod a diod fel YR ateb, Y nefoedd, a’r sawl sy’n feddygon corff a meddwl fel y duwiau ‘hollalluog’ newydd heb ystyried y Meddyg Gwell. Rhoddwyd Crist o’r neilltu gan y cyfryngau mewn capeli ac eglwysi clo. Prin bod Duw yn bod iddynt.

Mewn cyfrol o gerddi hollol ysgytiol a gyhoeddwyd ganddo yn ddiweddar, Cerddaf o’r Hen Fapiau  mae Aled Jones Williams yn archwilio grym yr angen am ‘dduw’ ym mywydau pawb, ond yn dangos hefyd pa mor frau yw’r duwdod y mae’r hunan yn ei lunio a’i greu yn ei feddwl ac mewn geiriau. Mae duwdod o’r fath mor ddiflanadwy ag iaith, meddai, ond er hynny’n rhywbeth sy’n bodoli yn y gwacter y tu hwnt i strwythur. Pwysleisia yn ei ragair nad cerddi am Dduw sydd ganddo, ond yr ymchwil am dduw. Y mae yna ymchwil am dduw heddiw yn yr argyfwng sydd ohoni a chredwn y byddai’r meudwyo, yr arafu a’r heddwch wedi rhoi cyfle i ganfod o’r newydd y Duw yng Nghrist sy’n freichiau i gynnal dynoliaeth gyfan, fel y bu’n gynhaliaeth ym mhlaon y gorffennol – daeth Oes y Saint wedi’r Fad Felen. Gyda’r llacio, pylu mae’r gobaith hwnnw, ysywaeth, ond pery ffydd.